Friday 29 September 2017

Man Booker Prize 2017

If you’re looking to tackle some literary heavy weights why not give the Man Booker shortlist a try. With 2 young female debut authors (Fiona Mozley and Emily Fridland) and 3 Americans (Paul Auster, George Saunders and Emily Fridland) this is a novel (pun intended) list. Of course experience is featured as well with Ali Smith clocking up her fourth nomination.

Paul Auster – 4321
On March 3, 1947, in the maternity ward of Beth Israel Hospital in Newark, New Jersey, Archibald Isaac Ferguson, the one and only child of Rose and Stanley Ferguson, is born. From that single beginning, Ferguson's life will take four simultaneous and independent fictional paths. Four Fergusons made of the same genetic material, four boys who are the same boy, will go on to lead four parallel and entirely different lives.

Emily Fridland – History of Wolves
Linda is an outsider in all things. Her understanding of the world comes from her observations at school, where her teacher is accused of possessing child pornography, and from watching the seemingly ordinary life of a family she babysits for. Yet while the accusation against the teacher is perhaps more innocent than it seemed at first, the ordinary family turns out to be more complicated. As Linda insinuates her way into the family's orbit, she realises they are hiding something. If she tells the truth, she will lose the normal family life she is beginning to enjoy with them; and if she doesn't, a life is at stake.

Moshin Hamid – Exit West
In a city swollen by refugees but still mostly at peace, or at least not yet openly at war, Saeed and Nadia share a cup of coffee, and their story begins. It will be a love story but also a story about war and a world in crisis, about how we live now and how we might live tomorrow.

Fiona Mozley – Elmet
Daniel is heading north. He is looking for someone. The simplicity of his early life with Daddy and Cathy has turned sour and fearful. Sometimes Daddy disappeared and would return with a rage in his eyes. But when he was at home he was at peace. He told them that the little copse in Elmet was theirs alone. But that wasn't true. Local men, greedy and watchful, began to circle like vultures. All the while, the terrible violence in Daddy grew.

George Saunders – Lincoln in the Bardo
President Lincoln's beloved eleven-year-old son lies gravely ill. In a matter of days, Willie dies and is laid to rest in a Georgetown cemetery. Newspapers report that a grief-stricken Lincoln returns to the crypt several times alone to hold his boy's body. From this seed of historical truth, George Saunders spins an unforgettable story of familial love and loss that breaks free of realism, entering a thrilling, supernatural domain both hilarious and terrifying.
 
Ali Smith – Autumn
Fusing Keatsian mists and mellow fruitfulness with the vitality, the immediacy and the colour-hit of Pop Art - via a bit of very contemporary skulduggery - 'Autumn' is a witty excavation of the present by the past and a stripped-branches take on popular culture.

The winner will be announced Tuesday 17 October 2017.

George Saunders is the Bookies’ favourite to take the prize. Who’s yours?







Gwobr Man Booker 2017

Os ydych chi am daclo rhai o fawrion llenyddiaeth pam na rowch chi dro ar  restr fer Man Booker. Gyda 2 awdures newydd ifanc (Fiona Mozley ac Emily Fridland) a 3 Americanwr (Paul Auster, George Saunders ac Emily Fridland) dyma restr sy’n troi dalen newydd (mwyseiriau bwriadol). Wrth gwrs mae yma brofiad hefyd, yn ogystal ag Ali Smith gyda’i phedwerydd enwebiad.

Paul Auster – 4321
Ar Fawrth, 1947, yn ward mamolaeth Ysbyty Beth Israel yn Newark, New Jersey, genir Archibald Isaac Ferguson, unig blentyn Rose a Stanley Ferguson. O’r dechrau hwnnw, bydd bywyd yn mynd ar hyd pedair taith gydamserol ac annibynnol ffuglennol. Bydd pedwar Ferguson o’r un cnawd, pedwar bachgen sydd yn un bachgen, yn mynd ymlaen i fyw pedwar bywyd cyfochrog a chwbl wahanol.

