Friday 30 June 2017

Be Summer Savvy!


There’ll be lots going on across Torfaen Libraries for all ages this Summer.  If you’re in Cwmbran Library on Friday 7th July why not drop in and say hello at our ‘Be Summer Savvy’ event?

Running from 10am-1pm, ‘Be Summer Savvy’ is an information event supported by local agencies who can help you enjoy your summer safely.

While you’re visiting don’t forget to take out a book or two to enjoy while you are out and about this Summer.  Here are some suggestions, out now or coming soon to a Torfaen library near you.


‘The Essex Serpent’ by Sarah Perry - Set in Victorian London and an Essex village in the 1890's, and enlivened by the debates on scientific and medical discovery which defined the era, The Essex Serpent has at its heart the story of two extraordinary people who fall for each other, but not in the usual way.

Told with exquisite grace and intelligence, this novel is most of all a celebration of love, and the many different guises it can take.

'The Ministry of Utmost Happiness' by Arundhati Roy - It's been two decades since the author of The God of Small Things published a novel, although Arundhati Roy has written several non-fiction books since then. Epic in scale, but intimately human in its concerns, the long-awaited story dazzles with its kaleidoscopic narrative approach and unforgettable characters.



'What We Lose' by Zinzi Clemmons - "I was born as apartheid was dying." So begins this debut novel about Thandi, raised in Pennsylvania but wondering increasingly about her "other home country" of South Africa. She dives into a rediscovery of her mother's land, which serves as a kind of unsteady anchor for her, even as her mother passes away and she realizes she'll soon be a mother herself. (July 11).


'The Half-Drowned King' by Linnea Hartsuyker - Game of Thrones will be back on our screens by the time this epic Viking saga comes out, and it's a safe choice for those of us who enjoy the stories of George R. R. Martin. Ragnvald Eysteinsson is betrayed by his avaricious stepfather, and in trying to gain back his rightful inheritance, he pledges his sword to a young warrior plotting to become the king. If you like your heroes noble and your struggles for power bloody, this one's for you. (August 1).







Bydd llawer iawn yn digwydd yn Llyfrgelloedd Torfaen i bobl o bob oedran yr haf hwn. Os ydych yn Llyfrgell Cwmbrân ar ddydd Gwener 7fed Gorffennaf, pam na ddewch heibio a dweud helo, yn ein digwyddiad ‘Bod yn ddoeth dros yr haf’?

Yn rhedeg o 10am-1pm, mae ‘Bod yn Ddoeth dros yr Haf’ yn ddigwyddiad gwybodaeth a gefnogir gan asiantaethau lleol a fedr eich helpu chi i fwynhau eich haf yn ddiogel.


Tra byddwch yn ymweld â’r llyfrgell, peidiwch ag anghofio mynd â llyfr neu ddau efo chi, i’w mwynhau tra’r ydych o gwmpas yr haf hwn. Dyma rai awgrymiadau, allan nawr neu’n dod yn fuan, i lyfrgell yn agos atoch chi.

‘The Essex Serpent’ gan Sarah Perry - Wedi ei osod yn Llundain oes Fictoria a phentref yn Essex yn y 1890au, a chyda thrafodaethau ar ddarganfyddiadau gwyddonol a meddygol a ddiffiniodd y cyfnod, wrth graidd The Essex Serpent mae stori dau berson anghyffredin dros ben sy’n syrthio mewn cariad, ond ddim yn y ffordd arferol.
Wedi ei hadrodd gyda gosgeiddrwydd hynod a deallusrwydd, mae’r stori yn y nofel yma yn dathlu cariad, a’r amrywiol ffurfiau y gall gymryd.



'The Ministry of Utmost Happiness' gan Arundhati Roy - Mae’n ugain mlynedd ers pan gyhoeddodd awdur The God of Small Things nofel, er bod Arundhati Roy wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ffeithiol ers hynny. 

Yn eang ei chwmpas, ond yn ddynol o ran ei phryderon, mae’r stori hon yn disgleirio gyda’r agwedd naratif a’r cymeriadau bythgofiadwy.




