Monday 17 December 2018

The winner of our library competition...




£25 Book Token competition

Thank you to everyone who entered our recent 

competition to tell us what you love about our libraries.

It was an extremely difficult task to choose a winner as there were so many fantastic entries.

Apologies if you did not win this time but we will be making a display of everyone’s comments in the New Year.

And the winner is…

Mrs Cunitia Worthington (Cwmbran)


Enjoy reading the winning entry below

 


Cwmbran Library


What can I say about the wonderful library in Cwmbran?

I can say that it means a lifeline to me. I have great pleasure in not only reading the latest thrillers but also listening to talking books most afternoons. I can’t get down to the bottom shelf so help is always available with the suggestions from the kind staff.
One Saturday I was stranded upstairs when the ancient lift once again broke down. It took 3 library staff to get me and my walker to the ground floor, but it was it was no trouble and caused a laugh instead of making me feel a nuisance.
My greatest latest achievement has been attending the Internet lessons, where the tutors have been so patient to me, a virtual beginner, to a stage where I have my own iPad and have done most of my Christmas shopping online!
BorrowBox too has been another thing I have learned about and have enjoyed.
I think the library staff are wonderful people. Nothing is too much trouble, so long may it continue.
Thank you everyone, you are utterly brilliant.
I should say I am 91 ½ years old, so teaching me the internet was nothing short of a miracle.

Cunitia (Nita) Worthington (Mrs)
07*********


Cystadleuaeth Tocyn Llyfrau £25

Diolch i bawb gystadlodd yn ein cystadleuaeth ddiweddar i ddweud wrthym ni beth sydd wrth eich bodd yn ein llyfrgelloedd.
Roedd yn dasg anodd iawn dewis enillydd gan fod yna gymaint o geisiadau gwych.
Mae’n ddrwg gennym ni os na enilloch chi’r tro yma ond bydd arddangosfa o sylwadau pawb yn y Flwyddyn Newydd.

A’r enillydd yw…

Mrs Cunitia Worthington (Cwmbrân)

Mwynhewch ddarllen yr ymgais buddugol isod



Llyfrgell Cwmbrân
Beth allaf ei ddweud am y llyfrgell hyfryd yng Nghwmbrân?
Gallaf ddweud ei fod yn hanfod i mi. Mae darllen y llyfrau cyffro diweddaraf a gwrando ar y llyfrau llafar bron i bob prynhawn yn rhoi'r pleser mwyaf i mi. Ni allaf gyrraedd y silff waelod ond mae help ar gael bob amser, gydag awgrymiadau gan y staff caredig.
Un dydd Sadwrn, nid oeddwn yn medru dod i lawr o'r llawr uchaf am fod yr hen lifft wedi torri eto. Ond fe wnaeth 3 aelod o staff y llyfrgell fy helpu i a fy ffrâm gerdded i gyrraedd y llawr gwaelod, ond nid oedd yn ormod o drafferth i'r un ohonynt, gyda phawb yn chwerthin yn hytrach na gwneud i mi deimlo'n niwsans.
Fy nghyflawniad diweddaraf, a'r mwyaf hyd yma oedd mynychu gwersi Rhyngrwyd, lle y bu'r tiwtoriaid mor amyneddgar, a minnau'n ddechreuwr pur yn y byd rhithwir sydd ohono, ond sydd, erbyn hyn wedi cyrraedd y man lle mae gennyf fy iPad fy hun ac wedi gwneud y rhan fwyaf o fy siopa Nadolig ar-lein!
BorrowBox yw’r peth arall yr wyf wedi dysgu amdano a’i fwynhau.
Rwy’n meddwl bod staff y llyfrgell yn bobl ragorol. Nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth, felly hir oes i’r gwasanaeth.
Diolch i chi gyd, rydych yn hollol wych.
Dylwn i ddweud fy mod yn 91 ½ mlwydd oed, felly roedd fy nysgu i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddim byd llai na gwyrth.

Cunitia (Nita) Worthington (Mrs)
07*********


Monday 3 December 2018

International Games Week 2018


4-10 November saw this year’s International Games Week.  Torfaen Libraries joined in the fun hosting two Lego Clubs and a drop in board game event.

Events such as these are extremely important to us as they allow children and young adults the opportunity to socialise, communicate and problem solve in a safe, encouraging environment as well as having fun!

