Friday 29 June 2018

Zoe Ball Book Club 8-22 July 2018



If you enjoyed the first 3 Zoe Ball Book Club titles, 
see our post from 8 June, here are the next 3 titles to get stuck into, with the dates the shows will be aired on ITV at 8.30am.

Will Dean – Dark Pines (8 July)
An isolated Swedish town. A deaf reporter terrified of nature. A dense spruce forest overdue for harvest. A pair of eyeless hunters found murdered in the woods. It's week one of the Swedish elk hunt and the sound of gunfire is everywhere.
When Tuva Moodyson investigates the story that could make her career she stumbles on a web of secrets that knit Gavrik town together. Are the latest murders connected to the Medusa killings twenty years ago? Is someone following her? Why take the eyes? Tuva must face her demons and venture deep into the woods to stop the killer and write the story, then get the hell out of Gavrik

Mike Gayle – The Man I Think I Know (15 July)
Whatever their friends and teachers might have expected, neither Danny nor James is currently running the country. Depressed and unemployed, Danny is facing an ultimatum from his girlfriend Maya: if he doesn't get out and get a job, she's leaving.
It was an accident that changed James's life and now he is looked after affectionately by his parents. But his sister Martha believes that the role of full-time carers is destroying their lives. She suggests that James should go into a respite home while her parents take a break. The respite home, as it turns out, where Danny has just got a job. What is the path that has brought these two people to this unexpected place, and where will it take them next?

Maggie O’Farrell – I Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes with Death (22 July)
Maggie O'Farrell's electric and shocking memoir of the near death experiences that have punctuated her life. A childhood illness she was not expected to survive. A teenage yearning to escape that nearly ended in disaster. A terrifying encounter on a remote path. A mismanaged labour in an understaffed hospital.
This is a memoir with a difference: seventeen encounters with Maggie at different ages, in different locations, reveal to us a whole life in a series of tense, visceral snapshots. It is a book to make you question yourself: what would you do if your life was in danger? How would you react? And what would you stand to lose?








Clwb Llyfrau Zoe Ball 8-22 Gorffennaf 2018


Os wnaethoch chi fwynhau 3 llyfr cyntaf Clwb Llyfrau Zoe Ball, gweler ein post o 8 Mehefin. Dyma'r 3 llyfr nesaf i chi fynd i'r afael â hwy, a dyma'r dyddiadau y byddant yn cael eu darlledu ar ITV am 8.30am.

Will Dean – Dark Pines (8 Gorffennaf)
Tref unig yn Sweden. Awdur byddar sy'n ofni natur. Coedwig pyrwydd trwchus sydd angen ei chynaeafu. Pâr o helwyr heb eu llygaid wedi eu canfod yn y goedwig. Mae'n wythnos gyntaf helfa elciaid Sweden ac mae sŵn tanio gwn i'w glywed ym mhobman.
Pan fydd Tuva Moodyson yn ymchwilio i'r stori a allai hybu ei gyrfa mae hi'n dod ar draws gwe o gyfrinachau sy'n rhwymo tref Gavrik. A yw'r llofruddiaethau diweddaraf yn gysylltiedig â llofruddiaethau Medusa ugain mlynedd yn ôl? Ydy rhywun yn ei dilyn? Pam cymryd y llygaid? Rhaid i Tuva wynebu ei demoniaid a chamu'n ddwfn i'r goedwig i atal y lladdwr ac ysgrifennu'r stori, yna dianc o Gavrik am ei bywyd.

Mike Gayle – The Man I Think I Know (15 Gorffennaf)
Beth bynnag oedd eu ffrindiau a’u hathrawon yn ei ddisgwyl, nid yw Danny na James yn rhedeg y wlad ar hyn o bryd. Yn isel ac yn ddi-waith, mae Danny yn wynebu wltimatwm gan ei gariad Maya: os na fydd yn mynd allan a chael hyd i swydd cyn hir, mae hi'n gadael.
Damwain newidiodd fywyd James ac erbyn hyn mae ei rieni yn gofalu amdano. Ond mae ei chwaer Martha o'r farn bod rôl gofalu llawn amser yn dinistrio eu bywydau. Mae hi'n awgrymu y dylai James fynd i gartref seibiant tra bod ei rhieni yn cael egwyl. Y cartref seibiant, fel y mae'n digwydd y mae Danny newydd gael swydd ynddi. Beth yw'r llwybr sydd wedi dod â'r ddau yma i'r lle annisgwyl hwn, ac i ble fydd yn eu tywys nesaf?

