Friday 7 September 2018

Late Summer Reads




Are you planning an autumn break to get away from it all? Don’t forget to pack some great books to while away those balmy days. Not sure what to take. Try the Richard and Judy Book Club late summer reads selection. With 6 titles to choose from there’s sure to be something to whet your appetite.

David Baldacci – End Game

London is on red alert. Will Robie, as the US government's most lethal assassin, is called in to foil a terrorist attack on the London Underground. An attack serving as a test run for a much larger plot to take place on US soil.






Joanna Cannon – Three things about Elsie

Florence has fallen in her flat at Cherry Tree Home for the Elderly. As she waits to be rescued, Florence wonders if a terrible secret from her past is about to come to light and, if the charming new resident is who he claims to be, why does he look exactly like a man who died 60 years ago? And then there’s Elsie!

Greer Hendricks & Sarah Pekkanen – The Wife Between Us

This book leads you to make many assumptions. It's about a jealous wife, obsessed with her replacement. It's about a younger woman set to marry the man she loves. The first wife seems like a disaster while her replacement is the perfect woman. You will assume you know the motives, the history and anatomy of the relationships. You will be wrong.


Rachel Hore – Last Letter Home

On holiday with friends, young historian Briony Andrews becomes fascinated with a wartime story of a ruined villa in the hills behind Naples. There is a family connection, her grandfather had been a British soldier during the Italian campaign of 1943 in that very area. Handed a bundle of letters that were found after the war, Briony sets off to trace the fate of their sender, Sarah Bailey but encounters resentments and secrets still tightly guarded.

Catherine Isaac – You Me Everything

Jess and her ten-year-old son William set off to spend the summer at Château de Roussignol, deep in the rich, sunlit hills of the Dordogne. There, Jess's ex-boyfriend and William's father, Adam, runs a beautiful hotel in a restored castle. Jess is bowled over by what Adam has accomplished, but she's in France for a much more urgent reason: to make Adam connect with his son. Jess can't allow Adam to let their son down because she is tormented by a secret of her own, one that nobody, especially William, must discover.

Leila Slimani – Lullaby

When Myriam, a French-Moroccan lawyer, decides to return to work after having children, she and her husband look for the perfect nanny for their two young children. They never dreamed they would find someone like Louise, a quiet, polite and devoted woman. As the couple and the nanny become more dependent on each other jealousy, resentment and suspicions increase and Myriam and Paul's seemingly idyllic life is shattered.








Llyfrau ar gyfer Diwedd yr Haf

Ydych chi’n bwriadu mynd ar wyliau dros yr hydref?  Peidiwch ag anghofio llyfrau da i lenwi’r oriau. Ddim yn siŵr beth i’w gymryd? Rhowch dro ar y dewis o Glwb Llyfrau Richard a Judy.  Gyda 6 o deitlau i ddewis ohonyn nhw mae’n siŵr y bydd yno rhywbeth at eich dant.

David Baldacci – End Game

Mae Llundain o dan rybudd coch.  Mae Will Robie, llofrudd mwyaf peryglus llywodraeth yr UD, yn cael ei alw i rwystro ymosodiad terfysgol ar system drenau tanddaearol Llundain.  Ymosodiad sy’n ymarfer ar gyfer cynllwyn llawer mwy a fydd yn digwydd yn yr UD.




Joanna Cannon – Three things about Elsie

Mae Florence wedi cwympo yn ei fflat yn Cherry Tree Home for the Elderly. Wrth iddi aros am gymorth, mae Florence yn dechrau meddwl a yw cyfrinach ofnadwy o’i gorffennol ar fin dod i’r golwg ac, os yw’r dyn newydd yr hwn y mae’n honni bod, pam felly ei fod yn edrych mor debyg i ddyn a fu farw 60 mlynedd yn ôl? Ac wedyn, dyna Elsie!

Greer Hendricks & Sarah Pekkanen – The Wife Between Us

Mae’r llyfr yma’n eich arwain i dybio sawl peth.  Mae’n ymwneud â gwraig genfigennus sydd ag obsesiwn ynglŷn â’r fenyw sydd wedi cymryd ei lle. Mae’n ymwneud â menyw ifanc sydd ar fin priodi’r dyn y mae’n ei garu.  Mae’r wraig gyntaf i weld yn hunllef a’r llall yn fenyw berffaith. Byddwch yn tybio eich bod yn gwybod cymhellion, hanes a ffurf y perthnasau.  Byddwch yn anghywir.


Rachel Hore – Last Letter Home


Ar wyliau gyda ffrindiau, mae’r hanesydd ifanc, Briony Andrews, yn cael ei chyfareddu gan stori o’r rhyfel am dŷ mewn adfeilion ar y bryniau y tu ôl i Naples. Mae yna gysylltiad teuluol, roedd ei thad-cu yn filwr Prydeinig yn ystod yr ymgyrch Eidalaidd yn 1943 yn yr union ardal honno.  Ar ôl derbyn bwndel o lythyrau y cafwyd hyd iddyn nhw ar ôl y rhyfel, mae Briony’n mynd i ganfod ffawd y sawl a’u danfonodd, Sarah Bailey, ond caiff hyd i chwerwder a chyfrinachu sy’n cael eu cuddio’n dynn.

Catherine Isaac – You Me Everything

Mae Jess a’i mab deg oed, William, yn mynd i dreulio’r haf yn Château de Roussignol, yn ddwfn ym mryniau cyfoethog, heulog y Dordogne. Yno, mae cyn-gariad Jess a thad William, Adam, â gwesty hardd mewn hen gastell.  Mae Jess yn cael ei synnu o weld yr hyn mae Adam wedi llwyddo i’w gyflawni, ond mae hi yn Ffrainc am reswm llawer mwy pwysig: i gael Adam i gysylltu â’i fab.  Gall Jess ddim caniatáu i Adam adael ei mab i lawr oherwydd mae ganddi ei chyfrinach ei hun, un na all unrhyw un, yn enwedig William, wybod amdani.

Leila Slimani – Lullaby     

    
Pan fo Myriam, cyfreithwraig Ffrengig-Morocaidd, yn penderfynu dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael plant, mae hi a’i gŵr yn chwilio am rywun i edrych ar ôl eu dau o blant. Wnaethon nhw fyth breuddwydio y bydden nhw’n cael hyd i rywun fel Louise, menyw dawel, gwrtais ac ymroddedig. Wrth i’r pâr a’r fenyw ddod yn fwy ac yn fwy dibynnol ar ei gilydd mae cenfigen, chwerwder ac amheuon yn codi ac mae bywyd perffaith Myriam a Paul yn cael ei chwalu.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.