Last month Cressida Cowell, author and illustrator of the ‘How
to Train Your Dragon’ series and the Emily Brown picture books, was crowned the
Waterstones Children’s Laureate 2019-2021.
On succeeding Lauren Child, Cressida described books and
reading as “magic” and promised to campaign for the right for books to be for
everyone, starting with campaigning for funding and improvements to public and
school library services and encouraging schools to allow children to be
creative.
To celebrate our new Children’s Laureate why not pop into
your local Torfaen library and take out one of her books to share with your
eager reader?
How to
Train Your Dragon - In the first ‘How to Train Your Dragon’ book
Hiccup must lead ten novices in their initiation into the Hairy Hooligan Tribe.
They have to train their dragons or be BANISHED from the tribe FOR EVER!
But what if Hiccup's dragon resembles an ickle brown bunny
with wings? And has NO TEETH? The Seadragonus Giganticus Maximus is stirring
and wants to devour every Viking on the Isle of Berk . . . Can Hiccup save the
tribe - and become a Hero?
Emily
Brown and the Thing - Emily Brown and her rabbit, Stanley, are
trying to sleep. But a Splish-Splosh noise is keeping them awake...
It's a Thing! And this Thing just won't go to sleep. Emily Brown and Rabbit try everything, but nothing works. Just what could be the matter?
It's a Thing! And this Thing just won't go to sleep. Emily Brown and Rabbit try everything, but nothing works. Just what could be the matter?
Wizards
of Once - Xar is a Wizard boy who has no Magic, and will do
anything to get it. Wish is a Warrior girl, but she owns a banned Magical
Object, and she will do anything to conceal it.
In this whirlwind
adventure, Xar and Wish must forget their differences if they're going to make
it to the dungeons at Warrior Fort.
Where something that has been sleeping for hundreds of years is
stirring...
Y mis diwethaf, coronwyd Cressida
Cowell, awdur a darlunydd y gyfres ‘How to Train Your Dragon’ a llyfrau lluniau
Emily Brown, yn Awdur Llawryfog Plant Waterstones 2019-2021.
Wrth olynu Lauren Child, disgrifiodd
Cressida lyfrau a darllen fel “hud a lledrith” ac addawodd y byddai’n ymgyrchu
dros yr hawl i lyfrau fod yn rhywbeth i bawb, gan ddechrau gydag ymgyrchu am
arian a gwelliannau i wasanaethau llyfrgell cyhoeddus a llyfrgelloedd ysgolion,
ac annog ysgolion i ganiatáu i blant fod yn greadigol.
I ddathlu ein Hawdur
Llawryfog Plant newydd, pam nag ewch draw i’ch llyfrgell leol yn Nhorfaen a
benthyg un o’i llyfrau i’w rannu gyda’ch darllenwr brwd?
How to Train Your Dragon – Yn y llyfr cyntaf ‘How to Train Your Dragon’,
rhaid i Hiccup arwain deg newyddian ar eu derbyniad i’r Hairy Hooligan Tribe. Rhaid
iddyn nhw hyfforddi eu dreigiau neu gael eu HALLTUDIO o’r llwyth AM BYTH!
Ond beth os yw draig
Hiccup yn edrych yn debyg i gwningen fach frown gydag adenydd? A HEB DDANNEDD?
Mae’r Seadragonus Giganticus Maximus yn cynhyrfu ac mae eisiau bwyta pob
Llychlynnwr ar Ynys Berk . . . A all Hiccup achub y llwyth – a dod yn Arwr?
Emily Brown and the Thing – Mae Emily Brown a’i chwningen, Stanley, yn ceisio
cysgu. Ond mae sŵn Splish-Splosh yn eu cadw’n effro...
Peth ydy o! Ac nid yw’r Peth yma am fynd i gysgu. Mae Emily Brown a’r Gwningen yn rhoi cynnig ar bopeth, ond ‘does dim byd yn gweithio. Beth allai fod o’i le?
Peth ydy o! Ac nid yw’r Peth yma am fynd i gysgu. Mae Emily Brown a’r Gwningen yn rhoi cynnig ar bopeth, ond ‘does dim byd yn gweithio. Beth allai fod o’i le?
Wizards of Once –
Mae Xar yn Ddewin-fachgen heb unrhyw Hud a Lledrith, ac fe wnaiff unrhyw beth i
gael peth. Mae Wish yn ferch sy’n Rhyfelwr, ond mae ganddi Wrthrych Hud sydd
wedi ei wahardd, ac fe wnaiff unrhyw beth i’w guddio.
Yn yr antur gwyllt hwn, rhaid
i Xar a Wish anghofio eu gwahaniaethau os ydyn nhw’n mynd i gyrraedd y dwnsiwn
yn Warrior Fort. Lle mae rhywbeth sydd
wedi bod yn cysgu am gannodd o flynyddoedd yn dechrau deffro...