Friday, 1 June 2018

Last Laugh Award for humorous crime


Continuing our celebration of crime reading, this week we are focussing on books that can raise a smile as well as your blood pressure. So if you enjoy murder with a touch of humour check out the Last Laugh Award shortlist.

The end of the cricket season spells gloom for Blotto, until he is invited to bat against the Hollywood cricket team out in sunny LA, where rain never stops play. So begins the latest adventure for Blotto and his supremely gifted sister Twinks. On arrival they are invited to a glitzy Hollywood party but the mood suddenly curdles with the breaking news that beautiful starlet Mimsy La Pim - the (former) love of Blotto's life - has been kidnapped.

Christopher Fowler - Bryant & May – Wild Chamber 
In an exclusive London crescent, a woman walks her dog - but she's being watched. When she's found dead, the Peculiar Crimes Unit is called in to investigate. Why? Because the method of death is odd, the gardens are locked, the killer had no way in, or out, and the dog has disappeared. So a typical case for Bryant & May. But the hows and whys of the murder are not the only mysteries surrounding the dead woman - there's a missing husband and a lost nanny to puzzle over too.

Mick Herron - Spook Street 
20 years retired, David Cartwright can still spot when the stoats are on his trail. Radioactive secrets and unfinished business go with the territory on Spook Street: he's always known there would be an accounting but he's not as defenceless as they might think. Jackson Lamb worked with Cartwright back in the day. He knows better than most that this is no vulnerable old man.


Mumbai thrives on extravagant spectacles and larger-than-life characters. But even in the city of dreams, there is no guarantee of a happy ending. Rising star and incorrigible playboy Vikram Verma has disappeared, leaving his latest film in jeopardy. Hired by Verma's formidable mother to find him, Inspector Chopra and his sidekick, baby elephant Ganesha, embark on a journey deep into the world's most flamboyant movie industry.

Khurrum Rahman - East of Hounslow 
Javid is a dope dealer living in West London. He goes to the mosque on Friday, and he's just bought his pride and joy - a BMW. He lives with his mum, and life seems sweet. But his world is about to turn upside-down because MI5 have been watching him, and they think he's just the man they need for a delicate mission. One thing's for sure his life will never be the same again.


C.J. Skuse - Sweet Pea
Rhiannon is your average girl next door but she's got a kill list. From the man on the Lidl checkout who always mishandles her apples, to the driver who cuts her off on her way to work, to the people who made her who she is. Rhiannon's ready to get her revenge because the girl everyone overlooks might just be able to get away with murder. 


Antti Tuomainen - The Man Who Died
Also shortlisted for the Petrona award, take a look at last week’s post, 25/05/2018.

L.C. Tyler - Herring in the Smoke
Roger Norton Vane is dead. 20 years ago he went for a walk in the Thai jungle with his partner, Tim MacDonald, and never returned. After years of wild speculation, fruitless searches and unconfirmed sightings, finally his death is to be made official and somebody will inherit his accumulated wealth. But at his memorial service, a man interrupts proceedings, claiming to be Vane. He installs himself in his old flat, evicting Tim MacDonald, and sets about proving his right to Vane's money.







Gwobr Last Laugh am droseddau digri

Gan barhau i ddathlu darllen llyfrau troseddau, yr wythnos hon rydym yn canolbwyntio ar lyfrau a all godi gwên yn ogystal â'ch pwysedd gwaed. Felly, os ydych chi'n mwynhau llofruddiaeth gyda mymryn o hiwmor, edrychwch ar restr fer Gwobr Last Laugh.

Gall diwedd y tymor criced ond olygu diflastod i Blotto, nes iddo gael gwahoddiad i fatio yn erbyn tîm criced Hollywood yn yr Unol Daleithiau heulog, lle na fydd y glaw byth yn stopio'r chwarae. Felly, mae'r antur ddiweddaraf ar fin dechrau i Blotto a'i chwaer ddawnus, Twinks. Ar ôl cyrraedd, maent yn cael eu gwahodd i barti llon a llachar yn Hollywood ond mae'r hwyliau'n newid yn sydyn pan ddaw'r newyddion fod yr anhygoel Mimsy La Pim, cyn gariad Blotto - wedi cael ei herwgipio.