Emily Fridland – History of Wolves
Mae Linda ar y tu allan i bopeth. Daw ei ddealltwriaeth o’r byd o’u harsylwadau yn yr ysgol, ble mae ei hathro’n cael ei gyhuddo o fod â phornograffi o blant yn ei feddiant, ac o wylio bywyd ymddangosiadol cyffredin y teulu y mae’n gwarchod eu plant. Ond, tra bod y cyhuddiad yn erbyn yr athro o bosibl nag yr oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf, mae’r teulu cyffredin yn troi allan i fod yn fwy cymhleth.  Wrth i sleifio i gwmni’r teulu, mae’n sylweddoli ei bod yn cuddio rhywbeth.  Os yw hi’n dweud y gwir, bydd hi’n colli’r bywyd teuluol normal y mae hi’n dechrau mwynhau gyda nhw; ac os na fydd hi’n dweud rhywbeth, mae yna fywyd yn y fantol.

Moshin Hamid – Exit West
Mewn dinas yn llawn ffoaduriaid  ond yn heddychlon ar y cyfan, neu o leiaf heb fynd i ryfel eto, mae Saeed a Nadia’n rhannu paned o goffi, ac mae eu stori’n dechrau.  Bydd yn stori serch ond hefyd yn stori am ryfel a byd mewn argyfwng, am sut yr ydym yn byw nawr a sut gallwn fyw yfory.

Fiona Mozley – Elmet
Mae Daniel tyn teithio tua’r gogledd.  Mae e’n chwilio am rywun. Mae symlrwydd ei fywyd cynnar gyda Dad a Cathy wedi troi’n sur ac yn frawychus. Weithiau roedd Dad yn diflannu ac y dod yn ôl gyda dicter yn ei lygaid. Ond pan oedd gartref roedd yn llonydd. Dywedodd fod y perthlys bach yn Elmet yn perthyn iddyn nhw.  Ond doedd hynny ddim yw wir.  Dechreuodd dynion lleol, barus edrych o gwmpas fel adar corff. Trwy’r adeg, tyfodd y trais oddi mewn i Dad.

George Saunders – Lincoln in the Bardo
Mae mab annwyl, unarddeg mlwydd oed yr Arlywydd Lincoln yn ddifrifol wael. Ymhen dyddiau, mae Willie’n marw ac yn cael ei gladdu mewn mynwent yn Georgetown. Dywedodd papurau newydd bod Lincoln, yn ei alar, yn dychwelyd i’r bedd nifer o weithiau ar ei ben ei hun i ddal corff ei fab. O’r hedyn yma, mae  George Saunders yn gweu stori fythgofiadwy am gariad teuluol a cholled sy’n torri’n rhydd o realaeth ac ym mynd i dir cyffrous, goruwchnaturiol sy’n ddoniol ac yn ddychrynllyd.

Ali Smith – Autumn
Wrth gyfuno niwloedd a ffrwythlondeb aeddfed Keatsaidd gyda bywiogrwydd, uniongyrchedd a lliw Celf Bop – trwy ychydig o anfadwaith cyfoes – mae 'Autumn' yw yn duriad cyfoes o’r presennol gan y gorffennol ac yn wedd noeth ar ddiwylliant poblogaidd.
Cyhoeddir yr enillydd ar ddydd Mawrth 17 Hydref 2017.

George Saunders yw ffefryn y bwci i ennill. Pwy yw eich dewis chi?

Friday 22 September 2017

Access to Research


Discover a world of published academic research at your local library!

Access to Research gives free, walk-in access to over 15 million academic articles across our libraries in Torfaen. 

Students and independent researchers can now access many of the world’s best academic papers from leading publishers who have made their journal content available for free. You can even start by viewing which articles and journals are available from home, then visit a Torfaen library where you can view the full text on one of our public computers.


