Friday 28 April 2017

Desert Island Books 6


April’s castaway is Rosie Clare, from Cwmbran library. Here are her 6 essential reads.

Jane Eyre – Charlotte Bronte
This is an all-time favourite of mine. Written in diary form in the first person we are taken on a journey starting with Jane’s childhood to a day in her future when she is happy and in love. I particularly enjoy witnessing Jane’s development from a neglected and put-upon child to a strong woman who knows what she wants.  She falls in love with Mr Rochester early in her adulthood but will not be with him unless it is on her own terms. ‘Reader, I married him.’

A Suitable Boy – Vikram Seth
This is a book that I have started to read a couple of times but not got very far. I think it would be a great opportunity to finally read this on my desert island. It is one of the longest pieces of fiction originally written in English and is a fascinating insight into the lives of four fictional families living in 1950s India. Attempts by Lata’s mother to find her a husband are causing a family feud as Lata insists on choosing her own match.

The Secret Agent – Joseph Conrad
Another favourite book that I would like time to re-read. It is a dark book set in a dark place but written with surprisingly beautiful language and wonderful descriptions. Mr Verloc is not a pleasant character and his quiet unassuming wife, Winnie shows us why you should never underestimate the protective instincts of a woman.

The Wind in the Willows – Kenneth Grahame
I have chosen this book out of pure nostalgia. Having this read to me as a child helped forge my love of books. The wonderful adventures of Ratty, Mole and Mr Toad simply whisk me away to a world of sunshine, water and picnics – wherever I happen to be when I’m reading it.

The Lord of the Rings Trilogy– JRR Tolkien
This might be a cheat choosing a trilogy, but they can’t really be read on their own.  The story continues to build in excitement and becomes darker and more menacing in each book. Exciting events, wonderful descriptions and incredible characters keep the reader hooked throughout the epic journey of a hobbit, a few dwarves and a wizard as they attempt to overthrow the evil entity, Sauron and destroy the ‘one ring’.

Bushcraft 101 – Dave Canterbury
I haven’t read this book, but I have a feeling it will be very useful on the island. Ever the practical person, I would like to think that I would be able to make a shelter, build a fire, find food and water then read all my books! Canterbury is an expert survivalist and bases his success on the 5 Cs : cutting tools, covering, combustion devices, containers, and cordage.








Llyfrau Ynys Bellennig 5
Ein llongddrylliedig ym mis Ebrill yw Rosie Clare, o lyfrgell Cwmbrân. Dyma 6 o’i hanfodion darllen hi.

Jane Eyre - Charlotte Bronte 
Mae hwn yn ffefryn go iawn i mi. Ysgrifennwyd y llyfr ar ffurf dyddiadur yn y person cyntaf. Cawn ein tywys ar daith sy'n cychwyn gyda phlentyndod Jane a hynny tan ddiwrnod yn ei dyfodol pan mae hi'n hapus ac mewn cariad. Rwyf yn mwynhau gweld datblygiad Jane o blentyn a gafodd ei esgeuluso, i fenyw gref sy'n gwybod beth mae hi eisiau. Mae hi'n syrthio mewn cariad â Mr Rochester ar ddechrau ei bywyd fel oedolyn, ond ni fydd hi gydag ef oni bai ei fod ar ei thelerau hi. 'Ddarllenydd, fe briodais ef.'

A Suitable Boy –Vikram Seth
Mae hwn yn llyfr yr wyf wedi dechrau ei ddarllen fwy nag unwaith, ond heb gyrraedd yn bell iawn. Rwy'n credu y byddai'n gyfle gwych i ddarllen hwn o'r diwedd ar fy ynys bellennig. Mae'n un o'r darnau hiraf o ffuglen a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn Saesneg ac mae'n gipolwg diddorol i mewn i fywydau pedwar teulu dychmygol sy'n byw yn India yn y 1950au. Mae ymdrechion mam Lata i ddod o hyd i ŵr iddi yn achosi ymrafael ymysg y teulu wrth i Lata fynnu mynd ati i ddewis rhywun ei  hun.

