Friday, 8 June 2018

The Zoe Ball Book Club




A new TV Book Club is about to hit our screens. It will form a segment of the “Zoe Ball on Sunday” show and launch 17th June at 8.30am on ITV.

Over 10 weeks 10 books will be read and discussed by Zoe and an assortment of celebrities. The reading list will include debut novels, such as Ruth Jones’ “Never Greener”; memoirs; love stories; historical crime and chilling ghost stories.

If you want to get ahead of the game and read the books before the shows air, here are the first 3 titles.

Book 1 - 17 June
Adam Kay – This is Going to Hurt: secret diaries of a junior doctor
Adam Kay was a junior doctor from 2004 until 2010, before a devastating experience on a ward caused him to reconsider his future. He kept a diary throughout his training, and 'This is Going to Hurt' intersperses tales from the front line of the NHS with reflections on the current crisis. The result is a first-hand account of life as a junior doctor in all its joy, pain, sacrifice and maddening bureaucracy, and a love letter to those who might at any moment be holding our lives in their hands.

Book 2 – 24 June
Rowan Colman – The Summer of Impossible Things
If you could change the past, would you? 30 years ago, something terrible happened to Luna's mother. Something she's only prepared to reveal after her death. Now Luna and her sister have a chance to go back to their mother's birthplace and settle her affairs. But in Brooklyn they find more questions than answers, until something impossible, magical, happens to Luna, and she meets her mother as a young woman back in the summer of 1977. At first Luna thinks she's going crazy, but if she can truly travel back in time, she can change things. But in doing anything, everything to save her mother's life, will she have to sacrifice her own?

Book 3 – 1 July
Ruth Jones – Never Greener
Ruth Jones makes her debut with a witty and wise story of life's second chances and the dangers of taking them. With her trademark warmth, humanity and heart, she shows us the dangers of looking for something better, and forgetting that the best might not be in our past or yet to come - but right where we are now.

All the books are available to borrow or reserve from Torfaen Libraries.








Clwb Llyfrau Zoe Ball

Mae Clwb Llyfrau newydd ar y teledu yn barod i ymddangos ar ein sgrin deledu. Bydd yn rhan o’r sioe “Zoe Ball on Sunday” fydd yn lansio ar 17eg o Fehefin am 8.30am ar ITV.

Dros gyfnod o 10 wythnos, bydd 10 o lyfrau’n cael eu darllen a’u trafod gan Zoe ac amrywiaeth o sêr. Bydd y rhestr darllen yn cynnwys nofelau cyntaf, fel “Never Greener” gan Ruth Jones; cofiannau; straeon caru; troseddau hanesyddol a straeon ysbryd iasol.

Os ydych am fod un cam ymlaen a darllen y llyfrau cyn i’r sioe gael ei darlledu, dyma’r 3 teitl cyntaf.

Llyfr 1 - 17 Mehefin
Adam Kay – This is Going to Hurt: secret diaries of a junior doctor
Roedd Adam Kay yn feddyg iau rhwng 2004 a 2010, cyn i brofiad dinistriol ar ward achosi iddo ail-ystyried ei ddyfodol. Fe wnaeth gadw dyddiadur drwy gydol ei hyfforddiant, ac mae ‘This is Going to Hurt’ yn rhannu straeon o reng flaen y GIG gan fyfyrio ar yr argyfwng cyfredol. Y canlyniad yw cofnod uniongyrchol o fywyd fel meddyg iau yn ei holl lawenydd, poen, aberth a biwrocratiaeth wallgof, a llythyr caru i’r rhai hynny a allai fod ar unrhyw adeg yn dal ein bywydau yn eu dwylo.

Llyfr 2 – 24 Mehefin
Rowan Colman – The Summer of Impossible Things
Pe byddech chi’n gallu newid y gorffennol, fyddech chi? 30 mlynedd yn ôl, digwyddodd rhywbeth ofnadwy i fam Luna. Rhywbeth na wnaiff hi ddatgelu nes ar ôl iddi farw. Nawr mae Luna a’i chwaer yn cael cyfle i fynd yn ôl i fan geni eu mam a setlo ei materion. Ond yn Brooklyn maen nhw’n dod o hyd i fwy o gwestiynau nag atebion, nes i rywbeth amhosibl, hudol, ddigwydd i Luna, ac mae’n cyfarfod ei mam yn ferch ifanc yn ôl yn haf 1977. I ddechrau, mae Luna’n credu ei bod hi’n mynd o’i chof, ond os yw hi’n gallu teithio’n ôl mewn amser, gallai newid pethau. Ond i wneud rhywbeth, popeth i achub bywyd ei mam, a fydd rhaid iddi aberthu ei bywyd ei hun?

Llyfr 3 – 1 Gorffennaf
Ruth Jones – Never Greener
Dyma nofel gyntaf Ruth Jones, nofel gyda stori ddoeth a ffraeth am ail gyfleoedd bywyd a’r peryglon o’u cymryd nhw. Gyda’i chynhesrwydd, dynoliaeth a chalon nodweddiadol, mae’n dangos y peryglon o chwilio am rywbeth gwell, ac anghofio efallai nad yn y gorffennol na’r dyfodol y mae’r gorau – ond yn union yn y man rydyn ni nawr.

Mae’r llyfrau hyn i gyd ar gael i’w benthyg neu i’w cadw o Lyfrgelloedd Torfaen.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.