Friday, 24 August 2018

CWA - John Creasey New Blood Dagger Award



If you enjoy a good crime novel take a look at the new talent shortlisted for the CWA John Creasey New Blood Dagger Award. This award is for the best crime novel by a debut author first published in the UK.

William Boyle – Gravesend
Ray Boy Calabrese is released from prison 16 years after his actions led to the death of a young man. The victim's brother, Conway D'Innocenzio, a 29-year-old Brooklynite is stuck in the past and still howling for Ray Boy's blood. When the chips are down and the gun is drawn, Conway finds that he doesn't have murder in him. Now Ray Boy Calabrese is back in Gravesend. Some people worship him, some want him dead but none more so than the ex-con himself.

Joe Ide – I.Q.
East Long Beach. The LAPD is barely keeping up with the high crime rate. Murders go unsolved, lost children unrecovered. Someone from the neighbourhood has taken it upon himself to help solve the cases the police can't or won't touch. They call him IQ. He's a loner and a high school dropout, his unassuming nature disguising a relentless determination and a fierce intelligence. He charges his clients whatever they can afford. To get by, he's forced to take on clients that can pay. This time, it’s a rap mogul whose life is in danger.

Danya Kukafka – Girl in Snow
When high school student Lucinda Hayes is found murdered, no one in her sleepy Colorado suburb is untouched - not the boy who loved her too much; not the girl who wanted her perfect life; not the police officer assigned to investigate. In the aftermath of the tragedy, these three unforgettable characters, Cameron, Jade, and Russ, must each confront their darkest secrets in an effort to find solace, the truth, or both.

Melissa Scrivener Love – Lola
Lola stands next to Garcia while he mans the grill in their craggy square of backyard. The barbeque has just begun, and the women are clustered gossiping, while the men hold sweating beers. Lola prefers the periphery, she is not like the other women in Huntington Park. 
Suddenly, a sharp knock on the front door, probably a cop. Lola goes to answer it. The man standing there is Mexican, not Mexican-American, like everybody else here. Lola searches his face for a bead of sweat but comes up empty. She has never met him, but she knows his name. Everyone in this neighbourhood knows his name. They call him The Collector, and he won’t give them long.

Khurrum Rahman – East of Hounslow
Jay is a dope dealer living in West London. He goes to the mosque on Friday, and he's just bought his pride and joy, a BMW. He lives with his mum, and life seems sweet. But his world is about to turn upside-down because MI5 have been watching him. They think he's just the man they need for a delicate mission. One thing's for sure, now he's a long way East of Hounslow, Jay's life will never be the same again

Emma Viskic – Resurrection Bay
This title is also shortlisted for The Gold Dagger Award for the best crime novel, quite an achievement for a debut author. For a synopsis see last week’s post (17 August 2018).









CWA – Gwobr Dagr ‘Gwaed Newydd’ John Creasy

Os ydych chi'n mwynhau nofel droseddau dda, edrychwch ar y dalent newydd sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dagr (Gwaed Newydd' CWA John Creasy. Mae'r wobr hon ar gyfer y nofel troseddau gorau gan awdur newydd sy'n cael ei chyhoeddi gyntaf yn y DU.

William Boyle – Gravesend
Caiff Ray Boy Calabrese ei ryddhau o'r carchar 16 mlynedd ar ôl i'w weithredoedd arwain at farwolaeth dyn ifanc. Mae brawd y dioddefwr, Conway D'Innocenzio, gwr ifanc 29 oed o Brooklyn â'i wreiddiau yn y gorffennol ac mae'n dal i ddyheu am waed Ray Boy. Pan fydd pethau ar i lawr a'r gwn yn barod i'w danio, mae Conway yn canfod nad yw llofruddiaeth yn perthyn iddo. Bellach, mae Ray Boy Calabrese yn ôl yn Gravesend. Mae rhai pobl yn ei addoli, mae rhai ei eisiau'n farw ond neb mwy na'r cyn-droseddwr ei hun.

