Friday 23 December 2016

Cracking Christmas Reads


Looking for some great Christmas reads for young and old? Here are my top 10

1. The Night Before Christmas – 
Clement Clarke Moore
The ideal poem to share on Christmas Eve.

2. A Christmas Carol – Charles Dickens
A spooky Christmas classic that demonstrates the true meaning of Christmas.

3. Hogfather – Terry Pratchett
Pratchett’s Discworld take on Christmas. It’s the night before Hogswatch but where is the Hogfather and why is Death creeping down chimneys and trying to say Ho, Ho, Ho?

4. A Child’s Christmas in Wales – 
Dylan Thomas
Nostalgic, funny and beautiful.

5. How the Grinch Stole Christmas – 
Dr Seuss
‘A Christmas Carol’ for kids with the Grinch as Scrooge.

6. Nuddy Ned’s Christmas – Kes Gray
A fun, lift the flap, picture book for young children. What will happen as Nuddy Ned runs through the town starkers on Christmas Eve, and what will be revealed under those strategically positioned flaps?

7. The Adventure of the Christmas Pudding - Agatha Christie
An English country house at Christmas time should be the perfect place to get away from it all, but not for Hercule Poirot.

8. A Wayne in a Manger - Gervase Phinn
Gervase Phinn, during his career as a school inspector, sat through a lot of nativity plays. Here are his hilarious recollections including the Virgin Mary who told Joseph “I’m having a baby – oh, and it’s not yours”

9. A Wedding at Christmas – Chrissie Manby
Sounds idyllic, but this wedding promises mince pies and mayhem guaranteed

10. Christmas Days – Jeanette Winterson
Twelve Christmas stories, one for each of the Twelve days of Christmas.

Torfaen Libraries will close at 12 noon on 
Friday 23 December and reopen 
Tuesday 3 January 2017


Wishing you a very Merry Christmas 
Nadolig Llawen







and a Happy New Year
a Blwyddyn Newydd Dda!













Darllen Dros y Nadolig Yn edrych am rywbeth i’r hen a’r ifanc gael darllen dros y Nadolig?  Dyma fy 10 uchaf i

1. The Night Before Christmas – Clement Clarke Moore
Y gerdd ddelfrydol ar gyfer Noswyl Nadolig.

2. A Christmas Carol – Charles Dickens
Clasur arswyd Nadoligaidd sy’n dangos gwir ystyr y Nadolig.

3. Hogfather – Terry Pratchett
Gweledigaeth Pratchett o’r Nadolig.  Mae’n noson cyn Hogswatch ond ble mae Hogfather a pham fod Angau yn dringo i lawr y simnai ac yn ceisio dweud Ho, Ho, Ho?

4. A Child’s Christmas in Wales – Dylan Thomas
Hiraethus, doniol a hyfryd

5. How the Grinch Stole Christmas – Dr Seuss
‘A Christmas Carol’ i blant gyda’r Grinch fel Scrooge.

6. Nuddy Ned’s Christmas – Kes Gray
Llyfr lluniau i blant ifanc. Codwch y cloriau bac hi weld y lluniau.  Beth fydd yn digwydd wrth i Nuddy Ned rhedeg trwy’r dref yn borcyn ar noswyl Nadolig, a beth fydd o dan y cloriau bach yna?

7. The Adventure of the Christmas Pudding - Agatha Christie

Dylai plasty yng nghefn gwlad Lloegr fod yn ddihangfa adeg y Nadolig, ond nid i Hercule Poirot.

8. A Wayne in a Manger - Gervase Phinn 
Fel arolygydd ysgol, eisteddodd Gervase Phinn, trwy lawer o ddramâu’r geni yn ystod ei yrfa.  Dyma’i atgofion digrif gan gynnwys y Forwyn Fair a ddywedodd wrth Joseff, “Dw i’n cael babi – ac nid dy un di yw e”

9. A Wedding at Christmas – Chrissie Manby
Mae’n swnio’n ddelfrydol, ond mae’r briodas hon yn addo mins peis ac anrhefn

10. Christmas Days – Jeanette Winterson
Deuddeg stori Nadolig, un ar gyfer deuddeg diwrnod y Nadolig.


Bydd Llyfrgelloedd Torfaen yn cau am 12 hanner 
dydd ar ddydd Gwener 23 Rhagfyr ac yn ail-agor ar ddydd 
Mawrth 3 Ionawr 2017


Friday 16 December 2016

Desert Island Books 2


Our next desert island castaway is Mark Tanner, Senior Librarian Pontypool and Blaenavon Libraries. Here is his list of 6 books to while away the lonely hours.

