Bestselling eBooks and eAudiobooks are available from Torfaen
Libraries through BorrowBox.
With the BorrowBox library app, you can browse, borrow and
download international titles by your favourite authors from the comfort of
your own home or when you're out and about.
Alternatively, you can access the service via your laptop or home
computer and read your choices on a freely downloadable eReader program.
The BorrowBox service also has a wide range of e-audio
books available for you to download onto your computer or most mobile devices
to listen to. There are English and Welsh language books, fiction and
non-fiction, and books for adults and children.
You can renew your book, reserve another or return your
loans whenever you like – BorrowBox is always open.
If you are already a member of Torfaen Libraries you can
start using BorrowBox today by using your library card number and the four
digit PIN number that would have been set up during your registration (it’s the
same PIN number that you use when logging onto our library computers).
Joining Torfaen Libraries is easy and free, just pop down
to any of our libraries with a proof of address and we’ll get you signed up!
BorrowBox takes just minutes to get used to but if you’d
like any help getting set up or using this or any other online service we
provide come along to our weekly IT drop-in sessions and we’d be happy to help:
Blaenavon Library – Wednesdays, 2-4pm
Cwmbran Library – Tuesdays, 10-11.30am and Thursdays,
10am-12pm & 2.30-4.30pm
Pontypool Library – Tuesdays, 10am-12pm
For great stories – Anywhere, Everywhere – access BorrowBox
at Torfaen Libraries today!
Mae eLyfrau ac eLyfrau Sain poblogaidd o
Lyfrgelloedd Torfaen trwy BorrowBox.
Gydag ap llyfrgell BorrowBox, medrwch bori, benthyg a
lawrlwytho teitlau rhyngwladol gan eich hoff awduron o gysur eich cartref neu
pan fyddwch allan o’r tŷ. Fel arall, medrwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar eich
gliniadur neu gyfrifiadur cartref a darllen eich dewisiadau ar raglen eReader
sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Mae gan y gwasanaeth BorrowBox hefyd amrywiaeth eang o
lyfrau sain ar gael i chi eu lawrlwytho ar eich cyfrifiadur a’r rhan fwyaf o
ddyfeisiau symudol. Mae llyfrau Cymraeg a Saesneg, ffuglen a ffeithiol, a
llyfrau i oedolion a phlant.
Medrwch adnewyddu eich eLyfr, neilltuo un arall neu
ddychwelyd eich benthyciadau arlein ar unrhyw adeg - mae BorrowBox ar agor
trwy’r amser.
Os ydych chi eisoes yn aelod o Lyfrgelloedd Torfaen,
medrwch ddechrau defnyddio BorrowBox heddiw trwy ddefnyddio eich cerdyn
llyfrgell a rhif personol pedwar digid a fyddai wedi ei drefnu adeg cofrestru
(mae’r un rhif a ddefnyddiwch pan fyddwch yn mewngofnodi ar ein cyfrifiaduron).
Mae ymuno â Llyfrgelloedd Torfaen yn hawdd ac am ddim –
ewch draw i un o’n llyfrgelloedd gyda phrawf o’ch cyfeiriad a medrwn eich
cofrestru chi!
Dim ond ychydig o funudau mae’n ei gymryd i ddod i arfer â
defnyddio BorrowBox ond os hoffech unrhyw help i ddechrau, neu i ddefnyddio’r
gwasanaeth hwn neu unrhyw wasanaeth arlein arall a ddarparwn, dewch draw i’n
sesiynau TG galw heibio wythnosol a byddwn yn falch o’ch helpu:
Llyfrgell Blaenafon – Dydd Mercher, 2-4pm
Llyfrgell Cwmbrân – Dydd Mawrth, 10-11.30am a Dydd Iau,
10am-12pm a2.30-4.30pm
Llyfrgell Pont-y-pŵl - Dydd Mawrth, 10am-12pm
I gael straeon gwych – unrhyw le, ym mhob man – cofrestrwch
ar gyfer BorrowBox yn Llyfrgelloedd Torfaen heddiw!