Friday 1 December 2017

Who Else Writes Like...?



“I’ve read everything written by my favourite authors, what shall I read next?”

Sound familiar? Well one of the online resources now available via your Torfaen Libraries membership helps answer that dilemma!

www.whoelsewriteslike.com is designed to help anyone who enjoys reading fiction to expand the number of writers they read.  You can use the site whilst you’re visiting the library by jumping onto one of our public PCs or at home when you’re planning your next trip.

All you need is the number that runs across your library card to sign in.  Then choose ‘Torfaen Libraries’ from the list of services offered and you’re good to go!
As an example, find below some of the authors suggested when we search for the popular crime author James Patterson.

One Kick – Chelsea Cain
Kick Lannigan, 21, is a survivor. Before she was thirteen, Kick learned marksmanship, martial arts, boxing, archery, and knife throwing. She excelled at every one, vowing she would never be victimized again.

When two children in the Portland area go missing in the same month an enigmatic man called Bishop approaches her with a proposition: he is convinced Kick's experiences and expertise can be used to help rescue the abductees. Little does Kick know the case will lead directly into her terrifying past…


Breakdown – Jonathan Kellerman
Dr. Alex Delaware first meets actress Zelda Chase when called upon to evaluate her young son. Years later, Alex is unexpectedly reunited with Zelda but, when tragedy strikes and she is discovered dead with her son missing, Alex turns to his friend, LAPD Lieutenant Milo Sturgis, for help in finding the perpetrator.






Crazy Love You – Lisa Unger
Childhood friends Ian and Priss bring out the worst in each other.  When Ian wants to move on he finds he can’t.  Their relationship is so entangled and complicated.  And Priss doesn’t like change; it makes her angry.  When Priss is angry, very bad things start to happen…







The Saboteur – Andrew Gross
Kurt Nordstrum is a courageous fighter who has lost everything. When he learns of the Nazis’ atomic research in his homeland, he teams up with a group of patriotic fighters, driven by one goal: to disrupt activity at the heavily guarded factory. Nordstrum must pull off the impossible if his team is to succeed. But in doing so, he must put the safety of one person at risk – the one he sees a life with. How far is he prepared to go, and how much is he willing to sacrifice?



Why not try ‘Who Else Writes Like…?’ yourself?  You might find a new favourite author!’


“Rwyf wedi darllen popeth gan fy hoff awduron – beth ddylwn ei ddarllen nesaf?”

Swnio’n gyfarwydd? Wel, mae un o’r adnoddau arlein sydd nawr ar gael gyda’ch aelodaeth o Lyfrgelloedd Torfaen yn helpu i ddatrys y broblem honno!

Mae www.whoelsewriteslike.com wedi ei ddylunio i helpu unrhyw un sy’n hoffi darllen ffuglen i ehangu ar y nifer o awduron maent yn eu darllen. Medrwch ddefnyddio’r safle wrth ymweld â’r llyfrgell trwy neidio ar un o’n cyfrifiaduron cyhoeddus neu o’ch cartref pan fyddwch yn trefnu eich taith nesaf i’r llyfrgell.

Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw’r rhif sydd ar eich cerdyn llyfrgell i fewngofnodi. Yna dewiswch ‘Llyfrgelloedd Torfaen’ o’r rhestr o wasanaethau a gynigir a dyna chi!

Er enghraifft, isod mae rhai o’r awduron a awgrymir wrth i ni chwilio am yr awdur trosedd poblogaidd James Patterson.

One Kick – Chelsea Cain
Mae Kick Lannigan, 21, yn oroeswr. Cyn iddi fod yn 13 oed, dysgodd Kick saethu, y crefftau ymladd, bocsio, saethyddiaeth a thaflu cyllyll. Rhagorodd ym mhob un, gan dyngu na fyddai byth yn cael ei fictimeiddio eto.

Pan aiff dau blentyn o ardal Portland ar goll yn yr un mis, mae gŵr enigmatig yn dod ati gyda chynnig: mae’n argyhoeddedig y gellir defnyddio profiadau ac arbenigrwydd Kick i helpu achub y plant. Nid yw Kick yn dychmygu am eiliad y bydd yr achos yn ei harwain yn uniongyrchol i’w gorffennol dychrynllyd …

Breakdown – Jonathan Kellerman
Mae Dr. Alex Delaware yn cyfarfod yr actres Zelda Chase gyntaf pan gaiff gais i werthuso ei mab ifanc. Flynyddoedd yn ddiweddaraf, mae Alex yn cyfarfod Zelda unwaith eto, yn annisgwyl, ond, pan fo trasiedi’n digwydd ac mae hithau’n cael ei darganfod yn farw gyda’i mab ar goll, mae Alex yn troi at ei ffrind, Lefftenant gyda’r LAPD Milo Sturgis, am help i gael hyd i’r tramgwyddwr.





Crazy Love You – Lisa Unger
Mae ffrindiau plentyndod Ian a Priss yn dod â’r gwaethaf allan yn ei gilydd. Pan fo Ian eisiau symud ymlaen, mae’n canfod na fedr. Mae eu perthynas wedi ei hymgordeddu ac yn gymhleth. Ac nid yw Priss yn hoffi newid; mae’n achosi iddi wylltio. A phan fo Priss yn gwylltio, mae pethau drwg iawn yn dechrau digwydd …






The Saboteur – Andrew Gross
Mae Kurt Nordstrum yn ymladdwr dewr sydd wedi colli popeth. Pan mae’n cael gwybod am ymchwil atomig y Natsïaid yng ngwlad ei gartref, mae’n ymuno â grŵp o ymladdwyr gwladgarol, oll gyda’r un nod: i dorri ar draws y gweithgareddau yn y ffatri. Rhaid i Norstrom gyflawni’r amhosibl os yw ei dîm i lwyddo. Ond, wrth wneud hynny, rhaid iddo beryglu diogelwch un person - y person y mae’n medru dychmygu bywyd gyda nhw. Pa mor bell y mae’n barod i fynd, a faint mae’n barod i’w aberthu?

Pam na rowch gynnig ar ‘Who Else Writes Like…?’ Efallai y cewch hyd i hoff awdur newydd!

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.