Friday, 25 August 2017

Crime Writer’s Association Dagger Awards

If you’re a fan of crime fiction and always on the lookout for new talent, check out the 2017 shortlist for the John Creasy (New Blood) Dagger Award. This award is for the best crime novel by a first-time author of any nationality, published in the UK and written in English. There are some great new crime writers here to road test. All the titles are available to borrow or reserve from Torfaen Libraries.

Guy Bolton – The Pictures
In 1930’s Hollywood, no one is innocent. World-weary Jonathan Craine is a detective at the LAPD who has spent his entire career as a studio ‘fixer’, covering up crimes of the studio players to protect the billion-dollar industry that built Los Angeles. When one of the producers of The Wizard of Oz is found dead under suspicious circumstances, Craine must make sure the incident passes without scandal. 

Daniel Cole – Ragdoll
A body is discovered with the dismembered parts of six victims stitched together, nicknamed by the press as the 'Ragdoll'. Assigned to the shocking case are Detective William 'Wolf' Fawkes, recently reinstated to the London Met, and his former partner Detective Emily Baxter. The 'Ragdoll Killer' taunts the police by releasing a list of names to the media, and the dates on which he intends to murder them. With six people to save, can Fawkes and Baxter catch a killer when the world is watching their every move?

Joseph Knox – Sirens
The runaway daughter of a dirty politician. The unsolved disappearance of a young mother. The crime lord who knows the city's secrets. The disgraced detective on the edge of it all. Many questions. Not many answers. Not yet.

Ali Land – Good me, bad me
Annie's mother is a serial killer. The only way she can make it stop is to hand her mother in to the police. But out of sight is not out of mind. As her mother's trial looms, the secrets of her past won't let Annie sleep, even with a new foster family and a new name, Milly. Now, surely, she can be whoever she wants to be. But Milly's mother is a serial killer. And blood is thicker than water. Good me, bad me. She is, after all, her mother's daughter.

Chris Whitaker – Tall Oaks
When three-year-old Harry Monroe goes missing, Tall Oaks is the sort of community you'd expect to rally round and find him before the day is out. Someone must know something. But months later his desperate mother Jess is an increasingly isolated figure, still printing off posters of her son and putting them on display around the town with the police investigation apparently at a standstill. It's becoming quite clear that however well they all think they know each other, there are secrets that no one wants revealed.
Reserve here









Gwobr Dagger Cymdeithas Awduron Trosedd

Os ydych chi'n frwd dros ffuglen droseddau a bob amser yn chwilio am dalent newydd, edrychwch ar restr fer 2017 ar gyfer Gwobr Dagger John Creasy (New Blood). Mae'r wobr hon ar gyfer y nofel troseddau gorau gan awdur cyntaf unrhyw genedligrwydd, a gyhoeddir yn y DU ac a ysgrifennwyd yn Saesneg. Mae yna rai awduron troseddau newydd, gwych yma i gael blas arnynt. Mae'r holl deitlau ar gael i'w benthyca neu eu cadw i'r neilltu yn Llyfrgelloedd Torfaen.

Guy Bolton – The Pictures
Yn Hollywood y 1930au, nid oes unrhyw un yn ddiniwed. Mae Jonathan Craine, sydd wedi hen alaru ar y byd, yn dditectif yn yr LAPD ac wedi treulio ei yrfa gyfan fel 'sefydlyn' stiwdio, yn gwneud ffug-esgusodion dros y chwaraewyr stiwdio i amddiffyn y diwydiant biliwn doler a adeiladodd Los Angeles. Pan ddarganfyddir un o gynhyrchwyr The Wizard of Oz yn farw o dan amgylchiadau amheus, rhaid i Craine sicrhau bod y digwyddiad yn mynd heibio heb sgandal.

Daniel Cole – Ragdoll
Darganfyddir corff gyda rhannau corff chwe dioddefwr wedi eu datgymalu a'u gwnïo gyda'i gilydd, neu 'Ragdoll' yn ôl yr enw a rhoddwyd iddo gan y Wasg. Y Ditectif William 'Wolf' Fawkes, a gafodd ei ailbenodi i'r Met yn Llundain, a'i gynbartner Ditectif Emily Baxter, sy'n cael eu haseinio i'r achos. Mae Llofrudd 'Ragdoll' yn edliw'r heddlu trwy ryddhau rhestr o enwau i'r cyfryngau, a'r dyddiadau y mae'n bwriadu eu llofruddio. Gyda chwech o bobl i'w hachub, a all Fawkes a Baxter ddal llofrudd pan fydd y byd yn gwylio eu symudiadau?

