Friday 27 January 2017

New Year Reading Resolutions 2017


As my “to read pile” gets higher and higher on my bed side table threatening to topple and engulf me every night as I sleep, my new year resolution is to finish a book before adding any more to the jenga style tower.

‘Pure Juliet’ by Stella Gibbons has been gathering dust there for a while and as I love her bestseller, “Cold Comfort Farm”, I think ‘Pure Juliet’ will be the first to leave the tower. It’s somewhere near the bottom though so I’ll have to be careful.

I also asked some of my colleagues for their reading resolutions.

Chris
To have a crack at a couple of writers I think I don’t get on with.  These would include Don Delillo.  I’ve never got past the first couple of pages of one of his novels.  Also possibly Colm Toibin, Zadie Smith and Ali Smith.


A nice easy one would be to finish reading the entire 12 book series of Joan Aiken kids’ novels “The Wolves Chronicles” featuring the adventures of Dido Twite. I’ve got some of them at home and love them. 

The ultimate challenge would be to read one of the “great unreadable novels” - “Finnegan’s Wake”.  Previously tried and failed.

Donna
My resolution is three chapters and I’m out policy – life’s too short to read books that don’t grab you.

Emma
I have got stuck in a rut of reading only books for reading groups. I would like to try and find time to read more books for fun than work! I used to love Terry Pratchett and I haven’t read any of his for ages so maybe I will try and catch up on some of his Discworld novels.

Julian
My resolution would be to try and diversify from my usual reading subjects. I always read around subjects or themes that interest me but I know there’s a lot of good fiction out there that would broaden my horizons and introduce me to new authors.

(Julian, you could try reading this blog for suggestions of great books to get you started!)

Mark
More time reading books, less time online. This should be lots of people’s reading resolution!

Steph
My resolution would be to get back into the habit of reading a book in bed at night  –As I haven’t been sleeping well lately, this would be  a great way to relax and would help me to drift off more easily after the stresses of the day! I’ll probably start with ‘Homegoing’ by Yaa Gyasi.

What's yours?









Addunedau Darllen y Flwyddyn Newydd 2017

Wrth i fy "mhentwr darllen" fynd yn uwch ac yn uwch ar y bwrdd wrth ochr fy ngwely, a bygwth dymchwel a f'amlyncu bob nos wrth i mi gysgu, fy adduned blwyddyn newydd yw gorffen llyfr cyn ychwanegu rhagor at y fath dŵr 'Jenga'.
Mae 'Pure Juliet' gan Stella Gibbons wedi bod yn casglu llwch yno am dipyn ac am fy mod wrth fy modd â'i chlasur, "Cold Comfort Farm", rwy'n credu mai 'Pure Juliet' fydd y cyntaf i adael y tŵr. Mae'n rhywle ger y gwaelod, felly bydd yn rhaid i mi fod yn ofalus.
Rwyf hefyd wedi gofyn i rai o fy nghydweithwyr am eu haddunedau darllen.

Chris
Rhoi cynnig ar gwpl o awduron nad wyf yn dueddol o'u dewis. Byddai'r rhain yn cynnwys Don Delillo. Nid wyf erioed wedi darllen mwy na cwpl o dudalennau cyntaf yn yr un o'i nofelau. Hefyd o bosibl Colm Toibin, Zadie Smith a Ali Smith.


Un reit hawdd yw y byddai'n braf gorffen darllen y cyfan o'r gyfres o 12 llyfr o nofelau i blant gan Joan Aiken, sef '"The Wolves Chronicles" sy'n cynnwys anturiaethau Dido Twite. Mae gen i rai ohonynt gartref ac rwy'n eu caru.

Yr her fwyaf fyddai darllen un o'r "nofelau annarllenadwy mwyaf" - "Finnegan's Wake". Rwyf wedi rhoi cynnig arni ond wedi methu.

Donna
Fy adduned i yw'r polisi tair pennod a dyna hi - mae bywyd yn rhy fyr i ddarllen llyfrau nad ydynt yn cydio ynoch chi.

Emma
Rwyf wedi pylu ac yn dueddol o ddarllen llyfrau ar gyfer grwpiau darllen yn unig. Hoffwn geisio dod o hyd i amser i ddarllen mwy o lyfrau am hwyl yn hytrach nag ar gyfer gwaith! Roeddwn i'n arfer bod yn hoff iawn o Terry Pratchett ac nid wyf wedi darllen unrhyw rhai o'i lyfrau ef ers tro, felly, efallai mai ceisio dal i fyny ar rai o'i nofelau Discworld yw'r ateb i mi..

Julian
Fy adduned i fyddai ceisio dargyfeirio o fy mhynciau darllen arferol. Rwyf bob amser yn darllen pynciau neu themâu sydd o ddiddordeb i mi, ond rwy'n gwybod bod llawer o ffuglen dda yn bodoli, a fyddai'n ehangu fy ngorwelion a fy nghyflwyno i awduron newydd.

(Julian, fe allet ti roi cynnig ar ddarllen y blog hwn i gael awgrymiadau am lyfrau gwych i dy roi ar ben y ffordd!)

Mark
Mwy o amser yn darllen llyfrau, llai o amser ar-lein. Dylai hyn fod yn adduned i lawer o bobl!
Steph
Fy adduned i fyddai dychwelyd i'r arfer o ddarllen llyfr yn y gwely yn y nos - Am nad wyf wedi bod yn cysgu'n dda yn ddiweddar, byddai hyn yn ffordd wych o ymlacio a byddai'n fy helpu i lithro i drwmgwsg yn haws ar ôl holl straen y dydd! Buaswn yn siŵr o ddechrau gyda 'Homecoming' gan Yaa Gyasi.

Beth yw eich un chi?

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.