Friday 26 May 2017

Hay Festival 2017


The Hay Festival, which started yesterday, turns 30 this year and once again will be bringing writers and readers together to share stories and ideas in events that inspire, examine and entertain.

The festival is known for attracting speakers from a wide range of backgrounds.  This year is no exception with the likes of US Senator Bernie Sanders and actor and writer Stephen Fry in attendance.
For this week’s post, we’d like to share a small selection of titles by authors attending this year’s festival.

The Gap of Time by Jeanette Winterson – Jeanette Winterson’s cover version of The Winter’s Tale vibrates with echoes of Shakespeare's original and tells a story of hearts broken and hearts healed, a story of revenge and forgiveness, a story that shows that whatever is lost shall be found.






Norse Mythology by Neil Gaiman- Neil Gaiman has long been inspired by ancient mythology in creating the fantastical realms of his own fiction. Now he turns his attention back to the source, presenting a dazzling rendition of the great northern tales that carry us from the beginning of everything to Ragnarök and the twilight of the gods.






Who I Am by Charlotte Rampling-  Having previously shied away from autobiographies Charlotte Rampling has written Who I Am (first published in French) a lyrical, and intimate self-portrait via reminiscences. With photographs from her personal archive, Rampling recounts her childhood as the daughter of an army officer, and the memories and passions that would inspire her life and later work as an actress.



Holding by Graham Norton- Set in a remote Irish village, this is an intelligently crafted story of love, secrets and loss. Darkly comic, touching and at times profoundly sad, Graham Norton employs his acerbic wit to breathe life into a host of lovable characters, and explore - with searing honesty - the complexities and contradictions that make us human.




Anything Is Possible by Elizabeth Strout explores the whole range of human emotion through the intimate dramas of people struggling to understand themselves and others. Reverberating with the deep bonds of family, and the hope that comes with reconciliation, Anything Is Possible again underscores Elizabeth Strout's place as one of America's most respected and cherished authors.

House of Names by Colm Tóibín - Colm Tóibín is widely considered one of Ireland’s greatest writers. Taking inspiration from the Greek myths, House of Names weaves the stories that make up one family’s downfall and is a tale of intense longing and shocking betrayal.








Mae Gŵyl y Gelli, a gychwynnodd ddoe, yn dathlu 30 eleni ac unwaith eto, bydd yr ŵyl yn denu awduron a darllenwyr at ei gilydd i rannu straeon a syniadau mewn digwyddiadau sy'n ysbrydoli, archwilio a diddanu.

Mae'r ŵyl yn enwog am ddenu siaradwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Nid yw eleni yn eithriad, gyda'r Seneddwr Bernie Sanders o'r Unol Daleithiau a'r actor ac awdur enwog Stephen Fry yn mynychu'r digwyddiad.

Yr wythnos hon, hoffem rannu detholiad bychan o deitlau gan awduron sy'n mynychu'r ŵyl eleni.

The Gap of Time gan Jeanette Winterson – Mae fersiwn Jeanette Winterson o The Winter's Tale yn atseinio testun gwreiddiol Shakespeare ac yn adrodd stori o dorri calonnau a'u trwsio, stori o ddial a maddeuant, stori sy'n dangos bod modd dod o hyd i beth bynnag sy'n mynd ar goll.







Norse Mythology gan Neil Gaiman- Ysbrydolwyd Neil Gaiman ers tro gan fytholeg hynafol wrth greu byd rhyfeddol yn ei ffuglen ei hun. Nawr mae'n troi ei sylw yn ôl at y ffynhonnell, gan gyflwyno datganiad disglair o chwedlau mawrion y gogledd sy'n ein cludo o ddechrau popeth i Ragnarok a chyfnos y duwiau.






