Monday 17 December 2018

The winner of our library competition...




£25 Book Token competition

Thank you to everyone who entered our recent 

competition to tell us what you love about our libraries.

It was an extremely difficult task to choose a winner as there were so many fantastic entries.

Apologies if you did not win this time but we will be making a display of everyone’s comments in the New Year.

And the winner is…

Mrs Cunitia Worthington (Cwmbran)


Enjoy reading the winning entry below

 


Cwmbran Library


What can I say about the wonderful library in Cwmbran?

I can say that it means a lifeline to me. I have great pleasure in not only reading the latest thrillers but also listening to talking books most afternoons. I can’t get down to the bottom shelf so help is always available with the suggestions from the kind staff.
One Saturday I was stranded upstairs when the ancient lift once again broke down. It took 3 library staff to get me and my walker to the ground floor, but it was it was no trouble and caused a laugh instead of making me feel a nuisance.
My greatest latest achievement has been attending the Internet lessons, where the tutors have been so patient to me, a virtual beginner, to a stage where I have my own iPad and have done most of my Christmas shopping online!
BorrowBox too has been another thing I have learned about and have enjoyed.
I think the library staff are wonderful people. Nothing is too much trouble, so long may it continue.
Thank you everyone, you are utterly brilliant.
I should say I am 91 ½ years old, so teaching me the internet was nothing short of a miracle.

Cunitia (Nita) Worthington (Mrs)
07*********


Cystadleuaeth Tocyn Llyfrau £25

Diolch i bawb gystadlodd yn ein cystadleuaeth ddiweddar i ddweud wrthym ni beth sydd wrth eich bodd yn ein llyfrgelloedd.
Roedd yn dasg anodd iawn dewis enillydd gan fod yna gymaint o geisiadau gwych.
Mae’n ddrwg gennym ni os na enilloch chi’r tro yma ond bydd arddangosfa o sylwadau pawb yn y Flwyddyn Newydd.

A’r enillydd yw…

Mrs Cunitia Worthington (Cwmbrân)

Mwynhewch ddarllen yr ymgais buddugol isod



Llyfrgell Cwmbrân
Beth allaf ei ddweud am y llyfrgell hyfryd yng Nghwmbrân?
Gallaf ddweud ei fod yn hanfod i mi. Mae darllen y llyfrau cyffro diweddaraf a gwrando ar y llyfrau llafar bron i bob prynhawn yn rhoi'r pleser mwyaf i mi. Ni allaf gyrraedd y silff waelod ond mae help ar gael bob amser, gydag awgrymiadau gan y staff caredig.
Un dydd Sadwrn, nid oeddwn yn medru dod i lawr o'r llawr uchaf am fod yr hen lifft wedi torri eto. Ond fe wnaeth 3 aelod o staff y llyfrgell fy helpu i a fy ffrâm gerdded i gyrraedd y llawr gwaelod, ond nid oedd yn ormod o drafferth i'r un ohonynt, gyda phawb yn chwerthin yn hytrach na gwneud i mi deimlo'n niwsans.
Fy nghyflawniad diweddaraf, a'r mwyaf hyd yma oedd mynychu gwersi Rhyngrwyd, lle y bu'r tiwtoriaid mor amyneddgar, a minnau'n ddechreuwr pur yn y byd rhithwir sydd ohono, ond sydd, erbyn hyn wedi cyrraedd y man lle mae gennyf fy iPad fy hun ac wedi gwneud y rhan fwyaf o fy siopa Nadolig ar-lein!
BorrowBox yw’r peth arall yr wyf wedi dysgu amdano a’i fwynhau.
Rwy’n meddwl bod staff y llyfrgell yn bobl ragorol. Nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth, felly hir oes i’r gwasanaeth.
Diolch i chi gyd, rydych yn hollol wych.
Dylwn i ddweud fy mod yn 91 ½ mlwydd oed, felly roedd fy nysgu i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddim byd llai na gwyrth.

Cunitia (Nita) Worthington (Mrs)
07*********


Monday 3 December 2018

International Games Week 2018


4-10 November saw this year’s International Games Week.  Torfaen Libraries joined in the fun hosting two Lego Clubs and a drop in board game event.