Joseph Knox – Sirens
Merch ffoëdig gwleidydd brwnt. Diflaniad mam ifanc heb ei ddatrys. Meistr ar drosedd sy'n gwybod cyfrinachau'r ddinas. Y ditectif cywilyddus sy'n sleifio. Llawer o gwestiynau. Dim llawer o atebion. Ddim eto.

Ali Land – Good me, bad me
Mae mam Annie yn hen law ar lofruddio. Yr unig ffordd y gall ei hatal yw dweud wrth yr heddlu. Ond nid yw pell o'r golwg yn golygu pell o'r meddwl. Wrth i dreial ei mam agosáu, nid yw cyfrinachau ei gorffennol yn gadael i Annie gysgu, hyd yn oed gyda theulu maeth newydd ac enw newydd, Milly. Nawr, yn sicr, gall hi fod pwy bynnag y mae hi eisiau bod. Ond mae mam Milly yn hen law ar lofruddio. A thewach gwaed na dŵr. Da neu ddrwg. Mae hi, wedi'r cyfan, yn ferch i'w mam.

Chris Whitaker – Tall Oaks
Pan fydd Harry Monroe, sy'n dair oed, yn mynd ar goll, byddech yn disgwyl i gymuned fel Tall Oaks fod yn gefn a cheisio dod o hyd iddo cyn diwedd dydd. Rhaid bod rhywun yn gwybod rhywbeth. Ond fisoedd yn ddiweddarach, mae Jess, ei fam druan, yn ffigwr fwyfwy anghysbell, sydd wrthi’n argraffu posteri o'i mab a'u harddangos o gwmpas y dref tra bod ymchwiliad yr heddlu yn sefyll yn ei unfan. Mae'n dod yn eithaf clir, fodd bynnag, waeth pa mor dda y maen nhw'n meddwl eu bod yn adnabod ei gilydd, mae 'na gyfrinachau nad oes neb eisiau eu datgelu.


Friday, 18 August 2017

Looking for some great holiday reads?


With a mixture of humour, romance, history and mystery (did you see what I did there?) I recommend giving these 6 a try.

Jessie Barton, The Muse
On a hot July day in 1967, Odelle Bastien climbs the stone steps of the Skelton gallery in London, ready for her luck to change. She has been employed as a typist by the glamorous and enigmatic Marjorie Quick, who unlocks a potential Odelle didn't realize she had. When a lost masterpiece arrives at the gallery, Quick seems to know more than she is prepared to reveal and Odelle is determined to unravel the truth. 

Abby Clements, The heavenly Italian Ice Cream Shop
Set in stunning Sorrento, you’ll wish you were there.





Jilly Cooper, Mount
Rupert Campbell-Black is back in another racy romp set in the glamourous world of horse racing. What’s not to love?

Miranda Hart, Peggy and Me
For years Miranda viewed dog owners with some suspicion. She was bored by the way they only talked about their pooches, alarmed by their light coating of dog hair and troubled by their apparent comfort around excrement. But that all changed when, nine years ago, Miranda met Peggy. A treat for Miranda Hart fans and dog lovers everywhere.

Veronica Henry, How to find love in a book shop
Nightingale Books, nestled on the high street in the idyllic Cotswold town of Peasebrook, is a dream come true for booklovers. But owner Emilia Nightingale is struggling to keep the shop open. The temptation to sell up is proving enormous - but what about the promise she made to her father? Not to mention the loyalty she owes to her customers. Sarah Basildon, owner of stately pile Peasebrook Manor, has used the bookshop as an escape from all her problems in the past few years. Is there more to her visits than meets the eye? Since messing up his marriage, Jackson asks Emilia for advice on books to read to the son he misses so much. But Jackson has a secret, and is not all he seems.

Sarah Perry, The Essex Serpent
'The Essex Serpent' has at its heart the story of two extraordinary people who fall for each other, but not in the usual way. They are Cora Seaborne and Will Ransome. Cora is a well-to-do London widow who moves to the Essex parish of Aldwinter, and Will is the local vicar. They meet as their village is engulfed by rumours that the mythical Essex Serpent, once said to roam the marshes claiming human lives, has returned.







Ydych chi’n edrych am rywbeth i ddarllen yn ystod y gwyliau?
Gyda chymysgedd o hiwmor, serch, hanes a dirgelwch, rydw i’n argymell y 6 yma.

