Monday, 21 January 2019

Harry Potter Book Night at the Library

Torfaen Libraries' Favourite time of the year is here again...

It's Harry Potter Book Night on Thursday 7th February and staff in Cwmbran and Pontypool Libraries are busy organizing our annual celebration. 
Every year we invite around 60 children to come to our libraries dressed as their favourite Harry Potter character. The staff dress up too and it is safe to say we probably all enjoy this as much as the children.




During the evening the invited wizards, witches and magical creatures take part in a mystical array of activities beginning with The Sorting Hat Ceremony- Are you a Slytherin, Hufflepuff, Griffindor or Ravenclaw? Next a Treasure Hunt to find magical artefacts hidden around the library followed by a gripping extract from one of the HP books then onto craft making, quizzes and more...

Since 1997 when Harry Potter and The Philosopher's Stone was first published, J K Rowling's hugely successful stories have encouraged even the most reluctant young readers to pick up a book. All 7 books have been reprinted many times including sets with a 'grown-up' cover so adults can read the books without embarrassment. (I have never been embarrassed reading them!) They have been translated into 80 languages and sold over 500 million copies worldwide. Audio versions were recorded too. These unabridged editions which were expertly narrated by Stephen Fry, are available on audio CD or as an e-audio book. There have also been 8 very popular films (The final book - The Deathly Hallows  was split into 2 parts).




Although the Harry Potter name has now become a franchise and there are theme parks and merchandise items galore it is worth remembering that at the heart of it all is a series of 7 books which have captivated and enthralled millions of children. That is what we celebrate on Harry Potter Book Night.

See our Facebook page for further details:  Facebook

___________________________________________________________________________

Mae hoff amser y flwyddyn Llyfrgelloedd Torfaen wedi cyrraedd unwaith eto...

Mae’n Noson Lyfrau Harry Potter nos Iau 7 Chwefror ac mae staff Llyfrgelloedd Cwmbrân a Phont-y-pŵl wrthi’n brysur yn trefnu ein dathliad blynyddol.
Bob blwyddyn rydym yn gwahodd tua 60 o blant i ddod i'n llyfrgelloedd wedi gwisgo fel eu hoff gymeriad o gyfresi Harry Potter. Mae'r staff yn gwisgo i fyny hefyd ac mae'n sicr ein bod ni yn mwynhau hyn gymaint â'r plant.

 




Yn ystod y noson mae'r dewiniaid, gwrachod a chreaduriaid hudolus yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn dechrau gyda'r Seremoni Didoli'r Hetiau - Ydych chi'n Slytherin, Hufflepuff, Griffindor neu Ravenclaw? Nesaf, bydd Helfa Drysor i ddod o hyd i arteffactau swynol o gwmpas y llyfrgell, cyn clywed detholiad gwefreiddiol o un o lyfrau HP, cyn mynd ymlaen i wneud crefftau, cymryd rhan mewn cwisiau a mwy ...

Ers 1997 pan gyhoeddwyd Harry Potter and The Philosopher's Stone gyntaf, mae straeon hynod lwyddiannus J K Rowling wedi annog hyd yn oed y darllenwyr ifanc mwyaf amharod i godi llyfr. Ail-argraffwyd pob un o'r 7 llyfr nifer o weithiau gan gynnwys setiau gyda gorchudd 'mwy aeddfed' fel y gall oedolion ddarllen y llyfrau heb deimlo'n chwithig. (Nid wyf byth yn teimlo'n chwithig wrth fynd ati i'w darllen!) Maent wedi eu cyfieithu i 80 o ieithoedd ac wedi gwerthu dros 500 miliwn o gopïau ledled y byd. Cofnodwyd fersiynau sain. Mae'r rhifynnau cyflawn hyn a gafodd eu hadrodd mewn modd mor arbennig gan Stephen Fry, ar gael ar CD sain neu fel e-lyfrau sain. Gwnaethpwyd hefyd 8 ffilm hynod boblogaidd (rhannwyd y llyfr terfynol yn 2 ran).


Er bod enw Harry Potter bellach wedi dod yn fasnachfraint ac mae parciau thema a thoreth o nwyddau ac eitemau bellach ar gael, mae'n werth cofio mai cyfres o 7 llyfr sydd wrth wraidd y cyfan, sydd wedi hudo a swyno miliynau o blant. Dyna'r hyn yr ydym yn ei ddathlu ar Noson Llyfrau Harry Potter.


Gweler ein tudalen Facebook i gael manylion pellach: Facebook



Monday, 7 January 2019

Happy New Reads 2019!