Events such as these are extremely important to us as they allow children and young adults the opportunity to socialise, communicate and problem solve in a safe, encouraging environment as well as having fun!

Our Lego Clubs run fortnightly in Pontypool and Cwmbran (please call the libraries for more information) and we hope to run more gaming events soon.

We’ve picked some titles below that encapsulate the joy of playing games, all available at Torfaen Libraries:

Brick Wheels by Warren Elsmore - Using LEGO® bricks, artist Warren Elsmore and friends create stunning transport scenes across the four categories of road, rail, water and air. From the steam locomotive to the high-speed train, and the penny farthing bicycle to the stylish scooter, these projects will inspire and inform readers of all ages while providing additional trivia about transport.

Project Code – Create your own story by Kevin Wood - Project Code is a great series for young coders already familiar with Scratch, who are ready to take the next step. With a series of fun projects to master, each book allows readers to explore, create and learn coding fundamentals as they go along.

Labyrinth by Theo Guignard - The biggest maze book to hit the shelves! Explore worlds made of plants, giant skyscrapers, wild habitats, and futuristic cities, in this book that asks you to trace your way through 14 magical mazes. With things to spot along the way, each maze grows in complexity with every turn of the page.

LEGO DC Super Heroes Ultimate Quiz Book - Find out how much of a superfan you are with mind-boggling questions, fun picture rounds, and bonus "genius questions". Become a quiz master and test your friends and family with hours of entertaining LEGO DC Super Heroes trivia.



Roedd Wythnos Ryngwladol Gemau eleni o 4-10 Tachwedd. Ymunodd Llyfrgelloedd Torfaen yn yr hwyl gan gynnal dau Glwb Lego a digwyddiad gemau bwrdd.

Mae digwyddiadau fel hyn yn arbennig o bwysig i ni gan eu bod yn rhoi cyfle i blant ac oedolion ifanc gymdeithasu, cyfathrebu a datrys problemau mewn awyrgylch diogel, annogol yn ogystal â chael hwyl!

Mae ein Clybiau Lego yn digwydd bob pythefnos ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân (cysylltwch â’r llyfrgelloedd am fwy o wybodaeth) ac rydym yn gobeithio trefnu mwy o ddigwyddiadau gemau cyn bo hir.

Rydym wedi dewis teitlau isod sy’n crynhoi pleser chwarae gemau, ac mae pob un ar gael yn Llyfrgelloedd Torfaen:

Brick Wheels gan Warren Elsmore – Gan ddefnyddio briciau LEGO®, mae’r artist Warren Elsmore a’i ffrindiau’n creu delweddau hynod o drafnidiaeth yng nghategorïau ffyrdd, rheilffyrdd, dŵr a’r awyr. O’r trên stêm i’r trên cyflymder uchel, ac o’r beic peni-ffardding i’r sgwter crand, bydd y prosiectau yma’n ysbrydoli ac yn addysgu darllenwyr o bob oed ac ar yr un pryd yn rhoi ffeithiau ychwanegol ynglŷn â thrafnidiaeth.




Project Code - Create your own story gan Kevin Wood - Mae Project Code yn gyfres wych i godyddion ifanc sydd eisoes yn gyfarwydd â Scratch, ac sy’n barod i gymryd y cam nesaf. Gyda chyfres o brosiectau llawn hwyl i’w meistroli, mae bob llyfr yn rhoi cyfle i ddarllenwyr chwilota, creu a dysgu hanfodion codio wrth iddyn nhw fynd ymlaen.

Labyrinth gan Theo Guignard  Y llyfr mwyaf am ddrysleoedd i gyrraedd y silffoedd! Dewch i chwilio ymhlith bydoedd o blanhigion, nendyrau anferth, cynefinoedd gwyllt a dinasoedd y dyfodol, yn y llyfr yma sy’n gofyn i chi ddilyn eich ffordd trwy 14 o ddrysleoedd hudol. Gyda phethau i’w gweld ar hyd y ffordd, mae pob drysle’n mynd yn fwy cymhleth gyda phob tudalen.
LEGO DC Super Heroes Ultimate Quiz Book - Dewch i weld faint o edmygwr ydych chi gyda chwestiynau di-ri, rowndiau gyda lluniau a “chwestiynau’r athrylith” bonws. Cewch fod yn gwis feistr a holi’ch ffrindiau a’ch teulu gydag oriau o hwyl cwis LEGO DC Super Heroes.