Yasmina Khadra- The Attack

I only discovered this book this year, although it has sold over 600,000 copies worldwide since its original publication in French in 2005 and subsequent translation into English.

It’s set in Tel Aviv. Dr Amin Jaafie is an Israeli Palestinian surgeon - integrated into Israeli society, and respected and admired by his colleagues. But his  life is turned upside down after a suicide bombing in a restaurant leaves 19 dead, and the Israeli police inform him that his wife, who is among the victims, was responsible….

This is storytelling at its most humane and powerful best, and one day I intend to re-read it. In the meantime I will check out the author’s other novels.

Graphic novel fans might be interested to know that ‘The Attack’ has just been published in that format- confirming that not all comic books are about men who wear their underpants outside their trousers!

John Steinbeck- The Grapes of Wrath

This classic once banned book regularly appears in best books lists and needs little introduction.  An angry and passionate chronicle of the Great Depression and the human experience of migrant farmers, it demonstrates the potential of fiction to raise social awareness and consciousness. I read it many years ago as an A level text, and I still regard it as a book everyone should read. Poverty, desperation, injustice and hostility towards migrants remain relevant today, and this is definitely a book that deserves revisiting.

Khaled Hosseini-A Thousand Splendid Suns

This is a powerful and compelling read. Set in Afghanistan during a tumultuous period of history that encompasses the Soviet occupation and the rise of the Taliban, this is the story of illegitimate Mariam, sent away by her wealthy father at the age of 15 to marry a tyrannical middle aged stranger.

Hosseini is an incredibly gifted storyteller.  The story he tells is emotive and frequently shocking, but ultimately moving and uplifting. This is another book that stays with you long after the final page is turned!

Sebastian Faulks – Birdsong

I am always moved by novels that depict the reality of life and death on the Western Front. Fiction can be a more powerful medium in creating any kind of understanding of the horrors of war than a history book, and Birdsong will stay with you a long time.

In part this is a passionate love story, but it is the descriptions of the mud and blood of Flanders and the Somme that give the book its  emotional impact and status as a modern classic.  I admit that when I first read this book I was unaware of tunnel warfare underground. 

During the centenary of the Great War we need to be reminded of the terrible human cost and suffering.

James Lee Burke- The Tin Roof Blowdown

I enjoy a well written crime novel and James Lee Burke transcends the genre. Few crime writers write as well as James Lee Burke, or have the ability to take you to another place populated with such well-drawn, strong, flawed human beings.

In this, the 16th Dave Robicheaux novel, the shooting of two looters is investigated against the backdrop of the devastation of New Orleans by Hurricane Katrina.

As usual Burke delivers a powerful crime thriller, but the descriptions of the drowning city and the author’s anger at the government’s role in the crisis and its aftermath make this a truly great novel.


I am aware that most of my choices are unlikely to raise the spirits of a castaway, so I would need to pick something that would cheer me up and remind me of home. I am about to start Bryson’s recent follow up to this (The Road to Little Dribbling). However I think I would choose this as I can still recall some descriptions that made me laugh out loud twenty years ago.

I think re-reading this would make me smile, satisfy nostalgic leanings, and remind me that things could be worse. I could be staying in a guesthouse in Dover.










Llyfrau ar Ynys Bell 2

Yr un nesaf at yr ynys yw Mark Tanner, Uwch Llyfrgellydd Llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon. Dyma’i restr o 6 o lyfrau i gadw cwmni iddo.

Yasmina Khadra - The Attack

Dim ond lynedd des i ar draws y llyfr hwn, er iddi werthu dros 600,000 o gopïau ar draws y byd ers ei gyhoeddi yn Ffrangeg yn 2005 a’i gyfieithu wedyn i’r Saesneg.
Mae wedi ei leoli yn Tel Aviv. Mae Dr Amin Jaafie yn llawfeddyg Israelaidd Palesteinaidd - wedi ei integreiddio i gymdeithas Israelaidd, ac mae’n cael ei barchu a’i edmygu gan ei gydweithwyr. Ond caiff ei fywyd ei wyrdroi ar ôl bomio mewn bwyty sy’n lladd 19, ac mae’r heddlu yn dweud wrtho mai ei wraig, sydd ymhlith y rhai a fu farw, oedd yn gyfrifol….
Dyma ddawn dweud stori ar ei gorau ac rwy’n bwriadu darllen y stori eto rhyw ddydd.  Yn y cyfamser rwy’n bwriadu darllen rhai o nofelau arall yr awdur.

