“I’ve read everything written by my favourite authors, what
shall I read next?”
Sound familiar? Well one of the online resources now
available via your Torfaen Libraries membership helps answer that dilemma!
www.whoelsewriteslike.com is designed to help anyone who
enjoys reading fiction to expand the number of writers they read. You can use the site whilst you’re visiting
the library by jumping onto one of our public PCs or at home when you’re
planning your next trip.
All you need is the number that runs across your library
card to sign in. Then choose ‘Torfaen
Libraries’ from the list of services offered and you’re good to go!
As an example, find below some of the authors suggested
when we search for the popular crime author James Patterson.
One
Kick – Chelsea Cain
Kick Lannigan, 21, is a survivor. Before she was
thirteen, Kick learned marksmanship, martial arts, boxing, archery, and knife
throwing. She excelled at every one, vowing she would never be victimized
again.
When two children in the Portland area go missing in the same month an
enigmatic man called Bishop approaches her with a proposition: he is convinced
Kick's experiences and expertise can be used to help rescue the abductees.
Little does Kick know the case will lead directly into her terrifying past…
Breakdown
– Jonathan Kellerman
Dr. Alex Delaware first meets actress Zelda Chase when
called upon to evaluate her young son. Years later, Alex is unexpectedly
reunited with Zelda but, when tragedy strikes and she is discovered dead with
her son missing, Alex turns to his friend, LAPD Lieutenant Milo Sturgis, for
help in finding the perpetrator.
Crazy
Love You – Lisa Unger
Childhood friends Ian and Priss bring out the worst in each
other. When Ian wants to move on he
finds he can’t. Their relationship is so
entangled and complicated. And Priss
doesn’t like change; it makes her angry.
When Priss is angry, very bad things start to happen…
The
Saboteur – Andrew Gross
Kurt Nordstrum is a courageous fighter who has lost
everything. When he learns of the Nazis’ atomic research in his homeland, he
teams up with a group of patriotic fighters, driven by one goal: to disrupt
activity at the heavily guarded factory. Nordstrum must pull off the impossible
if his team is to succeed. But in doing so, he must put the safety of one
person at risk – the one he sees a life with. How far is he prepared to go, and
how much is he willing to sacrifice?
Why not try ‘Who Else Writes Like…?’ yourself? You might find a new favourite author!’
“Rwyf wedi darllen popeth gan fy hoff awduron – beth ddylwn
ei ddarllen nesaf?”
Swnio’n gyfarwydd? Wel, mae un o’r adnoddau arlein sydd nawr
ar gael gyda’ch aelodaeth o Lyfrgelloedd Torfaen yn helpu i ddatrys y broblem
honno!
Mae www.whoelsewriteslike.com wedi ei ddylunio i helpu
unrhyw un sy’n hoffi darllen ffuglen i ehangu ar y nifer o awduron maent yn eu
darllen. Medrwch ddefnyddio’r safle wrth ymweld â’r llyfrgell trwy neidio ar un
o’n cyfrifiaduron cyhoeddus neu o’ch cartref pan fyddwch yn trefnu eich taith
nesaf i’r llyfrgell.
Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw’r rhif sydd ar eich
cerdyn llyfrgell i fewngofnodi. Yna dewiswch ‘Llyfrgelloedd Torfaen’ o’r rhestr
o wasanaethau a gynigir a dyna chi!
Er enghraifft, isod mae rhai o’r awduron a awgrymir wrth i
ni chwilio am yr awdur trosedd poblogaidd James Patterson.
One Kick – Chelsea Cain
Mae Kick Lannigan, 21, yn oroeswr. Cyn iddi fod yn 13 oed,
dysgodd Kick saethu, y crefftau ymladd, bocsio, saethyddiaeth a thaflu cyllyll.
Rhagorodd ym mhob un, gan dyngu na fyddai byth yn cael ei fictimeiddio eto.
Pan aiff dau blentyn o ardal Portland ar goll yn yr un mis, mae gŵr enigmatig
yn dod ati gyda chynnig: mae’n argyhoeddedig y gellir defnyddio profiadau ac
arbenigrwydd Kick i helpu achub y plant. Nid yw Kick yn dychmygu am eiliad y
bydd yr achos yn ei harwain yn uniongyrchol i’w gorffennol dychrynllyd …
Breakdown – Jonathan Kellerman
Mae Dr. Alex Delaware yn cyfarfod yr actres Zelda Chase gyntaf
pan gaiff gais i werthuso ei mab ifanc. Flynyddoedd yn ddiweddaraf, mae Alex yn
cyfarfod Zelda unwaith eto, yn annisgwyl, ond, pan fo trasiedi’n digwydd ac mae
hithau’n cael ei darganfod yn farw gyda’i mab ar goll, mae Alex yn troi at ei
ffrind, Lefftenant gyda’r LAPD Milo Sturgis, am help i gael hyd i’r tramgwyddwr.
Crazy Love You – Lisa Unger
Mae ffrindiau plentyndod Ian a Priss yn dod â’r gwaethaf
allan yn ei gilydd. Pan fo Ian eisiau symud ymlaen, mae’n canfod na fedr. Mae
eu perthynas wedi ei hymgordeddu ac yn gymhleth. Ac nid yw Priss yn hoffi
newid; mae’n achosi iddi wylltio. A phan fo Priss yn gwylltio, mae pethau drwg
iawn yn dechrau digwydd …
The Saboteur – Andrew Gross
Mae Kurt Nordstrum yn ymladdwr dewr sydd wedi colli popeth.
Pan mae’n cael gwybod am ymchwil atomig y Natsïaid yng ngwlad ei gartref, mae’n
ymuno â grŵp o ymladdwyr gwladgarol, oll gyda’r un nod: i dorri ar draws y
gweithgareddau yn y ffatri. Rhaid i Norstrom gyflawni’r amhosibl os yw ei dîm i
lwyddo. Ond, wrth wneud hynny, rhaid iddo beryglu diogelwch un person - y
person y mae’n medru dychmygu bywyd gyda nhw. Pa mor bell y mae’n barod i fynd,
a faint mae’n barod i’w aberthu?
Pam na rowch gynnig ar ‘Who Else Writes Like…?’ Efallai y
cewch hyd i hoff awdur newydd!