Friday 28 April 2017

Desert Island Books 6


April’s castaway is Rosie Clare, from Cwmbran library. Here are her 6 essential reads.

Jane Eyre – Charlotte Bronte
This is an all-time favourite of mine. Written in diary form in the first person we are taken on a journey starting with Jane’s childhood to a day in her future when she is happy and in love. I particularly enjoy witnessing Jane’s development from a neglected and put-upon child to a strong woman who knows what she wants.  She falls in love with Mr Rochester early in her adulthood but will not be with him unless it is on her own terms. ‘Reader, I married him.’

A Suitable Boy – Vikram Seth
This is a book that I have started to read a couple of times but not got very far. I think it would be a great opportunity to finally read this on my desert island. It is one of the longest pieces of fiction originally written in English and is a fascinating insight into the lives of four fictional families living in 1950s India. Attempts by Lata’s mother to find her a husband are causing a family feud as Lata insists on choosing her own match.

The Secret Agent – Joseph Conrad
Another favourite book that I would like time to re-read. It is a dark book set in a dark place but written with surprisingly beautiful language and wonderful descriptions. Mr Verloc is not a pleasant character and his quiet unassuming wife, Winnie shows us why you should never underestimate the protective instincts of a woman.

The Wind in the Willows – Kenneth Grahame
I have chosen this book out of pure nostalgia. Having this read to me as a child helped forge my love of books. The wonderful adventures of Ratty, Mole and Mr Toad simply whisk me away to a world of sunshine, water and picnics – wherever I happen to be when I’m reading it.

The Lord of the Rings Trilogy– JRR Tolkien
This might be a cheat choosing a trilogy, but they can’t really be read on their own.  The story continues to build in excitement and becomes darker and more menacing in each book. Exciting events, wonderful descriptions and incredible characters keep the reader hooked throughout the epic journey of a hobbit, a few dwarves and a wizard as they attempt to overthrow the evil entity, Sauron and destroy the ‘one ring’.

Bushcraft 101 – Dave Canterbury
I haven’t read this book, but I have a feeling it will be very useful on the island. Ever the practical person, I would like to think that I would be able to make a shelter, build a fire, find food and water then read all my books! Canterbury is an expert survivalist and bases his success on the 5 Cs : cutting tools, covering, combustion devices, containers, and cordage.








Llyfrau Ynys Bellennig 5
Ein llongddrylliedig ym mis Ebrill yw Rosie Clare, o lyfrgell Cwmbrân. Dyma 6 o’i hanfodion darllen hi.

Jane Eyre - Charlotte Bronte 
Mae hwn yn ffefryn go iawn i mi. Ysgrifennwyd y llyfr ar ffurf dyddiadur yn y person cyntaf. Cawn ein tywys ar daith sy'n cychwyn gyda phlentyndod Jane a hynny tan ddiwrnod yn ei dyfodol pan mae hi'n hapus ac mewn cariad. Rwyf yn mwynhau gweld datblygiad Jane o blentyn a gafodd ei esgeuluso, i fenyw gref sy'n gwybod beth mae hi eisiau. Mae hi'n syrthio mewn cariad â Mr Rochester ar ddechrau ei bywyd fel oedolyn, ond ni fydd hi gydag ef oni bai ei fod ar ei thelerau hi. 'Ddarllenydd, fe briodais ef.'

A Suitable Boy –Vikram Seth
Mae hwn yn llyfr yr wyf wedi dechrau ei ddarllen fwy nag unwaith, ond heb gyrraedd yn bell iawn. Rwy'n credu y byddai'n gyfle gwych i ddarllen hwn o'r diwedd ar fy ynys bellennig. Mae'n un o'r darnau hiraf o ffuglen a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn Saesneg ac mae'n gipolwg diddorol i mewn i fywydau pedwar teulu dychmygol sy'n byw yn India yn y 1950au. Mae ymdrechion mam Lata i ddod o hyd i ŵr iddi yn achosi ymrafael ymysg y teulu wrth i Lata fynnu mynd ati i ddewis rhywun ei  hun.

The Secret Agent - Joseph Conrad
Hoff lyfr arall yr hoffwn gael amser i'w ail-ddarllen. Mae'n llyfr tywyll sy'n adrodd hanes o le tywyll, ond un sydd wedi'i ysgrifennu ag iaith ryfeddol o hardd, a disgrifiadau gwych. Nid yw Mr Verloc yn gymeriad dymunol ac mae Winnie, ei wraig ddiymhongar a thawel, yn dangos i ni pam na ddylech chi fyth bychanu greddfau amddiffynnol menyw.

The Wind in the Willows – Kenneth Grahame
Yr wyf wedi dewis y llyfr hwn ar sail atgofion pur. Darllen hwn i mi yn blentyn a helpodd i feithrin fy hoffter o lyfrau. Mae anturiaethau gwych Ratty, Mole a Mr Toad yn fy ysgubo i ffwrdd i fyd o heulwen, dŵr a phicnic - lle bynnag yr wyf yn digwydd bod pan dwi'n ei ddarllen.

The Lord of the Rings -Triloleg – JRR Tolkien
Efallai bod dewis trioleg braidd yn eofn, ond ni allwch eu darllen ar eu pennau eu hunain. Mae'r stori yn parhau i adeiladu mewn cyffro ac yn dod yn dywyllach ac yn fwy bygythiol ym mhob llyfr. Mae digwyddiadau cyffrous, disgrifiadau gwych a chymeriadau anhygoel yn cadw'r darllenydd yn gaeth trwy gydol y daith epig Hobbit, ychydig o gorachod a dewin wrth iddynt geisio dymchwel yr endid drwg, Sauron a dinistrio'r 'un fodrwy'.


Bushcraft 101 – Dave Canterbury
Nid wyf wedi darllen y llyfr hwn, ond mae gen i deimlad y bydd yn ddefnyddiol iawn ar yr ynys. Yn berson ymarferol, byddwn yn hoffi meddwl y byddwn yn gallu gwneud lloches, cynnau tân, dod o hyd i fwyd a dŵr yna darllen fy holl lyfrau! Mae Canterbury yn oroeswr arbenigol ac yn seilio ei lwyddiant ar 5 peth: offer torri, gorchudd, dyfeisiau hylosgi, cynwysyddion, a rhaffau.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.