Monday, 7 October 2019

BorrowBox - The Best Titles Without the Queue!


Did you know that your Torfaen Libraries membership card gives you access to the fantastic BorrowBox service, an online library of ebooks and eaudiobooks that can be downloaded to your phone, tablet or PC?

Well now it’s got even better with major titles being chosen regularly for library users across Wales to loan with NO queues!  There are junior and adult titles available now so all the family can take advantage.  Perhaps you’ll try the thriller by David Baldacci, a mystery by Kate Morton or maybe share a bit of Winnie the Pooh before bed if you have little ones at home?

The Memory Man by David Baldacci (ebook and eaudiobook) - The first in the Amos Decker series, Memory Man by blockbuster author David Baldacci, features an extraordinary man racing to hunt down a terrible killer.  Amos must endure the memories he would rather forget, and when new evidence links the murders, he is left with only one option…
The Lake House by Kate Morton (ebook and eaudiobook) - In the attic writing room of her elegant Hampstead home, the formidable Alice Edevane, now an old lady, leads a life as neatly plotted as the bestselling detective novels she writes. Until a young police detective starts asking questions about her family's past, seeking to resurrect the complex tangle of secrets Alice has spent her life trying to escape...
The 13 Storey Treehouse by Andy Griffiths (ebook and eaudiobook) - Andy and Terry live in the WORLD'S BEST treehouse! It's got a giant catapult, a secret underground laboratory, a tank of man-eating sharks and a marshmallow machine that follows you around and shoots marshmallows into your mouth whenever you're hungry!
The House at Pooh Corner by A.A. Milne (eaudiobook) - 'One day when Pooh Bear had nothing else to do, he thought he would do something, so he went round to Piglet's house to see what Piglet was doing.'
This is the second classic children’s story by A.A. Milne about Winnie-the-Pooh and his friends in the Hundred Acre Wood. In this volume Pooh meets the irrepressible Tigger for the first time, learns to play Poohsticks and sets a trap for a Heffalump.


If you need any help setting up BorrowBox on your device pop into any of our IT drop in sessions in Cwmbran, Pontypool or Blaenavon.





Oeddech chi’n gwybod bod eich cerdyn aelodaeth Llyfrgelloedd Torfaen yn eich galluogi i ddefnyddio gwasanaeth BorrowBox, llyfrgell ar-lein o e-lyfrau ac e-lyfrau clywedol y mae modd eu lawrlwytho i’ch ffôn, tabled neu gyfrifiadur?

Wel, mae’n well fyth nawr gyda theitlau mawr yn cael eu dewis yn rheolaidd i ddefnyddwyr llyfrgelloedd ar draws Cymru gyda DIM ciwiau!  Mae yna lyfrau i’r rhai iau ac i’r oedolion ar gael nawr felly gall y teulu i gyd gymryd mantais.  
Efallai y byddwch chi am roi tro ar nofel gyffrous David Baldacci, dirgelwch gan Kate Morton neu efallai rhannu darn o Winnie the Pooh cyn cysgu os oes rhai bach gyda chi.

The Memory Man gan David Baldacci (e-lyfr ac e-lyfr clywedol) – Y cyntaf yng nghyfres Amos Decker, mae Memory Man gan yr awdur poblogaidd David Baldacci, yn cyflwyno dyn anhygoel ar ras i ddal llofrudd ofnadwy.  Rhaid i Amos oddef yr atgofion y byddai’n well ganddo eu hanghofio, a phan fo tystiolaeth newydd yn cysylltu’r llofruddiaethau, dim ond un dewis sydd ar ôl ganddo…
The Lake House gan Kate Morton (e-lyfr ac e-lyfr clywedol) - Yn yr ystafell ysgrifennu yn yr atig yn ei chartref moethus yn Hampstead, mae Alice Edevane, sydd erbyn hyn yn hen fenyw, yn byw bywyd sydd mor drefnus â’r nofelau ditectif poblogaidd y mae hi’n ysgrifennu. Tan fydd ditectif ifanc yn dechrau holi am gefndir ei theulu, gan geisio atgyfodi’r cyfrinachau cymhleth y mae Alice wedi ceisio dianc rhagddyn nhw trwy gydol ei hoes...
The 13 Storey Treehouse gan Andy Griffiths (e-lyfr ac e-lyfr clywedol) - Mae Andy a Terry’n byw yn y tŷ coed GORAU YN Y BYD!  Mae ganddo gatapwlt anferth, labordy tanddaearol dirgel, tanc o siarcod a pheiriant malws melys sy’n eich dilyn chi ac yn saethu malws i’ch ceg pan fyddwch eisiau bwyd!
The House at Pooh Corner gan A.A. Milne (e-lyfr clywedol) - 'Un diwrnod, pan nad oedd gan Pooh unrhyw beth arall i’w wneud, meddyliodd y byddai’n gwneud rhywbeth, felly fe aeth i dŷ Piglet i weld beth oedd Piglet yn gwneud.'
Dyma ail glasur A.A. Milne i blant am Winnie-the-Pooh a’i ffrindiau yn y Goedwig Can Erw. Yn y gyfrol hon mae Pooh yn cwrdd â Tigger am y tro cyntaf, yn dysgu sut mae chwarae Poohsticks ac yn gosod trap ar gyfer Heffalump.
Os angen help arnoch chi i gael BorrowBox ar eich dyfais, galwch i mewn i un o’n sesiynau TG yng Nghwmbrân, Pont-y-pŵl neu Flaenafon.