Friday 30 June 2017

Be Summer Savvy!


There’ll be lots going on across Torfaen Libraries for all ages this Summer.  If you’re in Cwmbran Library on Friday 7th July why not drop in and say hello at our ‘Be Summer Savvy’ event?

Running from 10am-1pm, ‘Be Summer Savvy’ is an information event supported by local agencies who can help you enjoy your summer safely.

While you’re visiting don’t forget to take out a book or two to enjoy while you are out and about this Summer.  Here are some suggestions, out now or coming soon to a Torfaen library near you.


‘The Essex Serpent’ by Sarah Perry - Set in Victorian London and an Essex village in the 1890's, and enlivened by the debates on scientific and medical discovery which defined the era, The Essex Serpent has at its heart the story of two extraordinary people who fall for each other, but not in the usual way.

Told with exquisite grace and intelligence, this novel is most of all a celebration of love, and the many different guises it can take.

'The Ministry of Utmost Happiness' by Arundhati Roy - It's been two decades since the author of The God of Small Things published a novel, although Arundhati Roy has written several non-fiction books since then. Epic in scale, but intimately human in its concerns, the long-awaited story dazzles with its kaleidoscopic narrative approach and unforgettable characters.



'What We Lose' by Zinzi Clemmons - "I was born as apartheid was dying." So begins this debut novel about Thandi, raised in Pennsylvania but wondering increasingly about her "other home country" of South Africa. She dives into a rediscovery of her mother's land, which serves as a kind of unsteady anchor for her, even as her mother passes away and she realizes she'll soon be a mother herself. (July 11).


'The Half-Drowned King' by Linnea Hartsuyker - Game of Thrones will be back on our screens by the time this epic Viking saga comes out, and it's a safe choice for those of us who enjoy the stories of George R. R. Martin. Ragnvald Eysteinsson is betrayed by his avaricious stepfather, and in trying to gain back his rightful inheritance, he pledges his sword to a young warrior plotting to become the king. If you like your heroes noble and your struggles for power bloody, this one's for you. (August 1).







Bydd llawer iawn yn digwydd yn Llyfrgelloedd Torfaen i bobl o bob oedran yr haf hwn. Os ydych yn Llyfrgell Cwmbrân ar ddydd Gwener 7fed Gorffennaf, pam na ddewch heibio a dweud helo, yn ein digwyddiad ‘Bod yn ddoeth dros yr haf’?

Yn rhedeg o 10am-1pm, mae ‘Bod yn Ddoeth dros yr Haf’ yn ddigwyddiad gwybodaeth a gefnogir gan asiantaethau lleol a fedr eich helpu chi i fwynhau eich haf yn ddiogel.


Tra byddwch yn ymweld â’r llyfrgell, peidiwch ag anghofio mynd â llyfr neu ddau efo chi, i’w mwynhau tra’r ydych o gwmpas yr haf hwn. Dyma rai awgrymiadau, allan nawr neu’n dod yn fuan, i lyfrgell yn agos atoch chi.

‘The Essex Serpent’ gan Sarah Perry - Wedi ei osod yn Llundain oes Fictoria a phentref yn Essex yn y 1890au, a chyda thrafodaethau ar ddarganfyddiadau gwyddonol a meddygol a ddiffiniodd y cyfnod, wrth graidd The Essex Serpent mae stori dau berson anghyffredin dros ben sy’n syrthio mewn cariad, ond ddim yn y ffordd arferol.
Wedi ei hadrodd gyda gosgeiddrwydd hynod a deallusrwydd, mae’r stori yn y nofel yma yn dathlu cariad, a’r amrywiol ffurfiau y gall gymryd.



'The Ministry of Utmost Happiness' gan Arundhati Roy - Mae’n ugain mlynedd ers pan gyhoeddodd awdur The God of Small Things nofel, er bod Arundhati Roy wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ffeithiol ers hynny. 

Yn eang ei chwmpas, ond yn ddynol o ran ei phryderon, mae’r stori hon yn disgleirio gyda’r agwedd naratif a’r cymeriadau bythgofiadwy.




'What We Lose' gan Zinzi Clemmons - "I was born as apartheid was dying." Dyma sut mae’r nofel hon yn dechrau, yn adrodd hanes Thandi, a fagwyd ym Mhennsylvania ond sy’n meddwl fwyfwy am  ei "other home country" – De Affrica. Mae’n ailddarganfod gwlad ei mam, ac mae’n gweithredu fel rhyw fath o angor iddi, hyd yn oed pan mae ei mam yn marw ac mae’n deall y bydd yn fuan yn fam ei hun. (Gorffennaf 11).

'The Half-Drowned King' gan Linnea Hartsuyker - Bydd Game of Thrones yn ôl ar ein sgrin erbyn i’r saga Lychlynnaidd hon ddod allan, a bydd yn apelio’n fawr i’r sawl ohonom sy’n mwynhau tipyn o antur Westeros. Mae Ragnvald Eysteinsson yn cael ei fradychu gan ei lys-dad ariangar, ac wrth geisio ennill yn ôl ei etifeddiaeth, mae’n addo ei gleddyf i ryfelwr ifanc sy’n cynllwynio i fod yn frenin. Os ydych chi’n hoffi eich arwyr yn nobl a’ch brwydrau am bŵer yn rhai gwaedlyd, dyma un i chi. (Awst 1).




No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.