Friday, 24 February 2017

Edward Stanford Travel Writing Awards 2016


Award winners Michael Palin and Levison Wood
As March approaches and we start to put winter behind us, our thoughts turn to holidays and travel adventures. Are you possessed of a wanderlust or more of an armchair traveller? Regardless there’s bound to be something to tempt you among the winners of the Edward Stanford Travel Writing Awards 2016. 

Edward Stanford Award for Outstanding Contribution to Travel Writing - Winner, Michael Palin.

A worthy winner of this award, Palin’s first travel writing adventure kicked off in the autumn of 1988 when, in Phileas Fogg style he began his journey “Around the World in 80 Days”. The BBC broadcasted his adventures in 1989 and that was also the year the book of the series was first published. Since then he has gone on to write ‘Pole to Pole’, ‘Full Circle’, ‘Hemingway Adventure’, ‘Sahara’, ‘Himalaya’, ‘New Europe’ and ‘Brazil’


Adventure Travel Book
Levison Wood – Walking the Himalayas

Levison Wood's most challenging expedition yet begins along the Silk Road route of Afghanistan and travels through five countries. Following in the footsteps of the great explorers, Levison walks the entire length of the Himalayas in an adventure of survival and endurance.

Other award winners include:

Travel Book of the Year
Julian Sayarer – Interstate: Hitchhiking Through the State of a Nation
        
Recruited to work on a documentary project, Julian goes to New York convinced he has hit the big time at last. Finding the project cancelled, he wanders the city streets and, with nowhere else to go, decides to set out hitchhiking for San Francisco. 

Fiction (with a sense of place)
Madeleine Thien – Do Not Say We Have Nothing   

In Canada in 1991, ten year old Marie and her mother invite a guest into their home. She is Ai-Ming, a young woman from China who has fled following the aftermath of the Tiananmen Square incident. As her relationship with Marie deepens she tells the story of her family in revolutionary China.

Children’s Travel Book
Lucy Letherland, Rachel Williams and Emily Hawkins – Atlas of Animal Adventures

This title collects together nature's most unmissable events from between the two poles, including epic migrations, extraordinary behaviours, and Herculean habits. Find hundreds of things to spot and learn new facts about every animal.

Illustrated Travel Book
Malachy Tallack and Kate Scott – The Undiscovered Islands: an archipelago of myths and mysteries, phantoms and fakes

Gathered in the book are two dozen islands once believed to be real but no longer on the map. These are the products of imagination, deception and simple human error. They are phantoms and fakes: an archipelago of ex-isles and forgotten lands.

Food and Travel Book
Tessa Kiros – Provence to Pondicherry: recipes from France and faraway

Renowned for her exquisite food and travel books, Tessa Kiros takes us on a fascinating journey across the globe to explore French culinary influences in far-flung destinations

Innovation in Travel Publishing
James Cheshire and Oliver Uberti – Where the Animals Go: tracking wildlife with technology in 50 maps and graphics


For thousands of years, tracking animals meant following footprints. Now satellites, drones, camera traps, cellphone networks, apps and accelerometers allow us to see the natural world like never before. Geographer James Cheshire and designer Oliver Uberti take you to the forefront of this animal-tracking revolution. 







Gwobrau Ysgrifennu Teithio Edward Stanford 2016

Enillwyr Michael Palin a Levison Wood 
Wrth i Fawrth ddynesu ac rydym yn dechrau rhoi’r gaeaf i’r neilltu, mae’n meddyliau yn troi at wyliau ac anturiaeth teithio. Oes gyda chi awydd crwydro neu ydych chi’n fwy o deithiwr cadair freichiau? Pa un bynnag mae’n siŵr bod rhywbeth i’ch temtio ymhlith enillwyr Gwobrau Ysgrifennu Teithio Edward Stanford 2016.