Maggie O’Farrell – I Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes with Death (22 Gorffennaf)
Hunangofiant trydanol a syfrdanol Maggie O'Farrell o'r profiadau ffin angau ysbeidiol y daeth ar eu traws yn eu bywyd. Salwch nad oedd disgwyl iddi ddod drosto yn blentyn. Ysfa i ddianc yn ferch ifanc yn ei harddegau y bu bron â’i harwain at drychineb. Profiad ofnadwy ar lwybr anghysbell. Esgor na gafodd ei rheoli mewn ysbyty heb ddigon o staff.
Dyma hunangofiant sydd braidd yn wahanol: mae dau ar bymtheg o brofiadau Maggie ar wahanol adegau, mewn lleoliadau gwahanol, yn datgelu bywyd cyfan inni mewn cyfres o gipluniau tymhorol. Mae'n llyfr sy'n gwneud i chi gwestiynu eich hun: beth fyddech chi'n ei wneud pe bai eich bywyd mewn perygl? Sut fyddech chi'n ymateb? A beth fyddech chi'n debygol o'i golli?


Friday 22 June 2018

Independent Bookshop Week - Book Awards 2018



If, like me you are saddened by the demise of high-street retail in general and in particular the struggle for survival of our wonderful independent book shops then spare a thought for them this week, Independent Bookshop Week. Unfortunately here in Torfaen we are not well served by bookshops. A quick search of the website revealed that if you live in the north of the borough “Bookish” in Crickhowell is your nearest indie bookshop 6.3 miles from Blaenavon and 11.6 miles from Pontypool. While if you are based in Cwmbran, Cardiff offers a selection, the nearest being 12.6 miles and if you don’t mind traveling a little further “The Chepstow Bookshop” is under 15 miles away. All are great places for a day out so why not pay them a visit?
indiebookshopweek.org.uk

It may seem strange, libraries championing book shops but I don’t see them as rivals but rather as allies in the quest to promote reading and provide great books for all ages.


In the run up to the week the IBW Book Award winners were announced. Winner of the adult category was Amor Towles for “A Gentleman in Moscow. The children’s category winner was Geraldine McCaughrean for “Where the World Ends” and the picture book category went to author Nicola Davies and illustrator Emily Sutton for "Lots:The Diversity of Life on Earth". For more information on these books and the shortlisted titles visit the website.
IBW Book Award









Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol – Gwobrau Llyfrau 2018

Os ydych chi, fel fi, yn tristau wrth weld dirywiad siopau’r stryd fawr yn gyffredinol ac yn arbennig brwydr ein siopau llyfrau annibynnol anhygoel yna cofiwch amdanyn nhw’r wythnos yma, Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol. Yn anffodus yma yn Nhorfaen does dim rhyw lawer o siopau llyfrau gyda ni.  Wrth bori’n gyflym ar y wefan gallwch weld mai “Bookish” yng Nghrughywel yw eich siop lyfrau annibynnol agosaf os ydych chi’n byw yng ngogledd y fwrdeistref, 6.3 milltir o Flaenafon ac 11.6 milltir o Bont-y-pŵl. Os ydych chi yng Nghwmbrân, mae Caerdydd yn cynnig dewis, arc mae’r agosaf yn 12.6 milltir i ffwrdd ac os nad oes ots gennych chi deithio rhywfaint yn bellach mae “The Chepstow Bookshop” llai na 15 milltir i ffwrdd. Mae pob un yn lleoedd gwych am ddiwrnod allan fel pa na alwch chi draw?
indiebookshopweek.org.uk


Efallai bod hyn i weld yn od – bod llyfrgelloedd yn hyrwyddo siopau llyfrau, ond dydw i ddim yn meddwl amdanyn nhw fel cystadleuwyr ond yn hytrach fel cyfeillion wrth geisio hybu darllen a darparu llyfrau da i bobl o bob oed.



