Friday 20 April 2018

More books coming to our screens in 2018!


With the increasing popularity of streaming services, more and more of our favourite books are making it onto the small and big screen.
There are already well over 30 book adaptations planned for release in 2018 and, for this week’s post, we’re going to focus on some of the thrillers and futuristic adventures…

Ready Player One by Ernest Cline - It's the year 2044, and the real world has become an ugly place. Like most of humanity, Wade Watts escapes this depressing reality by spending his waking hours in the OASIS, a sprawling virtual utopia where you can be anything you want to be.  The OASIS founder James Halliday, who died with no heir, has promised his massive fortune to the person who can solve the riddles he has left scattered throughout his creation.

For years, millions have struggled fruitlessly to attain this prize, knowing only that the riddles are based in the culture of the late twentieth century. And then Wade stumbles onto the key to the first puzzle…

Annihiliation by Jeff VanderMeer - For thirty years, Area X has remained mysterious and remote behind its border – an environmental disaster zone, though to all appearances an abundant wilderness.
The Southern Reach, a secretive government agency, has sent eleven expeditions to investigate Area X. One has ended in mass suicide, another in a hail of gunfire, the eleventh in a fatal cancer epidemic.
Now four women embark on the twelfth expedition into the unknown.

Red Sparrow by Jason Matthews - Dominika Egorov, former prima ballerina, is sucked into the heart of Putin's Russia, the country she loved, as the twists and turns of a betrayal and counter-betrayal unravel. American Nate Nash, idealistic and ambitious, handles the double agent, codenamed MARBLE, considered one of CIA's biggest assets.

Will Dominika be able to unmask MARBLE or will the mission see her faith destroyed in the country she has always passionately defended?

The Girl in the Spider’s Web by David Lagercrantz - Lisbeth Salander and Mikael Blomkvist have not been in touch for some time. Then Blomkvist is contacted by renowned Swedish scientist Professor Balder. Warned that his life is in danger Balder wants Millennium to publish his story - and it is a terrifying one. More interesting to Blomkvist is Balder’s connection with a certain female superhacker. It seems that Salander, like Balder, is a target of ruthless cyber gangsters - and a violent criminal conspiracy that will soon bring terror to snowbound Stockholm.



Gyda phoblogrwydd cynyddol gwasanaethau ffrydio, mae mwy a mwy o’n hoff lyfrau yn dod i’r sgrin fawr a’r sgrin fach.

Mae eisoes mwy na 30 o addasiadau llyfrau ar y gweill i’w rhyddhau yn 2018 ac, ar gyfer blog yr wythnos hon, rydym yn mynd i ganolbwyntio ar rai o’r straeon antur ac anturiaethau dyfodolaidd …

Ready Player One gan Ernest Cline - Y flwyddyn 2044, ac mae’r byd go iawn wedi mynd yn lle afiach. Fel y rhan fwyaf o’r ddynoliaeth, mae Wade Watts yn dianc rhag realiti trwy dreulio ei oriau effro yn yr OASIS, paradwys rithwir lle medrwch fod yn unrhyw beth yr hoffech. Mae sylfaenydd OASIS James Halliday, a fu farw heb etifedd, wedi addo ei ffortiwn anferth i’r person sy’n medru datrys y posau y mae wedi eu gadael yma ac acw yn y byd y mae wedi ei greu.

Am flynyddoedd, mae miliynau wedi ymdrechu heb lwyddo i gael y wobr hon, gan wybod ond bod y posau yn seiliedig ar ddiwylliant diwedd yr ugeinfed ganrif. Ac yna mae Wade yn dod ar draws yr allwedd i’r pos cyntaf …

Annihiliation gan Jeff VanderMeer - Am ddeng mlynedd ar hugain, mae Area X wedi bod yn lle dirgel y tu ôl i’w ffiniau – parth argyfwng amgylcheddol, er ei fod yn edrych fel ardal wyllt doreithiog.
Mae’r Southern Reach, asiantaeth gyfrinachgar, wedi anfon un ar ddeg cyrch i archwilio Area X. Diweddodd un gyda phawb yn lladd eu hunain, un arall gyda gynau’n saethu, yr unfed ar ddeg mewn epidemig canser marwol.
Nawr mae pedair o ferched yn mynd ar y deuddegfed cyrch i’r anhysbys.

Red Sparrow gan Jason Matthews - Mae Dominika Egorov, prif falerina flaenorol, yn cael ei thynnu i mewn i ganol Rwsia Putin, gwlad roedd yn ei charu, wrth i frad a gwrthfrad ddigwydd o’i chwmpas. Mae’r Americanwr Nate Nash, uchelgeisiol a idealistig, yn gofalu am yr asiant dwbl, enw cod MARBLE, a ystyrir yn un o asedau mwyaf y CIA.
A fydd Dominika yn medru tynnu masg MARBLE neu a fydd yr ymdrech yn gweld ei ffydd yn y wlad y mae bob amser wedi ei hamddiffyn, yn cael ei ddinistrio?


The Girl in the Spider’s Web gan David Lagercrantz - Nid yw Lisbeth Salander a Mikael Blomkvist wedi bod mewn cysylltiad am beth amser. Yna, mae Blomkvist yn clywed gan wyddonwr Swedaidd enwog, yr Athro Balder. Ar ôl cael ei rybuddio bod ei fywyd mewn perygl, mae Balder eisiau i Millennium gyhoeddi ei stori – ac mae’n stori arswydus. O fwy o ddiddordeb i Blomkvist yw cysylltiad Balder gydag arch-haciwr penodol. Ymddengys bod Salander, fel Balder, yn darged seibr-gangsters didrugaredd – a chynllwyn troseddol treisgar a fydd yn dod â dychryn i strydoedd llawn eira Stockholm.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.