Efallai bydd gan ddilynwyr nofelau graffig ddiddordeb mewn gwybod bod ‘The Attack’ newydd gael ei gyhoeddi yn y fformat hwnnw – cadarnhad nad yw pob llyfr comig yn ymwneud â dynion sy’n gwisgo dillad isa’ y tu allan i’w trowsus!

John Steinbeck - The Grapes of Wrath

Mae’r clasur yma a oedd wedi ei wahardd ar un adeg yn aml yn y rhestrau o lyfrau gorau ac mae’n ddigon cyfarwydd.  Cofnod o’r Dirwasgiad Mawr a phrofiadau ffermwyr ymfudol, mae’n dangos gallu ffuglen i godi ymwybyddiaeth gymdeithasol.  Fe’i darllenais sawl blwyddyn yn ôl ar gyfer Lefel A ac rwy’n credu ei fod yn llyfr y dylai pawb ddarllen.  Mae tlodi,  anobaith, anghyfiawnder a chasineb tuag at fewnfudwyr yn berthnasol o hyd ac mae hwn yn llyfr sy’n werth ei ddarllen eto.

Khaled Hosseini - A Thousand Splendid
Suns

Llyfr grymus ac anorchfygol. Wedi ei leoli yn Afghanistan yn ystod cyfnod cythryblus yn ei hanes sy’n cynnwys y goresgyniad Sofietaidd ac esgyniad y Taliban, dyma stori Mariam, merch a ddanfonwyd gan ei thad yn 15 oed i briodi dyn dieithr canol-oed, gormesol.
Mae Hosseini yn storïwr o fri.  Mae’r stori sydd ganddo yn emosiynol ac yn frawychus ond yn y pen draw yn gynhyrfus ac yn ddyrchafol.  Dyma lyfr arall sy’n aros yn y cof ymhell ar ôl troi’r dudalen olaf!

Sebastian Foulkes – Birdsong

Fe fydda’ i bob amser yn cael fy nghyffwrdd gan nofelau sy’n dangos gwirionedd bywyd a marwolaeth ar y Ffrynt y Gorllewin.  Gall ffuglen fod yn gyfrwng cryfach i greu unrhyw fath o ddealltwriaeth o erchyllterau rhyfel nag unrhyw lyfr hanes a bydd Birdsong yn aros gyda chi am amser hir.
Mae’n rhannol yn stori serch, ond y disgrifiadau o fwd a gwaed Fflandrys a’r Somme sy’n rhoi trawiadau emosiynol i’r llyfr ac yn cadarnhau ei statws fel clasur modern.  Rwy’n cyfaddef nad oeddwn i’n ymwybodol a rhyfela twneli tanddaearol pan ddarllenais y llyfr yma gyntaf.
Yn ystod canmlwyddiant y Rhyfel Mawr mae angen i ni gofio am y dioddefaint dynol anferthol.

James Lee Burke - The Tin Roof Blowdown

Rwy’n mwynhau nofel drosedd dda ac mae James Lee Burke yn mynd y tu hwnt i’r genre. Ychydig iawn o awduron sy’n ysgrifennu cystal â James Lee Burke, neu sy’n meddu ar y gallu i’ch cludo chi i le arall gyda chymeriadau cryf a diffygiol.
Yn y nofel yma, yr unfed ar bymtheg i gynnwys Dave Robicheaux, caiff saethu dau ysbeiliwr ei ymchwilio iddi wedi dinistr Corwynt Katrina.
Fel arfer nofel drosedd gyffrous gawn ni gan Burke, ond mae’r disgrifiadau o ddinas yn boddi a dicter yr awdur tuag at ran y llywodraeth yn yr argyfwng yn creu nofel wirioneddol wych.

