Friday 21 September 2018

BorrowBox Favourites 2



Last week we looked at some of the titles proving popular for adult readers on BorrowBox.  BorrowBox is a free service for our library members containing a wide range of ebooks and audio books available for you to download onto your computer or most mobile devices.
This week we’re looking at popular titles as chosen by younger readers across Wales:

Ebooks
Biscuits, Bands and Very Big Plans by Liz Pichon - This book is VERY important because it contains BISCUITS, BANDS and all my (doodled) plans to make DogZombies the BEST band in the world.
MY VERY BIG PLAN:  Write more songs about VERY important things like... ... biscuits.  Make sure there's a good supply of SNACKS for our band practice.  Avoid Delia at ALL COSTS, she thinks I've been SNOOPING in her room. (I have.)  DOODLE as much as possible, especially if Marcus is watching.

The Book Thief by Markus Zusak - 1939. Nazi Germany. The country is holding its breath. Death has never been busier.
Liesel, a nine-year-old girl, is living with a foster family on Himmel Street. Her parents have been taken away to a concentration camp. Liesel steals books. This is her story and the story of the inhabitants of her street when the bombs begin to fall.



Audiobooks
The Surface Breaks by Louise O’Neill -  Deep beneath the sea, off the cold Irish coast, Gaia is a young mermaid who dreams of freedom from her controlling father. On her first swim to the surface, she is drawn towards a human boy. She longs to join his carefree world, but how much will she have to sacrifice? What will it take for the little mermaid to find her voice?


Wonder by R J Palacio   - Auggie wants to be an ordinary ten-year-old. He does ordinary things - eating ice cream, playing on his Xbox. He feels ordinary - inside. But ordinary kids don't make other ordinary kids run away screaming in playgrounds. Ordinary kids aren't stared at wherever they go.
Auggie was born with a terrible facial abnormality. For the first time, he's being sent to a real school - and he's dreading it. Can he convince his new classmates that he's just like them, underneath it all?






Yr wythnos ddiwethaf, buom yn edrych ar rai o’r teitlau sy’n boblogaidd gydag oedolion-ddarllenwyr ar BorrowBox.  Mae BorrowBox yn wasanaeth am ddim i aelodau’n llyfrgell sy’n cynnwys amrediad eang o e-Lyfrau a llyfrau sain sydd ar gael i chi eu llwytho lawr i’ch cyfrifiadur neu’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol.
Yr wythnos hon, rydym yn edrych ar deitlau poblogaidd sydd wedi eu dewis gan ddarllenwyr ifanc ledled Cymru:

E-lyfrau
Biscuits, Bands and Very Big Plans gan Liz Pichon - Mae’r llyfr hwn yn bwysig IAWN gan ei fod yn cynnwys BISGEDI, BANDIAU a ‘nghynlluniau i wneud DogZombies y band GORAU yn y byd.
FY NGHYNLLUN MAWR MAWR:  Cyfansoddi mwy o ganeuon am bethau pwysig IAWN fel .... bisgedi. Gwneud yn siŵr bod cyflenwad da o BETHAU I’W BWYTA pan mae’r band yn ymarfer. Osgoi Delia AR BOB CYFRIF, mae’n meddwl mod i wedi bod yn chwilota yn ei ‘stafell. (Mi rydw i). DWDLAN cymaint ag y medraf, yn enwedig os yw Marcus yn gwylio.

The Book Thief gan Markus Zusak - 1939. Yr Almaen dan y Natsïaid. Mae’r wlad yn dal ei gwynt. Dyw marwolaeth erioed wedi bod mor brysur.
Mae Liesel, merch naw oed yn byw gyda theulu maeth ar Himmel Street. Mae ei rhieni wedi eu cludo i wersyll-garchar. Mae Liesel yn dwyn llyfrau. Dyma ei stori hi a stori trigolion ei stryd pan fo’r bomiau’n dechrau cwympo.




Llyfrau Sain
The Surface Breaks gan Louise O’Neill -  O dan y môr, oddi ar arfordir oer Iwerddon, mae Gaia yn fôr-forwyn ifanc sy’n breuddwydio am gael rhyddid rhag ei thad, sy’n ei rheoli. Wrth nofio at yr wyneb am y tro cyntaf, mae’n cael ei denu at fachgen dynol. Mae eisiau ymuno â’i fywyd di-hidio ond faint fydd raid iddi ei aberthu? Beth fydd yn ei gymryd i’r fôr-forwyn fach ganfod ei llais?
Wonder gan R J Palacio   - Mae Auggie eisiau bod yn fachgen deg oed cyffredin. Mae’n gwneud pethau cyffredin - bwyta hufen iâ, chwarae ar ei Xbox. Mae’n teimlo’n fachgen cyffredin - y tu mewn. Ond nid yw plant cyffredin yn gwneud i blant cyffredin eraill redeg i ffwrdd yn sgrechian yn y cae chwarae. Nid yw pobl yn syllu ar blant cyffredin lle bynnag maen nhw’n mynd.
Ganwyd Auggie gydag annormaledd arswydus i’w wyneb. Am y tro cyntaf, mae’n cael ei anfon i ysgol go iawn - ac mae’n poeni’n enfawr. A fedr argyhoeddi’r plant eraill yn ei ddosbarth ei fod yr un fath â nhw, o dan bopeth?



No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.