As my “to read
pile” gets higher and higher on my bed side table threatening to topple and
engulf me every night as I sleep, my new year resolution is to finish a book
before adding any more to the jenga style tower.

I also asked
some of my colleagues for their reading resolutions.
Chris


A nice easy one would be to finish reading the entire 12 book series of Joan Aiken kids’ novels “The Wolves Chronicles” featuring the adventures of Dido Twite. I’ve got some of them at home and love them.
The ultimate challenge would be to read one of the “great unreadable
novels” - “Finnegan’s Wake”. Previously tried and failed.
Donna
My resolution is three chapters and I’m out policy – life’s too short
to read books that don’t grab you.
I have got stuck in a rut of reading only books for reading groups. I
would like to try and find time to read more books for fun than work! I used to love Terry Pratchett and I
haven’t read any of his for ages so maybe I will try and catch up on some of his
Discworld novels.
Julian
My resolution would be to try and diversify from my usual reading
subjects. I always read around subjects or themes that interest me but I know
there’s a lot of good fiction out there that would broaden my horizons and
introduce me to new authors.
(Julian, you could try reading this blog for suggestions of great
books to get you started!)
Mark
More time reading books, less time online. This should be lots of
people’s reading resolution!
My resolution would be to get back into the
habit of reading a book in bed at night –As I haven’t been sleeping well
lately, this would be a great way to relax and would help me to drift off
more easily after the stresses of the day! I’ll probably start with ‘Homegoing’
by Yaa Gyasi.
What's yours?
Addunedau Darllen y
Flwyddyn Newydd 2017
Wrth i fy "mhentwr
darllen" fynd yn uwch ac yn uwch ar y bwrdd wrth ochr fy ngwely, a bygwth
dymchwel a f'amlyncu bob nos wrth i mi gysgu, fy adduned blwyddyn newydd yw
gorffen llyfr cyn ychwanegu rhagor at y fath dŵr 'Jenga'.

Rwyf hefyd wedi gofyn i
rai o fy nghydweithwyr am eu haddunedau darllen.
Chris

Yr her fwyaf fyddai darllen un o'r
"nofelau annarllenadwy mwyaf" - "Finnegan's Wake". Rwyf
wedi rhoi cynnig arni ond wedi methu.
Donna
Fy adduned i yw'r polisi tair pennod a dyna
hi - mae bywyd yn rhy fyr i ddarllen llyfrau nad ydynt yn cydio ynoch chi.
Rwyf wedi pylu ac yn dueddol o ddarllen
llyfrau ar gyfer grwpiau darllen yn unig. Hoffwn geisio dod o hyd i amser i
ddarllen mwy o lyfrau am hwyl yn hytrach nag ar gyfer gwaith! Roeddwn i'n arfer
bod yn hoff iawn o Terry Pratchett ac nid wyf wedi darllen unrhyw rhai o'i
lyfrau ef ers tro, felly, efallai mai ceisio dal i fyny ar rai o'i nofelau
Discworld yw'r ateb i mi..
Julian
Fy adduned i fyddai ceisio dargyfeirio o fy
mhynciau darllen arferol. Rwyf bob amser yn darllen pynciau neu themâu sydd o
ddiddordeb i mi, ond rwy'n gwybod bod llawer o ffuglen dda yn bodoli, a
fyddai'n ehangu fy ngorwelion a fy nghyflwyno i awduron newydd.
(Julian, fe allet ti roi cynnig ar ddarllen y
blog hwn i gael awgrymiadau am lyfrau gwych i dy roi ar ben y ffordd!)
Mark
Mwy o amser yn darllen
llyfrau, llai o amser ar-lein. Dylai hyn fod yn adduned i lawer o bobl!

Fy adduned i fyddai dychwelyd i'r arfer o ddarllen llyfr yn y gwely yn y nos - Am nad wyf wedi bod yn cysgu'n dda yn ddiweddar, byddai hyn yn ffordd wych o ymlacio a byddai'n fy helpu i lithro i drwmgwsg yn haws ar ôl holl straen y dydd! Buaswn yn siŵr o ddechrau gyda 'Homecoming' gan Yaa Gyasi.
Beth yw eich un chi?