Bill Bryson - Notes From A Small Island

Rwy’n gwybod na fydd y rhan fwyaf o’m dewisiadau yn codi calon y darllenydd, felly fe fyddai angen rhywbeth i godi gwên a’m hatgoffa o gartref.  Rydw i ar fin dechrau dilyniant Bryson i’r llyfr hwn (The Road to Little Dribbling). Serch hynny rwy’n credo mai hwn y buaswn i’n dewis gan fy mod i dal yn cofio rhai disgrifiadau a wnaeth i mi chwerthin yn uchel ugain mlynedd yn ôl.
Rwy’n credo y byddai ail-ddarllen hwn yn gwneud i mi wenu, yn bodloni tueddiadau hiraeth, ac yn fy atgoffa y gallai pethau fod yn waeth. Fe allwn i fod mewn gwesty yn Dover.


Friday 9 December 2016

All I want for Christmas……….

Call me nosey, but I love reading famous people’s letters, they tell you so much about the real person behind the public face. So I’m hoping to find ‘The Victoria Letters: the heart and mind of a young queen’ by Helen Rappaport under my Christmas tree. This is the official companion book to the ITV ‘Victoria’ series, which I loved and another good reason for wanting it. Santa, please take note.

I asked some of my library colleagues what books they are hoping for.

Mark – ‘The Angels Die’ by Yasmina Khadra. The best novel I have read this year was by this author. ‘The Attack’ was a brilliant and gripping book by a master storyteller, and I’d like to read more of his work. 
‘The Angels Die’ is his latest title, set in French colonial Algeria- a place where Arab-Berbers face prejudice and injustice every day. It opens with the central character awaiting the guillotine. 
Hopefully this book won’t disappoint, and the first line, My name is Turambo and they’ll be coming to get me at dawn, is a pretty good start.

Bettina - All I want for Christmas is ‘The Quiet Music of Gently Falling Snow’ by Jackie Morris. I love Jackie’s stories and her illustrations are sublime. I remember when we had our refurb in Pontypool Library and she allowed us to use her images of dragons to complete our lovely children’s library. She visited us for the day and captured the imaginations of local schoolchildren with tales of old and with wonderful drawings.
This book is a collection of interconnected short stories featuring musically-themed illustrations she originally designed as a set of Christmas cards, in aid of the charity Help the Musicians.
I am a big fan and always look forward to her new projects.
I hope I have been good enough for Santa..........

Julian - A book on my Santa wish list is ‘The Build: Insights from the Masters of Custom Motorcycle Design’ by Robert Hoekman Jnr. A lot of blokes love messing about with power tools and spanners in a garage, and that includes me. So when the weather is wet and cold what better way to spend the time with a good coffee table book looking for ideas and inspiration, and then going out into the garage and mucking about.

Christine - Here’s my Christmas request.  I’m a big fan of Tove Jansson’s writing for adults but I’ve never actually read her Moomin books.  So I would like Santa to bring me a hardback copy of ‘Finn Family Moomintroll’ with all Tove Jansson’s delightful original illustrations.  A lovely snuggly read for the Christmas holidays.

Matthew - One book on my letter to Santa is ‘Royal Rabbits of London’ by Santa Montefiore and Simon Sebag Montefiore. A children’s story that I can share with my sons in between the Lego, train sets and mince pies at Christmas.  Shades of Watership Down as Shylo, the runt of the litter, takes on a group of mischievous rats in order to save the Queen!  Beautifully illustrated too.  What’s not to love?

Stephanie - Mine would be ‘Burial Rites’ by Hannah Kent which I’ve just read.  A fabulous first novel which reimagines the life and death of Agnes Magnúsdóttir, the last woman to be executed in 1820s Iceland. Beautiful descriptions and language but at the same time bleak and unflinching, this story stayed with me long after the final pages were read and is one I would certainly revisit in future. Oh yes, and now I very much want to visit Iceland too!

Donna - This Christmas I'm hoping Santa will bring me ‘In Montmartre: Picasso, Matisse and Modernism in Paris, 1900-1910’ by Sue Roe. I recently came across the book while in a gallery shop and from the blurb it looks like a great read. It also seems to have been very positively reviewed. The subject of the book is one that's very close to my heart - Paris in the early 20th century was a time of incredible vibrancy and development both in the art world and beyond. It must have been a very exciting time to be alive! I recently enjoyed reading a book on a similar subject by Ross King set in the mid-19th century, ‘The Judgement of Paris; Manet, Meisonnier and an Artistic Revolution’. These paperback art stories really bring what some people might think of as a dry subject to life and are perfect for dipping in and out.