Yn ystod yr wythnos cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Llyfrau Siopau Llyfrau Annibynnol. Enillydd categori’r oedolion oedd Amor Towles am “A Gentleman in Moscow”. Enillydd categori’r plant oedd Geraldine McCaughrean am “Where the World Ends” ac aeth gwobr y llyfr lluniau i’r awdur Nicola Davies a’r darlunydd Emily Sutton am “Lots: The Diversity of Life on Earth”. Am fwy o wybodaeth am y llyfrau yma a’r teitlau a gyrhaeddodd y rhestr fer, ewch i’r wefan. 
IBW Book Award

Friday 15 June 2018

National Reading Group Day 2018

In celebration of National Reading Group Day on 16 June, we’re taking a peek at what our groups are reading this month.


Pontypool Library Reading Group
Amy Liptrot – The Outrun
Memoir - When Amy returns to Orkney after more than a decade away, she is drawn back to the sheep farm where she grew up. Approaching the land that was once home, memories of her childhood merge with the recent events that have set her on this journey. Amy was shaped by the cycle of the seasons, birth and death on the farm, and her father's mental illness, which were as much a part of her childhood as the wild, carefree existence on Orkney. But as she grew up, she longed to leave this remote life. She moved to London and found herself in a hedonistic cycle. Unable to control her drinking, alcohol gradually took over. Now 30, she finds herself washed up back home on Orkney, trying to come to terms with what happened to her in London.

Blaenavon Library Crime Reading Group
T A Cotterell – What Alice Knew
Alice has a perfect life - a cool job, great kids, and a wonderful husband. Until he goes missing one night; the phone rings and then goes dead; things don't quite add up. Alice needs to know what's going on. But when she uncovers the truth she faces a brutal choice. And how can she be sure it is the truth? Sometimes it's safer not to know.



Cwmbran Library Reading Groups:
Group 1 - Sarah Winman – Tin Man
This novel begins with a painting won in a raffle: 15 sunflowers, hung on the wall by a woman who believes that men and boys are capable of beautiful things. And then there are two boys, Ellis and Michael, who are inseparable. The boys become men, and then Annie walks into their lives, and it changes nothing and everything.

Group 2 - Helen Dumore – Birdcage Walk
It is 1792 and Europe is seized by political turmoil and violence. Lizzy Fawkes has grown up in radical circles where each step of the French Revolution is followed with eager idealism. But she has recently married John Diner Tredevant, a property developer who is heavily invested in Bristol's housing boom, and he has everything to lose from social upheaval and the prospect of war. Soon his plans for a magnificent terrace built above the 200ft drop of the Gorge come under threat.

Group 3 - Amor Towles – A Gentleman in Moscow
In 1922 Count Rostov is deemed an unrepentant aristocrat by a Bolshevik tribunal. He is sentenced to house arrest in The Metropol, a grand hotel across the street from the Kremlin. Rostov, an indomitable man of erudition and wit, has never worked a day in his life, and must now live in an attic room while some of the most tumultuous decades in Russian history are unfolding outside the hotel's doors. Unexpectedly, his reduced circumstances provide him a doorway into a much larger world of emotional discovery.









Diwrnod Grŵp Darllen Genedlaethol 2018

I ddathlu Diwrnod Grŵp Darllen Cenedlaethol ar 16 Mehefin, rydym yn cymryd cipolwg ar yr hyn mae ein grwpiau yn darllen y mis hwn.

Grŵp Darllen Llyfrgell Pont-y-pŵl
Amy Liptrot – The Outrun
Cofiant - Pan fydd Amy yn dychwelyd i Ynysoedd Erch ar ôl mwy na degawd i ffwrdd, caiff ei thynnu'n ôl i'r fferm ddefaid lle cafodd ei magu. Wrth nesáu at y tir a oedd unwaith yn gartref iddi, mae atgofion o'i phlentyndod yn cyfuno â'r digwyddiadau diweddar a wnaeth iddi gychwyn ar y daith hon. Cafodd Amy ei ffurfio gan gylch y tymhorau, genedigaeth a marwolaeth ar y fferm, a salwch meddwl ei thad, a oedd cymaint yn rhan o'i phlentyndod â'r fodolaeth wyllt, ysgafnfryd ar yr ynys. Ond wrth iddi dyfu i fyny, roedd hi'n ysu i adael y bywyd anghysbell hwn. Symudodd i Lundain a chafodd ei hun mewn cylch hedonyddol. Gan fethu â rheoli'r yfed, yn raddol, aeth yr alcohol yn drech na hi. Nawr yn 30, mae hi'n canfod ei hun, wedi'i golchi i fyny yn ôl adref ar yr ynys, gan geisio dod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd iddi yn Llundain.

