£25 Book Token competition
Thank you to everyone who entered our recent
competition to tell us what you love about our libraries.
It was an extremely difficult task to choose a winner as there were so many fantastic entries.
Apologies if you did not win this time but we will be making a display of everyone’s comments in the New Year.
And the winner is…
Mrs Cunitia Worthington (Cwmbran)
Enjoy reading the winning entry
below
Cwmbran Library
What can I
say about the wonderful library in Cwmbran?
I can say
that it means a lifeline to me. I have great pleasure in not only reading the
latest thrillers but also listening to talking books most afternoons. I can’t
get down to the bottom shelf so help is always available with the suggestions
from the kind staff.
One Saturday
I was stranded upstairs when the ancient lift once again broke down. It took 3
library staff to get me and my walker to the ground floor, but it was it was no
trouble and caused a laugh instead of making me feel a nuisance.
My greatest
latest achievement has been attending the Internet lessons, where the tutors
have been so patient to me, a virtual beginner, to a stage where I have my own
iPad and have done most of my Christmas shopping online!
BorrowBox
too has been another thing I have learned about and have enjoyed.
I think the
library staff are wonderful people. Nothing is too much trouble, so long may it
continue.
Thank you
everyone, you are utterly brilliant.
I should say
I am 91 ½ years old, so teaching me the internet was nothing short of a
miracle.
Cunitia
(Nita) Worthington (Mrs)
07*********
Cystadleuaeth Tocyn
Llyfrau £25
Diolch i bawb gystadlodd yn ein cystadleuaeth ddiweddar i
ddweud wrthym ni beth sydd wrth eich bodd yn ein llyfrgelloedd.
Roedd yn dasg anodd iawn dewis enillydd gan fod yna
gymaint o geisiadau gwych.
Mae’n ddrwg gennym ni os na enilloch chi’r tro yma ond
bydd arddangosfa o sylwadau pawb yn y Flwyddyn Newydd.
A’r enillydd yw…
Mrs Cunitia Worthington (Cwmbrân)
Mwynhewch ddarllen yr ymgais buddugol isod
Llyfrgell Cwmbrân
Beth allaf ei ddweud am y llyfrgell hyfryd yng Nghwmbrân?
Gallaf ddweud ei fod yn hanfod i mi. Mae darllen
y llyfrau cyffro diweddaraf a gwrando ar y llyfrau llafar bron i bob prynhawn
yn rhoi'r pleser mwyaf i mi. Ni allaf gyrraedd y silff waelod ond mae help ar
gael bob amser, gydag awgrymiadau gan y staff caredig.
Un dydd Sadwrn, nid oeddwn yn medru dod i lawr
o'r llawr uchaf am fod yr hen lifft wedi torri eto. Ond fe wnaeth 3 aelod o
staff y llyfrgell fy helpu i a fy ffrâm gerdded i gyrraedd y llawr gwaelod, ond
nid oedd yn ormod o drafferth i'r un ohonynt, gyda phawb yn chwerthin yn
hytrach na gwneud i mi deimlo'n niwsans.
Fy nghyflawniad diweddaraf, a'r mwyaf hyd yma oedd
mynychu gwersi Rhyngrwyd, lle y bu'r tiwtoriaid mor amyneddgar, a minnau'n
ddechreuwr pur yn y byd rhithwir sydd ohono, ond sydd, erbyn hyn wedi cyrraedd
y man lle mae gennyf fy iPad fy hun ac wedi gwneud y rhan fwyaf o fy siopa
Nadolig ar-lein!
BorrowBox yw’r peth arall yr wyf wedi dysgu
amdano a’i fwynhau.
Rwy’n meddwl bod staff y llyfrgell yn bobl
ragorol. Nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth, felly hir oes i’r
gwasanaeth.
Diolch i chi gyd, rydych yn hollol wych.
Dylwn i ddweud fy mod yn 91 ½ mlwydd oed, felly
roedd fy nysgu i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddim byd llai na gwyrth.
Cunitia (Nita) Worthington (Mrs)
07*********