Subjects currently include art, architecture, business, engineering, history, languages, politics, philosophy, mathematics and the sciences.  There are currently more than 11,000 journals included in the service and more content will become freely available as more publishers continue to join the initiative.

Access to Research is just one of a growing number of online resources now available for free to all members who visit our libraries. These include:


Find My Past / Ancestry (Library Edition) - Discover your family history and build a family tree with two of the world’s premier family history websites. Search birth records, census data, obituaries and more. You can also find out what your ancestors were doing on the eve of WW2 by searching the 1939 Register, available only on Find my Past.


Which? Online - Buying guides and reviews from the popular consumer magazine online. Just ask a member of staff to log you in.


Theory Test Pro - Theory Test Pro is a highly realistic online simulation of the UK's driving theory tests for all vehicle categories. It contains all the official test questions licensed from the DSA, the people who set the tests.

Why not pop in soon and try one out for yourself?


Medrwch ddarganfod byd o waith ymchwil academaidd wedi’i gyhoeddi yn eich llyfrgell leol!

Mae Mynediad at Waith Ymchwil yn rhoi mynediad am ddim, o gerdded i mewn, i fwy na 15 miliwn o erthyglau academaidd yn ein llyfrgelloedd yn Nhorfaen. 

Gall myfyrwyr ac ymchwilwyr annibynnol nawr weld papurau academaidd gorau’r byd gan gyhoeddwyr arweiniol sydd wedi rhoi eu cynnwys ar gael am ddim. Medrwch hyd yn oed weld pa erthyglau a chylchgronau sydd ar gael o’ch cartref, yna mynd i lyfrgell yn Nhorfaen lle medrwch weld y testun cyfan ar ein cyfrifiaduron cyhoeddus.


Ar hyn o bryd, mae’r pynciau yn cynnwys celfyddyd, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a’r gwyddorau. Mae mwy na 11,000 cylchgrawn ar gael ar hyn o bryd yn y gwasanaeth a bydd mwy o gynnwys yn dod ar gael am ddim wrth i fwy o gyhoeddwyr ymuno â’r fenter.

Dim ond un o’r adnoddau ar-lein cynyddol yw Mynediad at Waith Ymchwil sydd bellach ar gael yn rhad ac am ddim i bob un o’n haelodau sy’n ymweld â’n llyfrgelloedd. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

Find My Past / Ancestry (Rhifyn Llyfrgell) – Canfod hanes eich teulu a hel achau gyda dau o brif wefannau hanes teuluol y byd. Chwiliwch am gofnodion geni, data cyfrifiad, ysgrifau coffa a mwy. Medrwch hefyd ddarganfod beth oedd eich hynafiaid yn ei wneud yn union cyn i’r Ail Ryfel Bydd ddechrau trwy chwilio Cofrestr 1939, sydd ond ar gael ar Find my Past.


Which? Online - Canllawiau prynu ac adolygiadau o’r cylchgrawn defnyddwyr poblogaidd ar-lein. Gofynnwch i aelod staff eich mewngofnodi.

Theory Test Pro – Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig iawn o brofion theori gyrru’r DU ar gyfer pob categori o gerbyd. Mae’n cynnwys yr holl gwestiynau swyddogol wedi eu trwyddedu gan y DSA, y bobl sy’n gosod y profion.

Pam na ddewch draw a rhoi cynnig ar un o’r rhain eich hun?

Friday 15 September 2017

Roald Dahl Day


Wednesday 13th September was Roald Dahl Day, a yearly event to celebrate the popular author’s month of birth. Dahl was a screenwriter and fighter pilot as well as a novelist, short story writer and poet. His books have sold more than 250 million copies worldwide.

Why not revisit a Dahl Classic this month (in English or Welsh) or try some authors whose books demonstrate that the Dahl magic is alive and well.

If you’re feeling creative, why not visit the official Roald Dahl website and try out one of eleven ways to celebrate Roald Dahl day!