Monday 19 November 2018

Desert Island Castaway - No. 10


Our Autumn Castaway is Sally Meredith, Customer Services Assistant based at Blaenavon World Heritage Centre & Library.



Favourite Books:
       
The Mayor of Casterbridge by Thomas Hardy




This is a book I first read at school for my English Literature O’ Level and fell in love with it.  It’s the only book I’ve read more than twice and you always find something new that you somehow missed last time.  The idea of “selling” your wife at a fayre belonged to an age I was fascinated with.

_______________________________________

       Tender is the Night by F Scott Fitzgerald




I read this book for either O Level or A Level (I can’t remember) but it was like no book I’d read before.  It was glamorous and intriguing and a long way away from my life in a little Valley town.

________________________________________________________________ 

 Rachel’s Holiday by Marian Keyes



I read this book in my late teens and Rachel’s hedonistic and chaotic life not only struck a chord with me, but made me laugh out loud!

__________________________________________________________________    

The Gruffalo by Julia Donaldson


Search Torfaen Library Catalogue


I have read this book to my children more times than I can remember.  I’ve got specific voices for the individual characters and when they were little this would capture their attention like no other book we read together.


Thank you very much Sally!

______________________________________________________________

Ar yr ynys yn Hydref mae Sally Meredith, Ynorthwy-Ydd Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Llyfrgell

Hoff Lyfrau:

The Mayor of Casterbridge gan Thomas Hardy



Dyma lyfr a ddarllenais gyntaf yn yr ysgol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg lefel ‘O’, a syrthio mewn cariad ag ef. Dyma’r unig lyfr rwyf wedi ei ddarllen fwy na dwywaith ac rydych bob amser yn cael hyd i rywbeth newydd gyda phob darlleniad. Roedd y syniad o “werthu” eich gwraig mewn ffair yn perthyn i oes roeddwn wedi fy hudo ganddi.

___________________________________________________

Tender is the Night gan F Scott Fitzgerald



Darllenais y llyfr hwn naill ai ar gyfer Lefel ‘O’ neu ‘A’ (ni fedraf gofio) ond roedd yn wahanol i bob llyfr roeddwn wedi ei ddarllen o’r blaen. Roedd yn gyfareddol ac yn bryfoclyd ac ymhell iawn o’m bywyd i mewn tref fach yn y Cymoedd.

_____________________________________________________

   Rachel’s Holiday gan Marian Keyes



Darllenais y llyfr hwn yn fy arddegau hwyr ac roedd bywyd hedonistaidd ac anniben Rachel nid yn unig yn canu cloch gyda mi, ond hefyd yn gwneud i mi chwerthin yn uchel!

_____________________________________________________    

The Gruffalo gan Julia Donaldson

 



Rwyf wedi darllen y llyfr hwn i ‘mhlant fwy o weithiau na fedraf gofio. Mae gennyf leisiau penodol ar gyfer y cymeriadau unigol a phan roeddynt yn ifanc byddai hwn yn dal eu sylw yn wahanol i unrhyw lyfr arall roeddem yn ei ddarllen gyda’n gilydd.



 Dioch yn fawr iawn i Sally! 






Monday 5 November 2018

The Man Booker Prize 2018



The Man Booker Prize is open to writers of any nationality writing in English and published in the UK and Ireland.  The shortlist for this year’s prize covered a wide range of subjects, from an 11 year-old slave escaping a Barbados sugar plantation, to a D-Day veteran living with post-traumatic stress disorder.

