Monday, 1 July 2019

Incredible Comics – online and free to read!


You may have noticed a small change to our e-comics service recently as Wales moves to a new supplier. rbdigital already provide an impressive range of e-Magazines for free download but members of Torfaen Libraries can now also take advantage of their online selection of comics and graphic novels featuring Wolverine, Captain Marvel and a galaxy of others from the Marvel Universe and also film / TV tie-ins such as  Ghostbusters, Star Trek and Transformers.

All titles can be checked out and read on your PC or MAC.  Alternatively, you can use the rbdigital app to download on your iOS / Android / Kindle Fire device so you can read on the go.
Get ready to enjoy some heroic adventures with your Torfaen Libraries library card!

All-New All-Different Avengers: The Magnificent Seven - The Avengers are dead — long live the Avengers! Earth’s Mightiest Heroes — Captain America, Thor, Vision and Iron Man — are living separate lives, not tied to any team. But when a threat from beyond the stars targets our world, fate draws them together again, alongside a group of young adventurers who will reinvigorate the Avengers like never before!
Star Trek Classics, Volume 1: The Gorn Crisis - With a fierce war raging and resources running low, the U.S.S Enterprise has been assigned a sensitive diplomatic mission - to enlist aid from the alien race known as the Gorn. But the Gorn have a crisis of their own, a brewing revolution in their ranks. And when it comes to the Federation, some of the Gorn have long memories...
Thanos Rising - Thanos left audiences in shock after last summer's Marvel Studios' "The Avengers" movie...but who is this eerily disturbing villain? Discover the hidden truth, as Thanos rises as the unrivaled rogue of wretchedness in this gripping tale of tragedy, deceit and destiny. Where did this demi-god of destruction come from - and more importantly, what does he want from the universe?





Efallai i chi sylwi ar newid bach i’n gwasanaeth e-gomics yn ddiweddar wrth i Gymru symud at gyflenwr newydd. Mae rbdigital eisoes yn darparu amrywiaeth eang o e-Gylchgronau am ddim i’w lawrlwytho am ddim ond gall aelodau Llyfrgelloedd Torfaen fanteisio nawr ar eu dewis ar-lein o gomics a nofelau graffig yn cynnwys Wolverine, Captain Marvel a llwyth o gymeriadau eraill gan Marvel a hefyd rhai sy’n gysylltiedig â ffilmiau / Teledu fel  Ghostbusters, Star Trek a Transformers.
Gallwch gymryd bob un o’r teitlau ar eich cyfrifiadur neu MAC.  Neu, gallwch ddefnyddio ap rbdigital i lawrlwytho ar eich dyfais iOS / Android / Kindle Fire felly  gallwch chi ddarllen wrth deithio.
Paratowch i fwynhau anturiaethau arwrol gyda’ch cerdyn Llyfrgelloedd Torfaen!

All-New All-Different Avengers: The Magnificent Seven - The Avengers are dead — long live the Avengers! Mae arwyr mawr y ddaear — Captain America, Thor, Vision ac Iron Man — yn byw eu bywydau ar wahân, heb fod ynghlwm wrth unrhyw dîm.  Ond pan ddaw bygythiad o du hwnt i’n byd ni, mae ffawd yn eu tynnu’n ôl at ei gilydd, ochr yn ochr â grŵp o anturiaethwyr ifanc a fydd yn adfywio’r Avengers!




Star Trek Classics, Volume 1: The Gorn Crisis - Gyda rhyfel yn taranu ac adnoddau’n brin, mae’r llong ofod, U.S.S Enterprise, wedi cael ei danfon ar neges ddiplomyddol sensitif iawn - gofyn am gymorth gan yr estroniaid, y Gorn. Ond mae gan y Gorn eu trafferthion eu hunain, chwyldro’n corddi oddi mewn.  A pham ddaw hi i’r Gynghrair, mae gan rai o’r Gorn gof hir...
Thanos Rising – Gadawodd wyneb erchyll Thanos cynulleidfaoedd mewn sioc ar ôl ffilm Marvel Studios, "The Avengers" yr haf diwethaf...ond pwy yw’r dihiryn annymunol yma? Canfyddwch y gwir, wrth i Thanos ddatblygu’n ddihiryn pennaf trueni yn y stori afaelgar yma o drasiedi, twyll a ffawd. O ble ddaeth yr hanner duw yma a’i ddinistr – ac, yn fwy pwysig, am beth mae e’n chwilio gan y bydysawd?