Esio Trot – Mr Hoppy really loves his neighbour Mrs Silver, and Mrs Silver really loves her tortoise, Alfie. One day Mrs Silver asks Mr Hoppy how to make Alfie grow, and suddenly Mr Hoppy knows the way to win her heart. With the help of a magical spell and some cabbage leaves, can Mr Hoppy be happy at last?





Matilda - Matilda's parents have called her some terrible things, but the truth is she's a genius and they're the stupid ones. Underestimating Matilda proves to be a big mistake as they, along with her spiteful headmistress, Miss Trunchbull, soon find out when Matilda discovers she has a very special power.





Billy and the Minpins (re-released this month with illustrations by Quentin Blake) - Billy's mum says he must never go out through the garden gate and explore the dark forest beyond. So, one day, that's exactly what he does! There he meets the Minpins, tiny tree-dwelling people whose children are the size of matchsticks. They live in fear of the terrible, galloping GRUNCHER. Will it gobble Billy too - or can he find a way to defeat the hungry beast?



Grandpa’s Great Escape (by David Walliams) - Jack’s Grandpa wears his slippers to the supermarket, serves up Spam à la Custard for dinner and often doesn’t remember Jack’s name.  But he can still take to the skies in a speeding Spitfire and save the day!  This book takes readers on an incredible journey over London and great escapes through the city in a high octane adventure full of comedy and heart.




AniMalcolm (by David Baddiel) - From David Baddiel, the brightest new star of children’s books and winner of the LOLLIES award, comes a laugh-out-loud adventure for every child who ever wondered what it might be like to be a bit of an animal.  It might make you think differently. And speak differently. And eat differently. And, smell differently! But will you end up the same as before?  Because sometimes the hardest thing to become is… yourself.



Diwrnod Roald Dahl oedd dydd Mercher 13eg Medi, digwyddiad blynyddol i ddathlu mis geni’r awdur poblogaidd. Roed Dahl yn sgriptiwr ffilmiau ac yn beilot-ymladdwr yn ogystal â bod yn nofelydd, awdur straeon byrion a bardd.  Mae ei lyfrau wedi gwerthu dros 250 miliwn o gopïau ar draws y byd.

Pam nad edrychwch chi eto’r mis yma ar un o glasuron Dahl (yn Saesneg neu’n Gymraeg) neu rhowch dro ar rai o’r awduron y mae eu llyfrau yn dangos bod lledrith Dahl yn fyw ac yn iach?

Os ydych chi’n teimlo’n greadigol, pam na ewch chi i wefan swyddogol Roald Dahl i weld yr un ar ddeg o ffyrdd i ddathlu diwrnod Roald Dahl!


Nab Wrc – Mae Mr Hoppy’n caru ei gymydog Mrs Silver, ac mae Mrs Silver yn caru ei chrwban, Alfie. Un diwrnod mae Mrs Silver yn gofyn i Mr Hoppy sut i wneud i Alfie dyfu, ac yn sydyn mae Mr Hoppy gwybod y ffordd at ei chalon. Gyda thipyn o hyd a lledrith a dail bresych, a all Mr Hoppy fod yn hapus o’r diwedd?





Matilda - Mae rhieni Matilda wedi galw rhai pethau ofnadwy arni hi, ond y gwir yw, hi yw’r athrylith a nhw yw’r rhai twp.  Mae meddwl yn rhy fach am Matilda’n gamgymeriad mawr, fel y maen nhw, a’i phrifathrawes filain, Miss Trunchbull, y dod i ddeall pan fo Matilda’n dysgu bod ganddi rym arbennig iawn.