Gwobr Edward Stanford am Gyfraniad Neilltuol i Ysgrifennu Teithio

Enillydd, Michael Palin.
Enillydd teilwng y wobr, dechreuodd antur ysgrifennu teithio cyntaf yn hydref 1988 pan, yn ôl troed Phileas Fogg fe ddechreuodd ei daith “O Gwmpas y Byd mewn 80 diwrnod”. Darlledodd y BBC ei anturiaethau yn 1989 a dyna hefyd flwyddyn cyhoeddi llyfr y gyfres am y tro cyntaf. Ers hynny aeth ymlaen i ysgrifennu ‘Pole to Pole’, ‘Full Circle’, ‘Hemingway Adventure’, ‘Sahara’, ‘Himalaya’, ‘New Europe’ a ‘Brazil’

Llyfr Antur Teithio
Levison Wood – Walking the Himalayas

Mae taith fwyaf heriol Levison Wood hyd yn hyn yn dechrau ar hyd ffordd yr Heol Sidan yn Affganistan ac yn teithio trwy bump o wledydd. Yn dilyn olion troed y fforwyr mawr, mae Levison yn cerdded hyd yr Himalayas mewn antur o oroesi a gwydnwch.

Mae enillwyr eraill yn cynnwys:
Llyfr Teithio’r Flwyddyn
Julian Sayarer – Interstate: Hitchhiking Through the State of a Nation   
     
Ar ôl cael ei recriwtio i weithio ar brosiect ddogfen, mae Julian yn mynd i Efrog Newydd yn siŵr ei fod wedi cyrraedd y brig o’r diwedd.  Mae’n deall bod y prosiect wedi ei ddileu ac yn crwydro strydoedd y ddinas a, heb unrhyw le i fynd, mae’n penderfynu ffawdheglu i San Francisco.

Ffuglen (gyda synnwyr lle)
Madeleine Thien – Do Not Say We Have Nothing 

Yng Nghanada yn 1991, mae Marie 10 mlwydd oed a’i mam yn gwahodd gwestai i’w cartref. Dyma Ai-Ming, menyw ifanc o Tsieina sydd wedi dianc ar ôl digwyddiadau Sgwâr Tiananmen.  Wrth i’w pherthynas â Marie ddatblygu mae’n dweud hanes eu bywyd yn Tsieina’r chwyldro.

Llyfr Teithio i Blant
Lucy Letherland, Rachel Williams ac Emily Hawkins – Atlas of Animal Adventures

Mae’r llyfr hwn yn casglu at ei gilydd holl ddigwyddiadau mwyaf trawiadol natur rhwng y ddau begwn, gan gynnwys ymfudiadau, ymddygiad eithriadol ac arferion gorchestol. Cewch hyd i gannoedd i’w gweld a dysgwch ffeithiau newydd am bob anifail.

Llyfr Teithio â Darluniau
Malachy Tallack a Kate Scott – The Undiscovered Islands: an archipelago of myths and mysteries, phantoms and fakes.

Ynghyd yn y llyfr mae dau ddwsin o ynysoedd y credwyd ar un adeg eu bod yn real ond nad sydd bellach ar y map. Mae’r rhain yn ffrwyth dychymig, twyll a chamgymeriad.  Maen nhw’n rhithiol ac yn ffug: ynysfor o gyn-ynysoedd a gwledydd coll.

Llyfr Bwyd a Theithio 

Tessa Kiros – Provence to Pondicherry: recipes from France and faraway

Yn adnabyddus am ei bwyd coeth a’i llyfrau teithio, mae, Tessa Kiros yn mynd â ni ar daith gyfareddol ar draws y byd i chwilio am ddylanwadau Ffrenig ar fwyd mewn gwledydd pell.

Arloesi mewn Cyhoeddi Teithio
James Cheshire ac Oliver Uberti – Where the Animals Go: tracking wildlife with technology in 50 maps and graphics.


Am filoedd o flynyddoedd roedd dilyn anifeiliaid yn golygu dilyn olion traed.  Nawr mae lloerennau, dronau, baglau camera, rhwydweithiau ffonau symudol, apps a mesuryddion cyflymu yn caniatáu i ni weld y byd naturiol fel na welsom erioed o’r blaen. Mae’r daearyddwr  James Cheshire a’r cynllunydd Oliver Uberti yn mynd â chi i reng flaen y chwyldro yma mewn dilyn anifeiliaid

Friday, 17 February 2017

Desert Island Books 4


Our castaway this month is Stephanie Morgan, Senior Librarian Cwmbran Library.

