Call me nosey,
but I love reading famous people’s letters, they tell you so much about the
real person behind the public face. So I’m hoping to find ‘The Victoria
Letters: the heart and mind of a young queen’ by Helen Rappaport under my
Christmas tree. This is the official companion book to the ITV ‘Victoria’
series, which I loved and another good reason for wanting it. Santa, please
take note.
I asked some of
my library colleagues what books they are hoping for.
Mark – ‘The Angels Die’ by Yasmina Khadra. The
best novel I have read this year was by this author. ‘The Attack’ was a brilliant and gripping book by a master
storyteller, and I’d like to read more of his work.
‘The Angels Die’ is his latest title, set in French colonial Algeria- a place where
Arab-Berbers face prejudice and injustice every day. It opens with the central
character awaiting the guillotine.
Hopefully this book won’t disappoint, and
the first line, My name is Turambo and they’ll be coming to get me at
dawn, is a pretty good start.
Bettina - All I
want for Christmas is ‘The Quiet Music of Gently Falling Snow’ by Jackie
Morris. I love Jackie’s stories and her illustrations are sublime. I remember
when we had our refurb in Pontypool Library and she allowed us to use her
images of dragons to complete our lovely children’s library. She visited us for
the day and captured the imaginations of local schoolchildren with tales of old
and with wonderful drawings.
This book is a collection of interconnected short
stories featuring musically-themed illustrations she originally designed as a
set of Christmas cards, in aid of the charity Help the Musicians.
I am a big fan and always look forward to her new projects.
I hope I have been good enough for Santa..........
Julian - A book on my Santa wish list is ‘The Build: Insights from the
Masters of Custom Motorcycle Design’ by Robert Hoekman Jnr. A lot of blokes love messing about with
power tools and spanners in a garage, and that includes me. So when the weather
is wet and cold what better way to spend the time with a good coffee table book
looking for ideas and inspiration, and then going out into the garage and
mucking about.
Christine - Here’s my Christmas request. I’m a big fan of Tove
Jansson’s writing for adults but I’ve never actually read her Moomin
books. So I would like Santa to bring me a hardback copy of ‘Finn Family
Moomintroll’ with all Tove Jansson’s delightful original illustrations. A
lovely snuggly read for the Christmas holidays.
Matthew - One book on my letter to Santa is ‘Royal Rabbits of London’
by Santa Montefiore and Simon Sebag Montefiore. A children’s story that I can
share with my sons in between the Lego, train sets and mince pies at
Christmas. Shades of Watership Down as Shylo, the runt of the litter,
takes on a group of mischievous rats in order to save the Queen!
Beautifully illustrated too. What’s not to love?
Stephanie - Mine would be ‘Burial Rites’ by Hannah Kent which I’ve
just read. A fabulous first novel which reimagines the life and death of
Agnes Magnúsdóttir, the last woman to be
executed in 1820s Iceland. Beautiful descriptions and language but at the same
time bleak and unflinching, this story stayed with me long after the final
pages were read and is one I would certainly revisit in future. Oh yes, and now
I very much want to visit Iceland too!
Donna - This Christmas I'm hoping Santa will bring me ‘In Montmartre:
Picasso, Matisse and Modernism in Paris, 1900-1910’ by Sue Roe. I recently came
across the book while in a gallery shop and from the blurb it looks like a
great read. It also seems to have been very positively reviewed. The subject of
the book is one that's very close to my heart - Paris in the early 20th century
was a time of incredible vibrancy and development both in the art world and
beyond. It must have been a very exciting time to be alive! I recently enjoyed
reading a book on a similar subject by Ross King set in the mid-19th century, ‘The
Judgement of Paris; Manet, Meisonnier and an Artistic Revolution’. These
paperback art stories really bring what some people might think of as a dry
subject to life and are perfect for dipping in and out.
Ar gyfer heddiw’r bore……….
Efallai fy mod i’n fusneslyd ond fe fydda’ i wrth fy modd
yn darllen llythyrau pobl enwog, maen nhw’n dweud cymaint am y gwir berson y tu
ôl i’r wyneb gyhoeddus. Felly, rwy’n
gobeithio cael ‘The Victoria Letters: the heart and mind of a young queen’ gan
Helen Rappaport o dan y goeden. Dyma’r llyfr swyddogol sy’n mynd law yn llaw gyda
chyfres ‘Victoria’ ITV a mae hynny’n rheswm arall i’w gael. Siôn Corn, gwnewch
nodyn.
Gofynnais i rai o’m cyfeillion yn y Llyfrgell pa lyfrau y
buasen nhw’n hoffi.
Mark - ‘The Angels Die’ gan Yasmina Khadra. Y
nofel orau i mi ddarllen eleni oedd un gan yr awdur yma. Roedd ‘The Attack’ yn lyfr gwych a chyffrous
gan storïwr o fri, ac fe hoffwn i ddarllen mwy o’i waith.