Billy and the Minpins (ail-gyhoeddwyd y mis yma gyda lluniau gan Quentin Blake) - Mae mam Billy’n dweud wrtho nad yw e byth i fynd allan trwy glwyd yr ardd ac i’r goedwig dywyll y tu hwnt. Felly, un diwrnod, dyna’n union y mae’n gwneud! Yno, mae’n cwrdd â’r Minpins, pobl bach sy’n byw yn y coed y mae eu plant yr un faint â matsis. Maen nhw’n byw mewn ofn y GRUNCHER ofnadwy. A fydd y Gruncher yn bwyta Billy hefyd – neu a oes modd iddo gael hyd i ffordd i faeddu’r bwystfil barus?


Grandpa’s Great Escape (gan David Walliams) – Mae tad-cu Jack yn gwisgo’i slipers i’r siop, yn rhoi Spam â Chwstard i ginio ac yn aml dyw e ddim yn cofio enw Jack.  Ond mae’n dal i allu hedfan mewn Spitfire ac achub y dydd!  Mae’r llyfr hyn yn mynd â darllenwyr ar daith anhygoel dros Lundain a diangfeydd gwych trwy’r ddinas mewn antur llawn comedi a chalon.




AniMalcolm (gan David Baddiel) - Gan David Baddiel, seren newydd llyfrau i blant ac enillydd gwobr LOLLIES, daw antur ddoniol i bob plentyn sydd wedi meddwl sut beth fyddai bod yn rhyw fath o anifail.  Efallai y byddech chi’n meddwl yn wahanol. Yn siarad yn wahanol. Yn bwyta’n wahanol. Ac, arogli’n wahanol! Ond a fyddwch chi’n diweddu’r un ffordd ac o’r blaen?  Oherwydd, ambell waith, y peth caletaf yw bod yn......chi’ch hun.

Friday 8 September 2017


Books coming to the silver screen


There’s always a surge in demand for a book after it is made into a blockbuster movie, but if you're anything like us, you probably prefer to read the book before seeing the film!
So here’s a heads up on some of the major film adaptations coming up over the next few months. All of the novels are available from your local library so you can judge for yourself whether the screenplay is true to the original.


IT   
Following the recent release of ‘The Dark Tower’, here’s another Stephen King adaptation, and it’s a scary one. In the storm drains and sewers IT lurks, taking on the shape of every nightmare, every deepest dread…. Bill Skarsgård stars as Pennywise the Dancing Clown.
(Release date 8 September)



The Snowman
The first snowfall in Oslo brings a series of gruesome murders, and Harry Hole is pitted against a brutal killer who will drive him to the edge….  Michael Fassbinder stars as detective Harry Hole in this thriller based on Jo Nesbo’s Nordic Noir bestseller.
 (Release date 13 October)

The Mountain Between Us
A romantic thriller, adapted from a novel by New York Times bestselling American author Charles Martin due for publication in the UK later this month. A plane crashes in the harsh and remote lands of the High Uintas Wilderness in the United States. Ben, who has broken ribs, and Ashley, who suffers a terrible leg fracture, are faced with a battle to survive….  Idris Elba and Kate Winslet take the starring roles.
(Release date 20 October)

Murder on the Orient Express
It’s been done before, of course, but this time it’s Kenneth Branagh who both directs and takes on the role of Hercule Poirot in Agatha Christie’s detective drama. The problem is that surely there can be very few people who don’t know whodunnit! The director promises a few surprises and says his adaptation is ‘scarier than people might imagine’. The stellar cast includes Johnny Depp, Penelope Cruz, Judi Dench, Derek Jacobi, Daisy Ridley, Michelle Pfeiffer and Willem Dafoe.
(Release date 3 November)


Wonder
Shortlisted for the Carnegie medal, and winner of the Waterstones Children’s Book Prize, this movie adaptation is sure to bring R.J. Palacio’s heart-warming novel to an even wider audience. Born with facial differences, Auggie has been home-schooled by his parents his whole life to shield him from the stares and cruelty of the outside world. Now, for the first time, he's being sent to a real school. Julia Roberts and Owen Wilson star as Auggie’s parents. Jacob Tremblay, who you may have seen in the film adaption of Emma Donoghue’s Room, plays Auggie.
(Release date 1 December)