Monday, 3 June 2019

MAKE A NOISE IN LIBRARIES! #MANIL2019

Make a Noise in Libraries Fortnight 

3-15 June 2019


Every year RNIB, Share the Vision and the Chartered Institute of Librarians (CILIP) celebrate Make a Noise in Libraries. 

The aim is to raise awareness and encourage the use of the accessible materials available for blind and partially sighted people in local libraries. Ultimately to encourage reading and a love of books in Audio and E-Audio formats but also to highlight activities in our libraries which can benefit people with vision problems. 

These activities include Shared Reading and Read To Me services where staff or volunteers read aloud to customers who would have difficulty reading a book themselves. 

Attendance at the weekly IT Drop-ins can help customers using a computer or tablet including changing using voice commands and setting up Recite Me or similar programs on a device which 'speaks' all the text on a page to the user. Recite Me is available on all the Torfaen County Borough Web pages in spoken English, Welsh or several other languages. 
  


Borrowbox is our online e-book and e-audio book resource which is free to library customers. You will find a great collection of audio books to download here:


The following link: RNIB will give you more information about Make a Noise in Libraries Fortnight 2019. You can also follow RNIB, CILIP and Share The Vision on Facebook and Twitter. 
If you are posting or re-posting items about Make a Noise in Libraries please use the hastag #MANIL2019.

For further information about what Torfaen Library & Information Service can offer please pop into one of our libraries or give us a call. 



Pythefnos Gwnewch sŵn mewn Llyfrgelloedd
3-15 Mehefin 2019



 Pob blwyddyn mae Sefydliad y Deillion (RNIB), 
(CILIP) yn dathlu Gwnewch Sŵn mewn Llyfrgelloedd. 

Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth ac annog defnydd o’r deunydd ac adnoddau hygyrch sydd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol ar gyfer pobl ddall a’r rhai sydd â nam ar eu golwg. Yn y pen draw er mwyn annog darllen a chariad at lyfrau mewn fformatau clywedol ac E-glywedol, ond hefyd i amlygu gweithgareddau yn ein llyfrgelloedd sy’n gallu bod o fudd i bobl sydd â phroblemau gyda’u golwg. 

Mae’r gweithgareddau yma’n cynnwys gwasanaethau Darllen ar y Cyd a Darllen i Mi ble mae staff neu wirfoddolwyr yn darllen yn uchel i gwsmeriaid a fyddai’n cael trafferth i ddarllen llyfr eu hunain. 

Gall fynychu’r sesiynau TG wythnosol helpu cwsmeriaid sy’n defnyddio cyfrifiadur neu dabled gan gynnwys newid gan ddefnyddio gorchmynion llafar a chyflwyno rhaglenni fel Recite Me a’u tebyg i ddyfais sy’n ‘siarad’ y testun ar y dudalen i gyd i’r defnyddiwr. Mae Recite Me ar gael ar holl dudalennau gwefan Bwrdeistref Sirol Torfaen mewn Saesneg llafar, Cymraeg neu nifer o ieithoedd eraill. 




Borrowbox yw ein hadnodd ar-lein ar gyfer e-lyfrau ac e-clyw-lyfrau sydd am ddim i gwsmeriaid y llyfrgell. Fe gewch gasgliad ardderchog o lyfrau clywedol i’w lawrlwytho yma:


Bydd y ddolen ganlynol: RNIB yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â Phythefnos Gwnewch Sŵn mewn Llyfrgelloedd 2019. Gallwch hefyd ddilyn RNIB, CILIP a Share The Vision ar Facebook a Twitter. 
Os ydych chi’n postio neu’n ail-bostio eitemau ynglŷn â Gwnewch Sŵn Mewn Llyfrgelloedd, defnyddiwch yr hashnod #MANIL2019 os gwelwch yn dda.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y gall Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Torfaen ei gynnig yna galwch i mewn i un o’n llyfrgelloedd neu ffoniwch ni. 








