Friday, 24 February 2017

Edward Stanford Travel Writing Awards 2016


Award winners Michael Palin and Levison Wood
As March approaches and we start to put winter behind us, our thoughts turn to holidays and travel adventures. Are you possessed of a wanderlust or more of an armchair traveller? Regardless there’s bound to be something to tempt you among the winners of the Edward Stanford Travel Writing Awards 2016. 

Edward Stanford Award for Outstanding Contribution to Travel Writing - Winner, Michael Palin.

A worthy winner of this award, Palin’s first travel writing adventure kicked off in the autumn of 1988 when, in Phileas Fogg style he began his journey “Around the World in 80 Days”. The BBC broadcasted his adventures in 1989 and that was also the year the book of the series was first published. Since then he has gone on to write ‘Pole to Pole’, ‘Full Circle’, ‘Hemingway Adventure’, ‘Sahara’, ‘Himalaya’, ‘New Europe’ and ‘Brazil’


Adventure Travel Book
Levison Wood – Walking the Himalayas

Levison Wood's most challenging expedition yet begins along the Silk Road route of Afghanistan and travels through five countries. Following in the footsteps of the great explorers, Levison walks the entire length of the Himalayas in an adventure of survival and endurance.

Other award winners include:

Travel Book of the Year
Julian Sayarer – Interstate: Hitchhiking Through the State of a Nation
        
Recruited to work on a documentary project, Julian goes to New York convinced he has hit the big time at last. Finding the project cancelled, he wanders the city streets and, with nowhere else to go, decides to set out hitchhiking for San Francisco. 

Fiction (with a sense of place)
Madeleine Thien – Do Not Say We Have Nothing   

In Canada in 1991, ten year old Marie and her mother invite a guest into their home. She is Ai-Ming, a young woman from China who has fled following the aftermath of the Tiananmen Square incident. As her relationship with Marie deepens she tells the story of her family in revolutionary China.

Children’s Travel Book
Lucy Letherland, Rachel Williams and Emily Hawkins – Atlas of Animal Adventures

This title collects together nature's most unmissable events from between the two poles, including epic migrations, extraordinary behaviours, and Herculean habits. Find hundreds of things to spot and learn new facts about every animal.

Illustrated Travel Book
Malachy Tallack and Kate Scott – The Undiscovered Islands: an archipelago of myths and mysteries, phantoms and fakes

Gathered in the book are two dozen islands once believed to be real but no longer on the map. These are the products of imagination, deception and simple human error. They are phantoms and fakes: an archipelago of ex-isles and forgotten lands.

Food and Travel Book
Tessa Kiros – Provence to Pondicherry: recipes from France and faraway

Renowned for her exquisite food and travel books, Tessa Kiros takes us on a fascinating journey across the globe to explore French culinary influences in far-flung destinations

Innovation in Travel Publishing
James Cheshire and Oliver Uberti – Where the Animals Go: tracking wildlife with technology in 50 maps and graphics


For thousands of years, tracking animals meant following footprints. Now satellites, drones, camera traps, cellphone networks, apps and accelerometers allow us to see the natural world like never before. Geographer James Cheshire and designer Oliver Uberti take you to the forefront of this animal-tracking revolution. 







Gwobrau Ysgrifennu Teithio Edward Stanford 2016

Enillwyr Michael Palin a Levison Wood 
Wrth i Fawrth ddynesu ac rydym yn dechrau rhoi’r gaeaf i’r neilltu, mae’n meddyliau yn troi at wyliau ac anturiaeth teithio. Oes gyda chi awydd crwydro neu ydych chi’n fwy o deithiwr cadair freichiau? Pa un bynnag mae’n siŵr bod rhywbeth i’ch temtio ymhlith enillwyr Gwobrau Ysgrifennu Teithio Edward Stanford 2016.