Who I Am gan Charlotte Rampling-  Wedi ymwrthod yn flaenorol â hunangofiannau, mae Charlotte Rampling wedi ysgrifennu Who I Am (a gyhoeddwyd gyntaf yn Ffrangeg), sef hunanbortread telynegol, personol drwy gyfres o atgofion. Gyda ffotograffau o'i harchif bersonol, mae Rampling yn adrodd ei phlentyndod fel merch i swyddog y fyddin, a'r atgofion a chariad a fyddai'n ysbrydoli ei bywyd a'i gwaith yn ddiweddarach fel actores.




Holding gan Graham Norton- Wedi'i leoli mewn pentref anghysbell yn Iwerddon, dyma stori serch grefftus a deallus o gariad, cyfrinachau a cholled. Yn gomedi tywyll, teimladwy sydd ar adegau yn hynod o drist, mae Graham Norton yn defnyddio'i ffraethineb milain i anadlu bywyd i mewn i lu o gymeriadau hoffus, ac archwilio - gyda gonestrwydd tanbaid - y cymhlethdodau a'r gwrthddywediadau sy'n ein gwneud yn ddynol.




Anything Is Possible gan Elizabeth Strout - mae’n archwilio’r ystod gyfan o emosiwn dynol drwy ddramâu personol y bobl hynny sy’n brwydro i ddeall eu hunain ac eraill. Gan adleisio bondiau dwfn teuluoedd, a'r gobaith a ddaw gyda chymodi, mae Anything is Possible unwaith eto yn tanlinellu lle Elizabeth Strout fel un o awduron mwyaf annwyl ac uchel ei pharch yn America.



House of Names gan Colm Tóibín - Mae Colm Tóibín yn cael ei ystyried yn eang yn un o lenorion mwyaf Iwerddon. Gan gymryd ysbrydoliaeth o'r chwedlau Groegaidd, mae House of Names yn plethu straeon sy'n rhan o gwymp un teulu ac mae'n stori o hiraeth dwys a brad arswydus.

Friday 19 May 2017

Cross Sports Book Awards 2017

Many of us are sports enthusiasts (both active and armchair!) and the recent successes of Team GB, Andy Murray and the Welsh national football team have only increased the interest in the lives and motivations of our national sportspeople, how sport has changed them and the sacrifices made in order for them to be amongst the best in their discipline.

The Cross Sports Book Awards celebrate the incredible depth in the quality of sports writing published every year in this country. With nine shortlist categories the avid sports book reader is spoilt for choice.

Let’s have a look at the shortlist for Autobiography of the Year:

Unguarded by Jonathan Trott - Unguarded takes readers to the heart of the dressing room, and to the heart of what it is to be a professional sportsman. It provides a unique perspective on a remarkably successful period in English cricket and its subsequent reversal and offers a fascinating insight into the rewards and risks faced as a sportsman carrying the hope and expectation of a team and a nation.




A Life in Football: My Autobiography by Ian Wright - From a South London council estate to the national team, from Saturday afternoons on the pitch to Saturday evenings on primetime television, Ian Wright reveals all about his extraordinary life and career.
Not a standard footballer's autobiography, Wright's memoir is a thoughtful and gripping insight into a Highbury Hero and one of the greatest sports stars of recent years.




This Mum Runs by Jo Pavey –  Jo Pavey was forty years old when she won the 10,000m at the European Championships. It was the first gold medal of her career and, astonishingly, it came within months of having her second child.
Heart-warming and uplifting, This Mum Runs follows Jo’s roundabout journey to the top and all the lessons she's learnt along the way. It is the inspiring yet everyday story of a mum that runs and a runner that mums.



Watching the Wheels: My Autobiography by Damon Hill – In 1996, Damon Hill was crowned Formula One World Champion. For the first time ever he tells the story of his journey through the last golden era of the sport when he took on the greats including Ayrton Senna and Michael Schumacher and emerged victorious as World Champion, stepping out of the shadow of his legendary father Graham Hill.




Unexpected: The Autobiography by Greg Rutherford – Greg Rutherford is one of the most successful British athletes of all time, winning gold at European, Commonwealth, World and Olympic levels, yet his route to the very top was never smooth. In this long-awaited memoir, he not only reveals the secrets of his remarkable success, but also has plenty to say on the issues that are dominating athletics.