Monday, 6 May 2019

British Book Awards 2019


The British Book Awards have championed the very best of the book trade for almost 30 years.

The Awards - affectionately known as The Nibbies - announces eight individual books of the year with an overall Book of the Year chosen from the individual winners (all will be revealed this year on 13 May).

For this month’s blog post we’re going to look at some of the non-fiction titles which made their shortlists:

Becoming by Michelle Obama - A work of deep reflection and mesmerizing storytelling, Michelle Obama invites readers into her world, chronicling the experiences that have shaped her - from her childhood on the South Side of Chicago to her years as an executive balancing the demands of motherhood and work, to her time spent at the world's most famous address.
First Man In by Ant Middleton - In this fascinating, exhilarating and revealing book, Ant speaks about the highs and lows of his life – from the thrill of passing Special Forces Selection to dealing with the early death of his father and ending up in prison on leaving the military – and draws valuable lessons that we can all use in our daily lives.
Bosh!  by Henry Firth and Ian Theasby - Want to cook ridiculously good food from scratch but have no idea where to start? With over 140 incredibly easy and tasty all plants meals, BOSH! The Cookbook will be your guide.
With the authors always ensuring they stick to fresh, supermarket-friendly ingredients, BOSH! provides "plant-based food for everyone".
The Ordnance Survey Puzzle Book by Ordnance Survey - Track down hidden treasures, decipher geographical details and discover amazing facts as you work through this unique puzzle book based on 40 of the Ordnance Survey's best British maps. Explore the first ever OS map made in 1801, unearth the history of curious place names, encounter abandoned Medieval villages and search the site of the first tarmac road in the world.
The Language of Kindness by Christie Watson - Christie Watson was a nurse for twenty years. Taking us from birth to death and from A&E to the mortuary, The Language of Kindness is an astounding account of a profession defined by acts of care, compassion and kindness.


Mae Gwobrau Llyfrau Prydain wedi dathlu’r gorau yn y byd llyfrau am bron i 30 o flynyddoedd.

Mae’r gwobrau – a elwir The Nibbies – yn cyhoeddi wyth o lyfrau unigol y flwyddyn, ac yn dewis un Llyfr y Flwyddyn o’r enillwyr unigol (byddant yn cael eu datgelu eleni ar 13 Mai).

Ar gyfer blog y mis hwn rydym am edrych ar rai o’r teitlau ffeithiol sydd wedi ei gwneud hi i’r rhestr fer:

Becoming gan Michelle Obama – gwaith o fyfyrdod dwys sy’n adrodd stori hudolus, lle mae Michelle Obama yn gwahodd darllenwyr i’w byd hi, yn adrodd am y profiadau sydd wedi ei ffurfio – o’i phlentyndod ar Ochr Ddeheuol Chicago i’w blynyddoedd fel swyddog gweithredol yn cydbwyso galwadau gwaith a bod yn fam, i’w chyfnod yng nghyfeiriad enwocaf y byd.
First Man In gan Ant Middleton – Yn y llyfr cyfareddol, bywiogol a dadlennol hwn, mae Ant yn siarad am yr uchafbwyntiau a’r pwyntiau isel yn ei fywyd – o’r cyffro o gael ei ddewis ar gyfer y Lluoedd Arbennig i ddelio gyda marwolaeth gynnar ei dad a mynd i’r carchar ar ôl gadael y fyddin – ac mae’n cynnig gwersi gwerthfawr y medrwn oll eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd.
Bosh!  gan Henry Firth ac Ian Theasby – Eisiau coginio bwyd arbennig o dda ond dim syniad lle i gychwyn? Gyda mwy na 140 o brydau bwyd hynod o hawdd a blasus o blanhigion, bydd BOSH! The Cookbook yn eich arwain.
Gyda’r awduron yn sicrhau bob amser eu bod yn defnyddio bwydydd ffres, sydd ar gael yn yr archfarchnad, mae BOSH! yn darparu bwyd o blanhigion i bawb.

