Monday 6 May 2019

British Book Awards 2019


The British Book Awards have championed the very best of the book trade for almost 30 years.

The Awards - affectionately known as The Nibbies - announces eight individual books of the year with an overall Book of the Year chosen from the individual winners (all will be revealed this year on 13 May).

For this month’s blog post we’re going to look at some of the non-fiction titles which made their shortlists:

Becoming by Michelle Obama - A work of deep reflection and mesmerizing storytelling, Michelle Obama invites readers into her world, chronicling the experiences that have shaped her - from her childhood on the South Side of Chicago to her years as an executive balancing the demands of motherhood and work, to her time spent at the world's most famous address.
First Man In by Ant Middleton - In this fascinating, exhilarating and revealing book, Ant speaks about the highs and lows of his life – from the thrill of passing Special Forces Selection to dealing with the early death of his father and ending up in prison on leaving the military – and draws valuable lessons that we can all use in our daily lives.
Bosh!  by Henry Firth and Ian Theasby - Want to cook ridiculously good food from scratch but have no idea where to start? With over 140 incredibly easy and tasty all plants meals, BOSH! The Cookbook will be your guide.
With the authors always ensuring they stick to fresh, supermarket-friendly ingredients, BOSH! provides "plant-based food for everyone".
The Ordnance Survey Puzzle Book by Ordnance Survey - Track down hidden treasures, decipher geographical details and discover amazing facts as you work through this unique puzzle book based on 40 of the Ordnance Survey's best British maps. Explore the first ever OS map made in 1801, unearth the history of curious place names, encounter abandoned Medieval villages and search the site of the first tarmac road in the world.
The Language of Kindness by Christie Watson - Christie Watson was a nurse for twenty years. Taking us from birth to death and from A&E to the mortuary, The Language of Kindness is an astounding account of a profession defined by acts of care, compassion and kindness.


Mae Gwobrau Llyfrau Prydain wedi dathlu’r gorau yn y byd llyfrau am bron i 30 o flynyddoedd.

Mae’r gwobrau – a elwir The Nibbies – yn cyhoeddi wyth o lyfrau unigol y flwyddyn, ac yn dewis un Llyfr y Flwyddyn o’r enillwyr unigol (byddant yn cael eu datgelu eleni ar 13 Mai).

Ar gyfer blog y mis hwn rydym am edrych ar rai o’r teitlau ffeithiol sydd wedi ei gwneud hi i’r rhestr fer:

Becoming gan Michelle Obama – gwaith o fyfyrdod dwys sy’n adrodd stori hudolus, lle mae Michelle Obama yn gwahodd darllenwyr i’w byd hi, yn adrodd am y profiadau sydd wedi ei ffurfio – o’i phlentyndod ar Ochr Ddeheuol Chicago i’w blynyddoedd fel swyddog gweithredol yn cydbwyso galwadau gwaith a bod yn fam, i’w chyfnod yng nghyfeiriad enwocaf y byd.
First Man In gan Ant Middleton – Yn y llyfr cyfareddol, bywiogol a dadlennol hwn, mae Ant yn siarad am yr uchafbwyntiau a’r pwyntiau isel yn ei fywyd – o’r cyffro o gael ei ddewis ar gyfer y Lluoedd Arbennig i ddelio gyda marwolaeth gynnar ei dad a mynd i’r carchar ar ôl gadael y fyddin – ac mae’n cynnig gwersi gwerthfawr y medrwn oll eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd.
Bosh!  gan Henry Firth ac Ian Theasby – Eisiau coginio bwyd arbennig o dda ond dim syniad lle i gychwyn? Gyda mwy na 140 o brydau bwyd hynod o hawdd a blasus o blanhigion, bydd BOSH! The Cookbook yn eich arwain.
Gyda’r awduron yn sicrhau bob amser eu bod yn defnyddio bwydydd ffres, sydd ar gael yn yr archfarchnad, mae BOSH! yn darparu bwyd o blanhigion i bawb.

The Ordnance Survey Puzzle Book gan Arolwg Ordnans – Olrhain trysorau cudd, dehongli manylion daearyddol a dysgu ffeithiau hynod wrth i chi weithio eich ffordd drwy’n llyfr posau unigryw hwn sy’n seiliedig ar 40 o fapiau gorau Prydain gan yr Arolwg Ordnans. Cewch weld y map OS cyntaf erioed a wnaed ym 1801, darganfod hanes enwau lleoedd difyr, dysgu am bentrefi canoloesol a gafodd eu gadael a chwilio am safle’r ffordd darmac gyntaf yn y byd.
The Language of Kindness gan Christie Watson – Roedd Christie Watson yn nyrs am ugain mlynedd. Gan ein tywys o enedigaeth i farwolaeth ac o’r Adran Ddamweiniau i’r marwdy, mae The Language of Kindness yn hanes trawiadol o faes gwaith sydd wedi ei ddiffinio gan weithredoedd o ofal, trugaredd a charedigrwydd.