The winner, Anna Burns, was announced earlier this month and can be found below alongside some other riveting reads from the shortlist:


Milkman by Anna Burns - In this unnamed city, to be interesting is dangerous. Middle sister is busy attempting to keep her mother from discovering her maybe-boyfriend and to keep everyone in the dark about her encounter with Milkman. But when first brother-in-law sniffs out her struggle, and rumours start to swell, middle sister becomes 'interesting'. To be interesting is to be noticed and to be noticed is dangerous

The Mars Room by Rachel Kushner - Romy Hall is at the start of two consecutive life sentences, plus six years, at Stanville Women’s Correctional Facility. Outside is the world from which she has been permanently severed: the San Francisco of her youth, changed almost beyond recognition. And her seven-year-old son, Jackson, now in the care of Romy’s estranged mother.
Romy sees the future stretch out ahead of her in a long, unwavering line – until news from outside brings a ferocious urgency to her existence, challenging her to escape her own destiny.

The Long Take by Robin Robertson - Walker is a D-Day veteran with post-traumatic stress disorder; he can’t return home to rural Nova Scotia, and looks instead to the city for freedom, anonymity and repair.
While Walker tries to piece his life together, America is beginning to come apart: deeply paranoid, doubting its own certainties, riven by social and racial division, spiralling corruption and the collapse of the inner cities. The Long Take is about a good man, brutalised by war, haunted by violence and apparently doomed to return to it – yet resolved to find kindness again, in the world and in himself.


Mae Gwobr y Man Booker yn agored i awduron o unrhyw genedl sy’n ysgrifennu yn Saesneg ac a gyhoeddir yn y DU ac Iwerddon. Roedd y rhestr fer ar gyfer gwobr eleni yn cynnwys amrediad eang o bynciau, o gaethwas 11 oed yn dianc o blanhigfa siwgr, i gyn-filwr D-Day sy’n byw gydag anhwylder straen wedi trawma.


Cyhoeddwyd yr awdur buddugol, Anna Burns, yn gynharach y mis hwn ac mae’r manylion i’w gweld isod, ynghyd â rhai eraill o’r rhestr fer:

Milkman gan Anna Burns – Yn y ddinas ddi-enw hon, mae bod yn ddiddorol yn beryglus. Mae’r chwaer ganol yn ceisio cadw ei mam rhag darganfod ei chariad-efallai a chadw pawb yn y tywyllwch ynglŷn â’i phrofiad gyda Milkman. Ond pan mae ei brawd-yng-nghyfraith yn sylwi ar ei brwydr, ac mae’r straen yn dechrau hel, mae’r chwaer ganol yn dod yn ‘ddiddorol’. Mae bod yn ddiddorol yn golygu bod pobl yn sylwi arnoch ac mae hynny’n beth peryglus.


The Mars Room gan Rachel Kushner - Mae Romy Hall yn dechrau dwy ddedfryd cyfnod bywyd, a chwe blynedd, yng Ngharchar Merched Stanville. Y tu allan mae’r byd y mae wedi ei wahanu oddi wrtho am byth: San Francisco ei hieuenctid, sydd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth bron. A’i mab saith oed, Jackson, nawr yng ngofal mam Romy, sydd bellach wedi ymddieithrio oddi wrthi.
Mae Romy’n gweld y dyfodol o’i blaen mewn llinell hir ddi-dor - nes mae newyddion o’r tu allan yn dod â thaerineb ffyrnig i’w bodolaeth, gan ei herio i ddianc rhag ei thynged.

The Long Take gan Robin Robertson – Mae Walker yn gyn-filwr D-Day gydag anhwylder straen wedi trawma; ni fedr ddychwelyd adref i Nova Scotia wledig, ac yn hytrach mae’n edrych i gyfeiriad y ddinas i gael rhyddid, anhysbysrwydd ac i fendio.

Wrth i Walker geisio rhoi ei fywyd at ei gilydd, mae America yn dechrau chwalu; mae’n wlad baranoiaidd, yn amau ei phendantrwydd, wedi ei rhwygo gan ymraniad cymdeithasol a hiliol, llygredd cynyddol a chwalfa canol y dinasoedd. Mae The Long Take yn stori am ddyn da, wedi ei niweidio gan ryfel, gyda thrais yn ei aflonyddu ac mae’n ymddangos ei fod am ddychwelyd iddo – ac eto mae’n benderfynol o ddarganfod caredigrwydd eto, yn y byd ac ynddo’i hun.