The Ordnance Survey Puzzle Book gan Arolwg Ordnans – Olrhain trysorau cudd, dehongli manylion daearyddol a dysgu ffeithiau hynod wrth i chi weithio eich ffordd drwy’n llyfr posau unigryw hwn sy’n seiliedig ar 40 o fapiau gorau Prydain gan yr Arolwg Ordnans. Cewch weld y map OS cyntaf erioed a wnaed ym 1801, darganfod hanes enwau lleoedd difyr, dysgu am bentrefi canoloesol a gafodd eu gadael a chwilio am safle’r ffordd darmac gyntaf yn y byd.
The Language of Kindness gan Christie Watson – Roedd Christie Watson yn nyrs am ugain mlynedd. Gan ein tywys o enedigaeth i farwolaeth ac o’r Adran Ddamweiniau i’r marwdy, mae The Language of Kindness yn hanes trawiadol o faes gwaith sydd wedi ei ddiffinio gan weithredoedd o ofal, trugaredd a charedigrwydd.


Monday, 1 April 2019

Crime Fiction Book Club at Blaenavon Library

If you like a good crime story you're in the right place...

Every 4 weeks Blaenavon Crime Fiction Book Club meets to discuss murder, mystery and mayhem. Why not join us?

We read books chosen from an increasingly broad genre by new and long-standing authors. We don't choose the most popular crime reads or authors as most crime fiction lovers have a large back catalogue of books already read. We tend to choose books and authors that are not so well known to broaden our horizons a little.  It is true to say that we don't all like the same books, but that just makes for interesting discussions at our meetings.

Our recent reads have included:

The Seven Deaths of Evelyn Hardcastle - Stuart Turton

Mr Mercedes - Stephen King

Give Me Your Hand - Megan Abbott


So basically, a nice cuppa and a chat about crime books on a Tuesday afternoon every 4 weeks. If this sounds like something you would enjoy, please contact Blaenavon Library (within Blaenavon World Heritage Centre) and find out more. 

Places are limited so reserve soon to avoid disappointment.

Our next meeting is:
Tuesday 16th April 2019
Then every 4 weeks always on a Tuesday.

blaenavon.library@torfaen.gov.uk

01495 742333
_____________________________________________________


Os ydych chi'n hoffi stori drosedd dda rydych chi yn y lle iawn...
Bob 4 wythnos mae Clwb Llyfrau Ffuglen Trosedd Blaenafon yn cyfarfod i drafod llofruddiaeth, dirgelwch a thryblith. Beth am ymuno â ni?

Rydym yn darllen llyfrau a ddewiswyd o enre cynyddol eang gan awduron newydd a hirsefydlog. Nid ydym yn dewis yr awduron na'r llyfrau troseddau mwyaf poblogaidd gan fod gan y mwyafrif ohonoch sy'n hoffi ffuglen drosedd gatalog mawr o lyfrau a ddarllenwyd eisoes. Rydym yn tueddu i ddewis llyfrau ac awduron nad ydynt mor adnabyddus i ehangu ein gorwelion ychydig. Mae'n wir dweud nad ydym i gyd yn hoffi'r un llyfrau, ond mae hynny'n ennyn trafodaethau diddorol yn ein cyfarfodydd.

Dyma’r hyn a ddarllenom yn ddiweddar:


The Seven Deaths of Evelyn Hardcastle - Stuart Turton

Mr Mercedes - Stephen King

Give Me Your Hand - Megan Abbott

 

Felly, yn y bôn, paned hyfryd a sgwrs am lyfrau trosedd ar brynhawn dydd Mawrth bob 4 wythnos. Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y byddech chi'n ei fwynhau, cysylltwch â Llyfrgell Blaenafon (yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon) i gael gwybod mwy. 

01495 742333

Mae lleoedd yn gyfyngedig felly beth am gadw’ch lle yn fuan i osgoi cael eich siomi.