Memoirs of a Geisha – Arthur Golden
I wasn't born and raised to be a Kyoto geisha.... I'm a fisherman's daughter from a little town called Yoroido on the Sea of Japan. 
This fascinating novel by Arthur Golden tells the story of how nine-year-old Chiyo, sold with her sister into slavery by their father, goes on to become a beautiful geisha accomplished in the art of entertaining men. The story spans a quarter of a century - from Chiyo’s humble beginnings in rural Japan through to her Geisha apprenticeship in the early 1930s and her later successful career.  
This novel gripped me from the start – I loved the descriptions of the Geisha ceremonies and rituals and Golden’s stunning attention to detail is testament to the intense research which went into the writing of this novel. The book is richly descriptive and totally captivating, offering a fascinating insight into a largely vanished world. 
To Kill A Mockingbird – Harper Lee
To Kill a Mockingbird tells of Scout and Jem's childhood in 1930’s Alabama and their relationship with their lawyer father, Atticus. The novel examines how a series of events shakes their innocence, shapes their character and teaches them about human nature.  Atticus Finch remains one of my favourite characters of all time – A 1930’s lawyer who is fair, moral, respected and inspirational.
Everyone should read this book at least once in their lifetime. I’ve read it twice so far, but it’s on my desert island book list because I know I could read it over and over again and still find something new to love about it each time.
The Book Thief – Marcus Zusak
‘First the colours.  Then the humans.  That’s how I usually see things.  Or at least, how I try.  Here is a small fact.  You are going to die.’  
So begins this cross-over novel published for both adults and children about life in wartime Germany. What makes this novel different is that the author chooses to make Death the narrator of the story. 
In 1939, nine-year-old Liesel is being taken to live with foster parents in Molching, a town outside Munich on the road to Dachau. Within pages, it transpires that Liesel's small brother has died on the train journey and Liesel is cast as a survivor; ‘an expert at being left behind’. The books goes on to tell the story of Liesel’s new life in Nazi Germany, of how she adapts to life in a foster family, learns to read and falls in love with books.  It’s also a story of her developing relationships – with a boy called Rudy, her new foster father and a Jew hiding in a basement. This novel is desperately sad, yet at the same time inspiring and in places even humorous.   After I’d finished it I wanted everyone else I know to read it too; it really is that powerful.  If you’ve seen the film, make sure you read the book too – As is often the way, it has so much more to offer!
The Pillars of the Earth - Ken Follett

This 1,076 page medieval epic follows the building of a twelfth century cathedral from planning through to its completion and vividly paints a picture of the characters, their lifestyles, the politics and even the architectural and building practices of the day.  The attention to detail is amazing and the novel is richly imagined, filled with the ravages of war and the rhythms of everyday life. 
I read this book many years ago and loved it.  It took me an age to read and it’s a story I’ve always wanted to revisit but have never been able to justify the time.  What better opportunity to while away the days on a desert island than with this amazing book!
The Boy’s Book of Survival - Guy Campbell.
Well it had to be really! A comedic take on everything a teenage boy needs to survive, and as there’s no girl’s equivalent of this book in publication (shame on you Buster Books!), the boy’s version it is. My teenage years are long behind me, but this book is pitched at just the right level – simple, easy to follow and a bit of fun to boot!
If my desert island has bears, snakes or quicksand, or if I need to build a rope ladder or make a slingshot, this book will give all the help I need.  Great fun!
Little House in the Big Woods - Laura Ingalls Wilder
I first read this book as a child over forty years ago and I still have really vivid memories of visiting Cwmbran Library on Saturday mornings with my Dad to try and find the other eight titles in the series. 
The books are historical fiction based on the author’s own experiences of growing up in a pioneer family in Wisconsin.  As a child they provided me with a unique glimpse into America’s frontier past and I relished the descriptive passages of Pa hunting and gathering the family’s food, Ma’s preparations for the harsh winters, family journeys into town and encounters with wild animals in the big woods.  Cosy and comforting, every day ended with the family safe and warm in their little house and the happy sound of Pa’s fiddle sending Laura and her sisters off to sleep.  Bliss!