No Nonsense: The Autobiography by Joey Barton –  No Nonsense reflects Barton’s character – it is candid, challenging, entertaining and intelligent. He does not spare himself, in revealing the formative influences of a tough upbringing in Liverpool, and gives a survivor’s insight into a game which, to use his phrase, 'eats people alive'.






Mae llawer ohonom yn selogion chwaraeon (boed yn ymarferol neu o'r gadair freichiau!) ac mae llwyddiannau diweddaraf Tîm Prydain Fawr, Andy Murray a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wedi cynyddu'r diddordeb ym mywydau a chymhellion ein harwyr yn y maes chwaraeon, sut mae chwaraeon wedi eu newid a'r aberth a wnaed er mwyn iddynt fod ymysg y gorau yn eu disgyblaeth.

Mae Gwobrau Llyfrau Cross Sports yn dathlu'r dyfnder anhygoel yn ansawdd yr hyn a ysgrifennir am y maes chwaraeon a gyhoeddir bob blwyddyn yn y wlad hon. Gyda naw categori rhestr fer fe fydd gan y darllenwr ddewis hynod o helaeth.

Dewch i ni gael cipolwg ar y rhestr fer ar gyfer Hunangofiant y Flwyddyn:

Unguarded gan Jonathan Trott – Mae Unguarded yn tywys y darllenwyr i galon yr ystafell newid, ac i galon yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn chwaraewr proffesiynol. Mae'n rhoi persbectif unigryw ar gyfnod hynod lwyddiannus criced yn Lloegr a'i wrthdroad dilynol, yn ogystal â chipolwg diddorol i'r manteision a'r risgiau y mae chwaraewyr yn eu hwynebu wrth ysgwyddo gobeithion a disgwyliadau tîm a chenedl.



A Life in Football: My Autobiography gan Ian Wright - O ystâd gyngor yn Ne Llundain i'r tîm cenedlaethol, o brynhawniau Sadwrn ar y cae i oriau brig ar deledu nos Sadwrn, mae Ian Wright yn datgelu popeth am ei fywyd a'i yrfa ryfeddol.
Nid hunangofiant arferol pêl-droediwr, mae cofiant Wright yn gipolwg meddylgar a gafaelgar i fywyd Arwr Highbury ac yn un o sêr chwaraeon mwyaf y blynyddoedd diwethaf.



This Mum Runs gan Jo Pavey – Roedd Jo Pavey yn ddeugain mlwydd oed pan enillodd y ras 10,000m ym Mhencampwriaethau Ewrop. Dyma fedal aur gyntaf ei gyrfa ac, yn rhyfeddol, daeth o fewn misoedd o gael ei hail blentyn.
Twymgalon ac ysbrydoledig, mae This Mum Runs yn dilyn taith Jo i'r brig a'r holl wersi a  ddysgodd ar hyd y ffordd. Mae'n stori ysbrydoledig, gyffredin am fam sy'n rhedeg a rhedwr sy'n fam.



Watching the Wheels: My Autobiography gan Damon Hill – Ym 1996, coronwyd Damon Hill yn Bencampwr Fformiwla Un y Byd. Am y tro cyntaf erioed mae'n adrodd hanes ei daith trwy oes aur olaf y gamp pan frwydrodd yn erbyn y mawrion, gan gynnwys Ayrton Senna a Michael Schumacher a daeth i'r amlwg fel Pencampwr y Byd, gan gamu allan o gysgod ei dad, yr enwog Graham Hill .




Unexpected: The Autobiography gan Greg Rutherford – Greg Rutherford yw un o'r athletwyr  mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain erioed, gan ennill y wobr aur ar lefelau Ewrop, y Gymanwlad, y Byd a'r Gemau Olympaidd, ac eto nid oedd ei siwrnai i'r brig yn un lyfn. Yn yr hunangofiant hir-ddisgwyliedig, mae'n datgelu nid yn unig cyfrinachau ei lwyddiant rhyfeddol, ond mae hefyd ganddo ddigon i'w ddweud am y materion sy'n dylanwadu ar athletau.