Dyddiad ein cyfarfod nesaf yw :
Dydd Mawrth 16 Ebrill 2019
Yna bob 4 wythnos, ar ddydd Mawrth bob tro.


blaenavon.library@torfaen.gov.uk

01495 742333

Monday, 4 March 2019

And the award goes to...

With awards season well underway, we’ve put together a collection of titles for this week’s blog to help you find the words behind the film.

These titles are available now or coming soon to your local Torfaen library or via your device of choice using the BorrowBox service (freely available to all Torfaen library members).

If Beale Street Could Talk by James Baldwin - Tish is nineteen and pregnant whilst her lover Fonny, father of her child, is in jail. Flashbacks from their love affair are woven into the compelling struggle of two families to win justice for Fonny. James Baldwin brings a spare and impassioned intensity to his story, charging it with universal resonance and power.
Somebody to Love by Matt Richards and Mark Langthorne - Biographers Mark Langthorne and Matt Richards skilfully weave Freddie's pursuit of musical greatness with Queen, his upbringing and endless search for love, with the origins and aftermath of a terrible disease that swept across the world in the 1980s.
The Wife by Meg Wolitzer - Joe and Joan Castleman are en route to Helsinki. Joe is thinking about the prestigious literary prize he will receive there, while Joan is plotting how to leave him. For too long she has played the role of supportive wife whilst quietly being the keystone of his success. But behind the compromises, the disappointment and disillusionment there lies a secret…

Can You Ever Forgive Me? by Lee Israel - Before turning to her life of crime Lee Israel had a legitimate career as an author of biographies. Her first book was a New York Times bestseller and her second made a splash in the headlines.  By 1990, almost broke and desperate to hang onto her Upper West Side studio, Lee made a bold, irreversible career change: inspired by a letter she’d received once from Katharine Hepburn...



Gyda’r tymor gwobrau wedi dechrau, rydym wedi llunio casgliad o deitlau ar gyfer blog yr wythnos hon i’ch helpu chi i ganfod y geiriau y tu ôl i’r ffilm.

Mae’r teitlau hyn ar gael nawr neu’n dod yn fuan i’ch llyfrgell leol yn Nhorfaen neu eich dyfais gan ddefnyddio gwasanaeth BorrowBox (ar gael am ddim i holl aelodau llyfrgell Torfaen).

If Beale Street Could Talk gan James BaldwinMae Tish yn bedair ar bymtheg ac yn feichiog tra bo ei chariad Fonny, tad ei phlentyn, yn y carchar. Mae ôl-fflachiau o’u carwriaeth yn cael eu plethu mewn stori gymhellol am ddau deulu sy’n ceisio cael cyfiawnder i Fonny. Mae James Baldwin yn creu stori ddwys, rymus dros ben.
Somebody to Love gan Matt Richards a Mark Langthorne - Mae’r cofianwyr Mark Langthorne a Matt Richards yn plethu taith Freddie i ganfod hynodrwydd cerddorol gyda Queen, ei fagwraeth a’r chwilio diddiwedd am gariad, gyda tharddiad ac adladd afiechyd erchyll a ysgubodd ar draws y byd yn y 1980au.
The Wife gan Meg WolitzerMae Joe a Joan Castleman ar y ffordd i Helsinki. Mae Joe yn meddwl am y wobr lenyddol glodfawr y bydd yn ei hennill yno, tra bo Joan yn cynllwynio sut i’w adael. Mae hi wedi chwarae rôl y wraig gefnogol yn rhy hir, wrth fod yn gonglfaen ei lwyddiant, yn dawel bach. Ond y tu ôl i’r cyfaddawdu, y siom a’r dadrithiad, mae cyfrinach …
Can You Ever Forgive Me? gan Lee Israel - Cyn troi at fywyd o drosedd, roedd gan Lee Israel yrfa ddilys fel awdur bywgraffiadau. Roedd ei llyfr cyntaf yn rhestr goreuon y New York Times ac ymddangosodd yr ail ar dudalennu blaen y papurau newydd.
Erbyn 1990, bron heb arian o gwbl ar ôl ac eisiau cadw gafael ar ei stiwdio yn yr Upper West Side, newidiodd Lee ei gyrfa yn llwyr, wedi ei hysbrydoli gan lythyr a gafodd unwaith gan Katharine Hepburn…

Monday, 18 February 2019

FREE BorrowBox E-books & E-audio books at your Library!