Monday 22 October 2018

Dementia Friendly Libraries in Torfaen



Dementia Friendly Libraries in Blaenavon, Cwmbran & Pontypool




Torfaen Library & Information Service is the first Dementia Friendly Library Service in Wales. We are constantly looking to improve our services and enhance our resources for the benefit of those affected by Dementia including family, friends and carers.  Two recent additions are:


Reading Well for Dementia Book Collection
This collection is available to borrow from all Welsh public libraries and supports the Dementia Action Plan for Wales.  Titles include information and advice for people affected by dementia, as well as fiction, memoir and photographic books used in reminiscence therapy.  These and supporting materials will be available in both English and Welsh languages.

Memory Bags for loan

These bags are designed for one to one use with a person affected by dementia. The items contained in the bags can be used to stimulate conversation and aid reminiscence. Items include films, music, photographs, old adverts, poems and aromas. These have been researched and compiled by Torfaen Libraries, they are free to borrow and loaned for 3 weeks.
These have been researched and compiled by Torfaen Libraries and are available to borrow for free at  our three library branches

For information about any of the above or our Health & Wellbeing services in Torfaen Libraries please speak to any member of staff or contact
**************************************************

Dementia-Gyfeillgar LLyfrgelloed y Blaenafon, Cwmbran & Pont-y-pwl

 


Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Torfaen yw’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd Dementia-Gyfeillgar cyntaf yng Nghymru. Rydym bob amser yn ceisio gwella’n gwasanaethau a chynyddu’n hadnoddau er budd y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan Dementia gan gynnwys teulu, ffrindiau a gofalwyr. Ymhlith ein hychwanegiadau diweddar mae


Casgliad Darllen yn Dda i Dementia

Mae’r casgliad hwn ar gael i’w fenthyg o bob llyfrgell
gyhoeddus yng Nghymru ac mae’n cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia.  Mae’r llyfrau’n cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n cael eu heffeithio gan dementia, yn ogystal â ffuglen, cofiannau a llyfrau ffotograffiaeth sy’n cael eu defnyddio fel therapi cof.  Bydd y rhain a’r deunydd cefnogol ar gael yn Saesneg a Chymraeg

Sachau’r Cof ar Fenthyg 
Mae’r sachau yma i’w defnyddio mewn ffordd un wrth
un gyda pherson sy’n cael eu heffeithio gan dementia. Mae modd defnyddio’r eitemau yn y sachau i sbarduno sgwrs a phrocio’r cof. Mae eitemau’n cynnwys ffilmiau, cerddoriaeth, lluniau, hen hysbysiadau, cerddi ac arogleuon.  Mae Llyfrgelloedd Torfaen wedi ymchwilio i a chasglu’r rhain, maen nhw ar gael i’w benthyg am ddim am 3 wythnos
Mae Llyfrgelloedd Torfaen wedi ymchwilio i a chasglu’r rhain, maen nhw ar gael i’w benthyg am ddim yn ein tair llyfrgell

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r uchod neu’n gwasanaethau Iechyd a Lles yn Llyfrgelloedd Torfaen, mynnwch sgwrs gydag aelod o staff neu cysylltwch â Norah Williams  Norah.williams@torfaen.gov.uk

Dementia Friends
The Reading Agency




Friday 28 September 2018

Exploring from the comfort of your own home


BorrowBox, our free download service for ebooks and audiobooks, has a range of genres to choose from when selecting your next read, whether it’s fiction or non-fiction.  Why not try a title from the travel writing on offer?  It might bring back memories of your own holidays or inspire your next adventures!

I Never Knew That About Wales by Christopher Winn - A spellbinding journey around Wales.  Packed full of legends, firsts, birthplaces, inventions and adventures, the book visits the thirteen traditional Welsh counties and unearths the hidden gems that they each hold. Discover where history and legends happened; where people, ideas and inventions began; where dreams took flight; where famous figures were born and now rest.