Jessie Barton, The Muse
Ar ddiwrnod poeth o Orffennaf yn 1967, mae Odelle Bastien yn dringo grisiau carreg galeri Skelton yn Llundain, yn barod i’w lwc newid. Mae hi wedi bod yn gweithio fel teipydd i’r cyfareddol ac enigmatig Marjorie Quick, sy’n datgloi posibiliadau nad oedd Odelle yn sylweddoli yr oedd gyda hi. Pan fo campwaith coll yn cyrraedd y galeri, mae Quick i weld yn gwybod mwy nag y mae’n barod i ddatgelu ac mae Odelle yn benderfynol o ddatgelu’r gwir. 

Abby Clements, The heavenly Italian Ice Cream Shop
Lleolir yn Sorrento ysblennydd, byddwch yn dymuno bod yno.



Jilly Cooper, Mount!
Mae Rupert Campbell-Black yn ei ôl mewn stori fywiog arall ym myd rasio ceffylau.  Beth nad sydd yno i’w garu?


Miranda Hart, Peggy and Me

Am flynyddoedd bu Miranda yn edrych ar berchnogion cŵn gyda chryn amheuaeth.  Roedd hi’n diflasu wrth yr oedden nhw’n siarad dim ond am eu cŵn, yn dychryn wrth y gorchudd tenau o flew a oedd drostyn nhw ac yn poeni am eu hesmwythdra ymddangosiadol o amgylch baw.  Ond newidiodd hynny oll pan gyfarfu Miranda â Peggy naw mlynedd yn ôl. Gwledd i ddilynwyr Miranda Hart a chŵn ym mhob man.

Veronica Henry, How to find love in a book shop

Mae Nightingale Books, ar y stryd fawr yn nhref ddelfrydol Peasebrook yn y Cotswolds, yn freuddwyd ar ddaeth yn wir i ddarllenwyr . Ond mae’r perchennog Emilia Nightingale yn cael trafferth i gadw’r siop ar agor. Mae’r temtasiwn i werthu’n anferth - ond beth am yr addewid a wnaeth hi i’w thad? Heb sôn am deyrngarwch i’w chwsmeriaid. Mae Sarah Basildon, perchennog Peasebrook Manor, wedi defnyddio’r siop lyfrau i ddianc o’i phroblemau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oes yna fwy i’w hymweliadau nag a welir ar yr wyneb? Ers difetha’i  briodas mae Jackson yn gofyn i Emilia am gyngor ar lyfrau i’w darllen i’r mab y mae’n gweld ei eisiau gymaint.  Ond mae gan Jackson gyfrinach ac nid yw’r hyn y mae’n ymddangos.

Sarah Perry, The Essex Serpent


Stori yw 'The Essex Serpent' am ddau berson neilltuol sy’n syrthio mewn cariad, ond nid yn y ffordd arferol. Cora Seaborne a Will Ransome ydyn nhw. Mae Cora’n wraig weddw gyfforddus ei byd sy’n symud i blwyf Aldwinter yn Essex, a Will yw’r ficer lleol.  Maen nhw’n cwrdd wrth i sïon ledu trwy’r pentref bod Sarff Essex, y dywedwyd ei fod unwaith yn crwydro’r corsydd yn hawlio bywydau dynol, wedi dychwelyd.

Friday, 11 August 2017

Some more criminally good reads for you…


In June we featured our Crime Fiction Reading group at Blaenavon Library and mentioned some books well worth reading if you were a fan of the genre.

With the Mcllvanney Prize (formally known as the Scottish Crime Book of the Year) winner being revealed at the start of next month here are a few more suggestions for you, all written by Scottish authors in with a chance of landing the prize on 8th September.

Cold Earth by Ann Cleeves - At the burial of his old friend Magnus Tait, Jimmy Perez watches the flood of mud and peaty water smash through a croft house in its path. Everyone thinks the croft is uninhabited, but in the wreckage he finds the body of a dark-haired woman wearing a red silk dress. In his mind, she shares his Mediterranean ancestry and soon he becomes obsessed with tracing her identity.


The Long Drop by Denise Mina - William Watt wants answers about his family's murder. Peter Manuel has them. But Peter Manuel is a liar.  William Watt is an ordinary businessman, a fool, a social climber.  Peter Manuel is a famous liar and a criminal. He claims he can get hold of the gun used to murder Watt's family.