Llyfrau ar ynys bell 4
Ar yr ynys y mis yma mae Stephanie Morgan, Uwch Llyfrgellydd, Llyfrgell Cwmbrân.

Memoirs of a Geisha – Arthur Golden

‘Ni’m ganwyd ac ni’m magwyd i fod yn geisha Kyoto....merch i bysgotwr o dref fach o’r enw Yoroido ar fôr Siapan ydw i’.  Mae’r nofel gyfareddol yma gan Arthur Golden yn adrodd hanes Chiyo, naw mlwydd oed, a werthwyd gyda’i chwaer gan eu tad i fod yn gaethferch ac sy’n mynd ymlaen i fod yn geisha brydferth, yn fedrus wrth ddiddanu dynion. Mae’r stori yn ymestyn dros chwarter canrif – o ddyddiau cynnar llwm Chiyo yn Siapan wledig at ei hyfforddiant fel Geisha yn y tridegau cynnar a’i gyrfa ddisglair wedyn.  
Gafaelodd y nofel yma ynof i o’r dechrau – Hoffais y disgrifiadau o seremonïau a defodau’r Geisha ac mae manylder Golden yn dyst i’r ymchwil dwys a wnaeth cyn ysgrifennu’r nofel hon. Mae’r llyfr yn gyfoethog o ddisgrifiadol ac yn gwbl gyfareddol.  Mae’n cynnig dirnadaeth o fywyd sydd, ar y cyfan, wedi diflannu.
 
To Kill A Mockingbird – Harper Lee

Mae To Kill a Mockingbird yn adrodd hanes plentyndod Scout a Jem yn Alabama’r 1930au a’u perthynas gyda’u tad, y cyfreithiwr, Atticus. Mae’r nofel yn edrych ar y modd y mae cyfres o ddigwyddiadau yn ysgwyd eu diniweidrwydd, y ffurfio’u cymeriad ac yn eu dysgu am y natur ddynol.  Mae Atticus Finch yn un o fy hoff gymeriadau erioed – Cyfreithiwr o’r 1930au sy’n deg, yn foesol, yn uchel ei barch ac yn ysbrydoledig.
Dylai pawb ddarllen y llyfr yma o leiaf unwaith yn eu bywydau.  Rwy’ wedi ei ddarllen dwywaith ond mae e ar fy rhestr ynys bell oherwydd fy mod i’n gwybod y gallwn i ei ddarllen drosodd a throsodd a chael hyd i rywbeth newydd bob tro.

