Friday, 8 August 2014

Fiftieth Anniversary of the Public Libraries Act 1964

Guest Blog by Hywel James

The chief librarians in Wales celebrated recently. What did they have to celebrate you may ask in the middle of planning drastic cuts in spending and closing some libraries? Well on a break form a busy agenda with items discussing the development and improvement of services, we took the opportunity to share cake and remember fifty years since the passing of the Public Libraries Act 1964. This Act established the modern statutory library service it is the duty of each local authority to provide, and that gives everyone in Wales the right to enjoy and benefit from their use. 

As a child of the sixties I remember especially a new public library building that came in the wake of this important Act. The new concrete and glass Holyhead library- I was there at the opening - with the Secretary of State of Wales at the time, Cledwyn Hughes, opening the library in his hometown and mine. Here my life was opened to the treasures of literature of a high standard - the pleasure of following the story of Tolkien's Hobbit and excitement of reading T. Llew Jones novels - and getting valuable help with my homework whilst at school and college -  my debt is great to that library. 

As it was in the period of a Labour Government that this first golden age of public library building took place it was necessary to remind myself that the 1964 Act was the product of a Conservative government. After years of debate mainly through years of Harold Macmillan’s leadership the Act was passed. It is no coincidence I suspect that Macmillan himself was an enthusiastic reader - his favourite author Jane Austen by the way - and of course he was the heir to the company of Scottish descent that became one of the world's major publishers. It is strange to think in the present climate that we owe a debt to the Tory Party for the Act to establish comprehensive and efficient library services’!

While visiting the new libraries at Prestatyn and Caerphilly recently I was struck by the same excitement I felt as a child in Holyhead, to see new multi-purpose libraries attracting a host of new users. The lean period is ahead of us but we have survived bleak decades. Our strength as a public service is that review after review, case study after case study and our everyday experience shows the great  value of libraries to people's lives. This solid evidence will ensure the future of the public library service to continue to serve, with free access for all, for the next fifty years.

Picture  Anita Thomas (Pembroke ) and  Steve Hardman (Swansea )  both born in  1964 with  Ann Jones ( Monmouth)  Chair SCL Wales  and Hywel James (Gwynedd ) –who bought the cake !



Dyma lun  Anita Thomas  (Penfro ) a Steve Hardman ( Abertawe) y ddau wedi eu geni yn 1964 gydag Ann Jones ( Mynwy) Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a Hywel James (Gwynedd ) -prynodd dy gacen !

Bu prif lyfrgellwyr Cymru yn dathlu yn ddiweddar. Beth oedd ganddynt i ddathlu meddwch yn ganol cynllunio cwtogi llym ar wariant a chau rhai llyfrgelloedd? Wel ar egwyl o ganol agenda prysur o eitemau  yn trafod datblygu a gwella ein gwasanaethau cymerwyd y cyfle  i rannu cacen a chofio hanner can mlynedd ers pasio Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1964. Dyma'r ddeddf sefydlodd y gwasanaeth llyfrgelloedd statudol modern, mae’n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol ei baratoi ac sydd yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru eu mwynhau a chael budd o'u defnyddio.  

Fel plentyn y chwedegau am gennyf gof arbennig  o adeilad llyfrgell gyhoeddus newydd a ddaeth yn sgil y Ddeddf bwysig hon. Llyfrgell concrid a gwydr newydd Caergybi  - roeddwn yno yn yr agoriad swyddogol  - gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Cledwyn Hughes, yn agor y llyfrgell yn ei dref enedigol a finnau.  Yno agorwyd fy mywyd i drysorau llenyddiaeth o safon uchel - y pleser  o ddilyn hanes  Hobbit Tolkien a chyffro darllen nofelau T. LLew Jones -  a chael  cymorth gwerthfawr gyda'm gwaith cartref trwy ddyddiau ysgol a choleg - mae fy nyled yn fawr i'r llyfrgell honno.  
Gan mai yng nghyfnod Llywodraeth Llafur y chwedegau oedd oes aur cyntaf llyfrgelloedd cyhoeddus  roedd angen i fy atgoffa mai cynnyrch llywodraeth Geidwadol oedd y Ddeddf Llyfrgell 1964.Hynny  yn dilyn blynyddoedd o drafod trwy gyfnod arweiniad Harold Macmillan, o'r diwedd cafwyd Deddf. Nid yw'n cyd-ddigwyddiad rwy’n amau fod  Macmillan ei hun yn ddarllenwyr  brwd - Jane Austen ei hoff awdur gyda llaw -  ac wrth gwrs roedd yn etifedd y cwmni o dras Albanaidd daeth yn un o gyhoeddwyr mawr y byd. Mae’n dyled felly am y Ddeddf Llyfrgell i sefydlu'r gwasanaethau llyfrgell  ‘ cynhwysfawr ac effeithiol' sydd gennym'  i'r blaid Toriad - rhyfedd o fyd!   
Wrth ymweld â llyfrgell newydd Caerffili  a Phrestatyn yn ddiweddar cefais fy nharo o gan yr un cyffro teimlais yn blentyn yng Nghaergybi  ,o weld llyfrgell newydd aml bwrpas  yn denu llu o ddefnyddwyr newydd. Mae cyfnod llwm o’n blaen ond rydym wedi goroesi  degawdau llwm o’r blaen. Ein cryfder fel gwasanaeth cyhoeddus yw bod adolygiad ar ôl adolygiad,  astudiaeth  achos ar ôl achos ac  ein profiad pob dydd   yn dangos gwerth mawr lyfrgelloedd i fywydau  pobl . Y dystiolaeth gadarn  hon fydd yn sicrhau  dyfodol i lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i barhau i wasanaethu , gyda mynediad am ddim  i bawb, am yr hanner can mlynedd nesaf.


No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.