'What We Lose' gan Zinzi Clemmons - "I was born as apartheid was dying." Dyma sut mae’r nofel hon yn dechrau, yn adrodd hanes Thandi, a fagwyd ym Mhennsylvania ond sy’n meddwl fwyfwy am  ei "other home country" – De Affrica. Mae’n ailddarganfod gwlad ei mam, ac mae’n gweithredu fel rhyw fath o angor iddi, hyd yn oed pan mae ei mam yn marw ac mae’n deall y bydd yn fuan yn fam ei hun. (Gorffennaf 11).

'The Half-Drowned King' gan Linnea Hartsuyker - Bydd Game of Thrones yn ôl ar ein sgrin erbyn i’r saga Lychlynnaidd hon ddod allan, a bydd yn apelio’n fawr i’r sawl ohonom sy’n mwynhau tipyn o antur Westeros. Mae Ragnvald Eysteinsson yn cael ei fradychu gan ei lys-dad ariangar, ac wrth geisio ennill yn ôl ei etifeddiaeth, mae’n addo ei gleddyf i ryfelwr ifanc sy’n cynllwynio i fod yn frenin. Os ydych chi’n hoffi eich arwyr yn nobl a’ch brwydrau am bŵer yn rhai gwaedlyd, dyma un i chi. (Awst 1).




Friday 16 June 2017

Local History Resources at Torfaen Libraries



For this week’s blog post Julian Merriman, Information Librarian at Cwmbran Library, tells us more about the extensive collections of local history books and maps available at Torfaen Libraries, both for reference and for lending.

You can find out how iron and coal changed the ‘Valley of the Crow’ from countryside into major industries that once exported on a global scale. Evidence of these old industries can be found all over Torfaen if you know where to look. Torfaen’s most famous historical landmark of course is ‘Big Pit’ and the old Ironworks World heritage Site in Blaenavon. This is the setting for Alexander Cordell’s brilliant series of fictional books based on historical fact that portray the turbulent history of early industrial Wales. Soap saga at its most gritty.

Pontypool is probably most famous for its ‘Japan Wares’, but there were many big industries in the area included the huge Panteg Steelworks and railway yards. The canal and the railways were the main arteries for these industries which today have become popular leisure routes, now tranquil but once the motorways of their time. The area has changed a lot, and yet the heart of Pontypool appears to remain untouched. Look at the old photographs and it’s just the dress and vehicles that have changed.  


Cwmbran as a ‘New Town’ didn’t exist until around the 1950’s. Before then it was a collection of separate and distinct villages including Pontnewydd, Old Cwmbran and Henllys. You can find out all about the growth and development of the area, including the location of the ‘poisonous pit’.




The Local History collections contain everything about the history of the valley, from ancient times and the origins of the first inhabitants, through the growth and demise of coal and steel to the rebuilding and development that continues today. Housing estates have been, and continue to be built across the borough, though mostly in the south. To find out what was there before your house was built, explore our collections of local history books and maps and get to understand your area in a better way.





Ar gyfer blog yr wythnos hon, mae Julian Merriman, Llyfrgellydd Gwybodaeth yn Llyfrgell Cwmbrân, yn dweud mwy am y casgliadau helaeth o lyfrau hanes lleol a mapiau sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Torfaen, a hynny at ddiben cyfeirio a benthyca.

Gallwch ddysgu sut y gwnaeth haearn a glo newid 'Cwm y fran' o gefn gwlad i ddiwydiannau mawr a fu unwaith yn allforio ar raddfa fyd-eang. Mae tystiolaeth o'r hen ddiwydiannau hyn i'w gweld ar hyd a lled Torfaen os ydych yn gwybod ble i edrych. Tirnod hanesyddol enwocaf Torfaen wrth gwrs yw 'Pwll Mawr' a hen Waith Haearn Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon. Dyma leoliad y gyfres wych o lyfrau ffuglen gan Alexander Cordell, yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol sy'n portreadu hanes cythryblus Cymru gynnar, ddiwydiannol. Saga sebon ar ei ddewraf.