Llyfrau sy’n dod i’r Sgrin Fawr


Mae yna bob amser cynnydd yn y galw am lyfr ar ôl iddo gael ei droi’n ffilm, ond os ydych chi fel ni, mae’n siŵr bod yn well gyda chi ddarllen y llyfr cyn gweld y ffilm!
Felly dyma rhai o’r prif addasiadau ffilm sy’n dod dros y misoedd nesaf. Mae’r nofelau i gyd ar gael yn eich llyfrgell leol felly gallwch benderfynu drosoch chi’ch hun a yw’r ffilm yn adlewyrchu’r llyfr gwreiddiol.


IT   
Yn dilyn rhyddhau ‘The Dark Tower’, dyma addasiad arall o waith Stephen King, ac mae’n un i godi braw.  Yn y dreiniau a’r carthffosydd mae IT yn stelcian ac yn cymryd ffurf pob hunllef, pob arswyd…. Bill Skarsgård yw Pennywise y Clown sy’n dawnsio
(Dyddiad rhyddhau 8 Medi)



The Snowman
Gyda’r eira cyntaf yn Oslo daw cyfres o lofruddiaethau erchyll, ac mae Harry Hole yn wynebu llofrudd milain a fydd yn ei yrru at y dibyn….  Michael Fassbinder yw’r ditectif Harry Hole yn y ddrama gyffrous yma sy’n seiliedig ar lyfr tywyll Jo Nesbo.
 (Dyddiad rhyddhau 13 Hydref)

The Mountain Between Us
Stori ramantus, gyffrous sydd wedi ei addasu o nofel gan yr awdur Americanaidd Charles Martin ac a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y DU yn ddiweddarach y mis yma. Mae awyren yn cwympo i’r ddaear yn nhiroedd garw a diarffordd diffeithwch y High Uintas yn yr Unol Daleithiau. Mae Ben, sydd wedi torri ei asennau, ac Ashley, sydd wedi torri ei choes, yn wynebu brwydr i fyw….  Idris Elba a Kate Winslet sydd yn y prif rannau.
(Dyddiad rhyddhau 20 Hydref)

Murder on the Orient Express
Mae hon wedi bod yn ffilm o’r blaen, wrth gwrs, ond y tro yma Kenneth Branagh sy’n cyfarwyddo ac yn cymryd rhan Hercule Poirot yn nrama dditectif Agatha Christie. Y broblem yw mai ychydig iawn o bobl mae’n siŵr sydd ddim yn gwybod pwy wnaeth! Mae’r cyfarwyddwr yn addo ambell i syrpreis ac mae’n dweud bod yr addasiad yma yn ‘fwy brawychus nag y bydd pobl efallai’n dychmygu’. Mae’r cast yn cynnwys Johnny Depp, Penelope Cruz, Judi Dench, Derek Jacobi, Daisy Ridley, Michelle Pfeiffer a Willem Dafoe.
(Dyddiad rhyddhau 3 Tachwedd)



Wonder
Ar y rhestr fer ar gyfer medal Carnegie, ac enillydd Gwobr Llyfrau i Blant Waterstones, mae’r addasiad yma’n siŵr o ddod â nofel gynnes R.J. Palacio at gynulleidfa ehangach fyth. Cafodd Auggie ei eni gyda gwahaniaethau ar ei wyneb, a chafodd ei ddysgu yn ei gartref gan ei rieni trwy gydol ei fywyd er mwyn ei amddiffyn rhag creulondeb y byd y tu allan. Nawr, am y tro cyntaf, caiff ei ddanfon i ysgol go iawn. Julia Roberts ac Owen Wilson yw rhieni Auggie. Jacob Tremblay, a oedd yn yr addasiad o Room gan Emma Donoghue, sy’n cymryd rhan Auggie.
(Dyddiad rhyddhau 1 Rhagfyr)