Bestselling eBooks and eAudiobooks are available from Torfaen Libraries through BorrowBox.

With the BorrowBox library app, you can browse, borrow and download international titles by your favourite authors from the comfort of your own home or when you're out and about.  Alternatively, you can access the service via your laptop or home computer and read your choices on a freely downloadable eReader program.

The BorrowBox service also has a wide range of e-audio books available for you to download onto your computer or most mobile devices to listen to. There are English and Welsh language books, fiction and non-fiction, and books for adults and children.

You can renew your book, reserve another or return your loans whenever you like – BorrowBox is always open.

If you are already a member of Torfaen Libraries you can start using BorrowBox today by using your library card number and the four digit PIN number that would have been set up during your registration (it’s the same PIN number that you use when logging onto our library computers).
 

Joining Torfaen Libraries is easy and free, just pop down to any of our libraries with a proof of address and we’ll get you signed up!

BorrowBox takes just minutes to get used to but if you’d like any help getting set up or using this or any other online service we provide come along to our weekly IT drop-in sessions and we’d be happy to help:

Blaenavon Library – Wednesdays, 2-4pm
Cwmbran Library – Tuesdays, 10-11.30am and Thursdays, 10am-12pm & 2.30-4.30pm
Pontypool Library – Tuesdays, 10am-12pm

For great stories – Anywhere, Everywhere – access BorrowBox at Torfaen Libraries today!







Mae eLyfrau ac eLyfrau Sain poblogaidd o Lyfrgelloedd Torfaen trwy BorrowBox.

Gydag ap llyfrgell BorrowBox, medrwch bori, benthyg a lawrlwytho teitlau rhyngwladol gan eich hoff awduron o gysur eich cartref neu pan fyddwch allan o’r tŷ. Fel arall, medrwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar eich gliniadur neu gyfrifiadur cartref a darllen eich dewisiadau ar raglen eReader sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Mae gan y gwasanaeth BorrowBox hefyd amrywiaeth eang o lyfrau sain ar gael i chi eu lawrlwytho ar eich cyfrifiadur a’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol. Mae llyfrau Cymraeg a Saesneg, ffuglen a ffeithiol, a llyfrau i oedolion a phlant.

Medrwch adnewyddu eich eLyfr, neilltuo un arall neu ddychwelyd eich benthyciadau arlein ar unrhyw adeg - mae BorrowBox ar agor trwy’r amser.

Os ydych chi eisoes yn aelod o Lyfrgelloedd Torfaen, medrwch ddechrau defnyddio BorrowBox heddiw trwy ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell a rhif personol pedwar digid a fyddai wedi ei drefnu adeg cofrestru (mae’r un rhif a ddefnyddiwch pan fyddwch yn mewngofnodi ar ein cyfrifiaduron). 

Mae ymuno â Llyfrgelloedd Torfaen yn hawdd ac am ddim – ewch draw i un o’n llyfrgelloedd gyda phrawf o’ch cyfeiriad a medrwn eich cofrestru chi!

Dim ond ychydig o funudau mae’n ei gymryd i ddod i arfer â defnyddio BorrowBox ond os hoffech unrhyw help i ddechrau, neu i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn neu unrhyw wasanaeth arlein arall a ddarparwn, dewch draw i’n sesiynau TG galw heibio wythnosol a byddwn yn falch o’ch helpu:

Llyfrgell Blaenafon – Dydd Mercher, 2-4pm
Llyfrgell Cwmbrân – Dydd Mawrth, 10-11.30am a Dydd Iau, 10am-12pm a2.30-4.30pm
Llyfrgell Pont-y-pŵl - Dydd Mawrth, 10am-12pm

I gael straeon gwych – unrhyw le, ym mhob man – cofrestrwch ar gyfer BorrowBox yn Llyfrgelloedd Torfaen heddiw!