The Secret Agent - Joseph Conrad
Hoff lyfr arall yr hoffwn gael amser i'w ail-ddarllen. Mae'n llyfr tywyll sy'n adrodd hanes o le tywyll, ond un sydd wedi'i ysgrifennu ag iaith ryfeddol o hardd, a disgrifiadau gwych. Nid yw Mr Verloc yn gymeriad dymunol ac mae Winnie, ei wraig ddiymhongar a thawel, yn dangos i ni pam na ddylech chi fyth bychanu greddfau amddiffynnol menyw.

The Wind in the Willows – Kenneth Grahame
Yr wyf wedi dewis y llyfr hwn ar sail atgofion pur. Darllen hwn i mi yn blentyn a helpodd i feithrin fy hoffter o lyfrau. Mae anturiaethau gwych Ratty, Mole a Mr Toad yn fy ysgubo i ffwrdd i fyd o heulwen, dŵr a phicnic - lle bynnag yr wyf yn digwydd bod pan dwi'n ei ddarllen.

The Lord of the Rings -Triloleg – JRR Tolkien
Efallai bod dewis trioleg braidd yn eofn, ond ni allwch eu darllen ar eu pennau eu hunain. Mae'r stori yn parhau i adeiladu mewn cyffro ac yn dod yn dywyllach ac yn fwy bygythiol ym mhob llyfr. Mae digwyddiadau cyffrous, disgrifiadau gwych a chymeriadau anhygoel yn cadw'r darllenydd yn gaeth trwy gydol y daith epig Hobbit, ychydig o gorachod a dewin wrth iddynt geisio dymchwel yr endid drwg, Sauron a dinistrio'r 'un fodrwy'.


Bushcraft 101 – Dave Canterbury
Nid wyf wedi darllen y llyfr hwn, ond mae gen i deimlad y bydd yn ddefnyddiol iawn ar yr ynys. Yn berson ymarferol, byddwn yn hoffi meddwl y byddwn yn gallu gwneud lloches, cynnau tân, dod o hyd i fwyd a dŵr yna darllen fy holl lyfrau! Mae Canterbury yn oroeswr arbenigol ac yn seilio ei lwyddiant ar 5 peth: offer torri, gorchudd, dyfeisiau hylosgi, cynwysyddion, a rhaffau.

Friday 21 April 2017

Share the joy of reading



Organised by the Reading Agency, a national charity that aims to inspire people to become confident and enthusiastic readers, World Book Night is all about sharing the joy of reading. On that night books are given to people across the UK with a particular focus on those who don’t regularly read. Since 2011 two million books have been given away, thanks to World Book Night.

This year’s selection of 26 great and varied titles will be donated by publishers and distributed to organisations such as prisons, colleges, hospitals, care homes and homeless shelters.

If you love reading and want to share that pleasure with others, why not gift some of your favourite books on World Book Night. They don’t have to be brand new, if you’ve enjoyed them that enthusiasm will come across to others. Should they need more encouragement try telling them that reading can reduce stress levels by up to 68% and regular readers tend to be happier and more satisfied with life. If they have kids point out that parents are the most important reading role models for children and young people. Best of all, it’s FUN!
http://worldbooknight.org/get-involved











Rhannwch hyfrydwch darllen 
Noson Llyfr y Byd 23ain Ebrill 2017

Trefnir Noson Llyfr y Byd gan y Reading Agency, elusen genedlaethol gyda’r nod o ysbrydoli pobl i ddod yn ddarllenwyr hyderus a brwdfrydig, ac mae’n Noson sy’n ymwneud â rhannu hyfrydwch darllen. Ar y noson honno, rhoddir llyfrau i bobl ledled y DU gyda ffocws penodol ar y sawl nad ydynt yn darllen yn rheolaidd. Ers 2011 rhoddwyd dwy filiwn o lyfrau, diolch i Noson Llyfr y Byd.