Grŵp Darllen Llyfrgell Blaenafon
T A Cotterell – What Alice Knew
Mae gan Alice fywyd perffaith - swydd cŵl, plant gwych, a gŵr rhagorol. Tan iddo fynd ar goll un noson; mae'r ffôn yn canu ac yna'n marw; nid yw pethau'n gwneud synnwyr. Mae angen i Alice wybod beth sy'n digwydd. Ond pan fydd hi'n datguddio'r gwir, mae hi'n wynebu dewis milain. A sut y gall hi fod yn siŵr mai dyma'r gwir? Weithiau mae'n fwy diogel i beidio â gwybod.


Grwpiau Darllen Llyfrgell Cwmbrân:

Grŵp 1 - Sarah Winman – Tin Man
Mae'r nofel hon yn dechrau gyda phaentiad a enillwyd mewn raffl: 15 blodau haul, wedi eu hongian ar y wal gan fenyw sy'n credu bod dynion a bechgyn yn gallu gwneud pethau hardd. Ac yna mae yna ddau fachgen, Ellis a Michael, sy'n hollol fynwesol. Mae'r bechgyn yn dod yn ddynion, ac yna mae Annie yn cerdded i mewn i'w bywydau, ac mae'n newid dim a phopeth.


Grŵp 2 - Helen Dumore – Birdcage Walk
Mae'n 1792 ac mae Ewrop yng ngafael trallod gwleidyddol a thrais. Mae Lizzy Fawkes wedi tyfu i fyny mewn cylchoedd radical lle mae pob cam o'r Chwyldro Ffrengig yn cael ei ddilyn gan ddelfrydiaeth awchus. Ond mae hi wedi priodi John Diner Tredevant yn ddiweddar, datblygwr eiddo sydd wedi buddsoddi'n helaeth ym myd tai ffyniannus Bryste, ac mae ganddo bopeth i'w golli o gyffro cymdeithasol a'r posibilrwydd o ryfel. Yn fuan, mae ei gynlluniau am deras godidog wedi'i hadeiladu uwchben y ceunant sy’n gostwng 200 troedfedd, yn dod dan fygythiad.

Grŵp 3 - Amor Towles – A Gentleman in Moscow
Ym 1922 tybir bod Count Rostov yn aristocrat diedifar gan dribiwnlys Bolsieficaidd. Cafodd ei ddedfrydu a bu’n destun arestiad tŷ yn y Metropol, gwesty mawr ar draws y stryd o'r Kremlin. Nid yw Rostov, dyn anorchfygol o ran dysg a hiwmor, erioed wedi gweithio diwrnod yn ei fywyd, a bellach mae'n rhaid iddo fyw mewn ystafell atig tra bod rhai o'r degawdau mwyaf cyffrous yn hanes Rwsia yn datblygu y tu allan i ddrysau'r gwesty. Yn annisgwyl, mae ei ddiffyg amgylchiadau yn rhoi drws iddo i mewn i fyd llawer mwy o ddarganfyddiad emosiynol.

Friday 8 June 2018

The Zoe Ball Book Club




A new TV Book Club is about to hit our screens. It will form a segment of the “Zoe Ball on Sunday” show and launch 17th June at 8.30am on ITV.

Over 10 weeks 10 books will be read and discussed by Zoe and an assortment of celebrities. The reading list will include debut novels, such as Ruth Jones’ “Never Greener”; memoirs; love stories; historical crime and chilling ghost stories.

If you want to get ahead of the game and read the books before the shows air, here are the first 3 titles.

Book 1 - 17 June
Adam Kay – This is Going to Hurt: secret diaries of a junior doctor
Adam Kay was a junior doctor from 2004 until 2010, before a devastating experience on a ward caused him to reconsider his future. He kept a diary throughout his training, and 'This is Going to Hurt' intersperses tales from the front line of the NHS with reflections on the current crisis. The result is a first-hand account of life as a junior doctor in all its joy, pain, sacrifice and maddening bureaucracy, and a love letter to those who might at any moment be holding our lives in their hands.

