Monday, 5 November 2018

The Man Booker Prize 2018



The Man Booker Prize is open to writers of any nationality writing in English and published in the UK and Ireland.  The shortlist for this year’s prize covered a wide range of subjects, from an 11 year-old slave escaping a Barbados sugar plantation, to a D-Day veteran living with post-traumatic stress disorder.

The winner, Anna Burns, was announced earlier this month and can be found below alongside some other riveting reads from the shortlist:


Milkman by Anna Burns - In this unnamed city, to be interesting is dangerous. Middle sister is busy attempting to keep her mother from discovering her maybe-boyfriend and to keep everyone in the dark about her encounter with Milkman. But when first brother-in-law sniffs out her struggle, and rumours start to swell, middle sister becomes 'interesting'. To be interesting is to be noticed and to be noticed is dangerous

The Mars Room by Rachel Kushner - Romy Hall is at the start of two consecutive life sentences, plus six years, at Stanville Women’s Correctional Facility. Outside is the world from which she has been permanently severed: the San Francisco of her youth, changed almost beyond recognition. And her seven-year-old son, Jackson, now in the care of Romy’s estranged mother.
Romy sees the future stretch out ahead of her in a long, unwavering line – until news from outside brings a ferocious urgency to her existence, challenging her to escape her own destiny.

The Long Take by Robin Robertson - Walker is a D-Day veteran with post-traumatic stress disorder; he can’t return home to rural Nova Scotia, and looks instead to the city for freedom, anonymity and repair.
While Walker tries to piece his life together, America is beginning to come apart: deeply paranoid, doubting its own certainties, riven by social and racial division, spiralling corruption and the collapse of the inner cities. The Long Take is about a good man, brutalised by war, haunted by violence and apparently doomed to return to it – yet resolved to find kindness again, in the world and in himself.


Mae Gwobr y Man Booker yn agored i awduron o unrhyw genedl sy’n ysgrifennu yn Saesneg ac a gyhoeddir yn y DU ac Iwerddon. Roedd y rhestr fer ar gyfer gwobr eleni yn cynnwys amrediad eang o bynciau, o gaethwas 11 oed yn dianc o blanhigfa siwgr, i gyn-filwr D-Day sy’n byw gydag anhwylder straen wedi trawma.


Cyhoeddwyd yr awdur buddugol, Anna Burns, yn gynharach y mis hwn ac mae’r manylion i’w gweld isod, ynghyd â rhai eraill o’r rhestr fer:

Milkman gan Anna Burns – Yn y ddinas ddi-enw hon, mae bod yn ddiddorol yn beryglus. Mae’r chwaer ganol yn ceisio cadw ei mam rhag darganfod ei chariad-efallai a chadw pawb yn y tywyllwch ynglŷn â’i phrofiad gyda Milkman. Ond pan mae ei brawd-yng-nghyfraith yn sylwi ar ei brwydr, ac mae’r straen yn dechrau hel, mae’r chwaer ganol yn dod yn ‘ddiddorol’. Mae bod yn ddiddorol yn golygu bod pobl yn sylwi arnoch ac mae hynny’n beth peryglus.


The Mars Room gan Rachel Kushner - Mae Romy Hall yn dechrau dwy ddedfryd cyfnod bywyd, a chwe blynedd, yng Ngharchar Merched Stanville. Y tu allan mae’r byd y mae wedi ei wahanu oddi wrtho am byth: San Francisco ei hieuenctid, sydd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth bron. A’i mab saith oed, Jackson, nawr yng ngofal mam Romy, sydd bellach wedi ymddieithrio oddi wrthi.
Mae Romy’n gweld y dyfodol o’i blaen mewn llinell hir ddi-dor - nes mae newyddion o’r tu allan yn dod â thaerineb ffyrnig i’w bodolaeth, gan ei herio i ddianc rhag ei thynged.

The Long Take gan Robin Robertson – Mae Walker yn gyn-filwr D-Day gydag anhwylder straen wedi trawma; ni fedr ddychwelyd adref i Nova Scotia wledig, ac yn hytrach mae’n edrych i gyfeiriad y ddinas i gael rhyddid, anhysbysrwydd ac i fendio.

Wrth i Walker geisio rhoi ei fywyd at ei gilydd, mae America yn dechrau chwalu; mae’n wlad baranoiaidd, yn amau ei phendantrwydd, wedi ei rhwygo gan ymraniad cymdeithasol a hiliol, llygredd cynyddol a chwalfa canol y dinasoedd. Mae The Long Take yn stori am ddyn da, wedi ei niweidio gan ryfel, gyda thrais yn ei aflonyddu ac mae’n ymddangos ei fod am ddychwelyd iddo – ac eto mae’n benderfynol o ddarganfod caredigrwydd eto, yn y byd ac ynddo’i hun.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.