One December night in 1957, Watt meets Manuel in a Glasgow bar to find out what he knows.


Perfect Remains by Helen Fields -  On a remote Highland mountain, the body of Elaine Buxton is burning. All that will be left to identify the respected lawyer are her teeth and a fragment of clothing.   In the concealed back room of a house in Edinburgh, the real Elaine Buxton screams into the darkness. Detective Inspector Luc Callanach finds himself in a race against the clock. Or so he believes … The real fate of the women will prove more twisted than he could have ever imagined. 


Games People Play by Owen Mullen - Thirteen-month-old Lily Hamilton is abducted while her parents are just yards away. Three days later the distraught father turns up at private investigator Charlie Cameron's office. Mark Hamilton believes he knows who has stolen his daughter. And why. Against his better judgment Charlie gets involved in the case and when more bodies are discovered the awful truth dawns: there is a serial killer whose work has gone undetected for decades. Is baby Lily the latest victim of a madman? 



Ym mis Mehefin, fe wnaethom gynnwys ein grŵp darllen Ffuglen Trosedd yn Llyfrgell Blaenafon a chrybwyll rhai llyfrau sydd werth eu darllen os oeddech yn hoff iawn o'r genre yma.

Gydag enillydd Gwobr Mcllvanney (Llyfr Trosedd y Flwyddyn yn yr Alban) yn cael ei ddatgelu ar ddechrau mis nesaf, dyma fwy o awgrymiadau ar eich cyfer, â phob un ohonynt wedi eu hysgrifennu gan awduron sy’n Albanwyr â chyfle i ennill y wobr ar 8 Medi.

Cold Earth gan Ann Cleeves - Yn angladd ei hen gyfaill Magnus Tait, mae Jimmy Perez yn gwylio'r llif o fwd a dŵr mawnog yn torri drwy dŷ crofft yn ei lwybr. Mae pawb yn meddwl bod y crofft yn segur, ond yn y llanast mae'n dod o hyd i gorff gwraig, ei gwallt yn dywyll a hithau'n gwisgo ffrog sidan goch. Yn ei feddwl, mae hi'n rhannu ei dras o ardal Môr y Canoldir ac yn fuan mae olrhain ei hunaniaeth yn dod yn obsesiwn.



The Long Drop gan Denise Mina - Mae William Watt am atebion am lofruddiaeth ei deulu. Mae'r atebion gan Peter Manuel. Ond mae Peter Manuel yn gelwyddgi. Mae William Watt yn ddyn busnes cyffredin, yn ffŵl, dringwr cymdeithasol. Mae Peter Manuel yn gelwyddgi a throseddwr enwog. Mae'n honni y gall gael gafael ar y gwn a ddefnyddiwyd i lofruddio teulu Watt.

Un noson o Ragfyr ym 1957, mae Watt yn cyfarfod Manuel mewn bar yng Nglasgow i gael gwybod beth mae'n ei wybod.

Perfect Remains gan Helen Fields -   Ar fynydd anghysbell yn yr Ucheldiroedd, mae corff Elaine Buxton yn llosgi. Y cyfan fydd ar ôl i adnabod y gyfreithwraig uchel ei pharch yw ei dannedd a darn o ddillad. Mewn ystafell gudd yng nghefn tŷ yng Nghaeredin, mae'r gwir Elaine Buxton yn sgrechian i mewn i'r tywyllwch. Mae'r Ditectif Arolygydd Luc Callanach yn cael ei hun mewn ras yn erbyn y cloc. Neu felly mae'n ei gredu ... Bydd tynged wirioneddol y merched yn profi i fod yn fwy o ddirdro na y gallai fod wedi dychmygu erioed.

Games People Play gan Owen Mullen - Mae Lily Hamilton tri ar ddeg mis oed yn cael ei chipio tra bod ei rhieni ond ychydig lathenni i ffwrdd. Tri diwrnod yn ddiweddarach mae'r tad trallodus yn troi i fyny yn swyddfa Charlie Cameron ymchwilydd preifat . Mae Mark Hamilton yn credu ei fod yn gwybod pwy sydd wedi dwyn ei ferch. A pham. Yn groes i'r graen, mae Charlie yn cymryd rhan yn yr achos a phan fydd mwy o gyrff yn cael eu darganfod mae'r gwirionedd ofnadwy yn taro: mae yna lofrudd cyfresol na chanfuwyd ei waith ers degawdau. Ai babi Lily yw dioddefwr diweddaraf y gwallgofddyn?