Yn ôl pob tebyg mae Pont-y-pŵl fwyaf enwog am ei 'Gwaith Japanio', ond roedd llawer o ddiwydiannau mawr yn yr ardal yn cynnwys Gwaith Dur enfawr Panteg a'r iardiau rheilffordd. Y gamlas a'r rheilffyrdd oedd y prif wythiennau ar gyfer y diwydiannau hyn sydd heddiw wedi dod yn llwybrau hamdden poblogaidd, yn dawel iawn erbyn hyn, ond ar un adeg yn draffyrdd y cyfnod. Mae'r ardal wedi newid llawer, ac eto mae'n ymddangos nad yw calon Pont-y-pŵl wedi ei chyffwrdd. Edrychwch ar y hen ffotograffau ac fe welwch mai’r gwisgoedd a'r cerbydau’n unig sydd wedi newid.


Nid oedd Cwmbrân fel 'Tref Newydd' yn bodoli tan tua'r 1950au. Cyn hynny roedd yn gasgliad o wahanol bentrefi ar wahân, yn cynnwys Pontnewydd, Hen Gwmbrân a Henllys. Gallwch ddysgu mwy am dwf a datblygiad yr ardal, gan gynnwys lleoliad y 'pwll gwenwynig'.

Mae'r casgliadau Hanes Lleol yn cynnwys popeth am hanes y cwm, o'r hen fyd a tharddiad y trigolion cyntaf, i dwf a dirywiad glo a dur a'r ailadeiladu a datblygu sy'n parhau hyd heddiw. Mae ystadau tai wedi cael eu hadeiladu, ac yn parhau i gael eu hadeiladu ar draws y fwrdeistref, er, yn bennaf yn y de. I gael gwybod beth oedd yno cyn y cafodd eich tŷ ei adeiladu, beth am bori drwy ein casgliadau o lyfrau hanes a mapiau lleol, a dod i ddeall eich ardal yn well.



Friday 9 June 2017

Baileys Women's Prize for Fiction 2017


The Baileys Women’s Prize for Fiction is the UK’s most prestigious annual book award for fiction written by a woman. Founded in 1996, the Prize was set up to celebrate excellence, originality and accessibility in writing by women throughout the world. 

This year’s winner (announced last Wednesday) was Naomi Alderman. Let's have a look at the full shortlist, available to borrow from your local Torfaen library. 

Stay With Me by Ayọ̀bámi Adébáyọ̀̀  - The desperate need to bear a child drives this electric tale of grief and jealousy set in the south-western Nigerian state of Osun.

Society demands children of Yejide, but two years of her marriage with Akin have resulted in only failure.  Alternating perspectives flesh out the overt patriarchy of this Yoruba community, asking of what must be sacrificed in order to retain tradition and the need of a continued bloodline.  

The Power by Naomi Alderman - Overnight, the balance of power – both metaphorically and literally – shifts to teenage women across the world, who suddenly gain the ability to kill by mere touch. From this almost John Wyndham-esque premise, Naomi Alderman spins a dazzlingly audacious story that draws together three women with entirely exclusive experiences – criminal, religious and political - plus a young male driven to document the entire revolution. 

The Dark Circle by Linda Grant - This hugely regarded author returns with a novel which brilliantly deploys the setting of a 1950s NHS sanatorium to explore the rich social complexity of post-war Britain. Lenny and Miriam Lynskey find themselves as inmates in this strange, closed world, both gripped by slowly-consuming tuberculosis: life, however, still fights its way to the surface. 



The Sport of Kings by C.E. Morgan - A tale of wealth and poverty, racism and rage, The Sport of Kings is an unflinching portrait of lives cast in shadow by the enduring legacy of slavery.

The Forges, a powerful Kentuckian dynasty, are defined by their need to triumph.  The arrival of a young black groom, Allmon Shaughnessy, is the catalyst to the buried violence of the past and the boiling passions and greed of the present.   


First Love by Gwendoline Riley is the retrospective exhumation of a life and a marriage, where Neve, a wife in her mid-30s, teases apart the strands of incident that have led her to the uneasy, compromised calm of the now. Edwyn, her rather older husband, swings from one mood to the next whilst Neve constantly probes away at the decisions she has made and the bland myths of freedom. 