The Book Thief – Marcus Zusak

‘Y lliwiau’n gyntaf. Wedyn y bobl.  Fel yna fydda’ i’n gweld pethau fel arfer.  Neu o leiaf, fel ‘na rwy’n trio.  Dyma ffaith fach.  Rydych chi’n mynd i farw.’  Felly mae’r nofel yma ar gyfer oedolion a phlant am fywyd yn yr Almaen yn ystod y rhyfel yn dechrau..  Yr hyn sy’n gwneud y nofel yma’n wahanol yw bod yr awdur yn dewis Angau i adrodd y stori 
Yn 1939, mae Liesel naw mlwydd oed yn cael ei hebrwng i fyw gyda rhieni maeth ym Molching, tref fach y tu allan i Munich ar y ffordd i Dachau. O fewn ychydig dudalennau, daw’n hysbys bod brawd bach Liesel wedi marw ar y daith ar y trên ac mae Liesel yn dod yn oroeswr. ‘yn arbenigwr mewn cael ei gadael ar ôl’.  Mae’r llyfr yn mynd yn ei flaen i ddweud hanes bywyd newydd Liesel yn Almaen y Natsïaid, sut y mae’n addasu i fywyd mewn teulu maeth, yn dysgu darllen ac yn syrthio mewn cariad â llyfrau.  Mae’n hanes hefyd am berthnasau sy’n datblygu - gyda bachgen o’r enw Rudy, ei thad maeth newydd ac Iddew sy’n cuddio yn y baslawr.  Mae’r nofel yn ddirdynnol o drist, ond eto’n ysbrydoledig ac, ar brydiau, yn ddoniol hyd yn oed.  Ar ôl i mi ei orffen roeddwn am i bawb wybod fy mod i wedi ei ddarllen; mae e mor rymus â hynny.  Os ydych chi wedi gweld y ffilm, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y llyfr hefyd - Fel mae pethau mor aml, mae ganddo gymaint yn fwy i’w gynnig! 
The Pillars of the Earth - Ken Follett
Mae’r hanes arwrol canoloesol, 1,076 tudalen yma’n dilyn adeiladu eglwys gadeiriol yn y ddeuddegfed ganrif o’r cynllunio hyd at ei chwblhau ac yn darlunio’r cymeriadau’n fyw ynghyd â’u bywydau, y wleidyddiaeth a hyd yn oed arferion pensaernïol ac adeiladu’r oes.  Mae’r manylder yn anhygoel ac mae’r nofel yn llawn anrhaith rhyfel a rhythmau bywyd pob dydd. 

Darllenais y llyfr yma sawl blwyddyn yn ôl a’i garu.  Fe gymerodd oesoedd i fi ei ddarllen ac mae’n stori rwyf bob amser wedi ei ail-ddarllen ond fu gen i erioed yr amser.  Pa ffordd well o dreulio’r amser ar ynys unig bell na darllen y llyfr anhygoel yma?
The Boy’s Book of Survival - Guy Campbell

Wel, roedd rhaid! Golwg ddoniol ar bob peth sydd angen ar fachgen yn ei arddegau i lwyddo, a chan nad oes llyfr tebyg i ferched wedi’i gyhoeddi (rhag eich cywilydd Buster Books!), wel fersiwn y bechgyn amdani. Mae fy arddegau wedi mynd ers amser ond mae’r llyfr yn taro’r tant cywir – yn syml, hawdd ei ddilyn ac yn hwyl hefyd!
Os oes eirth, nadroedd neu draeth gwyllt ar yr ynys, neu os oes angen i fi greu ysgol rhaff, bydd y llyfr yma yn help ar bob cyfrif.  Hwyl!

Little House in the Big Woods - Laura Ingalls Wilder

Darllenais y llyfr yma am y tro cyntaf dros ddeugain mlynedd yn ôl ac mae gen i gof byw o ymweld â Llyfrgell Cwmbrân ar fore Sadwrn gyda fy nhad i geisio’r wyth llyfr arall yn y gyfres. 
Ffuglen hanesyddol yw’r llyfrau yma, yn seiliedig ar brofiadau’r awdur o dyfu lan mewn teulu o arloeswyr yn Wisconsin.  Fel plentyn cefais ganddyn nhw gipolwg unigryw ar orffennol cyffindiroedd America a chefais flas ar y darnau’n disgrifio Pa’n hela ac yn casglu bwyd i’r teulu, paratoadau Ma ar gyfer y gaeafau caled, teithiau gyda’r teulu i ‘r dref a chwrdd ag anifeiliaid gwyllt yn y goedwig.  Yn glyd a chysurus, roedd pob diwrnod yn gorffen gyda’r teulu’n ddiogel ac yn gynnes yn eu cartref a sŵn hapus ffidl Pa yn wrth i Laura a’i chwiorydd fynd i gysgu.  Melys!


Friday, 10 February 2017

Romantic Reads for Valentine’s Day


Why not get into the mood for Valentine’s Day by reading some good, romantic fiction? Here are 10 of the best according to the results of our latest staff straw poll.

Top of the pops was ‘One Day’ by David Nicholls, closely followed by the great Bronte classics ‘Jane Eyre’ (Charlotte Bronte) and ‘Wuthering Heights’ (Emily Bronte).