Happy New Year to you all!  What better way to start 2019 than to have a look at some of the highly anticipated titles coming soon to a Torfaen library near you…

The Suspect by Fiona Barton (24 January) - The Suspect is the story of two 18-year-old girls who disappear on a trip to Thailand and Kate Waters, the journalist who attempts to find them. While working to solve the mystery of their kidnappings, Waters begins to unravel a few other unsolved mysteries in her own life.
The Lost Girls of Paris by Pam Jenoff (5 February) - In 1946 Manhattan, one woman discovers the secrets of a ring of female spies during the time of World War II. Jenoff, bestselling author of The Orphan’s Tale, brings serious girl power to this story of brave women and the war.
Blood Orange by Harriet Tyce (21 February) - Lust, lies, lawyers – and murder, of course – all come together in Harriet Tyce’s debut novel.  Ambitious lawyer Alison should be focussing on her first murder case – as well as her family at home – but is distracted by an affair and the feeling that somebody knows all of her secrets and wants to make her pay. 
Daisy Jones and The Six by Taylor Jenkins Reid (7 March) - This is the story of a fictional band, Daisy Jones and The Six, and how they made it in the 70s, enjoyed arena tours and the excess of success, before unexpectedly splitting up in 1979. It’s written as a hyper-realistic oral history, a clever conceit that allows the author to explore what happens when we wake up from our youth.
The Library of Lost and Found by Phaedra Patrick (26 March) - Librarian Martha Storm’s sedate life is flipped upside down when she discovers in an old book what appears to be a clue hinting that her grandmother may still be alive. Martha decides to step away from the library and take up the chase, which – inevitably, the cynic might say – leads her on a journey of self-discovery.








Darllen Da ar gyfer 2019

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!  Pa well ffordd i ddechrau  2019 na chymryd cipolwg ar rai o’r llyfrau y mae mawr disgwyl amdanyn nhw ac sy’n dod i lyfrgelloedd Torfaen cyn bo hir…

The Suspect gan Fiona Barton (24 Ionawr) - Stori yw The Suspect am ddwy ferch 18 oed sy’n diflannu ar daith i Wlad Tai ac am Kate Waters, y newyddiadurwraig sy’n ceisio cael hyd iddyn nhw. Tra ei bod yn gweithio i ddatrys dirgelwch eu herwgipio, mae Waters yn dechrau datrys rhai o ddirgelion ei bywyd ei hun.
The Lost Girls of Paris gan Pam Jenoff (5 Chwefror) - Ym Manhattan yn 1946, mae un fenyw yn darganfod cyfrinachau cylch o ysbiwragedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae Jenoff, awdur The Orphan’s Tale, yn dod â nerth a grym i’r stori yma am fenywod dewr a’r rhyfel.
Blood Orange gan Harriet Tyce (21 Chwefror) – Chwant, celwydd, cyfreithwyr – a llofruddiaeth, wrth gwrs – yn dod ynghyd yn nofel gyntaf Harriet Tyce.  Dylai’r gyfreithwraig uchelgeisiol Alison fod yn canolbwyntio ar ei hachos gyntaf o lofruddiaeth – yn ogystal â’i theulu gartref – ond mae ei sylw’n mynd ar berthynas gyfrinachol a’r teimlad bod rhywun yn gwybod ei chyfrinachau i gyd ac am wneud iddi hi dalu. 
Daisy Jones and The Six gan Taylor Jenkins Reid (7 Mawrth) - Dyma ffuglen am fand, Daisy Jones and The Six, a sut y bu iddyn nhw lwyddo yn y 70au, mwynhau teithiau a gormodedd llwyddiant, cyn chwalu’n annisgwyl yn 1979.   Mae’r stori wedi ei hysgrifennu fel hanes llafar realistig dros ben, hunan-dyb clyfar sy’n caniatáu i’r awdur ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd pan fyddwn ni’n ymadael â’n hieuenctid.
The Library of Lost and Found gan Phaedra Patrick (26 Mawrth) – Mae bywyd sidêt y llyfrgellydd Martha Storm yn cael ei droi wyneb i waered ar ôl iddi weld awgrym mewn hen lyfr y gall ei mam-gu fod yn fyw o hyd. Mae Martha yn penderfynu camu i ffwrdd o’r llyfrgell a mynd ar helfa sydd – yn anochel y byddai rhai yn dweud – yn ei harwain ar siwrnai o hunan-ddarganfyddiad.