Do Not Say We Have Nothing by Madeleine Thien is an epic in both ambition and execution, tracking the interwoven lives of three Chinese musical prodigies from the foundation of the People’s Republic in 1949 through to the present day.

Throughout, their profound love for music both inspires and haunts the trio as they endure vast and sometimes savage shifts in China’s social and political landscape. 





Gwobr Baileys am Ffuglen gan Fenywod yw’r wobr flynyddol fwyaf ei bri yn y DU am ffuglen gan fenyw. Sefydlwyd y Wobr yn 1996 er mwyn dathlu rhagoriaeth, gwreiddioldeb a hygyrchedd mewn ysgrifennu gan fenywod ar draws y byd.

Enillydd eleni (a gyhoeddwyd dydd Mercher diwethaf) oedd Naomi Alderman. Gadewch i ni edrych ar y rhestr fer lawn sydd ar gael i fenthyg gan eich llyfrgell leol yn Nhorfaen.

Stay With Me gan Ayọ̀bámi Adébáyọ̀̀  - Mae’r angen angerddol i gael plentyn yn gyrru’n stori yma o alar a chenfigen yn nhalaith de-orllewinol Nigeria, Osun.

Mae cymdeithas mynnu plant gan Yejide, ond dim ond methiant a gafwyd ar ôl dwy flynedd o briodas i Akin.  Mae persbectifau amgen yn chwyddo’r batriarchaeth amlwg yn y gymuned Yoruba hon, gan ofyn beth sy’n rhaid ei aberthu er mwyn cadw traddodiad a’r angen am barhad teuluol. 

The Power gan Naomi Alderman - Dros nos, mae cydbwysedd grym - yn ffigurol ac yn llythrennol - yn symud o blaid menywod yn eu harddegau ar draws y byd, ac yn sydyn maen nhw’n cael y gallu i ladd trwy gyffwrdd yn unig. Gan ddechrau o’r cynsail John Wyndham-aidd yma, mae Naomi Alderman yn gweu stori feiddgar sy’n tynnu tair menyw â phrofiadau cwbl dethol - troseddol, crefyddol a gwleidyddol -yn ogystal â dyn ifanc sy’n cael ei yrru i gofnodi’r holl chwyldro.



The Dark Circle gan Linda Grant – Mae’r awdur mawr ei bri yma yn dychwelyd gyda nofel sy’n defnyddio sanatoriwm yn y 1950au i chwilota cymhlethdodau cymdeithasol cyfoethog Prydain ar ôl y rhyfel. Mae Lenny a Miriam Lynskey yn gleifion yn y byd rhyfedd, caeedig hwn, y ddau’n gaeth i’r dicáu sy’n eu lladd yn araf; mae bywyd, serch hynny’n dal i ymladd at yr wyneb. 




The Sport of Kings gan C.E. Morgan - Stori am gyfoeth a thlodi, hiliaeth a dicter, mae The Sport of Kings yn bortread diwyro o fywydau dan gysgod caethwasiaeth. 

Caiff y teulu Forge, llinach rymus o Kentucky, eu diffinio gan yr angen i lwyddo. Mae dyfodiad gwas stabl du, ifanc, yn gatalydd i drais claddedig y gorffennol ac angerdd a thrachwant y presennol.  



Mae First Love gan Gwendoline Riley yn ddatgladdiad ôl-syllol o fywyd a phriodas, ble mae Neve, gwraig yng nghanol ei 30au, yn tynnu darnau o ddigwyddiad the wedi ei harwain at gyfaddawd llonydd anesmwyth y presennol. Mae Edwyn, ei gŵr hŷn, yn oriog wrth i Neve dadansoddi’r penderfyniadau y mae hi wedi gwneud a mythau digyffro rhyddid. 

Mae Do Not Say We Have Nothing gan Madeleine Thien yn epig o ran uchelgais ac arddull, gan ddilyn bywyd tri o gerddorion rhyfeddol Tsieineaidd o gychwyn y Weriniaeth Boblogaidd yn 1949 hyd at y presennol.

