Our Autumn Castaway is Sally Meredith, Customer Services Assistant based at Blaenavon World Heritage Centre & Library.
Favourite Books:
This is a book I first read at school for my English
Literature O’ Level and fell in love with it. It’s the only book I’ve
read more than twice and you always find something new that you somehow missed
last time. The idea of “selling” your wife at a fayre belonged to an age
I was fascinated with._______________________________________
I read this book for either O Level or A Level (I can’t remember) but it was like no book I’d read before. It was glamorous and intriguing and a long way away from my life in a little Valley town.
________________________________________________________________
__________________________________________________________________
Thank you very much Sally!
______________________________________________________________
Ar yr ynys yn Hydref mae Sally Meredith, Ynorthwy-Ydd Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Llyfrgell
Hoff Lyfrau:
The Mayor of Casterbridge gan Thomas Hardy
Dyma lyfr a
ddarllenais gyntaf yn yr ysgol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg lefel ‘O’, a
syrthio mewn cariad ag ef. Dyma’r unig lyfr rwyf wedi ei ddarllen fwy na
dwywaith ac rydych bob amser yn cael hyd i rywbeth newydd gyda phob darlleniad.
Roedd y syniad o “werthu” eich gwraig mewn ffair yn perthyn i oes roeddwn wedi
fy hudo ganddi.
___________________________________________________
Tender is the Night gan F Scott Fitzgerald
Darllenais y
llyfr hwn naill ai ar gyfer Lefel ‘O’ neu ‘A’ (ni fedraf gofio) ond roedd yn
wahanol i bob llyfr roeddwn wedi ei ddarllen o’r blaen. Roedd yn gyfareddol ac
yn bryfoclyd ac ymhell iawn o’m bywyd i mewn tref fach yn y Cymoedd.
_____________________________________________________
Rachel’s Holiday gan Marian Keyes
Darllenais y
llyfr hwn yn fy arddegau hwyr ac roedd bywyd hedonistaidd ac anniben Rachel nid
yn unig yn canu cloch gyda mi, ond hefyd yn gwneud i mi chwerthin yn uchel!
_____________________________________________________
The Gruffalo gan Julia Donaldson
Rwyf wedi
darllen y llyfr hwn i ‘mhlant fwy o weithiau na fedraf gofio. Mae gennyf
leisiau penodol ar gyfer y cymeriadau unigol a phan roeddynt yn ifanc byddai
hwn yn dal eu sylw yn wahanol i unrhyw lyfr arall roeddem yn ei ddarllen gyda’n
gilydd.
Dioch yn fawr iawn i Sally!
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.