Our castaway
this month is Stephanie Morgan, Senior Librarian Cwmbran Library.
Memoirs of a Geisha – Arthur Golden
This fascinating novel by Arthur Golden tells the story of how
nine-year-old Chiyo, sold with her sister into slavery by their father, goes on
to become a beautiful geisha accomplished in the art of entertaining men. The
story spans a quarter of a century - from Chiyo’s humble
beginnings in rural Japan through to her Geisha apprenticeship in the early
1930s and her later successful career.
This
novel gripped me from the start – I loved the descriptions of the Geisha
ceremonies and rituals and Golden’s stunning attention to detail is testament
to the intense research which went into the writing of this novel. The book is
richly descriptive and totally captivating, offering a fascinating insight into
a largely vanished world.
To Kill A Mockingbird – Harper Lee
To Kill a Mockingbird tells of Scout and Jem's childhood in
1930’s Alabama and their relationship with their lawyer father, Atticus. The
novel examines how a series of events shakes their innocence, shapes their
character and teaches them about human nature.
Atticus Finch remains one of my
favourite characters of all time – A 1930’s lawyer who is fair, moral,
respected and inspirational.
Everyone should read this book at least once in
their lifetime. I’ve read it twice so far, but it’s on my desert island book
list because I know I could read it over and over again and still find
something new to love about it each time.
The Book Thief – Marcus Zusak
‘First the colours. Then the
humans. That’s how I usually see
things. Or at least, how I try. Here is a small fact. You are going to die.’
So
begins this cross-over novel published for both adults and children about life
in wartime Germany. What makes this novel different is that the author chooses
to make Death the narrator of the story.
In
1939, nine-year-old Liesel is being taken to live with foster parents in
Molching, a town outside Munich on the road to Dachau. Within pages, it
transpires that Liesel's small brother has died on the train journey and Liesel
is cast as a survivor; ‘an expert at being left behind’. The books goes on to
tell the story of Liesel’s new life in Nazi Germany, of how she adapts to life
in a foster family, learns to read and falls in love with books. It’s also a story of her developing
relationships – with a boy called Rudy, her new foster father and a Jew hiding
in a basement. This novel is desperately sad, yet at the same time inspiring
and in places even humorous. After I’d
finished it I wanted everyone else I know to read it too; it really is that
powerful. If you’ve seen the film, make
sure you read the book too – As is often the way, it has so much more to offer!
The Pillars of the Earth - Ken Follett
This 1,076 page medieval epic follows the building of a twelfth century cathedral from planning through to its completion and vividly paints a picture of the characters, their lifestyles, the politics and even the architectural and building practices of the day. The attention to detail is amazing and the novel is richly imagined, filled with the ravages of war and the rhythms of everyday life.
This 1,076 page medieval epic follows the building of a twelfth century cathedral from planning through to its completion and vividly paints a picture of the characters, their lifestyles, the politics and even the architectural and building practices of the day. The attention to detail is amazing and the novel is richly imagined, filled with the ravages of war and the rhythms of everyday life.
I
read this book many years ago and loved it.
It took me an age to read and it’s a story I’ve always wanted to revisit
but have never been able to justify the time.
What better opportunity to while away the days on a desert island than
with this amazing book!
The Boy’s Book
of Survival - Guy Campbell.
Well it had to be really! A comedic take on
everything a teenage boy needs to survive, and as there’s no girl’s equivalent
of this book in publication (shame on you Buster Books!), the boy’s version it
is. My teenage years are long behind me, but this book is pitched at just the
right level – simple, easy to follow and a bit of fun to boot!
If my desert island has bears, snakes or
quicksand, or if I need to build a rope ladder or make a slingshot, this book
will give all the help I need. Great
fun!
Little House in the Big Woods - Laura Ingalls
Wilder
The
books are historical fiction based on the author’s own experiences of growing
up in a pioneer family in Wisconsin. As
a child they provided me with a unique glimpse into America’s frontier past and
I relished the descriptive passages of Pa hunting and gathering the family’s
food, Ma’s preparations for the harsh winters, family journeys into town and
encounters with wild animals in the big woods.
