Friday, 17 August 2018

Crime Writers Association Dagger Awards 2018



The shortlists are out for the CWA Dagger awards. There are 11 categories of awards including new talent, short stories and historical crime.

In this post we will look at the Gold Dagger Award which is awarded for the best crime novel of the year. Here are the 6 shortlisted titles:

Steve Cavanagh – The Liar
When wealthy businessman Leonard Howell's daughter is kidnapped, the police jump on it straight away. But Howell knows this won't be straightforward - he needs someone willing to break the rules. Once a con artist, now a hotshot lawyer, Eddie Flynn, knowing what it's like to lose a daughter will stop at nothing to save Howell's.



Mick Herron – London Rules (Also shortlisted for the Ian
Fleming Steel Dagger Award)
'London Rules' might not be written down, but everyone knows rule one, cover your arse. Regent Park's First Desk, Claude Whelan, is learning this the hard way. Tasked with protecting a beleaguered prime minister, he's facing attack from all directions himself and especially from his own deputy, Lady Di Taverner, who is alert to Claude's every stumble.

Dennis Lehane – Since We Fell
Rachel Childs, a former journalist, after an on-air mental breakdown, now lives as a virtual recluse. In all other respects, however, she enjoys an ideal life with an ideal husband. Until a chance encounter on a rainy afternoon causes that ideal life to fray. Sucked into a conspiracy thick with deception, violence, and possibly madness, Rachel must find the strength within herself to conquer unimaginable fears and mind-altering truths.

Attica Locke – Bluebird, Bluebird (Also Shortlisted for the
Ian Fleming Steel Dagger Award)
In the small Texas town of Lark two dead bodies are washed up in the bayou. First a black lawyer from Chicago and then, three days later, a local white woman, and it's stirred up a hornet's nest of resentment. Texas Ranger Darren Matthews, must solve the crimes - and save himself in the process - before Lark's long-simmering racial fault lines erupt.


Abir Mukherjee – A Necessary Evil (Also shortlisted for the
Historical Award)
India, 1920. Captain Wyndham and Sergeant Banerjee of the Calcutta Police Force investigate the dramatic assassination of a Maharajah's son.  As Wyndham and Banerjee desperately try to unravel the mystery behind the assassination, they become entangled in a dangerous world where those in power live by their own rules and those who cross their paths pay with their lives.

Emma Viskic – Resurrection Bay (Also shortlisted for the
John Creasy New Blood Award)
Caleb Zelic, profoundly deaf since early childhood, has always lived on the outside - watching, picking up tell-tale signs people hide in a smile, a cough, a kiss. When a childhood friend is murdered, a sense of guilt and a determination to prove his own innocence sends Caleb on a hunt for the killer. But he can't do it alone. Caleb and his troubled friend Frankie, an ex-cop, start with one clue, Scott the last word the murder victim texted to Caleb. But Scott is always one step ahead.

The winners will be announced 25 October 2018.










Gwobrau Dagger Cymdeithas Awduron Troseddau 2018

Mae'r rhestr fer gwobrau Dagger CWA bellach ar agor. Mae yna 11 categori o wobrau, gan gynnwys talent newydd, straeon byrion a throseddau hanesyddol.

Yn y neges hon, byddwn yn edrych ar Wobr Aur Dagger a ddyfernir i nofel troseddau gorau'r flwyddyn. Dyma'r 6 teitl ar y rhestr fer:

Steve Cavanagh – The Liar
Pan fydd merch Leonard Howell, gŵr busnes cyfoethog yn cael ei herwgipio, mae'r heddlu'n camu i mewn ar unwaith. Ond mae Howell yn gwybod na fydd hyn yn dasg syml - mae angen rhywun arno sy'n barod i dorri'r rheolau. Yn dwyllwr heb ei ail ar un adeg ond bellach yn gyfreithiwr blaenllaw, mae Eddie Flynn, sy'n gwybod sut deimlad yw colli merch, yn oedi dim i achub merch Howell.

Mick Herron - London Rules (Hefyd ar restr fer Gwobr
Steel Dagger Ian Fleming)
Efallai nad yw 'Rheolau Llundain' wedi ei nodi ar bapur, ond mae pawb yn gwybod rheol un, gofalu am eich hun, fel y mae Claude Whelan gŵr blaenllaw Parc Regent, yn ei ddysgu, y ffordd anodd. Gyda'r dasg o ddiogelu prif weinidog sydd yng nghanol peryglon, mae'n wynebu ymosodiad o bob cyfeiriad ei hun, yn enwedig gan ei ddirprwy ei hun, Lady Di Taverner, sy'n gwybod bob tro y mae Claude yn baglu.

Dennis Lehane – Since We Fell
Mae Rachel Childs, cyn-newyddiadurwr, bellach yn byw fel meudwyes mewn gwirionedd ers y chwalodd ei nerfau yn fyw yn ystod darllediad. Ym mhob ffordd arall, fodd bynnag, mae hi'n mwynhau bywyd delfrydol gyda gŵr delfrydol. Hyd nes i gyfarfod ar hap ar brynhawn glawog beri diflastod i'r bywyd delfrydol hwnnw. Wedi'i thynnu i mewn i gynllwyn yn llawn twyll, trais, ac o bosibl, gwallgofrwydd, mae'n rhaid i Rachel ddod o hyd i'r cryfder i goncro ofnau annymunol a gwirioneddau sy'n newid meddwl.

Attica Locke - Bluebird, Bluebird (Hefyd ar restr fer Gwobr
Steel Dagger Ian Fleming)
Yn nhref fechan Lark, Texas, mae dau gorff yn cael eu golchi i fyny yn yr ystumllyn. Y cyntaf, cyfreithiwr du o Chicago ac yna, tri diwrnod yn ddiweddarach, gwraig wen leol, ac mae'n ysgogi nyth cacwn o chwerwder. Rhaid i Darren Matthews, marchfilwr, ddatrys y troseddau - ac achub ei hun yn y broses - cyn i gynnwrf hiliol sy'n mudlosgi ers tro, ffrwydro.


Abir Mukherjee - A Necessary Evil (Hefyd ar restr fer y
Wobr Hanesyddol)
India, 1920. Mae Capten Wyndham a Sergeant Banerjee o Heddlu Calcutta yn ymchwilio i farwolaeth ddramatig mab Maharajah. Wrth i Wyndham a Banerjee geisio datrys y dirgelwch y tu ôl i'r llofruddiaeth, maent yn mynd ynghlwm mewn byd peryglus lle mae'r rheini sydd mewn grym yn byw yn ôl eu rheolau eu hunain a'r rhai sy'n eu croesi yn talu gyda'u bywydau.

Emma Viskic - Resurrection Bay (Hefyd ar restr fer Gwobr
Gwaed Newydd John Creasy)
Mae Caleb Zelic, sy’n hollol fyddar ers ei fod yn blentyn, wastad wedi byw ar y tu allan - gwylio, codi arwyddion arwyddocaol y mae pobl yn eu cuddio mewn gwên, pesychiad neu gusan. Pan fydd cyfaill o’i blentyndod yn cael ei lofruddio, mae euogrwydd a natur benderfynol i brofi ei ddiniweidrwydd ei hun yn anfon Caleb i hela’r llofrudd. Ond ni all wneud ar ei ben ei hun. Mae Caleb a’i gyfaill cythryblus Frankie, cyn-blismon, yn dechrau gydag un cliw, Scott y gair olaf a anfonwyd gan y dioddefwr drwy neges destun at Caleb. Ond mae  Scott un cam ymlaen bob tro.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 25 Hydref 2018.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.