Trwy gydol hyn oll, mae eu cariad at gerddoriaeth yn ysbrydoli ac yn aflonyddu ar y tri wrth iddyn nhw oddef newidiadau enfawr a gwyllt yng nghymdeithas a gwleidyddiaeth Tsieina.


Friday 2 June 2017

National Bookstart Week 2017


National Bookstart Week is BookTrust's annual event celebrating the joys and benefits of sharing books, stories and rhymes with children from an early age. Reading together every day (even for just 10 minutes) can be lots of fun and can significantly help with a child's development. 

National Bookstart Week 2017 will take place from 5 - 11 June and you can join in the fun with your little one(s) across the libraries in Torfaen:

Monday 5 June, 2.00-2.45pm – U5’s Story time and craft at Cwmbran Library
Wednesday 7 June, 2.15-2.45pm – Rhyme time at Pontypool Library
Thursday 8 June, 2.15-2.45pm – Rhyme time at Blaenavon Library
Friday 9 June, 10.00am – Rhyme time at Cwmbran Library



This year's theme is ‘Let’s Explore Outdoors!’. It’s a great opportunity to enjoy our gardens, parks, or coasts whilst we encourage families to share books, stories and rhymes regularly with their children. 

We’ve already fallen in love with this year's chosen book. ‘Everybunny Dance!’ is written and illustrated by Emilie Sandall and was adapted into Welsh by Anni Llyn. Families can pick up a mini book (and make their own bunny ears!) when they attend a library session.  They can also read along at home with an interactive version of ‘Everybunny Dance!’ available online now.


We hope you can join us at Torfaen libraries next week as we say….

Ready bunny, steady bunny….EVERYBUNNY DANCE!

         



Wythnos Genedlaethol Dechrau Da yw digwyddiad blynyddol Booktrust sy'n dathlu pleser a manteision rhannu llyfrau, storïau a rhigymau gyda phlant,  a hynny o oedran cynnar. Gall darllen gyda'ch gilydd bob dydd (hyd yn oed am 10 munud yn unig) fod yn llawer o hwyl a gall helpu'n sylweddol gyda datblygiad plentyn.

Bydd Wythnos Genedlaethol Dechrau Da 2017 yn digwydd rhwng y 5ed  a’r 11eg o Fehefin a gallwch ymuno yn yr hwyl gyda’ch un/ rhai bach ar draws y llyfrgelloedd yn Nhorfaen:

Dydd Llun 5 Mehefin, 2.00-2.45pm – Amser stori a chrefft i blant dan 5 yn Llyfrgell Cwmbrân
Dydd Mercher 7 Mehefin, 2.15-2.45pm - Amser rhigwm yn Llyfrgell Pont-y-pŵl
Dydd Iau 8 Mehefin, 2.15-2.45pm – Amser rhigwm yn Llyfrgell Blaenafon
Dydd Gwener 9 Mehefin, 10.00am – Amser rhigwm yn Llyfrgell Cwmbrân




Y thema eleni yw 'Dewch i Archwilio'r Awyr Agored!'. Mae'n gyfle gwych i fwynhau ein gerddi, parciau, neu arfordiroedd tra er ein bod yn annog teuluoedd i rannu llyfrau, storïau a rhigymau yn rheolaidd gyda'u plant.

Rydym eisoes wedi syrthio mewn cariad â'r llyfr a ddewiswyd eleni. Cafodd 'Pob Un Bwni'n Dawnsio!' ei ysgrifennu a'i ddarlunio gan Emilie Sandall a chafodd ei addasu i'r Gymraeg gan Anni Llŷn. Gall teuluoedd godi llyfr bach (a gwneud eu clustiau cwningen eu hunain!) pan fyddant yn mynychu sesiwn yn y llyfrgell. Gallant hefyd ddarllen ar y cyd yn y cartref gyda fersiwn rhyngweithiol o 'Pob Un Bwni'n Dawnsio!' sydd ar gael ar-lein nawr.


Mawr obeithiwn y gallwch ymuno â ni yn llyfrgelloedd Torfaen yr wythnos nesaf wrth i ni ddweud….

Barod bwni, amdani bwni…POB UN BWNI’N DAWNSIO!