Book 2 – 24 June
Rowan Colman – The Summer of Impossible Things
If you could change the past, would you? 30 years ago, something terrible happened to Luna's mother. Something she's only prepared to reveal after her death. Now Luna and her sister have a chance to go back to their mother's birthplace and settle her affairs. But in Brooklyn they find more questions than answers, until something impossible, magical, happens to Luna, and she meets her mother as a young woman back in the summer of 1977. At first Luna thinks she's going crazy, but if she can truly travel back in time, she can change things. But in doing anything, everything to save her mother's life, will she have to sacrifice her own?

Book 3 – 1 July
Ruth Jones – Never Greener
Ruth Jones makes her debut with a witty and wise story of life's second chances and the dangers of taking them. With her trademark warmth, humanity and heart, she shows us the dangers of looking for something better, and forgetting that the best might not be in our past or yet to come - but right where we are now.

All the books are available to borrow or reserve from Torfaen Libraries.








Clwb Llyfrau Zoe Ball

Mae Clwb Llyfrau newydd ar y teledu yn barod i ymddangos ar ein sgrin deledu. Bydd yn rhan o’r sioe “Zoe Ball on Sunday” fydd yn lansio ar 17eg o Fehefin am 8.30am ar ITV.

Dros gyfnod o 10 wythnos, bydd 10 o lyfrau’n cael eu darllen a’u trafod gan Zoe ac amrywiaeth o sêr. Bydd y rhestr darllen yn cynnwys nofelau cyntaf, fel “Never Greener” gan Ruth Jones; cofiannau; straeon caru; troseddau hanesyddol a straeon ysbryd iasol.

Os ydych am fod un cam ymlaen a darllen y llyfrau cyn i’r sioe gael ei darlledu, dyma’r 3 teitl cyntaf.

Llyfr 1 - 17 Mehefin
Adam Kay – This is Going to Hurt: secret diaries of a junior doctor
Roedd Adam Kay yn feddyg iau rhwng 2004 a 2010, cyn i brofiad dinistriol ar ward achosi iddo ail-ystyried ei ddyfodol. Fe wnaeth gadw dyddiadur drwy gydol ei hyfforddiant, ac mae ‘This is Going to Hurt’ yn rhannu straeon o reng flaen y GIG gan fyfyrio ar yr argyfwng cyfredol. Y canlyniad yw cofnod uniongyrchol o fywyd fel meddyg iau yn ei holl lawenydd, poen, aberth a biwrocratiaeth wallgof, a llythyr caru i’r rhai hynny a allai fod ar unrhyw adeg yn dal ein bywydau yn eu dwylo.

Llyfr 2 – 24 Mehefin
Rowan Colman – The Summer of Impossible Things
Pe byddech chi’n gallu newid y gorffennol, fyddech chi? 30 mlynedd yn ôl, digwyddodd rhywbeth ofnadwy i fam Luna. Rhywbeth na wnaiff hi ddatgelu nes ar ôl iddi farw. Nawr mae Luna a’i chwaer yn cael cyfle i fynd yn ôl i fan geni eu mam a setlo ei materion. Ond yn Brooklyn maen nhw’n dod o hyd i fwy o gwestiynau nag atebion, nes i rywbeth amhosibl, hudol, ddigwydd i Luna, ac mae’n cyfarfod ei mam yn ferch ifanc yn ôl yn haf 1977. I ddechrau, mae Luna’n credu ei bod hi’n mynd o’i chof, ond os yw hi’n gallu teithio’n ôl mewn amser, gallai newid pethau. Ond i wneud rhywbeth, popeth i achub bywyd ei mam, a fydd rhaid iddi aberthu ei bywyd ei hun?

Llyfr 3 – 1 Gorffennaf
Ruth Jones – Never Greener
Dyma nofel gyntaf Ruth Jones, nofel gyda stori ddoeth a ffraeth am ail gyfleoedd bywyd a’r peryglon o’u cymryd nhw. Gyda’i chynhesrwydd, dynoliaeth a chalon nodweddiadol, mae’n dangos y peryglon o chwilio am rywbeth gwell, ac anghofio efallai nad yn y gorffennol na’r dyfodol y mae’r gorau – ond yn union yn y man rydyn ni nawr.

Mae’r llyfrau hyn i gyd ar gael i’w benthyg neu i’w cadw o Lyfrgelloedd Torfaen.

