Friday, 16 March 2018

Tuesday 20 March is World Happiness Day!



Since 2013, the United Nations has celebrated the International Day of Happiness as a way to recognise the importance of happiness in the lives of people around the world. In 2015 the UN launched a series of goals that seek to end poverty, reduce inequality, and protect our planet – three key aspects that lead to well-being and happiness.

To help spread the cheer, the Reading Agency have created their ‘Whole lot of Happiness booklist’ filled with books to make children laugh and feel happy. We’ve mentioned some of these titles below.  Why not share one with your family on 20 March this year?

Everyone by Christopher Silas Neal - Happy one moment and sad the next - everyone has feelings. The first book of mindfulness and feelings, award-winning illustrator Christopher Silas Neal invites young readers to explore how we feel what we feel, and how everyone else feels it, too.




50 Ways to Feel Happy by Vanessa King - What can you do to help yourself (and others) feel happier? This book is packed full of activities and ideas to try with family, friends and on your own. A cheerful, fun, inspiring, and varied collection of projects for creative, happy and thinking individuals!





It’s Not Fine to Sit on a Porcupine by Neal Zetter - Enter the wacky world of funny poems! There are nearly fifty in this collection by leading performance poet, Neal Zetter. ​There's something for everyone here, with poems about a bored superhero, an angry shopping trolley, a mammoth on the underground and even the world's worst toilet.





Pippi Longstocking by Astrid Lindgren - Nine year old Pippi is an unusual and unpredictable character, she lives alone with a monkey, a horse, and no rules whatsoever! Every day is a crazy adventure with Pippi, but what else would you expect from the daughter of a swashbuckling pirate captain?!





Matt Millz by Harry Hill - Matt Millz LOVES stand up comedy. He’s studied the best. He’s memorized all the advice. He spends hours writing new gags and thinking up crazy sketches . . . So when the school run a talent contest, of course he’s going to enter.









Ers 2013, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dathlu Diwrnod Hapusrwydd Rhyngwladol fel ffordd o gydnabod pwysigrwydd hapusrwydd ym mywydau pobl ledled y byd. Yn 2015, lansiodd y Cenhedloedd Unedig gyfres o nodau sy'n ceisio rhoi diwedd ar dlodi, lleihau anghydraddoldeb, a diogelu ein planed - tair agwedd allweddol sy'n arwain at les a hapusrwydd.

Er mwyn helpu i ledaenu'r hwyl, mae'r Asiantaeth Ddarllen wedi creu eu rhestr 'Llond trol o Hapusrwydd' sydd yn llawn llyfrau i wneud i blant chwerthin a theimlo'n hapus. Rydym wedi crybwyll rhai o'r teitlau hyn isod. Beth am rannu un gyda'ch teulu ar 20 Mawrth eleni?

Everyone gan Christopher Silas Neal - Hapus un eiliad ac yn drist y nesaf - mae gan bawb deimladau. Mae'r llyfr cyntaf o ymwybyddiaeth ofalgar a theimladau, gan y darlunydd poblogaidd Christopher Silas Neal, yn gwahodd darllenwyr ifanc i archwilio sut yr ydym yn teimlo'r hyn yr ydym yn teimlo, a sut mae pawb arall yn ei deimlo, hefyd.





50 Ways to Feel Happy gan Vanessa King - Beth allwch chi ei wneud i'ch helpu eich hun (ac eraill) deimlo'n hapusach? Mae'r llyfr hwn yn llawn gweithgareddau a syniadau i roi cynnig arnynt gyda theulu, ffrindiau ac ar eich pen eich hun. Casgliad o brosiectau difyr, siriol, ysbrydoledig ac amrywiol ar gyfer unigolion creadigol, hapus sy'n meddwl!





It’s Not Fine to Sit on a Porcupine gan Neal Zetter - Croeso i  fyd cerddi doniol! Mae bron i hanner cant yn y casgliad hwn gan y bardd perfformio blaenllaw, Neal Zetter. Mae yna rywbeth i bawb yma, gyda cherddi am arch-arwr diflas, troli siopa fach ddig, mamoth ar y system deithio danddaearol a hyd yn oed toiledau gwaethaf y byd.






Pippi Longstocking gan Astrid Lindgren - Mae Pippi, naw mlwydd oed yn gymeriad anarferol ac anrhagweladwy. Mae hi'n byw ar ei phen ei hun gyda mwnci, ceffyl, a dim rheolau o gwbl! Mae pob dydd yn antur gwallgo' ym myd Pippi, ond beth arall fyddech chi'n ei ddisgwyl gan ferch capten môr-leidr croch ?!
Matt Millz gan Harry Hill - Mae Matt Millz yn CARU digrifwyr. Mae e wedi astudio’r goreuon. Mae e’n cofio’r holl gyngor ar y cof. Mae e’n treulio oriau yn ysgrifennu deunydd smalio newydd a meddwl am sgetshis gwallgo’ . . . Felly pan fydd yr ysgol yn cynnal cystadleuaeth ddoniau, mae ef, wrth gwrs, am roi cynnig amdani.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.