Friday, 31 August 2018

Great books gracing our TV screens this autumn


Do you, like me, love a classic period drama? Well I hope we’re in for a treat this autumn when “Vanity Fair” hits our TV screens on Sunday 2 September at 9pm on ITV.

Set during the Napoleonic Wars, William Makepeace Thackeray’s masterpiece has been adapted into a 7 part, lavish production with a star studded cast including Suranne Jones, Michael Palin, Martin Clunes and Frances de la Tour. Olivia Cooke plays the anti-heroine, Becky Sharp.

Becky is a poor orphan when she first makes friends with the lovely Amelia Sedley at Miss Pinkerton's Academy for Young Ladies. She may not have the natural advantages of her companion but she more than makes up for it with her wit, charm, deviousness and determination to make a success of herself whatever the cost.


If you prefer something a little more contemporary then the 10 episode adaptation of “The Truth about the Harry Quebert Affair” based on the book by Joel Dicker might be right up your street. On Sky Witness, the first episode is scheduled for Tuesday 4 September at 9pm.


Set in coastal Maine, the book focuses on Marcus Goldman who is visiting Harry Quebert’s home to find a cure for his writer’s block. Marcus’ plans are suddenly upended when Harry is sensationally implicated in the cold-case murder of Nola Kellergan, a fifteen-year-old girl who has been missing for 33 years. In fact, Harry is the only suspect. Can Marcus solve the crime and save his friend?










Llyfrau Gwych ar y sgrin fach dros yr hydref
 


Ydych chi, fel fi, yn hoff o ddrama hanesyddol glasurol?  Wel, rwy’n gobeithio ein bod ni am gael amser da dros yr hydref wrth i “Vanity Fair” gyrraedd ein sgriniau ar ddydd Sul 2 Medi am 9pm ar ITV.

Wedi ei osod yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonaidd, mae campwaith William Makepeace Thackeray wedi ei addasu’n gynhyrchiad ysblennydd 7 pennod gyda chast o actorion enwog sy’n cynnwys Suranne Jones, Michael Palin, Martin Clunes a Frances de la Tour. Olivia Cooke sy’n chwarae’r rhan yr wrtharwres, Becky Sharp.

Mae Becky’n ferch amddifad pan ddaw i adnabod yr hyfryd Amelia Sedley yn Miss Pinkerton's Academy for Young Ladies. Does ganddi ‘mo manteision naturiol ei chyfaill ond mae’n gwneud yn iawn am hynny gyda’i chrebwyll, ei chyfaredd, ei chyfrwystra a’i phenderfyniad i lwyddo beth bynnag fo’r gost.


Os oes well gennych chi rywbeth mwy cyfoes yna efallai bydd yr addasiad 10 pennod o “The Truth about the Harry Quebert Affair”, sy’n seiliedig ar y llyfr gan Joel Dicker, yr union beth i chi. Ar Sky Witness, bydd y bennod gyntaf ar nos Fawrth, 4 Medi am 9pm.

Wedi ei leoli ym Maine, mae’r llyfr yn canolbwyntio ar Marcus Goldman sy’n ymweld â chartref Harry Quebert er mwyn ail-afael yn yr awen.  Mae cynlluniau Marcus yn cael eu hysgwyd pan fo Harry’n cael ei gysylltu â llofruddiaeth Nola Kellergan, merch bymtheg oed sydd wedi bod ar goll ers 33 o flynyddoedd.  Mewn gwirionedd, Harry yw’r unig un sy’n cael ei amau. All Marcus ddatrys y drosedd ac achub ei ffrind?

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.