Discover a world of published academic research at your
local library!
Access to Research gives free, walk-in access to over 15
million academic articles across our libraries in Torfaen.
Subjects currently include art, architecture, business,
engineering, history, languages, politics, philosophy, mathematics and the
sciences. There are currently more than
11,000 journals included in the service and more content will become freely
available as more publishers continue to join the initiative.
Access to Research is just one of a growing number of online
resources now available for free to all members who visit our libraries. These
include:
Find My Past / Ancestry (Library Edition) - Discover
your family history and build a family tree with two of the world’s premier
family history websites. Search birth records, census data, obituaries and
more. You can also find out what your ancestors were doing on the eve of WW2 by
searching the 1939 Register, available only on Find my Past.
Which? Online - Buying guides and reviews from the
popular consumer magazine online. Just ask a member of staff to log you in.
Theory Test Pro - Theory Test Pro is a highly
realistic online simulation of the UK's driving theory tests for all vehicle
categories. It contains all the official test questions licensed from the DSA,
the people who set the tests.
Why not pop in soon and try one out for yourself?
Medrwch ddarganfod byd o waith ymchwil academaidd wedi’i
gyhoeddi yn eich llyfrgell leol!
Mae Mynediad at Waith Ymchwil yn rhoi mynediad am ddim, o
gerdded i mewn, i fwy na 15 miliwn o erthyglau academaidd yn ein llyfrgelloedd
yn Nhorfaen.
Ar hyn o bryd, mae’r pynciau yn cynnwys celfyddyd,
pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth,
athroniaeth, mathemateg a’r gwyddorau. Mae mwy na 11,000 cylchgrawn ar gael ar
hyn o bryd yn y gwasanaeth a bydd mwy o gynnwys yn dod ar gael am ddim wrth i
fwy o gyhoeddwyr ymuno â’r fenter.
Dim ond un o’r adnoddau ar-lein cynyddol yw Mynediad at
Waith Ymchwil sydd bellach ar gael yn rhad ac am ddim i bob un o’n haelodau
sy’n ymweld â’n llyfrgelloedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Find My Past / Ancestry (Rhifyn Llyfrgell) – Canfod
hanes eich teulu a hel achau gyda dau o brif wefannau hanes teuluol y byd.
Chwiliwch am gofnodion geni, data cyfrifiad, ysgrifau coffa a mwy. Medrwch
hefyd ddarganfod beth oedd eich hynafiaid yn ei wneud yn union cyn i’r Ail
Ryfel Bydd ddechrau trwy chwilio Cofrestr 1939, sydd ond ar gael ar Find my
Past.
Which? Online - Canllawiau prynu ac adolygiadau o’r
cylchgrawn defnyddwyr poblogaidd ar-lein. Gofynnwch i aelod staff eich
mewngofnodi.
Theory Test Pro – Mae Theory Test Pro yn efelychiad
realistig iawn o brofion theori gyrru’r DU ar gyfer pob categori o gerbyd.
Mae’n cynnwys yr holl gwestiynau swyddogol wedi eu trwyddedu gan y DSA, y bobl
sy’n gosod y profion.
Pam na ddewch draw a rhoi cynnig ar un o’r rhain eich hun?
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.