Joe Ide – I.Q.
Dwyrain y Traeth Hir. Prin yw'r Adran Heddlu LA yn cadw i fyny â'r gyfradd troseddau uchel. Mae llofruddiaethau heb eu datrys, plant coll heb eu canfod. Mae rhywun o'r gymdogaeth wedi ei gymryd ar ei hun i helpu i ddatrys yr achosion na all yr heddlu eu cyffwrdd neu'n dewis peidio â'u cyffwrdd. Maen nhw'n ei alw'n IQ. Mae'n well ganddo gwmni ei hun, ymadawodd ag addysg uwch, ei natur annymunol sy'n cuddio natur benderfynol a deallusrwydd ffyrnig. Mae ei gleientiaid yn talu beth bynnag y gallant ei fforddio. Er mwyn byw, mae'n gorfod cymryd cleientiaid sy'n gallu talu. Y tro hwn, un o wŷr pwysig y byd rap sydd mewn perygl.

Danya Kukafka – Girl in Snow
Pan ddarganfyddir bod Lucinda Hayes, myfyriwr ysgol uwchradd, wedi llofruddio, nid oes neb yn ei maestref gysglyd yn Colorado yn ddigyffwrdd - nid y bachgen a oedd yn ei charu'n ormodol; nid y ferch a oedd eisiau ei bywyd perffaith; nid swyddog yr heddlu a benodwyd i ymchwilio iddo. Yn dilyn y trychineb, mae'n rhaid i'r tri chymeriad bythgofiadwy, Cameron, Jade, a Russ, wynebu eu cyfrinachau tywyllaf mewn ymdrech i ddod o hyd i gysur, y gwir, neu'r ddau.

Melissa Scrivener Love – Lola
Mae Lola yn sefyll wrth ymyl Garcia tra ei fod yn gweithio'r gridyll yn eu tipyn o iard gefn garw. Mae'r barbeciw newydd danio ac mae'r menywod yn cloncian yn eu clystyrau, tra bod y dynion yn dal cwrw chwyslyd. Mae'n well gan Lola'r ymylon, nid yw hi fel y merched eraill ym Mharc Huntington.

Yn sydyn, mae yna gnoc llym ar y drws ffrynt, plismon yn ôl pob tebyg. Mae Lola yn mynd i'w ateb. Mae'r dyn sy'n sefyll yno yn Mecsicanwr, nid Mecsicanwr-Americanaidd, fel pawb arall yma. Mae Lola yn chwilio'i wyneb am ddiferyn o chwys, ond dim. Nid yw hi erioed wedi cwrdd ag ef, ond mae hi'n gwybod ei enw. Mae pawb yn y gymdogaeth hon yn gwybod ei enw. Maent yn ei alw'n 'Y Casglwr', ac nid yw'n rhoi amser hir iddynt.

Khurrum Rahman – East of Hounslow
Mae Jay yn werthwr cyffuriau sy'n byw yng Ngorllewin Llundain. Mae'n mynd i'r mosg ar ddydd Gwener, ac mae wedi prynu ei brif ddiléit, BMW. Mae'n byw gyda'i fam, ac mae bywyd yn ymddangos yn felys. Ond mae ei fyd ar fin troi wyneb i waered am fod MI5 wedi bod yn ei wylio. Maen nhw'n meddwl mai dyna'r union ddyn sydd ei angen arnynt ar gyfer tasg fach anodd. Un peth sy'n sicr, nawr ei fod yn ffordd bell i'r dwyrain o Hounslow, ni fydd bywyd Jay byth yr un fath eto

Emma Viskic – Resurrection Bay
Mae'r llyfr hwn hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dagr Aur am y nofel troseddau gorau, tipyn o gyflawniad i awdur sy'n cychwyn arni. Am grynodeb, gweler yr erthygl a bostiwyd yr wythnos ddiwethaf (17 Awst 2018).

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.