Cosy and comforting, every day ended with the family safe and warm in
their little house and the happy sound of Pa’s fiddle sending Laura and her
sisters off to sleep. Bliss!
Llyfrau ar ynys
bell 4
Ar yr ynys y mis yma mae Stephanie Morgan, Uwch Llyfrgellydd, Llyfrgell Cwmbrân.
Memoirs of a Geisha –
Arthur Golden
‘Ni’m ganwyd
ac ni’m magwyd i fod yn geisha Kyoto....merch i bysgotwr o dref fach o’r enw
Yoroido ar fôr Siapan ydw i’. Mae’r nofel gyfareddol yma gan Arthur Golden
yn adrodd hanes Chiyo, naw mlwydd oed, a werthwyd gyda’i chwaer gan eu tad i fod
yn gaethferch ac sy’n mynd ymlaen i fod yn geisha brydferth, yn fedrus wrth
ddiddanu dynion. Mae’r stori yn ymestyn dros chwarter canrif – o ddyddiau
cynnar llwm Chiyo yn Siapan wledig at
ei hyfforddiant fel Geisha yn y tridegau cynnar a’i gyrfa ddisglair wedyn.
Gafaelodd y nofel yma ynof i o’r dechrau – Hoffais y
disgrifiadau o seremonïau a defodau’r Geisha ac mae manylder Golden yn dyst i’r
ymchwil dwys a wnaeth cyn ysgrifennu’r nofel hon. Mae’r llyfr yn gyfoethog o
ddisgrifiadol ac yn gwbl gyfareddol.
Mae’n cynnig dirnadaeth o fywyd sydd, ar y cyfan, wedi diflannu.
To Kill A Mockingbird –
Harper Lee
Mae
To Kill a Mockingbird yn adrodd hanes plentyndod Scout a Jem yn Alabama’r 1930au a’u
perthynas gyda’u tad, y cyfreithiwr, Atticus. Mae’r nofel yn edrych ar y modd y
mae cyfres o ddigwyddiadau yn ysgwyd eu diniweidrwydd, y ffurfio’u cymeriad ac
yn eu dysgu am y natur ddynol. Mae Atticus Finch yn un o fy
hoff gymeriadau erioed – Cyfreithiwr o’r 1930au sy’n deg, yn foesol, yn uchel
ei barch ac yn ysbrydoledig.
Dylai
pawb ddarllen y llyfr yma o leiaf unwaith yn eu bywydau. Rwy’ wedi ei ddarllen dwywaith ond mae e ar
fy rhestr ynys bell oherwydd fy mod i’n gwybod y gallwn i ei ddarllen drosodd a
throsodd a chael hyd i rywbeth newydd bob tro.
The Book Thief – Marcus
Zusak
‘Y lliwiau’n gyntaf. Wedyn y bobl. Fel yna fydda’ i’n gweld pethau fel
arfer. Neu o leiaf, fel ‘na rwy’n
trio. Dyma ffaith fach. Rydych chi’n mynd i farw.’ Felly mae’r nofel yma ar gyfer
oedolion a phlant am fywyd yn yr Almaen yn ystod y rhyfel yn dechrau.. Yr hyn sy’n gwneud y nofel yma’n wahanol yw
bod yr awdur yn dewis Angau i adrodd y stori
Yn 1939, mae Liesel naw mlwydd oed yn cael ei hebrwng i
fyw gyda rhieni maeth ym Molching, tref fach y tu allan i Munich ar y ffordd i
Dachau. O fewn ychydig dudalennau, daw’n hysbys bod brawd bach Liesel wedi marw
ar y daith ar y trên ac mae Liesel yn dod yn oroeswr. ‘yn arbenigwr mewn cael
ei gadael ar ôl’. Mae’r llyfr yn mynd yn
ei flaen i ddweud hanes bywyd newydd Liesel yn Almaen y Natsïaid, sut y mae’n
addasu i fywyd mewn teulu maeth, yn dysgu darllen ac yn syrthio mewn cariad â
llyfrau. Mae’n hanes hefyd am berthnasau
sy’n datblygu - gyda bachgen o’r enw Rudy, ei thad maeth newydd ac Iddew sy’n
cuddio yn y baslawr. Mae’r nofel yn
ddirdynnol o drist, ond eto’n ysbrydoledig ac, ar brydiau, yn ddoniol hyd yn
oed. Ar ôl i mi ei orffen roeddwn am i
bawb wybod fy mod i wedi ei ddarllen; mae e mor rymus â hynny. Os ydych chi wedi gweld y ffilm, gwnewch yn
siŵr eich bod yn darllen y llyfr hefyd - Fel mae pethau mor aml, mae ganddo
gymaint yn fwy i’w gynnig!
