Friday, 21 April 2017

Share the joy of reading



Organised by the Reading Agency, a national charity that aims to inspire people to become confident and enthusiastic readers, World Book Night is all about sharing the joy of reading. On that night books are given to people across the UK with a particular focus on those who don’t regularly read. Since 2011 two million books have been given away, thanks to World Book Night.

This year’s selection of 26 great and varied titles will be donated by publishers and distributed to organisations such as prisons, colleges, hospitals, care homes and homeless shelters.

If you love reading and want to share that pleasure with others, why not gift some of your favourite books on World Book Night. They don’t have to be brand new, if you’ve enjoyed them that enthusiasm will come across to others. Should they need more encouragement try telling them that reading can reduce stress levels by up to 68% and regular readers tend to be happier and more satisfied with life. If they have kids point out that parents are the most important reading role models for children and young people. Best of all, it’s FUN!
http://worldbooknight.org/get-involved











Rhannwch hyfrydwch darllen 
Noson Llyfr y Byd 23ain Ebrill 2017

Trefnir Noson Llyfr y Byd gan y Reading Agency, elusen genedlaethol gyda’r nod o ysbrydoli pobl i ddod yn ddarllenwyr hyderus a brwdfrydig, ac mae’n Noson sy’n ymwneud â rhannu hyfrydwch darllen. Ar y noson honno, rhoddir llyfrau i bobl ledled y DU gyda ffocws penodol ar y sawl nad ydynt yn darllen yn rheolaidd. Ers 2011 rhoddwyd dwy filiwn o lyfrau, diolch i Noson Llyfr y Byd.

Bydd detholiad eleni o 26 o deitlau gwych ac amrywiol yn cael eu cyfrannu gan gyhoeddwyr a’u dosbarthu i sefydliadau megis carchardai, colegau, ysbytai, cartrefi gofal a llochesi i’r digartref.

Os ydych chi’n caru darllen ac eisiau rhannu’r pleser hwnnw gydag eraill, pam na roddwch rai o’ch hoff lyfrau ar Noson Llyfr y Byd. Nid oes yn rhaid iddyn nhw fod yn llyfrau newydd sbon; os ydych wedi eu mwynhau, bydd y brwdfrydedd hwnnw yn trosglwyddo i bobl eraill. Os ydynt angen mwy o anogaeth, medrwch ddweud wrthyn nhw bod darllen yn medru gostwng lefelau straen hyd at 68% a bod darllenwyr rheolaidd yn tueddu i fod yn hapusach a mwy bodlon gyda bywyd. Os oes ganddynt blant, nodwch mai rhieni yw’r rôl enghreifftiol bwysicaf o ran darllen ar gyfer plant a phobl ifanc. Gorau oll, mae’n HWYL!




No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.