No Nonsense: The Autobiography gan Joey Barton –  Mae No Nonsense yn adlewyrchu cymeriad Barton – mae’n agored, heriol, difyrrus a deallus. Nid yw’n dal yn ôl rhag datgelu’r dylanwadau ffurfiol a gafodd yn ystod magwraeth anodd yn Lerpwl, ac o safbwynt goroeswr, mae’n rhoi cipolwg o’r gêm, sydd yn ei eiriau ei hun yn ‘bwyta pobl yn fyw'.

Friday 12 May 2017

Desert Island Books 7

Matthew Geary, from Cwmbran Library, shares his Fantasy / Horror themed desert island book list.  

I’d definitely want the following books with me if stranded on a desert island but I’d only be reading them when the sun was out!   I’ve had a love of fantasy and horror since my early teens having grown up on comic books, Dungeons and Dragons and the cheap and cheerful ‘special effects’ films from the ‘80s.   

Necronomicon: The Best Weird Tales of H.P.
Lovecraft is a select collection of short stories, novellas and novels written in the 1920s and 30s. They blend elements of horror, science fiction and cosmic terror and, although some of the writing and content is a little dated, the tales of Lovecraft’s Cthulhu mythos have sown the seeds for many of the horror and fantasy titles I read today.  

My second choice is The Dark Tower series by Stephen King.  A bit of a cheat this one as it’s eight books rather than one.  Inspired by the Browning poem 'Childe Roland to the Dark Tower came' the series portrays an epic journey by the gunslinger Roland Deschain that stretches across many worlds including our own. Part dark fantasy, sci-fi, horror and western I cannot recommend it enough, even if you are not a fan of King's other works. 

I think I learnt to read poring over comic books so I have to
add a graphic novel to my list.  The films From Hell, Watchmen and V for Vendetta among others vary wildly in quality but are all based on Alan Moore’s consistently brilliant graphic novels. His works are not for the fainthearted but I always end up reading his books in one sitting.  There are many to choose from but I'm going to go for Watchmen 
  
Next up is Abarat by Clive Barker (another series!).  Barker is often labelled as an out-and-out author of horror but, like Stephen King, I think his output covers a number of styles and genres.  Some of his work is incredibly graphic but in between those dark, sinister corridors and eye-watering visions of damnation can be found some of the greatest fantasy depictions I’ve ever read. The Abarat books, with their clock face island archipelago, magical denizens and heroine Candy Quackenbush include the author's own artwork and could be seen as a dark fairy tale for young adult readers.  

I’ve only read a few books by the late, great Iain Banks but all of them have shocked and awed me in equal measure.  My next choice was a toss up between Walking on Glass and the Wasp Factory but the former edges it due to the intertwining stories and David Bowie references!  

A good tale must run in the family with Joe Hill following his
father, Stephen King into the storytelling business The Fireman is an interesting spin on the futuristic plague concept where Hill uses his story to focus on the relationships and tensions building within a community persecuted by the 'healthy' outside world . With a strong 'Lord of the Flies' vibe it's very much a case of keep your friends close but your enemies closer.




Dyma Matthew Geary, sy’n rhan o dîm proffesiynol Llyfrgell Cwmbrân yn rhannu ei rhestr lyfrau ynys bellennig sydd yn ymwneud â’r thema Ffantasi / Arswyd.  

Byddwn i'n bendant am y llyfrau canlynol gyda mi pe byddwn wedi fy ngadael ar ynys bellennig ond byddwn ond yn eu darllen pan fyddai'r haul allan! Rydw i’n mwynhau darllen llyfrau ffantasi ac arswyd ers fy arddegau cynnar. Llyfrau comig oeddwn yn darllen wrth dyfu i fyny, Dungeons and Dragons a ffilmiau 'effeithiau arbennig' rhad a difyr o'r '80au.