Bydd detholiad eleni o 26 o deitlau gwych ac amrywiol yn cael eu cyfrannu gan gyhoeddwyr a’u dosbarthu i sefydliadau megis carchardai, colegau, ysbytai, cartrefi gofal a llochesi i’r digartref.

Os ydych chi’n caru darllen ac eisiau rhannu’r pleser hwnnw gydag eraill, pam na roddwch rai o’ch hoff lyfrau ar Noson Llyfr y Byd. Nid oes yn rhaid iddyn nhw fod yn llyfrau newydd sbon; os ydych wedi eu mwynhau, bydd y brwdfrydedd hwnnw yn trosglwyddo i bobl eraill. Os ydynt angen mwy o anogaeth, medrwch ddweud wrthyn nhw bod darllen yn medru gostwng lefelau straen hyd at 68% a bod darllenwyr rheolaidd yn tueddu i fod yn hapusach a mwy bodlon gyda bywyd. Os oes ganddynt blant, nodwch mai rhieni yw’r rôl enghreifftiol bwysicaf o ran darllen ar gyfer plant a phobl ifanc. Gorau oll, mae’n HWYL!




Friday 14 April 2017

A chapter a day keeps the doctor away!


If you want to live longer pick up a book and read every day. That’s got to be more fun than slogging away on a treadmill or rowing machine!

A survey of more than 3,635 people aged 50+ found that people who read books were found to live on average almost 2 years longer than non-readers. The more you read, the longer you live but as little as 30 minutes a day can be beneficial.

However, don’t think that picking up the newspaper for 30 minutes will have the same effect. The survey found that “reading books provided a greater benefit than reading newspapers or magazines” possibly because “books engage the reader’s mind more – providing more cognitive benefit and therefore increasing the lifespan”. In other words it’s possible that reading exercises the brain in the same way that a gym session exercises the body.

The study was conducted by researchers at Yale University and published in the September issue of Social Science & Medicine.

To start reaping the benefits why not work your way through the British Book Awards 2017 shortlist for Fiction Book of the Year.



Pennod y dydd yn eich cadw’n iach!
Os ydych chi eisiau byw yn hirach, darllenwch bob dydd. Mae’n fwy o hwyl na phwffian ar beiriant rhedeg neu rwyfo!

Dangosodd arolwg o fwy na 3,635 o bobl 50 oed+ bod pobl sy’n darllen llyfrau yn byw, ar gyfartaledd, 2 flynedd yn hirach na rhai nad ydynt yn darllen. Po fwyaf rydych yn ei ddarllen, po hiraf rydych yn byw, ond gall cyn lleied â 30 munud y dydd fod yn fanteisiol.

Ond, peidiwch â meddwl bod edrych ar y papur newydd am 30 munud y dydd yn cael yr un effaith. Canfu’r arolwg bod “darllen llyfrau yn rhoi mwy o fudd na darllen papurau newyddion neu gylchgronau,” oherwydd efallai “bod llyfrau yn cydio ym meddwl y darllenwr fwy - yn rhoi mwy o fantais ddirnadol ac felly’n cynyddu rhychwant oes”. Mewn geiriau eraill, mae’n bosib bod darllen yn ymarfer yr ymennydd yn yr un ffordd ag y mae sesiwn yn y gampfa yn ymarfer y corff.

Ymgymerwyd â’r astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Yale a chafodd ei chyhoeddi yn rhifyn mis Medi Social Science & Medicine.


I ddechrau manteisio ar hyn, pan na ddarllenwch eich ffordd trwy restr fer Ffuglen y Flwyddyn Gwobrau Llyfrau Prydain 2017.



  Neilltuwch yma

Friday 7 April 2017

The Waterstones Children’s Book Prize 2017


The winner is Kiran Millwood Hargrave for her debut novel, The Girl of Ink and Stars also winner of the Younger Fiction Category.