David Nicholls, One day
15th July 1988. Emma and Dexter meet for the first time on the night of their graduation. Tomorrow they must go their separate ways. So where will they be on this one day next year? And the year after that? And every year that follows?

Jane Austen also featured prominently with 2 titles in our list, ‘Persuasion’ and ‘Pride and Prejudice’.

Anna Hope’s ‘The Ballroom’ published just last year, was the newest book to make the list.
1911: Inside an asylum at the edge of the Yorkshire moors, where men and women are kept apart by high walls and barred windows, there is a ballroom both vast and beautiful. For one bright evening every week they come together and dance. And, when John and Ella meet, it is a dance that will change two lives forever.

Other recommendations included:
Ernest Hemingway, ‘A Farewell to Arms’ 
A young American volunteers for the Italian ambulance service in the First World War. Working near the front, he meets and falls in love with a British nurse. Disillusioned by the war, he makes the decision to desert, taking his new love to Switzerland.

Wendy Jones, ‘The Thoughts and Happenings of Wilfred Price, Purveyor of Superior Funerals’
Wilfred Price, overcome with emotion on a sunny spring day, proposes to a girl he barely knows at a picnic. The girl, Grace, joyfully accepts and rushes to tell her family of Wilfred's intentions. By this time Wilfred has realised his mistake, he does not love Grace and soon finds himself in love with another.

Rachel Joyce, ‘The Love Song of Miss Queenie Hennessy’
When Queenie Hennessy discovers that Harold Fry is walking the length of England to save her, and all she has to do is wait, she is shocked. Her note to him had explained she was dying from cancer. How can she wait? A new volunteer at the hospice suggests that Queenie should write again; only this time she must tell Harold the truth. Composing this new message, the volunteer promises, will ensure Queenie hangs on. It will also atone for the secrets of the past. As the volunteer points out, 'It isn't Harold who is saving you. It is you, saving Harold Fry.' This is that letter. A letter that was never sent. Told in simple, emotionally-honest prose, with a mischievous bite, this is a novel about the journey we all must take to learn who we are; it is about loving and letting go.

Deborah Moggach, ‘Heartbreak Hotel’
Russell 'Buffy' Buffery erstwhile thespian and thrice-married B&B owner has hit on an idea: So you've split up. It happens to the best of us. But marriage is a division of labour and chances are you've relied on your Better Half for something you can't do yourself fixing the house, sorting out the finances. When they've gone, you're as helpless as a baby. Enrol on Courses for Divorces and in a week you’ll be able to stand on your own two feet. Join Buffy and his raggle-taggle group of singletons and divorcees as they seek solace and late-flowering love in this novel.








Llyfrau Rhamantus ar gyfer Diwrnod San Ffolant


Beth am fynd i naws Dydd Sant Ffolant drwy ddarllen ffuglen dda, rhamantus? Dyma 10 o'r goreuon yn ôl canlyniadau arolwg diweddar ymhlith ein staff.

Ar y brig oedd ‘One Day’ gan David Nicholls, ac yn ail agos un o glasuron Bronte ‘Jane Eyre’ (Charlotte Bronte) a ‘Wuthering Heights’ (Emily Bronte).

David Nicholls, One day
15 Gorffennaf 1988. Mae Emma a Dexter yn cwrdd am y tro cyntaf ar y noson y maen nhw’n graddio. Fory, mae’n rhaid iddynt ddilyn llwybrau gwahanol. Felly ble fyddan nhw ar y diwrnod hwn y flwyddyn nesaf? A’r flwyddyn wedyn? A phob blwyddyn wedi hynny?

Roedd Jane Austen yn boblogaidd iawn, gyda 2 lyfr yn ein rhestr, ‘Persuasion’ a ‘Pride and Prejudice’.

