Friday, 17 March 2017

Quick Reads 2017


Fancy a Quick Read? 
6 brand new titles by big name authors have been published for you to enjoy.

Why Quick Reads?
If you find long books off putting, want a quick read for a journey, think reading is difficult or boring, then Quick Reads are for you.

Harry Bingham ed. - Dead Simple
A collection of short stories from some of the best crime writers around. The stories include the perfect murder and an unusual way to solve crimes. From prison cells to cosy living rooms, these dark, chilling tales will grip you with every twist and turn.

Rowan Coleman – Looking for Captain Poldark
Lisa has sworn off love and relationships after a really bad experience, but lately she's been tempted to take a chance on a more exciting life. First she meets other fans of the TV show Poldark online. Then she proposes a very special road trip to Cornwall, in search of where their favourite show is being filmed. But can four strangers find friendship, as well as a certain sexy hunk on their trip south?

Jenny Colgan – A Very Distant Shore

Lorna lives on the tiny Scottish island of Mure, a peaceful place where everyone helps their neighbour. But the local GP is retiring, and nobody wants his job. Mure is too small and too remote. Far away, in a crowded camp, Saif is treating a little boy with a badly-cut hand. Saif is a refugee, but he's also a doctor: exactly what Mure needs. Saif is welcome in Mure, but can he forget his past? Over one summer, Saif will find a place to call home, and Lorna's life will change forever.

Amanda Craig – The Other Side of You

Will must run, or die. He's seen a murder, and the gang on his estate are after him. Hurt, hungry and afraid, he comes to an abandoned house in a different part of the city. Behind its high fences is a place of safety. Here, he can hide like a wounded beast. He can find food, and healing - and learn how to do more than survive. But when Will meets Padma, he must choose between his good side and his bad one. For the gang he left behind is still there. How can he live without becoming a killer? How can he love without being a thief? Exciting, fast-paced and different, this is a story that keeps you reading until the last line.

Susan Jeffers – Feel the Fear and Do It Anyway
Almost everyone experiences fear at some time in their lives. It may be while public speaking, asserting themselves, making decisions, being alone, ageing, etc. This book offers the insight and tools to deal with such fears.

Dreda Say Mitchell – One False Move
Hayley swore when she got out of prison that she would turn her life around. But living on the Devil's Estate doesn't make that easy. She spends her days looking after her daughter, and her nights collecting cash from people who can't get loans any other way. But someone has just robbed her. And she has 24 hours to get the money back, or her boss will come for her. Her criminal ex-boyfriend says he can help. Hayley wants nothing to do with him. But time is running out, and she has to choose - save herself, or save her soul? If she makes one false move, her life will be over.

All the featured titles are available to borrow or reserve from Torfaen Libraries. Reserve it now








Storïau Sydyn 2017

Ffansio Stori Sydyn? 
Mae chwe llyfr newydd sbon gan awduron enwog wedi eu cyhoeddi ac yn disgwyl amdanoch.

Pam Storïau Sydyn?
Os nad yw llyfrau hir yn mynd â'ch bryd, ac os ydych am rywbeth i'w ddarllen yn gyflym ar, siwrnai, os ydych yn meddwl bod darllen yn anodd neu'n ddiflas, yna Straeon Sydyn yw'r ateb i chi.

Harry Bingham ed. - Dead Simple
Casgliad o straeon byrion gan rai o'r awduron trosedd gorau o gwmpas. Mae'r straeon yn cynnwys y llofruddiaeth berffaith a ffordd anarferol i ddatrys troseddau. O gelloedd carchar i ystafelloedd byw clud, bydd y chwedlau tywyll, oeraidd yn cydio ynoch gyda phob tro o bob cyfeiriad.