Our Lego Clubs run fortnightly in Pontypool and Cwmbran (please call the libraries for more information) and we hope to run more gaming events soon.

We’ve picked some titles below that encapsulate the joy of playing games, all available at Torfaen Libraries:

Brick Wheels by Warren Elsmore - Using LEGO® bricks, artist Warren Elsmore and friends create stunning transport scenes across the four categories of road, rail, water and air. From the steam locomotive to the high-speed train, and the penny farthing bicycle to the stylish scooter, these projects will inspire and inform readers of all ages while providing additional trivia about transport.

Project Code – Create your own story by Kevin Wood - Project Code is a great series for young coders already familiar with Scratch, who are ready to take the next step. With a series of fun projects to master, each book allows readers to explore, create and learn coding fundamentals as they go along.

Labyrinth by Theo Guignard - The biggest maze book to hit the shelves! Explore worlds made of plants, giant skyscrapers, wild habitats, and futuristic cities, in this book that asks you to trace your way through 14 magical mazes. With things to spot along the way, each maze grows in complexity with every turn of the page.

LEGO DC Super Heroes Ultimate Quiz Book - Find out how much of a superfan you are with mind-boggling questions, fun picture rounds, and bonus "genius questions". Become a quiz master and test your friends and family with hours of entertaining LEGO DC Super Heroes trivia.



Roedd Wythnos Ryngwladol Gemau eleni o 4-10 Tachwedd. Ymunodd Llyfrgelloedd Torfaen yn yr hwyl gan gynnal dau Glwb Lego a digwyddiad gemau bwrdd.

Mae digwyddiadau fel hyn yn arbennig o bwysig i ni gan eu bod yn rhoi cyfle i blant ac oedolion ifanc gymdeithasu, cyfathrebu a datrys problemau mewn awyrgylch diogel, annogol yn ogystal â chael hwyl!

Mae ein Clybiau Lego yn digwydd bob pythefnos ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân (cysylltwch â’r llyfrgelloedd am fwy o wybodaeth) ac rydym yn gobeithio trefnu mwy o ddigwyddiadau gemau cyn bo hir.

Rydym wedi dewis teitlau isod sy’n crynhoi pleser chwarae gemau, ac mae pob un ar gael yn Llyfrgelloedd Torfaen:

Brick Wheels gan Warren Elsmore – Gan ddefnyddio briciau LEGO®, mae’r artist Warren Elsmore a’i ffrindiau’n creu delweddau hynod o drafnidiaeth yng nghategorïau ffyrdd, rheilffyrdd, dŵr a’r awyr. O’r trên stêm i’r trên cyflymder uchel, ac o’r beic peni-ffardding i’r sgwter crand, bydd y prosiectau yma’n ysbrydoli ac yn addysgu darllenwyr o bob oed ac ar yr un pryd yn rhoi ffeithiau ychwanegol ynglŷn â thrafnidiaeth.




Project Code - Create your own story gan Kevin Wood - Mae Project Code yn gyfres wych i godyddion ifanc sydd eisoes yn gyfarwydd â Scratch, ac sy’n barod i gymryd y cam nesaf. Gyda chyfres o brosiectau llawn hwyl i’w meistroli, mae bob llyfr yn rhoi cyfle i ddarllenwyr chwilota, creu a dysgu hanfodion codio wrth iddyn nhw fynd ymlaen.

Labyrinth gan Theo Guignard  Y llyfr mwyaf am ddrysleoedd i gyrraedd y silffoedd! Dewch i chwilio ymhlith bydoedd o blanhigion, nendyrau anferth, cynefinoedd gwyllt a dinasoedd y dyfodol, yn y llyfr yma sy’n gofyn i chi ddilyn eich ffordd trwy 14 o ddrysleoedd hudol. Gyda phethau i’w gweld ar hyd y ffordd, mae pob drysle’n mynd yn fwy cymhleth gyda phob tudalen.
LEGO DC Super Heroes Ultimate Quiz Book - Dewch i weld faint o edmygwr ydych chi gyda chwestiynau di-ri, rowndiau gyda lluniau a “chwestiynau’r athrylith” bonws. Cewch fod yn gwis feistr a holi’ch ffrindiau a’ch teulu gydag oriau o hwyl cwis LEGO DC Super Heroes.