When Isabella's friend disappears, she volunteers to guide the search party. As a mapmaker's daughter, she's equipped with elaborate ink maps and knowledge of the stars, eager to navigate the island's forgotten heart. But beneath the mountains a legendary fire demon awakens, and her journey is fraught with danger.

Other category winners were:
Older Fiction – Orangeboy by Patrice Lawrence
Not cool enough, not clever enough, not street enough for anyone to notice me. I was the kid people looked straight through. Not anymore. Not since Mr Orange. Sixteen-year-old Marlon has made his mum a promise - he'll never follow his big brother, Andre, down the wrong path. So far, it's been easy, but when a date ends in tragedy, Marlon finds himself hunted. They're after the mysterious Mr Orange, and they're going to use Marlon to get to him. Marlon's out of choices - can he become the person he never wanted to be, to protect everyone he loves?

Illustrated Books – There’s a Tiger in the Garden by Lizzy Stewart
When Grandma says she's seen a tiger in the garden, Nora doesn't believe her. She's too old to play Grandma's silly games! Everyone knows that tigers live in jungles, not gardens. So, even when Nora sees butterflies with wings as big as her arm, and plants that try and eat her toy giraffe, and a polar bear that likes fishing, she knows there's absolutely, definitely no way there could be a tiger in the garden. Could there?

All the winning books are available to borrow or reserve from Torfaen Libraries Reserve here








Gwobr Llyfr Plant Waterstones 2017
Yr enillydd yw Kiran Millwood Hargrave am ei nofel gyntaf, The Girl of Ink and Stars, hefyd yn ennill Categori Ffuglen Iau.

Pan mae ffrind Isabella yn diflannu, mae’n gwirfoddoli i arwain y chwilio. Fel merch rhywun sy’n gwneud mapiau, mae ganddi fapiau inc a gwybodaeth o’r sêr, ac mae’n awyddus i deithio i galon goll yr ynys. Ond islaw’r mynyddoedd mae diafol tân chwedlonol yn deffro, ac mae ei thaith yn beryglus dros ben.

Enillwyr eraill y categori yw:
Ffuglen Hŷn – Orangeboy gan Patrice Lawrence
Ddim digon cŵl, ddim digon clyfar i rywun sylwi arna i. Doedd pobl ddim yn fy ngweld i. Ond ddim mwyach. Ddim ers Mr Orange. Mae Marlon, un ar bymtheg oed, wedi addo i’w fam na fydd yn dilyn ei frawd mawr, Andre, i lawr y llwybr anghywir. Hyd yma, mae wedi bod yn hawdd, ond pan mae dêt yn diweddu mewn trasiedi, mae Marlon yn canfod bod pobl ar ei ôl. Mr Orange maent eisiau cael hyd iddo, ac maen nhw am ddefnyddio Marlon i gael gafael arno. Does dim dewis ar ôl i Marlon - fedr o wneud yr hyn sydd angen ei wneud, i amddiffyn pawb mae’n eu caru?

Llyfrau Lluniau – There’s a Tiger in the Garden gan Lizzy Stewart
Pan fo Nain yn dweud bod teigr yn yr ardd, ‘dyw Nora ddim yn ei chredu. Mae hi’n rhy hen i chwarae gemau gwirion Nain! Mae pawb yn gwybod bod teigrod yn byw yn y jyngl, ddim mewn gerddi. Felly, hyd yn oed pan fo Nora’n gweld glöyn byw mor fawr â’i braich, a phlanhigion sy’n ceisio bwyta ei jiráff chwarae bach, ac arth wen sy’n hoffi pysgota, mae hi’n gwybod nad oes bosib bod teigr yn yr ardd. Oes yna?
Mae’r holl lyfrau buddugol ar gael i’w benthyg neu eu neilltuo yn Llyfrgelloedd Torfaen Neilltuwch yma