Gwobr Edward Stanford am Gyfraniad Neilltuol i Ysgrifennu Teithio

Enillydd, Michael Palin.
Enillydd teilwng y wobr, dechreuodd antur ysgrifennu teithio cyntaf yn hydref 1988 pan, yn ôl troed Phileas Fogg fe ddechreuodd ei daith “O Gwmpas y Byd mewn 80 diwrnod”. Darlledodd y BBC ei anturiaethau yn 1989 a dyna hefyd flwyddyn cyhoeddi llyfr y gyfres am y tro cyntaf. Ers hynny aeth ymlaen i ysgrifennu ‘Pole to Pole’, ‘Full Circle’, ‘Hemingway Adventure’, ‘Sahara’, ‘Himalaya’, ‘New Europe’ a ‘Brazil’

Llyfr Antur Teithio
Levison Wood – Walking the Himalayas

Mae taith fwyaf heriol Levison Wood hyd yn hyn yn dechrau ar hyd ffordd yr Heol Sidan yn Affganistan ac yn teithio trwy bump o wledydd. Yn dilyn olion troed y fforwyr mawr, mae Levison yn cerdded hyd yr Himalayas mewn antur o oroesi a gwydnwch.

Mae enillwyr eraill yn cynnwys:
Llyfr Teithio’r Flwyddyn
Julian Sayarer – Interstate: Hitchhiking Through the State of a Nation   
     
Ar ôl cael ei recriwtio i weithio ar brosiect ddogfen, mae Julian yn mynd i Efrog Newydd yn siŵr ei fod wedi cyrraedd y brig o’r diwedd.  Mae’n deall bod y prosiect wedi ei ddileu ac yn crwydro strydoedd y ddinas a, heb unrhyw le i fynd, mae’n penderfynu ffawdheglu i San Francisco.

Ffuglen (gyda synnwyr lle)
Madeleine Thien – Do Not Say We Have Nothing 

Yng Nghanada yn 1991, mae Marie 10 mlwydd oed a’i mam yn gwahodd gwestai i’w cartref. Dyma Ai-Ming, menyw ifanc o Tsieina sydd wedi dianc ar ôl digwyddiadau Sgwâr Tiananmen.  Wrth i’w pherthynas â Marie ddatblygu mae’n dweud hanes eu bywyd yn Tsieina’r chwyldro.

Llyfr Teithio i Blant
Lucy Letherland, Rachel Williams ac Emily Hawkins – Atlas of Animal Adventures

Mae’r llyfr hwn yn casglu at ei gilydd holl ddigwyddiadau mwyaf trawiadol natur rhwng y ddau begwn, gan gynnwys ymfudiadau, ymddygiad eithriadol ac arferion gorchestol. Cewch hyd i gannoedd i’w gweld a dysgwch ffeithiau newydd am bob anifail.

Llyfr Teithio â Darluniau
Malachy Tallack a Kate Scott – The Undiscovered Islands: an archipelago of myths and mysteries, phantoms and fakes.

Ynghyd yn y llyfr mae dau ddwsin o ynysoedd y credwyd ar un adeg eu bod yn real ond nad sydd bellach ar y map. Mae’r rhain yn ffrwyth dychymig, twyll a chamgymeriad.  Maen nhw’n rhithiol ac yn ffug: ynysfor o gyn-ynysoedd a gwledydd coll.

Llyfr Bwyd a Theithio 

Tessa Kiros – Provence to Pondicherry: recipes from France and faraway

Yn adnabyddus am ei bwyd coeth a’i llyfrau teithio, mae, Tessa Kiros yn mynd â ni ar daith gyfareddol ar draws y byd i chwilio am ddylanwadau Ffrenig ar fwyd mewn gwledydd pell.

Arloesi mewn Cyhoeddi Teithio
James Cheshire ac Oliver Uberti – Where the Animals Go: tracking wildlife with technology in 50 maps and graphics.


Am filoedd o flynyddoedd roedd dilyn anifeiliaid yn golygu dilyn olion traed.  Nawr mae lloerennau, dronau, baglau camera, rhwydweithiau ffonau symudol, apps a mesuryddion cyflymu yn caniatáu i ni weld y byd naturiol fel na welsom erioed o’r blaen. Mae’r daearyddwr  James Cheshire a’r cynllunydd Oliver Uberti yn mynd â chi i reng flaen y chwyldro yma mewn dilyn anifeiliaid

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.