Eat, Sleep, Cycle by Anna Hughes - For Anna, a cycling enthusiast, the decision to ride 4,000 miles solo around the coast of the UK wasn’t that hard. It seemed a beautifully simple idea. But after epic highs, incredible lows, unforgettable scenery and unpronounceable place names – as well as a hearty battle with some good old British weather – her simple idea turns into a compelling journey of self-discovery.



Narrowboat Nomads by Steve Haywood - Austerity might be getting everyone else down, but Steve is waving his worries goodbye on another of his light-hearted trips around the picturesque English waterways. This time he’s cruising with his long-suffering wife, Em, who’s given up work and wants her share of easy living too. They’ve rented out their home for the ups and downs of a life afloat, and there’s no going back…



Pier Review by Jon Bounds and Danny Smith - Before the seaside of their youth disappears forever, two friends from the landlocked Midlands embark on a peculiar journey to see all the surviving pleasure piers in England and Wales. With a clapped-out car and not enough cash, Jon and Danny recruit Midge, a man they barely know, to be their driver, even though he has to be back in a fortnight to sign on... A nostalgic look at Britishness at the beach, amusement in the arcades and friendship on the road.





Mae gan BorrowBox, ein gwasanaeth lawrlwytho am ddim ar gyfer e-Lyfrau a llyfrau sain, amrywiol genres i ddewis rhyngddynt ar gyfer eich llyfr nesaf, boed yn ffuglen neu’n ffeithiol. Pam na rowch gynnig ar y llyfrau teithio sydd ar gael? Efallai daw ag atgofion yn ôl o’ch gwyliau neu ysbrydoli eich antur nesaf!

I Never Knew That About Wales gan Christopher Winn – Taith wefreiddiol o gwmpas Cymru. Yn llawn chwedlau, mannau geni, dyfeisiadau ac anturiaethau, mae’r llyfr yn ymweld â thair ar ddeg o siroedd traddodiadol Cymru ac yn datgelu’r gemau cudd ym mhob un. Byddwch yn dysgu lle digwyddodd hanes a chwedlau; lle dechreuodd pobl, syniadau a dyfeisiadau; lle cychwynnodd breuddwydion; lle ganwyd pobl enwog a lle maent yn gorffwys nawr.

Eat, Sleep, Cycle gan Anna Hughes – I Anna, beiciwr brwd, nid oedd y penderfyniad i feicio ar ei phen ei hun o amgylch arfordir y DU yn un anodd. Ymddangosai’n syniad syml, hyfryd. Ond ar ôl y mân a’r mawr, golygfeydd anhygoel ac enwau lleoedd anodd eu hynganu – ynghyd â brwydr go iawn gyda thywydd Prydain – mae ei syniad syml yn troi’n daith rymus o hunan-ddarganfod.

Narrowboat Nomads gan Steve Haywood - Efallai bod llymder yn gwneud pawb arall yn isel, ond mae Steve yn ffarwelio â hyn wrth fynd ar un arall o’i deithiau ar ddyfrffyrdd hyfryd Prydain. Y tro hwn, mae’n teithio gyda’i wraig, Em, sydd wedi rhoi’r gorau i’w gwaith ac eisiau ei chyfran hithau o’r bywyd hawdd. Maent wedi rhentu eu cartref a’i gyfnewid am fywyd ar y dŵr, ac nid oes troi’n ôl …
Pier Review gan Jon Bounds a Danny Smith – Cyn i lan y môr eu hieuenctid ddiflannu am byth, mae dau gyfaill o ganolbarth Lloegr yn mynd ar daith ryfedd i weld pob pier pleser sydd ar ôl yng Nghymru a Lloegr. Gyda hen gar a dim digon o arian, mae Jon a Danny yn recriwtio Midge, dyn maent yn ei brin adnabod, i fod yn yrrwr iddynt, er bod yn rhaid iddo fod yn ôl mewn pythefnos i roi ei enw yn y lle dôl ... Cipolwg hiraethus ar Brydeindod ar y traeth, difyrrwch yn yr arcêd a chyfeillgarwch ar y ffordd.