‘The Angels Die’ yw ei lyfr
diweddaraf, wedi ei leoli yn Algeria o dan reolaeth Ffrengig – rhywle y mae’r Arabiaid yn wynebu rhagfarn ac anghyfiawnder
pob dydd. Mae’n agor gyda’r prif
gymeriad yn wynebu’r gilotîn.
Rwy’n gobeithio na
fydd yn llyfr yma yn fy siomi, ac mae’r llinell gyntaf, My name is Turambo
and they’ll be coming to get me at dawn, i weld yn ddechrau da.
Bettina – Y cwbl rydw i eisiau yw ‘The Quiet Music of
Gently Falling Snow’ gan Jackie Morris. Rydw i wrth fy modd gyda straeon Jackie ac mae ei darluniau yn wych. Rwy’n cofio pan
gawson ni ein gwaith adnewyddu yn Llyfrgell Pont-y-pŵl, fe rhoddodd ganiatâd i
ni ddefnyddio’i darluniau o ddreigiau er mwyn ein galluogi i gwblhau llyfrgell
y plant. Daeth i’n gweld am y diwrnod a
dal dychymyg plant ysgol lleol gyda’i straeon a’i lluniau ardderchog.
Cyfres o straeon byr yw’r
llyfr gyda darluniau ar thema cerddoriaeth yr oedd wedi eu dylunio’n wreiddiol
fel set o gardiau Nadolig er budd yr elusen Help
the Musicians
Rydw i yn edmygwr mawr ohoni ac rydw i bob amser
yn edrych ymlaen at ei phrosiectau newydd.
Gobeithio y bydda’ i wedi bod yn ddigon da i Siôn
Corn..........
Julian – Llyfr ar fy rhestr i yw ‘The Build:
Insights from the Masters of Custom Motorcycle Design’. Mae llawer o ddynion yn
hoff o botsian gydag offer a sbaneri ac ati mewn garej, ac rydw i’n un o’r
rheiny. Felly, pan fydd y tywydd yn oer a gwlyb beth sy’n well na threulio
amser gyda llyfr da yn edrych am syniadau ac ysbrydoliaeth, ac yna mynd allan
i’r garej i botsian.
Christine - Dyma fy nghais i ar gyfer y Nadolig. Rwy’n edmygydd mawr o lyfrau Tove Jansson ar
gyfer oedolion ond dydw i erioed wedi darllen ei llyfrau Moomin. Felly fe hoffwn i Siôn Corn ddod â chopi
clawr caled o ‘Finn Family Moomintroll’ gyda darluniau gwreiddiol hyfryd Tove
Jansson. Llyfr cysurus ar gyfer
gwyliau’r Nadolig.
Matthew – Un llyfr ar fy rhestr i yw ‘Royal
Rabbits of London’ gan Santa Montefiore a Simon Sebag Montefiore. Stori i blant
y gallaf i rhannu gyda fy meibion rhwng y Lego, setiau trên a mins peis yn
ystod y Nadolig. Rhywbeth tebyg i Watership
Down wrth i Shylo, frwydro yn erbyn haid o lygod mawr drwg er mwyn achub y
Frenhines! Lluniau hyfryd hefyd!
Stephanie - Fy newis i fyddai ‘Burial Rites’ gan Hannah Kent yr wyf newydd
ei ddarllen. Nofel gyntaf wych sy’n
dychmygu bywyd a marwolaeth Agnes Magnúsdóttir, y fenyw ddiwethaf i gael ei
dienyddio yng Ngwlad yr Iâ yn yr 1820au. Disgrifiadau ac iaith hardd ond yn
dywyll ac yn ddiysgog ar yr un pryd, arhosodd y stori gyda fi yn hir ar ôl
troi’r dudalen olaf ac rwy’n siŵr o ddod yn ôl ati yn y dyfodol. O ie, ac fe
hoffwn fynd i Wlad yr Iâ yn fawr hefyd!
Donna – Y Nadolig yma rwy’n gobeithio y caf i ‘In
Montmartre: Picasso, Matisse and Modernism in Paris, 1900-1910’ gan Sue Roe. Des
i ardraws y llyfr yma yn ddiweddar tra roeddwn mewn siop galeri ac o’r
disgrifiad mae’n edrych yn wych. Mae’r adolygiadau wedi bod yn garedig
hefyd. Mae testun y llyfr yn un sy’n
agos iawn at fy nghalon – Roedd Paris ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn amser
bywiogrwydd a datblygiad mewn celf a thu hwnt.
Mae’n rhaid ei fod yn amser cyffrous iawn! Fe fwynheais ddarllen llyfr
digon tebyg yn ddiweddar gan Ross King, stori wedi ei leoli yng nghanol y
bedwaredd ganrif ar bymtheg, ‘The Judgement of Paris; Manet, Meisonnier and an
Artistic Revolution’. Mae’r straeon celf yma mewn clawr papur yn rhoi bywyd i
bwnc y byddai nifer yn ei weld fel un sych ac mae’n berffaith i gymryd cipolwg
yn achlysurol.
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.