The Pillars
of the Earth - Ken Follett
Mae’r hanes arwrol canoloesol, 1,076 tudalen yma’n dilyn
adeiladu eglwys gadeiriol yn y ddeuddegfed ganrif o’r cynllunio hyd at ei
chwblhau ac yn darlunio’r cymeriadau’n fyw ynghyd â’u bywydau, y wleidyddiaeth
a hyd yn oed arferion pensaernïol ac adeiladu’r oes. Mae’r manylder yn anhygoel ac mae’r nofel yn
llawn anrhaith rhyfel a rhythmau bywyd pob dydd.
Darllenais y llyfr yma sawl blwyddyn yn ôl a’i garu. Fe gymerodd oesoedd i fi ei ddarllen ac mae’n
stori rwyf bob amser wedi ei ail-ddarllen ond fu gen i erioed yr amser. Pa ffordd well o dreulio’r amser ar ynys unig
bell na darllen y llyfr anhygoel yma?
The Boy’s Book of Survival - Guy Campbell
Wel, roedd rhaid! Golwg
ddoniol ar bob peth sydd angen ar fachgen yn ei arddegau i lwyddo, a chan nad
oes llyfr tebyg i ferched wedi’i gyhoeddi (rhag eich cywilydd Buster Books!),
wel fersiwn y bechgyn amdani. Mae fy arddegau wedi mynd ers amser ond mae’r llyfr
yn taro’r tant cywir – yn syml, hawdd ei ddilyn ac yn hwyl hefyd!
Os oes eirth, nadroedd neu
draeth gwyllt ar yr ynys, neu os oes angen i fi greu ysgol rhaff, bydd y llyfr
yma yn help ar bob cyfrif. Hwyl!
Little House in the Big
Woods - Laura Ingalls Wilder
Darllenais y llyfr
yma am y tro cyntaf dros ddeugain mlynedd yn ôl ac mae gen i gof byw o ymweld â
Llyfrgell Cwmbrân ar fore Sadwrn gyda fy nhad i geisio’r wyth llyfr arall yn y
gyfres.
Ffuglen hanesyddol yw’r llyfrau yma, yn seiliedig ar
brofiadau’r awdur o dyfu lan mewn teulu o arloeswyr yn Wisconsin. Fel plentyn cefais ganddyn nhw gipolwg
unigryw ar orffennol cyffindiroedd America a chefais flas ar y darnau’n
disgrifio Pa’n hela ac yn casglu bwyd i’r teulu, paratoadau Ma ar gyfer y
gaeafau caled, teithiau gyda’r teulu i ‘r dref a chwrdd ag anifeiliaid gwyllt
yn y goedwig. Yn glyd a chysurus, roedd
pob diwrnod yn gorffen gyda’r teulu’n ddiogel ac yn gynnes yn eu cartref a sŵn
hapus ffidl Pa yn wrth i Laura a’i chwiorydd fynd i gysgu. Melys!
No comments:
Post a Comment
We would love to hear from you.
Please leave comments below.