Necronomicon: The Best Weird Tales of H.P. Lovecraft
dyma ddetholiad o straeon byrion, nofelau byrion a nofelau a ysgrifennwyd yn y 1920au a'r 30au. Maent yn uno elfennau o arswyd, ffuglen wyddonol ac arswyd cosmig ac, er bod peth agweddau ar yr ysgrifennu a'r cynnwys wedi dyddio braidd, mae hanesion Cthulhu mythos Lovecraft wedi hau hadau ar gyfer llawer o'r teitlau arswyd a ffantasi yr wyf yn eu darllen heddiw. 


Fy ail ddewis yw cyfres The Dark Tower gan Stephen King
Twyllo braidd gyda'r llyfr hwn gan ei fod yn wyth llyfr yn hytrach nag un. Wedi'i ysbrydoli gan gerdd Browning 'Childe Roland to the Dark Tower came' mae'r gyfres yn portreadu taith epig y saethwr Roland Deschain sy'n ymestyn ar draws llawer o fydoedd gan gynnwys ein byd ni. Yn rhannol ffantasi tywyll, ffuglen wyddonol, arswyd, ac elfen o orllewin gwyllt ni allaf ei argymell ddigon, hyd yn oed os nad ydych yn ffan o waith arall King.


Rwy'n credu mai trwy bori drwy gomics y gwnes i ddysgu
darllen, felly rhaid i mi ychwanegu nofel raffig i fy rhestr. Mae'r ffilmiau From Hell, Watchmen a V for Vendetta ymysg eraill yn amrywio'n fawr o ran ansawdd ond maent i gyd yn seiliedig ar nofelau graffig gwych Alan Moore. Nid yw ei waith ar gyfer y gwangalon, ond rwyf bob amser yn darllen ei lyfrau mewn un eisteddiad yn y pen draw. Mae yna lawer i ddewis ohonynt ond rwy'n mynd i fynd am Watchmen

  
Y nesaf yw Abarat gan Clive Barker (cyfres arall!).  Yn aml,
mae Barker yn cael ei labelu fel awdur arswyd allan ac allan, ond, fel Stephen King, credaf fod ei gynnyrch yn cynnwys nifer o arddulliau a genres. Mae peth o'i waith yn hynod o raffig ond rhwng y coridorau sinistr, tywyll a gweledigaethau  o ddamnedigaeth sy'n tynnu dŵr i'r llygaid, gellir dod o hyd rhai o'r darluniau ffantasi gorau yr wyf erioed wedi'u darllen. Mae llyfrau Abarat, gyda'u hynysfor wyneb cloc, trigolion hudolus a'r arwres Candy Quackenbush yn cynnwys gwaith celf yr awdur ei hun a gellid ei weld fel stori tylwyth teg dywyll ar gyfer darllenwyr sy'n oedolion ifanc.


Ychydig iawn o lyfrau yr wyf wedi eu darllen gan y diweddar Iain Banks ond mae pob un ohonynt wedi fy synnu cymaint â'i gilydd. Roedd fy newis nesaf rhwng Walking on Glass a Wasp Factory ond y cyntaf sy'n cyrraedd y brig o drwch blewyn oherwydd y straeon sy'n cydblethu, a'r cyfeiriadau at David Bowie!


Mae’n rhaid bod stori dda yn rhedeg yn y teulu
gyda Joe Hill yn dilyn ei dad, Stephen King, i’r busnes adrodd straeon.  Mae The Fireman yn agwedd ddiddorol ar gysyniad o bla yn y dyfodol lle mae Hill yn defnyddio’i stori i ganolbwyntio ar y berthynas a’r tensiynau sy’n adeiladu o fewn cymuned sy’n cael ei herlyn gan y byd ‘iach’ y tu allan . Gydag ymdeimlad cryf o 'Lord of the Flies' mae wir yn achos o gadw’ch cyfeillion yn agos a’ch gelynion yn agosach fyth.