Rowan Coleman – Looking for Captain Poldark
Mae Lisa wedi tyngu llw i gadw draw rhag cariad a pherthnasau ar ôl profiad drwg iawn, ond yn ddiweddar mae hi wedi cael ei themtio i fentro ar fywyd mwy cyffrous. Yn gyntaf mae'n cyfarfod â phobl eraill sy'n frwd dros y sioe deledu Poldark ar-lein. Yna mae hi'n bwriadu mynd ar daith arbennig iawn i Gernyw, i weld ble mae ei hoff sioe yn cael ei ffilmio. Ond gall pedwar dieithryn yn ogystal â chwlffyn rhywiol feithrin cyfeillgarwch ar eu taith i'r de?

Jenny Colgan – A Very Distant Shore
Mae Lorna yn byw ar ynys fechan Mure yn yr Alban, lle heddychlon lle mae pawb yn helpu eu cymdogion. Ond mae'r meddyg teulu lleol yn ymddeol, a does neb eisiau ei swydd. Mae Mure yn rhy fach ac yn rhy anghysbell. Bell i ffwrdd, mewn gwersyll gorlawn, mae Saif yn trin bachgen bach sydd â briw gwael ar ei law. Ffoadur yw Saif, ond mae hefyd yn feddyg: yr union beth sydd ei angen ar Mure. Mae croeso cynnes i Saif yn Mure, ond a all anghofio ei orffennol? Yn ystod un cyfnod o haf, bydd Saif yn dod o hyd i le i alw'n gartref, a bydd bywyd Lorna yn newid am byth.

Amanda Craig – The Other Side of You

Rhaid i Will rhedeg, neu farw. Mae e wedi gweld llofruddiaeth, ac mae'r criw ar ei stad ar ei ôl. Wedi'i niweidio, yn newynog ac yn ofnus, daw i dŷ segur mewn rhan wahanol o'r ddinas. Y tu ôl i'w ffensys uchel mae yna le diogel. Yma, gall guddio fel bwystfil wedi'i glwyfo. Gall ddod o hyd i fwyd, ac iachâd - a dysgu sut i wneud mwy na goroesi. Ond pan fydd Will yn cwrdd â Padma, rhaid iddo ddewis rhwng ei ochr da a'i ochr drwg. Mae'r criw a adawodd ar ôl dal i fod yno. Sut all e fyw heb fod yn llofrudd? Sut all e garu heb fod yn lleidr? Cyffrous, cyflym ac yn wahanol, mae hon yn stori fydd yn eich bachu tan i chi ddarllen y llinell olaf.

Susan Jeffers – Feel the Fear and Do It Anyway
Mae bron i bawb yn teimlo ofn ar ryw adeg yn eu bywyd. Efallai mai siarad cyhoeddus yw’r broblem, pendantrwydd, gwneud penderfyniadau, bod ar eich pen eich hun, heneiddio ac ati. Mae'r llyfr hwn yn cynnig mewnwelediad a dulliau i ddelio â phryderon o'r fath.

Dreda Say Mitchell – One False Move

Tyngodd Hayley pan fyddai hi'n cael ei rhyddhau o'r carchar y byddai'n newid ei bywyd. Ond, a hithau’n byw ar Stad y Diafol, nid ydyw mor hawdd â hynny. Mae hi'n treulio ei dyddiau yn gofalu am ei merch, a'i nosweithiau yn casglu arian gan bobl nad ydynt yn gallu cael benthyciadau mewn unrhyw ffordd arall. Ond mae rhywun wedi dwyn wrthi. Ac mae ganddi 24 awr i gael yr arian yn ôl, neu bydd ei bos yn dod amdani. Mae ei chyn-gariad, sy'n droseddwr yn dweud y gall ef helpu. Nid yw Hayley am unrhyw beth i'w wneud ag ef. Ond mae amser yn mynd yn brin, ac mae angen iddi ddewis - achub ei hun, neu achub ei henaid? Os bydd hi'n gwneud un symudiad anghywir, bydd ei bywyd drosodd.

Mae’r holl lyfrau uchod ar gael i’w benthyca neu’u cadw o’r neilltu gan Lyfrgelloedd Torfaen. Archebwch nawr


No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.