Christopher Fowler - Bryant & May – Wild Chamber 
Mewn cilgant unigryw yn Llundain, mae menyw yn cerdded ei chi - ond mae hi'n cael ei gwylio. Pan gaiff ei darganfod yn farw, gelwir ar yr Uned Troseddau Arbennig i ymchwilio i'r achos. Pam? Oherwydd bod y ffordd y buodd hi farw yn anghyffredin, mae'r gerddi wedi'u cloi, nid oedd gan y llofrudd ffordd i mewn nac allan, ac mae'r ci wedi diflannu. Felly achos nodweddiadol i Bryant a May. Ond nid sut a pham yw'r unig ddirgelwch sy'n gysylltiedig â'r ferch farw - mae yna ŵr ar goll a nani coll i ystyried hefyd.


Mick Herron - Spook Street 
Mae 20 mlynedd ers i David Cartwright ymddeol ond mae'n dal i fod yn gallu gweld y carlamiaid ar ei drywydd. Mae cyfrinachau ymbelydrol a busnes anorffenedig, oll yn rhan o fywyd ar Spook Street: mae'n gwybod eisoes yna gyfrifo ond nid yw mor ddiamddiffyn ag y gallent feddwl. Bu Jackson Lamb yn gweithio gyda Cartwright yn y gorffennol. Mae'n gwybod yn well na'r mwyafrif, nad yw hwn yn ddyn bach bregus.

Mae Mumbai yn ffynnu ar rwysg eithafol a chymeriadau sy'n fwy na bywyd. Ond hyd yn oed yn ninas breuddwydion, nid oes sicrwydd y bydd diweddglo hapus. Mae Vikram Verma, plesergarwr a seren sy'n dod i'r amlwg wedi diflannu, gan adael ei ffilm ddiweddaraf mewn perygl. Wedi'i hurio gan fam Verma, draig o ddynes, i ddod o hyd iddo, mae'r Arolygydd Chopra a'i bartner, babi eliffant, Ganesha, yn cychwyn ar daith yn ddwfn i ddiwydiant ffilm fwyaf ysblennydd y byd.

Khurrum Rahman - East of Hounslow 
Mae Javid yn werthwr cyffuriau sy'n byw yng Ngorllewin Llundain. Mae'n mynd i'r mosg ar ddydd Gwener, ac mae newydd brynu ei ddifyrrwch pennaf - BMW. Mae'n byw gyda'i fam, ac mae bywyd yn ymddangos yn felys. Ond mae ei fyd ar fin troi wyneb i waered am fod MI5 wedi bod yn ei wylio, ac maen nhw o'r farn mai dyna'r dyn sydd ei angen arnynt ar gyfer tasg lled anodd. Un peth sy'n sicr, ni fydd ei fywyd byth yr un fath eto.



C.J. Skuse - Sweet Pea
Rhiannon yw eich merch drws nesaf, gyffredin ond mae ganddi restr ladd. O'r dyn ar y ddesg dalu yn Lidl sydd bob amser yn cam-drafod ei hafalau, a'r gyrrwr sy'n torri ar ei thraws ar ei ffordd i'r gwaith, i'r bobl fu'n gyfrifol am ei gwneud yn bwy ydy hi heddiw. Mae Rhiannon yn barod i ddial oherwydd y gall y ferch y mae pawb yn ei hesgeuluso, wneud beth bynnag y mynna.


Antti Tuomainen - The Man Who Died
Hefyd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Petrona, gweler yr hyn a bostiwyd yr wythnos ddiwethaf, 25/05/2018.

L.C. Tyler - Herring in the Smoke
Mae Roger Norton Vane wedi marw. 20 mlynedd yn ôl, aeth am dro yn y jyngl yng Ngwlad Thai gyda'i bartner, Tim MacDonald, ac ni ddychwelodd byth. Ar ôl blynyddoedd o ddyfalu gwyllt, chwilio, heb ateb a sawl cipolwg na gafodd erioed eu cadarnhau, o'r diwedd mae ei farwolaeth yn cael ei gydnabod yn swyddogol a bydd rhywun yn etifeddu ei gyfoeth cronedig. Ond yn ei wasanaeth coffa, mae dyn yn torri ar draws y gwasanaeth, yn honni mai ef yw Vane. Mae'n sefydlu ei hun yn ei hen fflat, gan daflu Tim MacDonald allan, a chychwyn ar y dasg o brofi fod ganddo hawl i arian Vane.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.