Friday 1 June 2018

Last Laugh Award for humorous crime


Continuing our celebration of crime reading, this week we are focussing on books that can raise a smile as well as your blood pressure. So if you enjoy murder with a touch of humour check out the Last Laugh Award shortlist.

The end of the cricket season spells gloom for Blotto, until he is invited to bat against the Hollywood cricket team out in sunny LA, where rain never stops play. So begins the latest adventure for Blotto and his supremely gifted sister Twinks. On arrival they are invited to a glitzy Hollywood party but the mood suddenly curdles with the breaking news that beautiful starlet Mimsy La Pim - the (former) love of Blotto's life - has been kidnapped.

Christopher Fowler - Bryant & May – Wild Chamber 
In an exclusive London crescent, a woman walks her dog - but she's being watched. When she's found dead, the Peculiar Crimes Unit is called in to investigate. Why? Because the method of death is odd, the gardens are locked, the killer had no way in, or out, and the dog has disappeared. So a typical case for Bryant & May. But the hows and whys of the murder are not the only mysteries surrounding the dead woman - there's a missing husband and a lost nanny to puzzle over too.

Mick Herron - Spook Street 
20 years retired, David Cartwright can still spot when the stoats are on his trail. Radioactive secrets and unfinished business go with the territory on Spook Street: he's always known there would be an accounting but he's not as defenceless as they might think. Jackson Lamb worked with Cartwright back in the day. He knows better than most that this is no vulnerable old man.


Mumbai thrives on extravagant spectacles and larger-than-life characters. But even in the city of dreams, there is no guarantee of a happy ending. Rising star and incorrigible playboy Vikram Verma has disappeared, leaving his latest film in jeopardy. Hired by Verma's formidable mother to find him, Inspector Chopra and his sidekick, baby elephant Ganesha, embark on a journey deep into the world's most flamboyant movie industry.

Khurrum Rahman - East of Hounslow 
Javid is a dope dealer living in West London. He goes to the mosque on Friday, and he's just bought his pride and joy - a BMW. He lives with his mum, and life seems sweet. But his world is about to turn upside-down because MI5 have been watching him, and they think he's just the man they need for a delicate mission. One thing's for sure his life will never be the same again.


C.J. Skuse - Sweet Pea
Rhiannon is your average girl next door but she's got a kill list. From the man on the Lidl checkout who always mishandles her apples, to the driver who cuts her off on her way to work, to the people who made her who she is. Rhiannon's ready to get her revenge because the girl everyone overlooks might just be able to get away with murder. 


Antti Tuomainen - The Man Who Died
Also shortlisted for the Petrona award, take a look at last week’s post, 25/05/2018.

L.C. Tyler - Herring in the Smoke
Roger Norton Vane is dead. 20 years ago he went for a walk in the Thai jungle with his partner, Tim MacDonald, and never returned. After years of wild speculation, fruitless searches and unconfirmed sightings, finally his death is to be made official and somebody will inherit his accumulated wealth. But at his memorial service, a man interrupts proceedings, claiming to be Vane. He installs himself in his old flat, evicting Tim MacDonald, and sets about proving his right to Vane's money.







Gwobr Last Laugh am droseddau digri

Gan barhau i ddathlu darllen llyfrau troseddau, yr wythnos hon rydym yn canolbwyntio ar lyfrau a all godi gwên yn ogystal â'ch pwysedd gwaed. Felly, os ydych chi'n mwynhau llofruddiaeth gyda mymryn o hiwmor, edrychwch ar restr fer Gwobr Last Laugh.

Gall diwedd y tymor criced ond olygu diflastod i Blotto, nes iddo gael gwahoddiad i fatio yn erbyn tîm criced Hollywood yn yr Unol Daleithiau heulog, lle na fydd y glaw byth yn stopio'r chwarae. Felly, mae'r antur ddiweddaraf ar fin dechrau i Blotto a'i chwaer ddawnus, Twinks. Ar ôl cyrraedd, maent yn cael eu gwahodd i barti llon a llachar yn Hollywood ond mae'r hwyliau'n newid yn sydyn pan ddaw'r newyddion fod yr anhygoel Mimsy La Pim, cyn gariad Blotto - wedi cael ei herwgipio.