Ar gyfer heddiw’r bore……….

Efallai fy mod i’n fusneslyd ond fe fydda’ i wrth fy modd yn darllen llythyrau pobl enwog, maen nhw’n dweud cymaint am y gwir berson y tu ôl i’r wyneb gyhoeddus.  Felly, rwy’n gobeithio cael ‘The Victoria Letters: the heart and mind of a young queen’ gan Helen Rappaport o dan y goeden. Dyma’r llyfr swyddogol sy’n mynd law yn llaw gyda chyfres ‘Victoria’ ITV a mae hynny’n rheswm arall i’w gael. Siôn Corn, gwnewch nodyn.
Gofynnais i rai o’m cyfeillion yn y Llyfrgell pa lyfrau y buasen nhw’n hoffi.

Mark - ‘The Angels Die’ gan Yasmina Khadra. Y nofel orau i mi ddarllen eleni oedd un gan yr awdur yma.  Roedd ‘The Attack’ yn lyfr gwych a chyffrous gan storïwr o fri, ac fe hoffwn i ddarllen mwy o’i waith.

‘The Angels Die’ yw ei lyfr diweddaraf, wedi ei leoli yn Algeria o dan reolaeth Ffrengig – rhywle y mae’r Arabiaid yn wynebu rhagfarn ac anghyfiawnder pob dydd.  Mae’n agor gyda’r prif gymeriad yn wynebu’r gilotîn.

Rwy’n gobeithio na fydd yn llyfr yma yn fy siomi, ac mae’r llinell gyntaf, My name is Turambo and they’ll be coming to get me at dawn, i weld yn ddechrau da.


Bettina – Y cwbl rydw i eisiau yw ‘The Quiet Music of Gently Falling Snow’ gan Jackie Morris. Rydw i wrth fy modd gyda straeon Jackie ac mae ei darluniau yn wych. Rwy’n cofio pan gawson ni ein gwaith adnewyddu yn Llyfrgell Pont-y-pŵl, fe rhoddodd ganiatâd i ni ddefnyddio’i darluniau o ddreigiau er mwyn ein galluogi i gwblhau llyfrgell y plant.  Daeth i’n gweld am y diwrnod a dal dychymyg plant ysgol lleol gyda’i straeon a’i lluniau ardderchog.
Cyfres o straeon byr yw’r llyfr gyda darluniau ar thema cerddoriaeth yr oedd wedi eu dylunio’n wreiddiol fel set o gardiau Nadolig er budd yr elusen Help the Musicians
Rydw i yn edmygwr mawr ohoni ac rydw i bob amser yn edrych ymlaen at ei phrosiectau newydd.
Gobeithio y bydda’ i wedi bod yn ddigon da i Siôn Corn..........
 
Julian – Llyfr ar fy rhestr i yw ‘The Build: Insights from the Masters of Custom Motorcycle Design’. Mae llawer o ddynion yn hoff o botsian gydag offer a sbaneri ac ati mewn garej, ac rydw i’n un o’r rheiny. Felly, pan fydd y tywydd yn oer a gwlyb beth sy’n well na threulio amser gyda llyfr da yn edrych am syniadau ac ysbrydoliaeth, ac yna mynd allan i’r garej i botsian.

Christine - Dyma fy nghais i ar gyfer y Nadolig.  Rwy’n edmygydd mawr o lyfrau Tove Jansson ar gyfer oedolion ond dydw i erioed wedi darllen ei llyfrau Moomin.  Felly fe hoffwn i Siôn Corn ddod â chopi clawr caled o ‘Finn Family Moomintroll’ gyda darluniau gwreiddiol hyfryd Tove Jansson.  Llyfr cysurus ar gyfer gwyliau’r Nadolig.

Matthew – Un llyfr ar fy rhestr i yw ‘Royal Rabbits of London’ gan Santa Montefiore a Simon Sebag Montefiore. Stori i blant y gallaf i rhannu gyda fy meibion rhwng y Lego, setiau trên a mins peis yn ystod y Nadolig.  Rhywbeth tebyg i Watership Down wrth i Shylo, frwydro yn erbyn haid o lygod mawr drwg er mwyn achub y Frenhines!  Lluniau hyfryd hefyd!

