The Booker Prize Foundation is celebrating the 50th
Anniversary of the prize with a special award, The Golden Man Booker Prize.
This one off prize will be awarded to the best work of fiction from 50 years of
Man Booker Prize winners. The Golden Five shortlist, one from each decade, was
selected by five judges and announced at the Hay Festival. The short list was
then put to a public vote to choose the winner.
The Golden Five that have stood the test of time:
V S
Naipaul, In a Free State (1971)
Set in an imaginary African state against a backdrop of civil
conflict, the theme of this novel is displacement and the heartache of living
in someone else's land.
Penelope
Lively, Moon Tiger (1987)
Claudia Hampton, a beautiful, famous writer, lies dying in
hospital. But, as the nurses tend to her with quiet condescension, she is
plotting her greatest work: a history of the world and in the process, my own. This
novel weaves an exquisite mesh of memories, flashbacks and shifting voices, in
a haunting story of loss and desire.
Michael
Ondaatje, The English Patient (1992)
The final curtain is closing on the Second World War, and
Hana, a nurse, stays behind in an abandoned Italian villa to tend to her only
remaining patient. Rescued by Bedouins from a burning plane, he is English,
anonymous, damaged beyond recognition and haunted by his memories of passion
and betrayal. The only clue Hana has to his past is the one thing he clung on
to through the fire, a copy of The Histories by Herodotus, covered with
hand-written notes describing a painful and ultimately tragic love affair.
Hilary
Mantel, Wolf Hall (2009)
England, the 1520s. Henry
VIII is on the throne, but has no heir. Cardinal Wolsey is his chief advisor,
charged with securing the divorce the pope refuses to grant. Into this
atmosphere of distrust and need comes Thomas Cromwell, first as Wolsey's clerk,
and later his successor.
George
Sanders, Lincoln in the Bardo (2017)
The American Civil War rages
while President Lincoln's beloved eleven-year-old son lies gravely ill. In a
matter of days, Willie dies and is laid to rest in a Georgetown cemetery.
Newspapers report that a grief-stricken Lincoln returns to the crypt several
times alone to hold his boy's body. Meanwhile Willie Lincoln finds himself
trapped in a transitional realm - called, in Tibetan tradition, the bardo. As
ghosts mingle, squabble, gripe and commiserate, stony tendrils creep towards
the boy, and a monumental struggle erupts over young Willie's soul.
And the Winner is
Gwobr Aur y Man Booker
Mae Sefydliad Gwobr Booker
yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 gyda gwobr arbennig, Gwobr Aur y Man Booker. Caiff
y wobr unwaith-ac-am-byth hon ei rhoi
i’r darn gorau o ffuglen o’r 50 o flynyddoedd o enillwyr Gwobr Man
Booker. Cafodd y rhestr fer o bump, un o bob degawd, ei dewis gan bump o
feirniaid a’i chyhoeddi yng Ngŵyl Gelli Gandryll. Cyflwynwyd y rhestr fer wedyn
i’r cyhoedd i bleidleisio dros y buddugol.
Y Pump Aur sydd wedi
sefyll prawf amser:
V S Naipaul, In a Free State (1971)
Wedi ei leoli mewn
gwladwriaeth ddychmygus Affricanaidd gyda chefndir o anghydfod sifil, thema’r
nofel hon yw dadleoliad a’r ing o fyw yng ngwlad rhywun arall.
Penelope Lively, Moon Tiger (1987)
Mae Claudia Hampton, awdur enwog,
prydferth, yn gorwedd yn yr ysbyty, yn marw. Ond, wrth i’r nyrsys ei thendio
mewn dull nawddoglyd tawel, mae hi'n cynllunio ei gwaith gorau erioed: hanes y
byd ac, yn y broses, ei hanes ei hun. Mae’r nofel yn gwau ynghyd atgofion,
edrych yn ôl a lleisiau newidiol mewn stori swynol o golled a dyhead.
Michael Ondaatje, The English Patient (1992)
Mae’r llenni olaf yn dod i lawr ar yr Ail
Ryfel Byd ac mae Hanna, nyrs, yn aros ar ôl mewn fila Eidalaidd i dendio ei
hunig glaf. Wedi ei achub gan y Bedouin o awyren sydd ar dân, mae’n Sais, yn
ddienw, wedi ei glwyfo’n enbyd ac yn dioddef hunllefau ei atgofion o angerdd a
brad. Yr unig gliw sydd gan Hana i’w orffennol yw’r unig beth y mae wedi cadw
gafael arno trwy’r tân, copi o’r Hanesion gan Herodotus, sy’n llawn o nodiadau
wedi eu hysgrifennu â llaw yn disgrifio carwriaeth boenus ac, yn y pen draw,
drasig.
Hilary Mantel, Wolf Hall (2009)
Lloegr yn y 1520au. Mae Harri’r VIII ar yr orsedd ond nid
oes ganddo etifedd. Y Cardinal Wolsey yw ei brif gynghorydd, gyda’r cyfrifoldeb
o sicrhau ysgariad y mae’r pab yn gwrthod caniatâd iddo. I ganol hyn oll,
cyfnod o ddiffyg ymddiriedaeth ac angen, daw Thomas Cromwell, yn gyntaf fel
clerc i Wolsey ac wedyn fel ei olynydd.
George Sanders, Lincoln in the Bardo (2017)
Mae Rhyfel Cartref America ar ei hanterth
tra bo mab un ar ddeg oed yr Arlywydd Lincoln yn gorwedd yn ddifrifol wael. O
fewn dyddiau, mae Willie yn marw ac yn cael ei roi i orffwys ym mynwent
Georgetown. Mae’r papurau newyddion yn adrodd bod Lincoln, yn ei alar, yn
dychwelyd i’r gladdgell nifer o weithiau i gydio yng nghorff ei fab. Yn y
cyfamser, mae Willie Lincoln yn canfod ei hun mewn parth pontio a elwir, yn y
traddodiad Tibetaidd, y bardo. Wrth i ysbrydion gymysgu, ffraeo, cwyno a
chydymdeimlo, mae tendrilau caregog yn ymgripio tuag at y bachgen, ac mae
brwydr anferth yn dechrau dros enaid Willie ifanc.
A’r Buddugol yw
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.