Christopher Fowler - Bryant & May – Wild Chamber 
Mewn cilgant unigryw yn Llundain, mae menyw yn cerdded ei chi - ond mae hi'n cael ei gwylio. Pan gaiff ei darganfod yn farw, gelwir ar yr Uned Troseddau Arbennig i ymchwilio i'r achos. Pam? Oherwydd bod y ffordd y buodd hi farw yn anghyffredin, mae'r gerddi wedi'u cloi, nid oedd gan y llofrudd ffordd i mewn nac allan, ac mae'r ci wedi diflannu. Felly achos nodweddiadol i Bryant a May. Ond nid sut a pham yw'r unig ddirgelwch sy'n gysylltiedig â'r ferch farw - mae yna ŵr ar goll a nani coll i ystyried hefyd.


Mick Herron - Spook Street 
Mae 20 mlynedd ers i David Cartwright ymddeol ond mae'n dal i fod yn gallu gweld y carlamiaid ar ei drywydd. Mae cyfrinachau ymbelydrol a busnes anorffenedig, oll yn rhan o fywyd ar Spook Street: mae'n gwybod eisoes yna gyfrifo ond nid yw mor ddiamddiffyn ag y gallent feddwl. Bu Jackson Lamb yn gweithio gyda Cartwright yn y gorffennol. Mae'n gwybod yn well na'r mwyafrif, nad yw hwn yn ddyn bach bregus.

Mae Mumbai yn ffynnu ar rwysg eithafol a chymeriadau sy'n fwy na bywyd. Ond hyd yn oed yn ninas breuddwydion, nid oes sicrwydd y bydd diweddglo hapus. Mae Vikram Verma, plesergarwr a seren sy'n dod i'r amlwg wedi diflannu, gan adael ei ffilm ddiweddaraf mewn perygl. Wedi'i hurio gan fam Verma, draig o ddynes, i ddod o hyd iddo, mae'r Arolygydd Chopra a'i bartner, babi eliffant, Ganesha, yn cychwyn ar daith yn ddwfn i ddiwydiant ffilm fwyaf ysblennydd y byd.

Khurrum Rahman - East of Hounslow 
Mae Javid yn werthwr cyffuriau sy'n byw yng Ngorllewin Llundain. Mae'n mynd i'r mosg ar ddydd Gwener, ac mae newydd brynu ei ddifyrrwch pennaf - BMW. Mae'n byw gyda'i fam, ac mae bywyd yn ymddangos yn felys. Ond mae ei fyd ar fin troi wyneb i waered am fod MI5 wedi bod yn ei wylio, ac maen nhw o'r farn mai dyna'r dyn sydd ei angen arnynt ar gyfer tasg lled anodd. Un peth sy'n sicr, ni fydd ei fywyd byth yr un fath eto.



C.J. Skuse - Sweet Pea
Rhiannon yw eich merch drws nesaf, gyffredin ond mae ganddi restr ladd. O'r dyn ar y ddesg dalu yn Lidl sydd bob amser yn cam-drafod ei hafalau, a'r gyrrwr sy'n torri ar ei thraws ar ei ffordd i'r gwaith, i'r bobl fu'n gyfrifol am ei gwneud yn bwy ydy hi heddiw. Mae Rhiannon yn barod i ddial oherwydd y gall y ferch y mae pawb yn ei hesgeuluso, wneud beth bynnag y mynna.


Antti Tuomainen - The Man Who Died
Hefyd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Petrona, gweler yr hyn a bostiwyd yr wythnos ddiwethaf, 25/05/2018.

L.C. Tyler - Herring in the Smoke
Mae Roger Norton Vane wedi marw. 20 mlynedd yn ôl, aeth am dro yn y jyngl yng Ngwlad Thai gyda'i bartner, Tim MacDonald, ac ni ddychwelodd byth. Ar ôl blynyddoedd o ddyfalu gwyllt, chwilio, heb ateb a sawl cipolwg na gafodd erioed eu cadarnhau, o'r diwedd mae ei farwolaeth yn cael ei gydnabod yn swyddogol a bydd rhywun yn etifeddu ei gyfoeth cronedig. Ond yn ei wasanaeth coffa, mae dyn yn torri ar draws y gwasanaeth, yn honni mai ef yw Vane. Mae'n sefydlu ei hun yn ei hen fflat, gan daflu Tim MacDonald allan, a chychwyn ar y dasg o brofi fod ganddo hawl i arian Vane.