Stephanie - Fy newis i fyddai ‘Burial Rites’ gan Hannah Kent yr wyf newydd ei ddarllen.  Nofel gyntaf wych sy’n dychmygu bywyd a marwolaeth Agnes Magnúsdóttir, y fenyw ddiwethaf i gael ei dienyddio yng Ngwlad yr Iâ yn yr 1820au. Disgrifiadau ac iaith hardd ond yn dywyll ac yn ddiysgog ar yr un pryd, arhosodd y stori gyda fi yn hir ar ôl troi’r dudalen olaf ac rwy’n siŵr o ddod yn ôl ati yn y dyfodol. O ie, ac fe hoffwn fynd i Wlad yr Iâ yn fawr hefyd!

Donna – Y Nadolig yma rwy’n gobeithio y caf i ‘In Montmartre: Picasso, Matisse and Modernism in Paris, 1900-1910’ gan Sue Roe. Des i ardraws y llyfr yma yn ddiweddar tra roeddwn mewn siop galeri ac o’r disgrifiad mae’n edrych yn wych. Mae’r adolygiadau wedi bod yn garedig hefyd.  Mae testun y llyfr yn un sy’n agos iawn at fy nghalon – Roedd Paris ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn amser bywiogrwydd a datblygiad mewn celf a thu hwnt.  Mae’n rhaid ei fod yn amser cyffrous iawn! Fe fwynheais ddarllen llyfr digon tebyg yn ddiweddar gan Ross King, stori wedi ei leoli yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ‘The Judgement of Paris; Manet, Meisonnier and an Artistic Revolution’. Mae’r straeon celf yma mewn clawr papur yn rhoi bywyd i bwnc y byddai nifer yn ei weld fel un sych ac mae’n berffaith i gymryd cipolwg yn achlysurol.




Friday 2 December 2016

Reading by the fire or the art of Hygge (hue ga)


Hygge is a Danish word that describes the feeling of being cosy, comfortable and at peace with the world and might explain why Denmark is one of the happiest nations on the planet.

As we move in to December it’s time to embrace this concept and close the curtains, switch on the lamps, light some candles and the fire (real, electric or gas) and snuggle up on the sofa with a good book.

The following is taken from “The Art of Hygge, how to bring Danish cosiness into your life”, by Jonny Jackson and Elias Larsen.



“Reading by the fire, what could be more relaxing than listening to the rain patter on the window as you sit by a crackling fire, immersed in a good book? Curl up with a ghost story, revel in a Scandi thriller or revisit some childhood classics. Try reading aloud to someone you love as the fire gently flickers in the background. It’s the perfect way to spend a cold, grey day or dark winter’s evening”.

For some great ghost stories take a look at my “Hair Raising Halloween Reads” post of 21 October 2016.


Here are some suggestions for Scandi thrillers and childhood classics, though everyone will have their own favourites from childhood. What’s yours?











Darllen o flaen y tân neu Hygge
Mae Hygge (hue ga) yn air Danaidd sy’n disgrifio’r teimlad o fod yn glud, yn gyfforddus ac mewn heddwch â’r byd, a gall esbonio pam mai Denmarc yw un o’r cenhedloedd hapusaf ar y blaned.

Wrth i ni ddynesu at fis Rhagfyr, mae’n amser derbyn y syniad hwn a chau’r llenni, rhoi’r lampau ymlaen, goleuo canhwyllau a’r tân (un go iawn, trydan neu nwy) a swatio ar y soffa gyda llyfr da.

Daw’r canlynol o “The Art of Hygge, how to bring Danish
cosiness into your life”, gan Jonny Jackson ac Elias Larsen.
“Reading by the fire, what could be more relaxing than listening to the rain patter on the window as you sit by a crackling fire, immersed in a good book? Curl up with a ghost story, revel in a Scandi thriller or revisit some childhood classics. Try reading aloud to someone you love as the fire gently flickers in the background. It’s the perfect way to spend a cold, grey day or dark winter’s evening”.

I gael straeon ysbrydion gwych, edrychwch ar fy nghofnod 21 Hydref 2016 “Darllen Dychrynllyd Calan Gaeaf”.


Dyma rai awgrymiadau ar gyfer nofelau ias a chyffro Sgandi a chlasuron o’ch plentyndod, er y bydd gan bawb ei ffefrynnau. Beth yw’ch rhai chi?