‘The Ballroom’ gan Anna Hope a gyhoeddwyd y llynedd oedd y llyfr mwyaf newydd i gyrraedd y rhestr.
1911: Y tu mewn i seilam ar ymyl rhostir Swydd Efrog, lle mae dynion a merched yn cael eu cadw ar wahân gan waliau uchel a ffenestri â barrau, mae neuadd ddawns eang a hardd. Am un noson lachar bob wythnos maent yn dod at ei gilydd i ddawnsio. A, phan fydd John ac Ella yn cwrdd, mae'n ddawns fydd yn newid dau fywyd am byth.

Ymhlith y llyfrau eraill a argymhellir, mae:
Ernest Hemingway, ‘A Farewell to Arms’ 
Mae gwirfoddolwyr Americanaidd ifanc yn gwirfoddoli ar gyfer gwasanaeth ambiwlans yr Eidal yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gan weithio'n agos i'r rheng flaen, mae'n cwrdd â nyrs Brydeinig ac yn syrthio mewn cariad â hi. Wedi ei ddadrithio gan y rhyfel, gwna'r penderfyniad i adael, gan gymryd ei gariad newydd i'r Swistir.

Wendy Jones, ‘The Thoughts and Happenings of Wilfred Price, Purveyor of Superior Funerals’
Mae Wilfred Price, â'i emosiwn yn drech nag ef yn ystod picnic, ar ddiwrnod heulog yn y gwanwyn, yn gofyn i ferch y mae prin yn ei hadnabod, i'w briodi. Mae'r ferch, Grace, yn derbyn ei gynnig yn llawen, cyn rhuthro i ddweud wrth ei theulu am fwriad Wilfred. Erbyn hyn, mae Wilfred yn cydnabod ei gamgymeriad, nid yw'n caru Grace ac yn fuan mae'n sylweddoli ei fod mewn cariad â rhywun arall.

Rachel Joyce, ‘The Love Song of Miss Queenie Hennessy’
Pan mae Queenie Hennessy yn darganfod bod Harold Fry yn cerdded hyd Lloegr i'w hachub, a'r cyfan sydd angen iddi ei wneud yw aros, mae hi wedi'i syfrdanu. Roedd ei nodyn iddo wedi esbonio ei bod yn marw o ganser. Sut all hi aros? Mae gwirfoddolwr newydd yn yr hosbis yn awgrymu y dylai Queenie ysgrifennu eto; ond y tro hwn mae'n rhaid iddi ddweud y gwir wrth Harold. Bydd ysgrifennu'r neges newydd hon, addawodd y gwirfoddolwr, yn sicrhau bod Queenie yn dal ati. Bydd hefyd yn gwneud iawn am y cyfrinachau o'r gorffennol. Fel y dywed y gwirfoddolwr, 'Nid Harold sy'n dy achub di. Ti sydd yn achub Harold Fry. ' Dyma'r llythyr hwnnw. Llythyr na gafodd ei anfon. Dyma nofel, sy'n cael ei hadrodd mewn rhyddiaith syml, onest gyda brathiad direidus, nofel am y daith y mae'n rhaid i ni gyd ei chymryd i ddysgu pwy ydym ni; mae'n ymwneud â chariad a gadael fynd.

Deborah Moggach, ‘Heartbreak Hotel’
Mae Russell Buffy 'Buffery actor gynt, perchennog gwely a brecwast, y bu'n briod deirgwaith, wedi cael syniad: Felly, rydych wedi gwahanu. Mae'n digwydd i'r goreuon yn ein plith. Ond mae priodas yn rhaniad llafur ac yn ôl pob tebyg, rydych wedi dibynnu ar eich gwraig/gŵr am rywbeth na allwch wneud eich hun ee trefnu'r tŷ, rhoi trefn ar y sefyllfa ariannol. Ar ôl iddynt fynd, rydych mor ddiymadferth â baban. Cofrestrwch ar gyrsiau  Ysgariadau ac mewn wythnos byddwch yn gallu sefyll ar eich traed eu hunain. Ymunwch â Buffy a'i grŵp o bobl ysgaredig/sengl hanner call wrth iddynt geisio cysur a chariad hwyr-flodeuol yn y nofel hon.