Friday, 28 September 2018

Exploring from the comfort of your own home


BorrowBox, our free download service for ebooks and audiobooks, has a range of genres to choose from when selecting your next read, whether it’s fiction or non-fiction.  Why not try a title from the travel writing on offer?  It might bring back memories of your own holidays or inspire your next adventures!

I Never Knew That About Wales by Christopher Winn - A spellbinding journey around Wales.  Packed full of legends, firsts, birthplaces, inventions and adventures, the book visits the thirteen traditional Welsh counties and unearths the hidden gems that they each hold. Discover where history and legends happened; where people, ideas and inventions began; where dreams took flight; where famous figures were born and now rest.



Eat, Sleep, Cycle by Anna Hughes - For Anna, a cycling enthusiast, the decision to ride 4,000 miles solo around the coast of the UK wasn’t that hard. It seemed a beautifully simple idea. But after epic highs, incredible lows, unforgettable scenery and unpronounceable place names – as well as a hearty battle with some good old British weather – her simple idea turns into a compelling journey of self-discovery.



Narrowboat Nomads by Steve Haywood - Austerity might be getting everyone else down, but Steve is waving his worries goodbye on another of his light-hearted trips around the picturesque English waterways. This time he’s cruising with his long-suffering wife, Em, who’s given up work and wants her share of easy living too. They’ve rented out their home for the ups and downs of a life afloat, and there’s no going back…



Pier Review by Jon Bounds and Danny Smith - Before the seaside of their youth disappears forever, two friends from the landlocked Midlands embark on a peculiar journey to see all the surviving pleasure piers in England and Wales. With a clapped-out car and not enough cash, Jon and Danny recruit Midge, a man they barely know, to be their driver, even though he has to be back in a fortnight to sign on... A nostalgic look at Britishness at the beach, amusement in the arcades and friendship on the road.





Mae gan BorrowBox, ein gwasanaeth lawrlwytho am ddim ar gyfer e-Lyfrau a llyfrau sain, amrywiol genres i ddewis rhyngddynt ar gyfer eich llyfr nesaf, boed yn ffuglen neu’n ffeithiol. Pam na rowch gynnig ar y llyfrau teithio sydd ar gael? Efallai daw ag atgofion yn ôl o’ch gwyliau neu ysbrydoli eich antur nesaf!

I Never Knew That About Wales gan Christopher Winn – Taith wefreiddiol o gwmpas Cymru. Yn llawn chwedlau, mannau geni, dyfeisiadau ac anturiaethau, mae’r llyfr yn ymweld â thair ar ddeg o siroedd traddodiadol Cymru ac yn datgelu’r gemau cudd ym mhob un. Byddwch yn dysgu lle digwyddodd hanes a chwedlau; lle dechreuodd pobl, syniadau a dyfeisiadau; lle cychwynnodd breuddwydion; lle ganwyd pobl enwog a lle maent yn gorffwys nawr.

Eat, Sleep, Cycle gan Anna Hughes – I Anna, beiciwr brwd, nid oedd y penderfyniad i feicio ar ei phen ei hun o amgylch arfordir y DU yn un anodd. Ymddangosai’n syniad syml, hyfryd. Ond ar ôl y mân a’r mawr, golygfeydd anhygoel ac enwau lleoedd anodd eu hynganu – ynghyd â brwydr go iawn gyda thywydd Prydain – mae ei syniad syml yn troi’n daith rymus o hunan-ddarganfod.

Narrowboat Nomads gan Steve Haywood - Efallai bod llymder yn gwneud pawb arall yn isel, ond mae Steve yn ffarwelio â hyn wrth fynd ar un arall o’i deithiau ar ddyfrffyrdd hyfryd Prydain. Y tro hwn, mae’n teithio gyda’i wraig, Em, sydd wedi rhoi’r gorau i’w gwaith ac eisiau ei chyfran hithau o’r bywyd hawdd. Maent wedi rhentu eu cartref a’i gyfnewid am fywyd ar y dŵr, ac nid oes troi’n ôl …
Pier Review gan Jon Bounds a Danny Smith – Cyn i lan y môr eu hieuenctid ddiflannu am byth, mae dau gyfaill o ganolbarth Lloegr yn mynd ar daith ryfedd i weld pob pier pleser sydd ar ôl yng Nghymru a Lloegr. Gyda hen gar a dim digon o arian, mae Jon a Danny yn recriwtio Midge, dyn maent yn ei brin adnabod, i fod yn yrrwr iddynt, er bod yn rhaid iddo fod yn ôl mewn pythefnos i roi ei enw yn y lle dôl ... Cipolwg hiraethus ar Brydeindod ar y traeth, difyrrwch yn yr arcêd a chyfeillgarwch ar y ffordd.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.