This summer there’s something strange happening at the
libraries in Torfaen– and that’s where the Animal Agents come in!
The Animal Agents love solving mysteries and they
need the children of Torfaen to help them crack their biggest case
yet.
Who has painted graffiti on the library wall?
Why are things suddenly going missing?
Why are things suddenly going missing?
Join the Animal Agents for the Summer Reading
Challenge 2017 and help them uncover the truth!
The Summer Reading Challenge is an initiative run every
year to encourage children aged 4 to 11 to carry on reading during the long
summer holiday.
There is a different theme each year and they can read
whatever they like - fact books, joke books, picture books, audio books - just
as long as they are borrowed from the library.
Taking part is simple – when the summer holidays start,
your child(ren) can sign up at your local library and read six library books
(or more!) over the holidays to collect special stickers and complete the
challenge.
Each time they visit the library, they’ll discover new clues and evidence that will help them solve this cryptic case.
The challenge began in Torfaen on the 15th July so make
sure you get everyone signed up on your next visit. Every entrant who completes the challenge will
also be entered into a draw to win a fantastic prize!
The game is afoot!
Yr haf hwn, mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn y
llyfrgelloedd yn Nhorfaen - a dyma ble mae’r Anifail-Ysbiwyr yn ymddangos!
Mae’r Anifail-Ysbiwyr wrth eu boddau yn datrys dirgelion,
ac mae angen help plant Torfaen arnynt i ddatrys achos mwyaf eu gyrfa.
Pwy sydd wedi peintio graffiti ar wal y llyfrgell?
Pam mae pethau’n mynd ar goll?
Pam mae pethau’n mynd ar goll?
Ymunwch â’r Anifail-Ysbiwyr ar gyfer Her Ddarllen yr Haf
2017 a’u helpu i ddatgelu’r gwirionedd!
Mae Her Ddarllen yr Haf yn fenter a redir bob blwyddyn i
annog plant 4 i 11 oed i ddal ati i ddarllen yn ystod gwyliau hir yr haf.
Mae thema wahanol bob blwyddyn a medrent ddarllen beth
bynnag a fynnont – llyfrau ffeithiol, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau, llyfrau
sain – unrhyw beth cyn belled â’u bod yn eu benthyg o’r llyfrgell.
Mae cymryd rhan yn syml – pan fydd gwyliau’r haf yn
dechrau, gall eich plentyn/plant gofrestru yn eich llyfrgell leol a darllen
chwe llyfr llyfrgell (neu fwy!) dros y gwyliau a chasglu sticeri arbennig a
chwblhau’r her.
Bob tro y byddant yn ymweld â’r llyfrgell, byddant yn canfod cliwiau newydd a thystiolaeth a fydd yn eu helpu i ddatrys yr achos dyrys hwn.
Dechreuodd yr her yn Nhorfaen ar 15fed Gorffennaf, felly
gwnewch yn siŵr fod pawb yn cofrestru ar eich ymweliad nesaf. Bydd pob
ymgeisydd sy’n cwblhau’r her hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr wych!
Mae’r helfa ar droed!
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.