Friday 16 June 2017

Local History Resources at Torfaen Libraries



For this week’s blog post Julian Merriman, Information Librarian at Cwmbran Library, tells us more about the extensive collections of local history books and maps available at Torfaen Libraries, both for reference and for lending.

You can find out how iron and coal changed the ‘Valley of the Crow’ from countryside into major industries that once exported on a global scale. Evidence of these old industries can be found all over Torfaen if you know where to look. Torfaen’s most famous historical landmark of course is ‘Big Pit’ and the old Ironworks World heritage Site in Blaenavon. This is the setting for Alexander Cordell’s brilliant series of fictional books based on historical fact that portray the turbulent history of early industrial Wales. Soap saga at its most gritty.

Pontypool is probably most famous for its ‘Japan Wares’, but there were many big industries in the area included the huge Panteg Steelworks and railway yards. The canal and the railways were the main arteries for these industries which today have become popular leisure routes, now tranquil but once the motorways of their time. The area has changed a lot, and yet the heart of Pontypool appears to remain untouched. Look at the old photographs and it’s just the dress and vehicles that have changed.  


Cwmbran as a ‘New Town’ didn’t exist until around the 1950’s. Before then it was a collection of separate and distinct villages including Pontnewydd, Old Cwmbran and Henllys. You can find out all about the growth and development of the area, including the location of the ‘poisonous pit’.




The Local History collections contain everything about the history of the valley, from ancient times and the origins of the first inhabitants, through the growth and demise of coal and steel to the rebuilding and development that continues today. Housing estates have been, and continue to be built across the borough, though mostly in the south. To find out what was there before your house was built, explore our collections of local history books and maps and get to understand your area in a better way.





Ar gyfer blog yr wythnos hon, mae Julian Merriman, Llyfrgellydd Gwybodaeth yn Llyfrgell Cwmbrân, yn dweud mwy am y casgliadau helaeth o lyfrau hanes lleol a mapiau sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Torfaen, a hynny at ddiben cyfeirio a benthyca.

Gallwch ddysgu sut y gwnaeth haearn a glo newid 'Cwm y fran' o gefn gwlad i ddiwydiannau mawr a fu unwaith yn allforio ar raddfa fyd-eang. Mae tystiolaeth o'r hen ddiwydiannau hyn i'w gweld ar hyd a lled Torfaen os ydych yn gwybod ble i edrych. Tirnod hanesyddol enwocaf Torfaen wrth gwrs yw 'Pwll Mawr' a hen Waith Haearn Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon. Dyma leoliad y gyfres wych o lyfrau ffuglen gan Alexander Cordell, yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol sy'n portreadu hanes cythryblus Cymru gynnar, ddiwydiannol. Saga sebon ar ei ddewraf.


Yn ôl pob tebyg mae Pont-y-pŵl fwyaf enwog am ei 'Gwaith Japanio', ond roedd llawer o ddiwydiannau mawr yn yr ardal yn cynnwys Gwaith Dur enfawr Panteg a'r iardiau rheilffordd. Y gamlas a'r rheilffyrdd oedd y prif wythiennau ar gyfer y diwydiannau hyn sydd heddiw wedi dod yn llwybrau hamdden poblogaidd, yn dawel iawn erbyn hyn, ond ar un adeg yn draffyrdd y cyfnod. Mae'r ardal wedi newid llawer, ac eto mae'n ymddangos nad yw calon Pont-y-pŵl wedi ei chyffwrdd. Edrychwch ar y hen ffotograffau ac fe welwch mai’r gwisgoedd a'r cerbydau’n unig sydd wedi newid.


Nid oedd Cwmbrân fel 'Tref Newydd' yn bodoli tan tua'r 1950au. Cyn hynny roedd yn gasgliad o wahanol bentrefi ar wahân, yn cynnwys Pontnewydd, Hen Gwmbrân a Henllys. Gallwch ddysgu mwy am dwf a datblygiad yr ardal, gan gynnwys lleoliad y 'pwll gwenwynig'.

Mae'r casgliadau Hanes Lleol yn cynnwys popeth am hanes y cwm, o'r hen fyd a tharddiad y trigolion cyntaf, i dwf a dirywiad glo a dur a'r ailadeiladu a datblygu sy'n parhau hyd heddiw. Mae ystadau tai wedi cael eu hadeiladu, ac yn parhau i gael eu hadeiladu ar draws y fwrdeistref, er, yn bennaf yn y de. I gael gwybod beth oedd yno cyn y cafodd eich tŷ ei adeiladu, beth am bori drwy ein casgliadau o lyfrau hanes a mapiau lleol, a dod i ddeall eich ardal yn well.



No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.