Books coming to the silver screen
There’s always a
surge in demand for a book after it is made into a blockbuster movie, but if
you're anything like us, you probably prefer to read the book before seeing the film!
So here’s a heads up on some of the major film
adaptations coming up over the next few months. All of the novels are
available from your local library so
you can judge for yourself whether the screenplay is true to the original.
IT
Following the recent
release of ‘The Dark Tower’, here’s another Stephen King adaptation, and it’s a
scary one. In the storm drains and sewers IT lurks, taking on the
shape of every nightmare, every deepest dread…. Bill Skarsgård stars as Pennywise the
Dancing Clown.
(Release date 8 September)
The Snowman
The first snowfall
in Oslo brings a series of gruesome murders, and Harry Hole is pitted against a
brutal killer who will drive him to the edge…. Michael Fassbinder stars as detective Harry
Hole in this thriller based on Jo Nesbo’s Nordic Noir bestseller.
(Release date 13
October)
The Mountain Between Us
A romantic thriller,
adapted from a novel by New York Times bestselling American author Charles
Martin due for publication in the UK later this month. A plane crashes in the harsh
and remote lands of the High Uintas Wilderness in the United States. Ben, who
has broken ribs, and Ashley, who suffers a terrible leg fracture, are faced
with a battle to survive…. Idris Elba and
Kate Winslet take the starring roles.
(Release date 20 October)
Murder on the
Orient Express
It’s been done before, of course, but this time it’s Kenneth Branagh who both directs and takes on the
role of Hercule Poirot in Agatha Christie’s detective drama. The problem is
that surely there can be very few people who don’t know whodunnit! The director
promises a few surprises and says his adaptation is ‘scarier than people might
imagine’. The stellar cast includes Johnny Depp, Penelope Cruz, Judi Dench,
Derek Jacobi, Daisy Ridley, Michelle Pfeiffer and Willem Dafoe.
(Release date
3 November)
Wonder
Shortlisted for the
Carnegie medal, and winner of the Waterstones Children’s Book Prize, this movie
adaptation is sure to bring R.J. Palacio’s heart-warming novel to an even wider
audience. Born with facial differences, Auggie has been home-schooled by his
parents his whole life to shield him from the stares and cruelty of the
outside world. Now, for the
first time, he's being sent to a real school. Julia Roberts and Owen Wilson
star as Auggie’s parents. Jacob Tremblay, who you may have seen
in the film adaption of Emma Donoghue’s Room,
plays Auggie.
(Release date
1 December)
Llyfrau sy’n dod i’r Sgrin Fawr
Mae yna bob amser cynnydd yn y galw am lyfr ar ôl
iddo gael ei droi’n ffilm, ond os ydych chi fel ni, mae’n siŵr bod yn well gyda
chi ddarllen y llyfr cyn gweld y ffilm!
Felly dyma rhai o’r prif addasiadau ffilm sy’n dod dros y misoedd nesaf.
Mae’r nofelau i gyd ar gael yn eich llyfrgell leol felly gallwch benderfynu
drosoch chi’ch hun a yw’r ffilm yn adlewyrchu’r llyfr gwreiddiol.
IT
Yn dilyn rhyddhau ‘The Dark Tower’, dyma addasiad arall o waith Stephen
King, ac mae’n un i godi braw. Yn y
dreiniau a’r carthffosydd mae IT yn stelcian ac yn cymryd ffurf pob
hunllef, pob arswyd…. Bill Skarsgård yw Pennywise y Clown sy’n dawnsio
(Dyddiad
rhyddhau 8 Medi)
The Snowman
Gyda’r eira cyntaf yn Oslo daw cyfres o lofruddiaethau erchyll, ac mae
Harry Hole yn wynebu llofrudd milain a fydd yn ei yrru at y dibyn…. Michael Fassbinder yw’r ditectif Harry Hole yn
y ddrama gyffrous yma sy’n seiliedig ar lyfr tywyll Jo Nesbo.
(Dyddiad rhyddhau 13 Hydref)
The Mountain
Between Us
Stori ramantus, gyffrous sydd wedi ei addasu o nofel gan yr awdur
Americanaidd Charles Martin ac a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y DU yn
ddiweddarach y mis yma. Mae awyren yn cwympo i’r ddaear yn nhiroedd garw a
diarffordd diffeithwch y High Uintas yn yr Unol Daleithiau. Mae Ben, sydd wedi
torri ei asennau, ac Ashley, sydd wedi torri ei choes, yn wynebu brwydr i
fyw…. Idris Elba a Kate Winslet sydd yn y
prif rannau.
(Dyddiad
rhyddhau 20 Hydref)
Murder on the
Orient Express
Mae hon wedi bod yn ffilm o’r blaen, wrth gwrs, ond y tro yma Kenneth
Branagh sy’n cyfarwyddo ac yn cymryd rhan Hercule Poirot yn nrama dditectif
Agatha Christie. Y broblem yw mai ychydig iawn o bobl mae’n siŵr sydd ddim yn
gwybod pwy wnaeth! Mae’r cyfarwyddwr yn addo ambell i syrpreis ac mae’n dweud
bod yr addasiad yma yn ‘fwy brawychus nag y bydd pobl efallai’n dychmygu’. Mae’r
cast yn cynnwys Johnny Depp, Penelope Cruz, Judi Dench, Derek Jacobi, Daisy
Ridley, Michelle Pfeiffer a Willem Dafoe.
(Dyddiad
rhyddhau 3 Tachwedd)
Wonder
Ar y rhestr fer ar gyfer medal Carnegie, ac enillydd Gwobr Llyfrau i Blant
Waterstones, mae’r addasiad yma’n siŵr o ddod â nofel gynnes R.J. Palacio at
gynulleidfa ehangach fyth. Cafodd Auggie ei eni gyda gwahaniaethau ar ei wyneb,
a chafodd ei ddysgu yn ei gartref gan ei rieni trwy gydol ei fywyd er mwyn ei
amddiffyn rhag creulondeb y byd y tu allan. Nawr, am y tro cyntaf, caiff ei
ddanfon i ysgol go iawn. Julia Roberts ac Owen Wilson yw rhieni Auggie. Jacob
Tremblay, a oedd yn yr addasiad o Room gan Emma Donoghue, sy’n
cymryd rhan Auggie.
(Dyddiad
rhyddhau 1 Rhagfyr)
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.