Friday 18 November 2016

Desert Island Books




I’m planning to do a monthly Desert Island Books post asking library staff to tell me which 6 books they would choose to take with them should they be castaway on a desert island. We’re starting at the top of the tree, a palm tree presumably, with Christine George, Library and Information Manager.

Here are her choices:

The adventures of Huckleberry Finn by Mark Twain.

This book meets my reading needs in so many ways.  It is a rollicking adventure story - of Jim and Huck floating down the Mississippi trying to keep Jim from being taken back into slavery and “sold down the river”. I like books which are packed with events and happenings and this is stuffed with them. It is laugh out loud funny in many places, a study of the absurdity of people’s beliefs and behaviours and really delightful in capturing modes of speech.  Its language is rich and playful.  Kindness and cruelty are unflinchingly presented and the main characters have an innocent integrity which shines through.  Huck’s decision at the very end is wonderful or awful depending on your point of view.

A tale of two cities by Charles Dickens

I first read this book in school days, together with my best friend.  We would spend chemistry lessons surreptitiously reading bits and “casting” the characters with people we knew – or wanted to know, like older boys in the sixth form.  Sidney Carton is the ultimate tragic hero, a drunken reprobate who gives his own life to save the husband of the woman he has long loved.
There are a wealth of interesting and gritty characters in both the London and Paris locations and the period setting during the French Revolution, is a thrilling backdrop.  I was particularly drawn to the ruthless revolutionary, Madame Defarge, and not too keen on Lucy Manette, the wimpy woman beloved of both Carton and Charles Darnay.  Also to the grave robbing Jerry Cruncher, who continually warned his wife against “flopping” (falling to her knees to pray for his soul).

The wind in the willows by Kenneth Grahame

This has been my comfort reading ever since I first read it as a child.  My favourite chapter has Mole and Ratty lost in the Wild Wood in the middle of a snowstorm.  Just when all is lost Ratty recognises that they are not far from Mr Badger’s door.  After a long wait while the bell is answered they are welcomed into a warm kitchen in Badger’s underground home.  There’s a log fire with sizzling bacon in the frying pan.  They are warmed, fed, generally looked after and have a marvellous time.  It’s lovely.

The summer book by Tove Jannson

The summer book is a serial collection of short stories about the relationship between a young girl, Sophia, and her grandmother, living on one of the many small islands in the Gulf of Finland.  The stories are small scale featuring the everyday life and incidents of these island people and their occasional visitors.  They are told in a simple and beautiful style reflecting the child’s eye view.  They are full of kindness and love and are great for reading aloud.

The eagle of the ninth by Rosemary Sutcliff

I love all of Rosemary Sutcliff’s novels, particularly those which are set in Roman Britain.  This is the first one in a series so it’s a good one to put in the list.  It’s the story of a friendship between a wounded legionary, Marcus, and Esca, a slave captured from the Brigantes.  They go north of the Wall (as in Hadrian’s Wall) in search for the missing legionary standard (the Eagle).  Both men have things to learn about their courage, loyalties and identity.  Great storytelling and characters, who I really became involved with.  It also gives a real sense of period and society at the time.

Macbeth by William Shakespeare


Why choose a play?  Macbeth is my very favourite.  It has everything: ghosts, witches, treachery, murder, intrigue, passion, revenge, great speeches and a walking wood!  What more could you ask?  Also I met my husband through this play.  He was Macduff, the only good character in the whole thing, and I was a lowly third witch.  It’s very special to me.














LLYFRAU YNYS BELLENNIG

Rydw i'n bwriadu creu cofnod misol ar ffurf Llyfrau Ynys Bellennig gan ofyn i staff y Llyfrgell ddweud wrthyf ba 6 llyfr byddent yn dewis mynd â hwy pe byddent ar ynys bellennig yn dilyn llongddrylliad. Rydym yn dechrau ar frig y goeden, coeden palmwydd yn ôl pob tebyg, gyda Christine George, Rheolwr Llyfrgelloedd a Gwybodaeth.

Dyma ei dewis hi:

The adventures of Huckleberry Finn gan Mark Twain.



Mae'r llyfr hwn yn diwallu fy anghenion darllen mewn cymaint o ffyrdd. Mae'n stori antur hwyliog -  Jim a Huck yn hwylio i lawr y Mississippi i geisio â chadw Jim rhag dychwelyd i gaethwasiaeth a'i "werthu i lawr yr afon". Rwy'n hoffi llyfrau sydd yn llawn digwyddiadau, ac mae'r llyfr hwn dan ei sang. Mae'n ddoniol ac yn gwneud i chi chwerthin yn uchel mewn sawl man, mae'n astudiaeth o wiriondeb credoau ac ymddygiad pobl ac yn hyfryd o ran cipio dulliau lleferydd. Mae ei iaith yn gyfoethog ac yn chwareus. Mae caredigrwydd a chreulondeb yn cael eu cyflwyno'n ddiysgog ac mae gan y prif gymeriadau onestrwydd diniwed sy'n taflu golau drwyddi draw. Mae penderfyniad Huck yn y pen draw yn wych neu'n ofnadwy yn dibynnu ar eich safbwynt.

