December
is here once more. As the doors on advent calendars begin to open our
thoughts turn to Christmas so, for this month's blog, we're going to look at
some of 2019's best books for children (of all ages), perfect for loaning from
your local library or for putting under the tree for the big day.
The Smeds and the Smoos by Julia Donaldson and Axel Scheffler - The Smeds (who
are red) never mix with the Smoos (who are blue). So when a young Smed and Smoo
fall in love, their families strongly disapprove. But peace is restored and
love conquers all in this happiest of love stories. There's even a gorgeous
purple baby to celebrate!
The Beast of Buckingham
Palace
by David Walliams - It is
2120 and London is in ruins. The young Prince Alfred has never known
a life outside Buckingham Palace – but when strange goings-on breach its walls
and stalk the corridors in the dead of night, he is thrust into a world of
mystery, adventure and monsters.
The Christmasaurus and
the Winter Witch
by Tom Fletcher - A year has passed
since a boy named William Trundle had an incredible adventure with
the most extraordinary dinosaur: the Christmasaurus. Now,
William is about to be swept back to the North Pole and meet the icy,
mysterious and magical Winter Witch, whose power to control time
allows Santa to travel all around the world on Christmas Eve.
The Secret
Commonwealth: The Book of Dust Volume 2 by Philip
Pullman - Lyra, now twenty, and her daemon are forced to navigate
their relationship in a way they could never have imagined as they are drawn
into the complex and dangerous factions of a world that they had no idea
existed. Pulled along on his own journey too is Malcolm; once a boy with a boat
and a mission to save a baby from the flood, now a man with a strong sense of
duty and a desire to do what is right.
Mae Rhagfyr yma unwaith eto.
Wrth i’r drysau ar galendrau Adfent ddechrau agor, mae ein meddyliau’n dechrau
troi at y Nadolig ac felly, ar gyfer blog y mis hwn, rydym yn mynd i edrych ar
rai o lyfrau gorau 2019 i blant (o bob oed), sy’n berffaith i’w benthyca gan
eich llyfrgell leol neu i’w rhoi o dan y goeden ar gyfer y diwrnod mawr.
The
Smeds and the Smoos gan Julia Donaldson ac Axel
Scheffler – Dyw’r Smeds (sy’n goch) byth yn cymysgu gyda’r Smoos (sy’n
las). Felly pan fod Smed a Smoo ifanc yn cwympo mewn cariad, mae eu teuluoedd
yn ffyrnig yn erbyn. Ond daw heddwch unwaith eto ac mae cariad yn rhagori yn y
stori serch yma. Mae yna fabi bach
porffor i goroni’r cyfan hefyd!
The Beast of Buckingham Palace gan David
Walliams - Mae’n 2120 ac mae
Llundain yn deilchion. Dyw’r Tywysog Alfred ifanc ddim yn gyfarwydd o gwbl gyda
bywyd y tu allan i Balas Buckingham - ond pan fo pethau od yn torri trwy’r
waliau ac yn troedio’r coridorau yng nghanol y nos, caiff ei daflu i fyd o ddirgelwch,
antur ac angenfilod.
The Christmasaurus and the Winter Witch gan Tom
Fletcher - Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i fachgen o’r enw William
Trundle gael antur anhygoel gyda’r dinosor mwyaf anarferol: y Christmasaurus.
Nawr, mae William ar fin gael ei ysgubo yn ôl i Begwn y Gogledd i gwrdd â
Gwrach y Gaeaf sydd, trwy ei gallu i reoli amser, yn galluogi Siôn Corn i
deithio o gwmpas y byd ar Noswyl Nadolig.
The Secret Commonwealth: The Book of Dust Volume 2 gan Philip Pullman – Mae Lyra,
bellach yn ugain oed, a’i daemon yn cael eu gorfodi i lywio’u perthynas mewn
ffordd na fydden nhw byth wedi dychmygu wrth iddyn nhw gael eu tynnu i mewn i
garfannau cymhleth a pheryglus byd nad oedden nhw’n sylweddoli ei fod yn bodoli.
Yn cael ei dynnu ar ei daith ei hun hefyd mae Malcolm, a fu unwaith yn fachgen
gyda chwch a chennad i achub baban o’r llifogydd, ac sydd nawr yn ddyn gyda
synnwyr clir o ddyletswydd ac awydd gwneud yr hyn sy’n iawn.
Eisteddwch ‘nôl gyda llyfr da dros yr ŵyl!