Friday, 24 March 2017

Stop Press, children do read!



They say kids don’t read anymore. Well I’m glad to say the stats give the lie to this. 13 of the top 20 most borrowed authors from public libraries in 2015/2016 according to Public Lending Right stats, were children’s authors. 2 were in the top 3, Julia Donaldson and Daisy Meadows and 7 in the top 10, including Roderick Hunt, Francesca Simon and Roald Dahl.

The top 10 book sales chart has an amazing 9 children’s books, with David Walliams’ ‘Blob’ at number 1. Admittedly, these were all World Book Day books sold at the knock down price of £1 or free with a World Book Day voucher, but what a great way of getting brilliant authors into children’s hands.

If you want to get your kids interested in reading and are looking for some great books to tempt them then check out the 2017 shortlists for the CILIP Carnegie and Kate Greenaway medals. The CILIP Carnegie Medal is awarded by children's librarians for an outstanding book written in English for children and young people. The CILIP Kate Greenaway Medal is awarded by children's librarians for an outstanding book in terms of illustration for children and young people. Shortlists







Pwysig, mae plant yn darllen!

Maen nhw’n dweud nad yw plant yn darllen y dyddiau hyn. Ond mae’r ystadegau yn dweud yn wahanol. Roedd 13 o’r 20 awdur a fenthycwyd amlaf o lyfrgelloedd cyhoeddus yn 2015/2016, yn ôl ystadegau Hawliau Benthyg Cyhoeddus, yn awduron plant. Roedd 2 yn y 3 uchaf, sef Julia Donaldson a Daisy Meadows a 7 yn y 10 uchaf, gan gynnwys Roderick Hunt, Francesca Simon a Roald Dahl.

Mae gan siart gwerthu llyfrau’r 10 uchaf 9 o lyfrau plant arno, gyda ‘Blob’ David Walliams yn dod yn gyntaf. Gwir, roedd y rhain i gyd yn llyfrau Diwrnod y Llyfr yn cael eu gwerthu am bris rhad o £1 neu am ddim gyda thocyn Diwrnod y Llyfr, ond dyma ffordd wych o gael awduron rhagorol i ddwylo plant.

Os ydych chi eisiau cael eich plant i ddarllen, ac os ydych chi’n chwilio am lyfrau gwych i’w temtio, yna edrychwch ar restri byr 2017 ar gyfer medalau CILIP Carnegie a Kate Greenaway. Dyfernir Medal CILIP Carnegie gan lyfrgellwyr plant am lyfr eithriadol wedi ei ysgrifennu yn Saesneg i blant a phobl ifancDyfernir Medal CILIP Kate Greenaway gan lyfrgellwyr plant am lyfr eithriadol o ran darluniau i blant a phobl ifanc.

No comments:

Post a Comment

We would love to hear from you.
Please leave comments below.