A tale of two cities gan Charles Dickens

Darllenais y llyfr hwn am y tro cyntaf yn fy nyddiau ysgol, gyda fy ffrind gorau. Byddem yn treulio gwersi cemeg yn darllen darnau'n llechwraidd a "chastio'r" cymeriadau gyda phobl roeddem yn eu hadnabod - neu am eu hadnabod, fel y bechgyn hŷn yn y chweched dosbarth. Sidney Carton yw'r arwr trasig yn y pen draw, yn ddihiryn meddw sy'n rhoi ei fywyd ei hun i achub gŵr y wraig y mae wedi ei charu ers tro.
Mae cyfoeth o gymeriadau diddorol a gwrol yn Llundain a Pharis ac mae lleoliad y cyfnod yn ystod y Chwyldro Ffrengig, yn gefnlen wefreiddiol. Cefais fy nenu’n arbennig at Fadam Defarge y chwyldroadwraig ddidostur, ond nid oeddwn yn rhy hoff o Lucy Manette, y llipryn o wraig oedd yn anwylyd i Carton a Charles Darnay. Hefyd i'r lleidr bedd Jerry Cruncher, a rhybuddiai ei wraig yn barhaus i beidio â "fflopio" (syrthio i’w phen-gliniau i weddïo dros ei enaid).

The wind in the willows gan Kenneth Grahame


Dyma oedd fy nghysur darllen ers i mi ei ddarllen yn gyntaf pan oeddwn yn blentyn. Fy hoff bennod yw pan mae Mole a Ratty yn mynd ar goll yn Wild Wood yng nghanol storom eira. Wrth i bethau fynd yn drech mae Ratty yn sylweddoli nad ydynt yn bell o ddrws Mr Badger. Ar ôl aros hir tra bod rhywun yn dod i'r drws maent yn cael eu croesawu i mewn i gegin gynnes yng nghartref Badger o dan y ddaear. Mae tân coed â bacwn yn hisian yn y badell ffrio. Maent yn cael ychydig o wres, ychydig o fwyd, yn derbyn gofal da ac amser gwych. Mae'n hyfryd.

The summer book gan Tove Jannson


Mae'r llyfr haf yn gasgliad cyfresol o straeon byrion am y berthynas rhwng merch ifanc, Sophia, a'i mam-gu, sy'n byw ar un o'r nifer o ynysoedd bach yng Nghwlff y Ffindir. Mae'r straeon ar raddfa fach yn dangos bywyd a digwyddiadau bob dydd y bobl sy'n byw ar yr ynys a'u hymwelwyr achlysurol. Maent yn cael eu hadrodd mewn arddull syml a phrydferth, sy’n adlewyrchu bywyd drwy lygad y plentyn. Maent yn llawn caredigrwydd a chariad ac yn wych ar gyfer darllen yn uchel.

The eagle of the ninth gan Rosemary Sutcliff


Rwyf wrth fy modd â holl nofelau Rosemary Sutcliff, yn enwedig y rhai sydd yn digwydd ym Mhrydain yn y cyfnod Rhufeinig. Dyma'r un cyntaf mewn cyfres felly mae'n un da i'w rhoi ar y rhestr. Mae'n adrodd stori am gyfeillgarwch rhwng  Marcus, lleng filwr a gafodd ei glwyfo, ac Esca, caethwas a gipiwyd o'r Brigantiaid. Maent yn mynd i'r gogledd o'r Wal (sef Mur Hadrian) i chwilio am luman coll y lleng (yr Eryr). Mae gan y ddau ddyn bethau i'w dysgu am eu dewrder, teyrngarwch a hunaniaeth. Ffordd wych o adrodd stori a chymeriadau gwych a wnaeth lwyddo i gipio fy nychymyg. Mae hefyd yn rhoi gwir ymdeimlad o’r cyfnod a chymdeithas ar y pryd.

Macbeth gan William Shakespeare


Pam dewis drama?  Macbeth yw fy hoff o bell ffordd.  Mae ynddi bopeth: ysbrydion, gwrachod, brad, llofruddiaeth, cynllwynio, nwyd, dial, areithiau gwych a choedwig sy’n symud!  Beth mwy allech chi ofyn amdano? Hefyd, fe wnes i gwrdd â fy ngŵr drwy’r ddrama hon.  Ef oedd Macduff, yr unig gymeriad da yn yr holl beth, ac roeddwn innau ond yn drydedd wrach wylaidd. Mae’n arbennig iawn i mi.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.