There’ll be lots going on across Torfaen Libraries for all
ages this Summer. If you’re in Cwmbran
Library on Friday 7th July why not drop in and say hello at our ‘Be Summer
Savvy’ event?
Running from 10am-1pm, ‘Be Summer Savvy’ is an information
event supported by local agencies who can help you enjoy your summer safely.
While you’re visiting don’t forget to take out a book or
two to enjoy while you are out and about this Summer. Here are some suggestions, out now or coming
soon to a Torfaen library near you.
‘The Essex Serpent’ by Sarah Perry - Set in Victorian
London and an Essex village in the 1890's, and enlivened by the debates on
scientific and medical discovery which defined the era, The Essex
Serpent has at its heart the story of two extraordinary people who fall
for each other, but not in the usual way.
Told with exquisite grace and intelligence, this novel is
most of all a celebration of love, and the many different guises it can take.
'The Ministry of Utmost Happiness' by Arundhati Roy - It's
been two decades since the author of The God of Small
Things published a novel, although Arundhati Roy has written several
non-fiction books since then. Epic in scale, but intimately human in its
concerns, the long-awaited story dazzles with its kaleidoscopic narrative
approach and unforgettable characters.
'What We Lose' by Zinzi Clemmons - "I was born as
apartheid was dying." So begins this debut novel about Thandi, raised in
Pennsylvania but wondering increasingly about her "other home country"
of South Africa. She dives into a rediscovery of her mother's land, which
serves as a kind of unsteady anchor for her, even as her mother passes away and
she realizes she'll soon be a mother herself. (July 11).
'The Half-Drowned King' by Linnea Hartsuyker - Game of
Thrones will be back on our screens by the time this epic Viking saga
comes out, and it's a safe choice for those of us who enjoy the stories of George R. R. Martin. Ragnvald Eysteinsson is betrayed by his avaricious stepfather,
and in trying to gain back his rightful inheritance, he pledges his sword to a
young warrior plotting to become the king. If you like your heroes noble and
your struggles for power bloody, this one's for you. (August 1).
Bydd llawer iawn yn digwydd yn Llyfrgelloedd Torfaen i bobl
o bob oedran yr haf hwn. Os ydych yn Llyfrgell Cwmbrân ar ddydd Gwener 7fed
Gorffennaf, pam na ddewch heibio a dweud helo, yn ein digwyddiad ‘Bod yn ddoeth
dros yr haf’?
Yn rhedeg o 10am-1pm, mae ‘Bod yn Ddoeth dros yr Haf’ yn
ddigwyddiad gwybodaeth a gefnogir gan asiantaethau lleol a fedr eich helpu chi
i fwynhau eich haf yn ddiogel.
Tra byddwch yn ymweld â’r llyfrgell, peidiwch ag anghofio
mynd â llyfr neu ddau efo chi, i’w mwynhau tra’r ydych o gwmpas yr haf hwn.
Dyma rai awgrymiadau, allan nawr neu’n dod yn fuan, i lyfrgell yn agos atoch
chi.
‘The Essex Serpent’ gan Sarah Perry - Wedi ei osod yn
Llundain oes Fictoria a phentref yn Essex yn y 1890au, a chyda thrafodaethau ar
ddarganfyddiadau gwyddonol a meddygol a ddiffiniodd y cyfnod, wrth graidd The
Essex Serpent mae stori dau berson anghyffredin dros ben sy’n syrthio mewn
cariad, ond ddim yn y ffordd arferol.
Wedi ei hadrodd gyda gosgeiddrwydd hynod a deallusrwydd,
mae’r stori yn y nofel yma yn dathlu cariad, a’r amrywiol ffurfiau y gall
gymryd.
'The Ministry of Utmost Happiness' gan Arundhati Roy - Mae’n
ugain mlynedd ers pan gyhoeddodd awdur The God of Small Things nofel,
er bod Arundhati Roy wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ffeithiol ers hynny.
Yn
eang ei chwmpas, ond yn ddynol o ran ei phryderon, mae’r stori hon yn disgleirio
gyda’r agwedd naratif a’r cymeriadau bythgofiadwy.
'What We Lose' gan Zinzi Clemmons - "I was born as
apartheid was dying." Dyma sut mae’r nofel hon yn dechrau, yn adrodd hanes
Thandi, a fagwyd ym Mhennsylvania ond sy’n meddwl fwyfwy am ei "other home country" – De
Affrica. Mae’n ailddarganfod gwlad ei mam, ac mae’n gweithredu fel rhyw fath o
angor iddi, hyd yn oed pan mae ei mam yn marw ac mae’n deall y bydd yn fuan yn
fam ei hun. (Gorffennaf 11).
'The Half-Drowned King' gan Linnea Hartsuyker - Bydd Game
of Thrones yn ôl ar ein sgrin erbyn i’r saga Lychlynnaidd hon ddod allan,
a bydd yn apelio’n fawr i’r sawl ohonom sy’n mwynhau tipyn o antur Westeros.
Mae Ragnvald Eysteinsson yn cael ei fradychu gan ei lys-dad ariangar, ac wrth
geisio ennill yn ôl ei etifeddiaeth, mae’n addo ei gleddyf i ryfelwr ifanc sy’n
cynllwynio i fod yn frenin. Os ydych chi’n hoffi eich arwyr yn nobl a’ch
brwydrau am bŵer yn rhai gwaedlyd, dyma un i chi. (Awst 1).